Mae bod yn ymddiriedolwr yn golygu eich bod yn cymryd cyfrifoldeb am arian sydd wedi’i neilltuo mewn ymddiriedolaeth ar gyfer rhywun arall. Byddwch yn rheoli’r arian ar eu rhan, gan ei ddefnyddio er eu lles gorau yn unig, ac yn ufuddhau i reolau’r ymddiriedolaeth.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Beth yw ymddiriedolaeth?
Mae ymddiriedolaeth yn ffordd o reoli arian neu asedau eraill ar ran rhywun arall.
Mae tri unigolyn allweddol ynghlwm ag unrhyw ymddiriedolaeth:
- y setlwr - yr unigolyn sy’n rhoi’r asedau neu’r arian i mewn i’r ymddiriedolaeth (Gelwir y person hwn yn ‘Granter’ yn yr Alban)
- y buddiolwr - yr unigolyn sy’n cael budd o’r ymddiriedolaeth
- yr ymddiriedolwr - yr unigolyn sy’n rheoli’r ymddiriedolaeth.
Y setlwr sy’n gyfrifol am benodi’r ymddiriedolwr i weinyddu’r ymddiriedolaeth a phenderfynu pwy yw buddiolwyr yr ymddiriedolaeth.
Gall fod mwy nag un setlwr, buddiolwr neu ymddiriedolwr sydd ynghlwm ag ymddiriedolaeth.
Gallai rhywun sefydlu ymddiriedolaeth ar gyfer buddiolwr gan fod y buddiolwr:
- yn rhy ifanc i reoli eu materion eu hunan, fel arfer o dan 18 oed
- yn unigolyn hŷn sydd angen talu am ofal hirdymor, neu
- yn unigolyn sydd ag anabledd parhaol sy’n golygu na allant reoli eu materion eu hunan.
Mathau o ymddiriedolaeth
Mae llawer o wahanol fathau o ymddiriedolaethau a ellir ei sefydlu gan ddibynnu sut rydych am reoli'ch asedau. Darganfyddwch fwy ar wefan GOV.UK
Beth yw ymddiriedolwr?
Ystyriwch y cyfan yn drylwyr
Mae’n naturiol bod eisiau helpu, ond dylech fod yn ymddiriedolwr dim ond os ydych yn siŵr y gallwch dderbyn y cyfrifoldeb.
Mae ymddiriedolwr yn unigolyn sy’n cymryd cyfrifoldeb am reoli arian neu asedau a neilltuwyd mewn ymddiriedolaeth er budd rhywun arall.
Fel ymddiriedolwr, mae rhaid i chi ddefnyddio’r arian neu asedau er lles y buddiolwr yn unig.
Mae rhaid i bopeth a wnewch fel ymddiriedolwr gael ei wneud er budd pennaf y buddiolwr. Efallai y bydd yr union bethau gallwch eu gwneud a ddim eu gwneud wedi’u hamlinellu yng nghytundeb yr ymddiriedolaeth.
Er enghraifft, gallai cytundeb yr ymddiriedolaeth ddweud y dylai’r ymddiriedolaeth dalu am ffioedd gofal unigolyn hŷn. Os felly, ni allwch ddefnyddio’r arian at unrhyw ddefnydd arall.
Ni fyddwch yn gallu cael budd o’r ymddiriedolaeth eich hun - oni bai bod cytundeb yr ymddiriedolaeth yn dweud y gallwch.
Os yw’r ymddiriedolaeth yn ‘ymddiriedolaeth ddewisol’, bydd gan yr ymddiriedolwyr fwy o ryddid i wneud penderfyniadau. Er enghraifft, os yw’r ymddiriedolaeth wedi’i sefydlu i fod o fudd i sawl plentyn ifanc, yna gallwch ac unrhyw ymddiriedolwyr eraill ei defnyddio ar gyfer unrhyw beth y cytunwch sydd o fudd i unrhyw un o’r plant - fel talu am drip ysgol.
Beth yw ymddiriedolwr elusen?
Os gofynnir i chi fod yn ymddiriedolwr elusen, mae yna ddyletswyddau ychwanegol. Darganfyddwch beth sy'n gysylltiedig ar wefan GOV.UK
Ymddiriedolwyr a threth
Yn aml, mae rhaid i ymddiriedolwyr dalu treth ar ran ymddiriedolaeth. Gan ddibynnu ar y math o ymddiriedolaeth, efallai y bydd rhaid iddo dalu:
- Treth Incwm
- Treth Etifeddiant
- Treth ar Enillion Cyfalaf.
Fel ymddiriedolwr, mae rhaid i chi adrodd manylion yr ymddiriedolaeth i Gyllid a Thollau EM a sicrhau bod y dreth yn cael ei thalu.
