Ar ôl gwahanu, efallai y bydd gennych ddyledion yn eich enw chi a gyda’ch cyn-bartner. Mae’n bwysig i beidio ag anwybyddu problemau arian. Darganfyddwch sut i flaenoriaethu eich dyledion a threfnu talu'r hyn sy'n ddyledus gennych ar y cyd.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Pa ddyledion i’w talu’n gyntaf
Mae yna lawer o bethau i’w hystyried wrth drefnu eich arian ar ôl gwahanu. Os ydych yn cael trafferth i dalu’ch holl ddyledion, mae’n bwysig i’w blaenoriaethu. Gelwir yr hyn y mae angen i chi ei dalu’n gyntaf yn ddyledion ‘blaenoriaeth’. Mae gan y rhain canlyniadau mwy difrifol os nad ydych yn eu talu, fel cael eich cymryd i’r llys neu golli’ch cartref. Mae’r rhain yn cynnwys eich:
- rhent neu forgais
- Treth Cyngor (Ardrethi yng Ngogledd Iwerddon)
- biliau nwy a thrydan
- cynhaliaeth plant
- dirwyon llys
- cyllid car (os oes gennych un)
- benthyciadau diogel
- cyllid ar gyfer eitemau hanfodol
- Trwydded Teledu.
Darganfyddwch fwy ar sut i flaenoriaethu eich dyledion.
Benthyciadau a dyled cerdyn credyd
Ar ôl i chi drefnu i dalu eich biliau blaenoriaeth, mae angen i chi gyfrifo faint y gallwch ei dalu i’ch dyledion eraill. Gallai’r rhain gynnwys arian sy’n ddyledus gennych ar eich:
- cardiau credyd neu siop
- benthyciadau banc
- hurbwrcas a dyled catalog
- gorddrafft
- benthyciad personol
- bil dŵr
- taliadau siop neu gatalog
- benthyciadau o deulu neu ffrindiau.
I’ch helpu i gyfrifo beth allwch ei fforddio, ceisiwch ein Cynlluniwr cyllideb am ddim a hawdd ei ddefnyddio.
Dyledion ar y cyd
Gydag unrhyw ddyledion ar y cyd sydd gennych, fel benthyciad banc ar y cyd, gorddrafft neu forgais, fel arfer mae’r ddau ohonoch yn atebol i ad-dalu’r swm llawn.
Mae hyn yn golygu os nad yw’ch cyn-bartner yn talu eu rhan, efallai y bydd y banc neu gymdeithas adeiladu yn gofyn i chi wneud yr holl daliadau. Cysylltwch â nhw i roi gwybod iddynt eich bod wedi gwahanu a gweld a allwch:
- roi rhai cyfyngiadau ar y cyfrif fel na all eich cyn-bartner cronni dyled bellach, neu
- ddod i gytundeb fel na allant dderbyn taliadau is os na allwch dalu’n llawn.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cam-drin ariannol: adnabod yr arwyddion a gadael yn ddiogel
Dod i gytundeb gyda’ch cyn-bartner
Os oes gennych fenthyciad neu forgais gyda’ch cyn-bartner ac ni fydd y banc yn eich galluogi i wahanu’r benthyciad – ceisiwch gytuno rhyngoch chi sut y byddwch yn ei ad-dalu.
Mae’r ddau ohonoch yn atebol i dalu unrhyw fenthyciadau ar y cyd sydd gennych. Felly os nad yw un neu’r ddau ohonoch yn cadw i fyny gyda thaliadau, gallai effeithio ar sgôr credyd y ddau ohonoch a’ch gallu i fenthyg yn y dyfodol. Efallai y byddwch eisiau:
- gytuno gyda’ch cyn-bartner y byddwch yn parhau i wneud taliadau o gyfrif ar y cyd
- trefnu unrhyw drefniadau fel bod un ohonoch yn cytuno i ad-dalu’r banc neu gwmni benthyciad ond yn cael cyfraniad o’r llall – mae’n well iddynt sefydlu archeb sefydlog ar gyfer taliadau fel eich bod yn gwybod y byddwch yn cael yr arian
- ad-dalu'ch benthyciad ar y cyd rhyngoch cyn gynted â phosibl, cyn belled â bod y ddau ohonoch yn gallu fforddio gwneud hynny.
Darganfyddwch fwy, gan gynnwys sut i gyfrifo cynllun ad-dalu, yn ein hadran ar Rheoli credyd yn dda.
Ni fydd eich cyn-bartner yn cydweithio
Weithiau, mae partneriaid sy’n gwahanu’n gwneud trefniadau ar gyfer eu cyllid gyda’r dymuniadau gorau, ond nad yw’n para. Gallai fod oherwydd bod eich sefyllfa ariannol chi neu nhw wedi newid neu efallai bod cyfathrebu wedi chwalu rhyngoch. Os yw hynny wedi digwydd, ceisiwch ddiweddaru eich banc neu fenthyciwr neu gallwch gwyno i’r Gwasanaeth Ombwdsmon AriannolYn agor mewn ffenestr newydd
Cam-drin ariannol
Os yw’ch cyn-bartner yn cronni dyledion yn eich enw, mae hyn yn cam-drin ariannol. Os ydych yn y sefyllfa hon, mae yna help a chefnogaeth ar gael. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cam-drin ariannol: adnabod yr arwyddion a gadael yn ddiogel.