Sut i wneud cwyn os ydych yn cael trafferthion wrth dalu am eich gofal                                                                   

Os ydych eisiau herio penderfyniad am drafferthion ynghylch eich asesiad anghenion gofal neu dalu am eich gofal, darganfyddwch eich hawliau a beth i’w wneud.


Beth gallaf gwyno amdano?

Gallwch gwyno os:

  • yw eich cyngor lleol, neu Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon (HSCNI), yn dweud nad oes angen gwasanaeth arnoch chi, ond rydych chi’n meddwl bod angen gwasanaeth arnoch chi
  • oes oedi neu gamgymeriadau wrth ymdrin â’ch achos
  • nad yw’r gwasanaethau a drefnir yn bodloni’ch anghenion, neu
  • rydych yn aros am amser hir am offer neu newidiadau.

Deall eich hawliau

  • Mae gennych hawl gyfreithiol i asesiad anghenion gofal am ddim i weithio allan faint o help sydd ei angen arnoch i fyw mor annibynnol â phosibl. Ni all eich cyngor lleol, neu HSCNI, wrthod oherwydd nad ydynt yn meddwl y byddwch yn gymwys i gael cymorth.
  • Gallwch ofyn am ailasesiad os credwch fod eich amgylchiadau wedi newid.
  • Mae gan bob cyngor lleol, neu HSCNI, eu meini prawf cymhwysedd eu hunain ar gyfer pa gymorth y gallwch ac na allwch ei dderbyn. Ond mae’n rhaid iddynt ddilyn canllawiau’r llywodraeth.
  • Mae gan eich cyngor lleol, neu HSCNI, ddyletswydd gyfreithiol i gwrdd â’ch anghenion gofal cymwys – nid yw’n ddigon i ddweud na allant eu fforddio.
Sut ydw i’n herio fy asesiad anghenion gofal?

Mae gan eich cyngor lleol, neu HSCNI, ddyletswydd gyfreithiol i roi esboniad ysgrifenedig i chi o’u penderfyniad.

Cymerwch amser i’w ddarllen. Os credwch ei fod yn annheg, gallwch ofyn i’ch achos gael ei ailasesu.

Efallai y bu methiant mewn cyfathrebu neu gamddealltwriaeth y gellir ei datrys yn hawdd. 

Sut ydw i’n herio fy asesiad ariannol?

Mae rheolau llym ynghylch pryd a faint y dylech ei dalu tuag at ofal hirdymor. Er efallai bod gan gynghorau lleol drefniadau mwy hael na chanllawiau’r llywodraeth.

Eto i gyd, os credwch fod eich asedau neu incwm wedi’u gorbrisio neu fod rhywbeth wedi’i gynnwys yn anghywir, a bod gofyn i chi dalu am fwy nag y dylech, gallwch ofyn i’ch achos gael ei adolygu.

I gael cymorth a chyngor am ddim ar ofal, cysylltwch â:

Gallwch hefyd drefnu apwyntiad i siarad â chynghorydd ar Care Rights UKYn agor mewn ffenestr newydd

Opens in a new window

Awgrymiadau ar gyfer gwneud cwyn

  • Byddwch yn glir ynghylch yr hyn yr hoffech ei wneud neu’r newidiadau yr ydych yn eu disgwyl.
  • Cadwch gofnodion o’r e-byst a’r llythyrau yr ydych yn eu hanfon a’u derbyn. Defnyddiwch ddanfoniad wedi’i recordio ar gyfer unrhyw beth rydych chi’n ei anfon.
  • Cofnodwch galwadau ffôn a chyfarfodydd gyda’r cyngor, HSCNI, neu ddarparwr gofal cartref. Nodwch gyda phwy y siaradoch chi a beth ddywedon nhw.
  • Gofynnwch i ffrind neu berthynas helpu gyda’ch cwyn, yn enwedig ar gyfer cyfarfodydd wyneb yn wyneb â rheolwr y cartref gofal neu’r gwasanaeth.
Ble gallaf gael cymorth i wneud cwyn?

