Oes gennych gysylltiad â rhan arall o’r Deyrnas Unedig i’r lle rydych yn byw ar hyn o bryd, neu â gwlad arall tu allan i’r Deyrnas Unedig? Os felly, efallai y byddwch yn gallu dechrau ar gamau ysgariad neu ddiddymiad yno. Gallai hyn effeithio ar sut rydych chi'n rhannu'ch cyllid a'r broses rydych chi'n mynd drwyddo.
Deall y ffeithiau sylfaenol am ysgariad neu ddiddymiad rhyngwladol
Ydych chi neu'ch cyn-bartner (gŵr, gwraig neu bartner sifil) wedi penderfynu dechrau'r broses ysgariad neu ddiddymiad – y cyfeirir atynt yn gyfreithiol fel 'achosion' – y tu allan i'r wlad rydych chi'n byw ynddo? Os felly, bydd yr hyn y byddwch yn ei wneud nesaf yn dibynnu a fydd yn dechrau:
- mewn cenedl arall yn y Deyrnas Unedig
- yn yr Undeb Ewropeaidd (UE), neu
- mewn gwlad nad yw yn yr Undeb Ewropeaidd.
Ysgaru neu ddiddymu eich partneriaeth sifil mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig
Mae’r system ar gyfer ysgaru neu ddiddymu partneriaeth sifil yng Nghymru a Lloegr ychydig yn wahanol i’r un yng Ngogledd Iwerddon, ac yn wahanol iawn i’r system yn yr Alban.
Os byddwch yn dechrau camau mewn rhan wahanol o’r Deyrnas Unedig i’r un lle rydych yn byw, bydd rhaid i chi ystyried sut y gall hyn effeithio ar eich setliad ariannol; dyma'r cytundeb y byddwch chi'n ei wneud gyda'ch cyn-bartner ynghylch sut i rannu'ch arian, eiddo, cynilion ac asedau eraill.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cael ysgariad neu ddiddymiad yn y DU.
Sut y gall ysgariad neu ddiddymiadeffeithio ar eich fisa
Os yw eich fisa chi neu eich cyn-bartner i aros yn y DU yn seiliedig ar eich perthynas, rhaid i chi ddweud wrth y Swyddfa Gartref os ydych chi'n gwahanu, ysgaru neu ddod â phartneriaeth sifil i ben.
Yna bydd angen i chi adael neu wneud cais i aros yn y DU.
Ewch i GOV.UK i ddarganfod mwy am fisâu pan fyddwch chi'n gwahanu neu'n ysgaruYn agor mewn ffenestr newydd
Ysgaru neu ddiddymu eich partneriaeth sifil yn yr UE
I ysgaru neu ddiddymu partneriaeth sifil mewn gwlad yn yr UE, bydd angen i chi fodloni rheolau'r wlad honno ei hun ar bwy all wneud cais.
Mae pob gwlad yr UE yn gosod y gofynion hyn yn annibynnol, felly gallant fod yn wahanol iawn i'w gilydd.
Os ydych chi ar hyn o bryd, neu ar fin dechrau, achos ysgariad neu ddiddymiad mewn gwlad y tu allan i'r DU, mae'n bwysig siarad â chyfreithiwr cyn gynted â phosibl.
Gallwch hefyd ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar:
Ysgaru neu ddiddymu eich partneriaeth sifil mewn gwlad tu allan i’r UE
Os oes gennych chi neu eich cynbartner gysylltiadau â gwlad y tu allan i'r UE, bydd p'un a allwch ysgaru yno yn dibynnu ar reolau y wlad honno.
Os gallai mwy nag un wlad ddelio â'ch ysgariad, bydd y llysoedd yn ystyried pa un sydd â'r cysylltiad agosaf â'r ddau ohonoch chi.
Gallai hyn fod yn seiliedig ar ble rydych chi'n byw fel arfer, ble mae eich asedau a ble mae eich cartref parhaol. Mae hyn yn bwysig oherwydd bod gan bob gwlad ei rheolau ei hun ar gyllid, eiddo a'r wybodaeth y mae'n rhaid i chi ei rhannu.
Os ydych chi'n bwriadu dechrau achos ysgariad neu ddiddymiad y tu allan i'r DU, mae'n bwysig siarad â chyfreithiwr cyn gynted â phosibl.
Sut y gall lleoliad eich ysgariad neu ddiddymiad effeithio ar eich setliad
Mae’r gyfraith mewn rhai gwledydd yn golygu bod asedau ariannol yn cael eu rhannu yn wahanol iawn i’r ffordd y maent yn cael eu rhannu yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon.