Darganfyddwch fwy am gyfrifoldebau treth ymddiriedolwr ar wefan GOV.UK
Cael help ag ymddiriedolaethau a threth
I gael help â chwestiynau am sut mae ymddiriedolaethau yn cael eu trethu, ffoniwch Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi ar 0300 123 1072.
Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, o 9am i 5pm.
Mae costau galwadau yn berthnasol, darganfyddwch fwy ar wefan GOV.UK
Beth yw cyfrifoldeb ymddiriedolwr os bydd rhywbeth yn mynd o’i le?
Mae bod yn ymddiriedolwr yn gyfrifoldeb cyfreithiol, ac efallai y byddwch yn poeni am beth fydd yn digwydd os byddwch yn gwneud rhywbeth o’i le.
Y cyfan sy’n ofynnol ohonoch yw gweithredu er lles pennaf yr unigolyn y sefydlwyd yr ymddiriedolaeth ar ei gyfer. Gelwir hyn yn ‘ddyletswydd ymddiriedol’.
Os na fyddwch yn gwneud hynny, gellir mynd â chi i’r llys - a gall y cosbau fod yn ddifrifol.
Fodd bynnag, os na all yr ymddiriedolaeth dalu ei dyledion neu os na fyddwch yn cymryd gofal rhesymol wrth wneud penderfyniad sy’n colli arian i’r ymddiriedolaeth, gallwch fod yn atebol fel ymddiriedolwr.
Os gofynnir i chi fod yn ymddiriedolwr
Os gofynnir i chi fod yn ymddiriedolwr, meddyliwch yn ofalus a yw’n addas i chi.
Dyma rai pethau i’w hystyried.
- Gall bod yn ymddiriedolwr wirioneddol helpu rhywun sy’n bwysig i chi. Os bydd rhywun yn gofyn i chi i fod yn ymddiriedolwr, fel arfer mae’n golygu eu bod yn ymddiried ynoch i wneud y peth cywir ar eu rhan ac ar ran y bobl sy’n cael budd o’r ymddiriedolaeth.
- Mae’n llawer o waith a chyfrifoldeb, ac yn y pen draw, gallech fod yn atebol am golledion a wnaed gan yr ymddiriedolaeth os na fyddwch yn cyflawni eich dyletswyddau’n briodol. Gall rhai ymddiriedolaethau gymryd llawer o’ch amser i’w rheoli’n iawn. Fel arfer, ni chewch eich talu fel ymddiriedolwr, nac yn elwa’n bersonol. Byddwch yn cyflawni eich dyletswyddau fel ymddiriedolwr er budd pobl eraill.
- Mae bod yn ymddiriedolwr yn ymrwymiad hirdymor. Mae gan rai ymddiriedolaethau ddyddiad terfyn penodol - er enghraifft, pan fo plentyn yn cyrraedd 18 oed - ond gall eraill fynd ymlaen am hyd at 125 o flynyddoedd! Gallech fod yn ymddiriedolwr am ddegawdau mewn rhai achosion.
- Mae rhaid i chi gytuno gyda’r holl ymddiriedolwyr eraill wrth wneud penderfyniadau ynghlwm â’r ymddiriedolaeth. Felly mae’n werth gwybod pwy ydynt a phenderfynu a fydd y berthynas yn gweithio yn eich barn.
Yn ansicr a ydych yn dymuno bod yn ymddiriedolwr?
Os nad ydych yn siŵr beth i’w wneud, siaradwch â’r unigolyn sy’n sefydlu’r ymddiriedolaeth.
Cewch well syniad o faint o waith fydd ynghlwm, ac a yw’n wirioneddol bwysig mai chi yw’r un i wneud hynny.
Efallai y bydd ganddynt bobl eraill mewn cof os byddwch yn gwrthod.
Ceisiwch gyngor cyn i chi ddod yn ymddiriedolwr
Cyn i chi gytuno i ddod yn ymddiriedolwr dylech geisio cyngor proffesiynol gan gynghorydd ariannol neu gyfreithiwr i sicrhau eich bod yn deall popeth sydd ynghlwm â’r gwaith.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Dod o hyd i ymgynghorydd ariannol
Mae Cymdeithasau’r Gyfraith yn cadw cronfeydd data chwiliadwy i’ch helpu i ddod o hyd i gyfreithiwr cymwys sy'n lleol i chi.
Dewch o hyd i gyfreithiwr yn:
- Cymru a Lloegr – The Law Society
- Yr Alban – The Law Society of Scotland
- Gogledd Iwerddon – Law Society of Northern Ireland