Cysylltwch â’r gwasanaethau gofal cymdeithasol yn eich cyngor lleol, neu HSCNI, a gofynnwch am wasanaeth eiriolaeth. Mae gwasanaethau eiriolaeth am ddim fel arfer. Gall eiriolwr fod yn rhywun sy’n:

  • eich helpu i fynegi sut mae pethau’n effeithio arnoch chi
  • siarad dros yr hyn sydd ei angen arnoch, a
  • darparu cymorth emosiynol.

Darganfyddwch fwy am eiriolwyr a sut i gysylltu ag un:

Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.

Sut i gwyno i’ch cyngor lleol, neu’r Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon (HSCNI), ynghylch eich gofal

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad a wnaed gan eich cyngor lleol, neu HSCNI, darganfyddwch sut i’w herio.

Trafod y mater yn anffurfiol

Yn gyntaf, ceisiwch ddatrys y broblem yr ydych yn ei chael trwy gael sgwrs anffurfiol amdano gyda’ch cyngor lleol, neu HSCNI, os ydynt yn ariannu neu’n trefnu eich gofal.

Os darperir eich gofal gan asiantaeth annibynnol a ariennir gan y cyngor, neu HSCNI, siaradwch â nhw gan mai nhw sy’n gyfrifol am sicrhau eich bod yn derbyn gofal priodol.

Os ydych chi’n anhapus o hyd, gweler isod am y camau nesaf.

Dilynwch y drefn gwyno ar gyfer eich cyngor lleol, neu HSCNI

Bydd manylion y drefn gwyno ar eu gwefan. Mae hefyd yn werth edrych ar eu meini prawf cymhwysedd ar gyfer gwasanaethau gofal hirdymor, a’u polisi codi tâl.

Beth os ydw i’n anhapus gyda chanlyniad fy nghwyn?

Os nad ydych yn hapus â’r ymateb a gewch, gallwch fynd â’ch cwyn at Ombwdsmon y llywodraeth leol perthnasol neu gael cyngor cyfreithiol. Mae dwy o bob tair cwyn sy’n cyrraedd yr Ombwdsmon yn llwyddiannus.

Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.

Sut i gwyno am gynhyrchion gofal ariannol

Mae’n bwysig peidio ag atal taliad am gynnyrch gofal heb yn gyntaf wybod eich hawliau a’ch cyfrifoldebau.

Deall eich hawliau

Pan fyddwch yn prynu rhywbeth, mae’r gyfraith yn rhoi hawliau penodol i chi sy’n eich diogelu os yw’n ddiffygiol neu os nad yw’n addas i’r diben. Mae hyn yn cynnwys offer neu gymhorthion i helpu gyda symudedd neu dasgau dyddiol.

  • Os yw’ch cyngor lleol, neu HSCNI, wedi trefnu ac wedi prynu cynnyrch gofal i chi - rhowch wybod iddynt a dylent ei newid.
  • Os prynoch chi gynnyrch gofal gan adwerthwr, gofynnwch iddynt am ad-daliad neu newid yn ei le.
  • Os nad ydych yn hapus gyda’r canlyniad, cysylltwch â’ch Cyngor ar Bopeth lleol am gymorth i fynd â materion ymhellach.
  • Os prynoch chi gynnyrch gyda cherdyn credyd neu ddebyd ac mae’r adwerthwr yn bod yn anodd, cysylltwch â darparwr eich cerdyn i weld beth y gallant ei wneud.
Gofyn am drefn gwyno’r cwmni

Os ydych wedi prynu cynnyrch ariannol i dalu am eich gofal ac nad ydych yn fodlon, chwiliwch am drefn gwyno’r cwmni. Yna cyflwynwch gwyn swyddogol gyda nhw.

Mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar gwmnïau a reoleiddir gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) i gael trefn gwyno. Darganfyddwch fwy ar wefan yr FCAYn agor mewn ffenestr newydd

Opens in a new window

Os ydych yn anhapus o hyd, cysylltwch â Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol

Os nad ydych yn hapus gyda’r canlyniad, cysylltwch â Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol i gwyno.

Os yw Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol wedi ystyried eich cwyn a’ch bod yn anhapus o hyd, gallwch fynd â’r mater i’r llys.

Byddwch yn ymwybodol bod y llys yn debygol o gytuno â phenderfyniad Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol yn y rhan fwyaf o achosion. A gallai fod yn broses hir a drud.

Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am i 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am i 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am i 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am i 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.