Yn yr Alban, dim ond yr hyn a elwir yn ‘eiddo priodasol’ sy’n cael eu hystyried. Mae hyn yn bennaf yn golygu asedau oedd yn eiddo i chi neu a gafwyd yn ystod y briodas neu bartneriaeth sifil.
Mewn rhai gwledydd tu allan i’r Deyrnas Unedig, nid oes rhaid i gyplau ddweud wrth ei gilydd am eu hasedau ariannol wrth ysgaru neu ddiddymu partneriaeth sifil.
Deall statws cyfreithiol cytundebau cyn-priodas
Mae cytundebau cyn-priodas yn cael eu trin yn wahanol o wlad i wlad.
Fe’u defnyddir yn aml gan gyplau sydd am gytuno – cyn priodi neu ddod yn bartneriaid sifil – sut y byddent yn rhannu eu harian, asedau ac eiddo, petaent yn penderfynu gwahanu.
Nid oes modd gorfodi cytundebau cyn-priodas yn gyfreithiol rwymol yn awtomatig yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Fodd bynnag, bydd llysoedd yn gyffredinol yn eu hystyried fel un o amgylchiadau’r achos. A byddan nhw'n rhoi pwysigrwydd sylweddol iddyn nhw os yw'r cytundeb yn bodloni rhai amodau (mesurau diogelu). Er enghraifft:
- bod anghenion ariannol y plant yn cael eu diogelu yn ddigonol.
- roedd y ddau ohonoch wedi siarad â chyfreithiwr i gael cyngor ar goblygiadau ymrwymo â’r cytundeb.
Yn yr Alban, mae cytundebau cyn briodas yn orfodadwy yn gyfreithiol oni bai bod un person yn gwneud cais i amrywio neu roi o'r neilltu y cytundeb ar y sail nad oedd yn deg ac yn rhesymol ar yr adeg y cafodd ei lofnodi. Dim ond mewn amgylchiadau cyfyngedig y bydd llysoedd yn gwneud hyn.
Ble y gallwch ysgaru neu ddiddymu eich partneriaeth sifil
Gall penderfynu a oes gennych yr hawl gyfreithiol i gychwyn ysgariad neu ddiddymiad mewn gwlad benodol fod yn fater cymhleth.
Dylech gael cyngor gan gyfreithiwr sy’n arbenigo yn hyn yn hytrach na cheisio penderfynu eich hun.
Gallai gael ei ddylanwadu gan y wlad:
- cawsoch eich geni yno
- rydych yn berchen ar eiddo yno
- ganed eich tad neu fam yno neu ble roeddynt yn byw
- gwnaethoch chi briodi neu gofrestru eich partneriaeth sifil yno
- rydych yn byw yno nawr a ble roeddech yn byw yn ystod eich priodas neu bartneriaeth sifil.
Penderfynu beth i’w wneud nesaf
Dylech geisio cyngor cyfreithiol gan gwmni cyfreithwyr cyfraith teulu sy'n arbenigo mewn ysgariadau a diddymiadau rhyngwladol.
Efallai y bydd angen i chi siarad â gweithwyr proffesiynol cyfreithiol mewn mwy nag un wlad.
Mae hyn oherwydd y gall y risg o golli rheolaeth ar ble y byddwch yn penderfynu cychwyn y broses gael goblygiadau difrifol – mewn rhai gwledydd, pwy a ffeiliodd am achos yn gyntaf sy'n pennu pa lys sy'n ymdrin ag ysgariad neu ddiddymiad.
Ond cofiwch y bydd hyn yn ei gwneud yn llawer anos dod i gytundeb cyfeillgar â’ch cyn bartner.
Darganfyddwch fwy am gyfryngu:
Manteision ac anfanteision cael cyngor cyfreithiol
Manteision
-
Byddwch yn gwybod a allwch gael ysgariad neu ddiddymu eich partneriaeth sifil tu allan i’r wlad lle rydych yn byw ar hyn o bryd.
-
Byddwch yn gwybod beth gallai fod yn ganlyniadau cael ysgariad neu ddiddymu eich partneriaeth sifil mewn gwlad arall.
Anfanteision
-
Rydych yn debygol o greu drwgdeimlad rhyngoch â’ch cyn-bartner trwy gychwyn camau ysgaru neu ddiddymu heb roi unrhyw rybudd iddynt.
-
Gall fod yn llawer anos cael setliad ariannol o ganlyniad.
Yng Nghymru a Lloegr, gallwch ddod o hyd i gyfreithiwr ar wefan ResolutionYn agor mewn ffenestr newydd neu wefan Cymdeithas y GyfraithYn agor mewn ffenestr newydd
Yng Ngogledd Iwerddon, gallwch ddod o hyd i gyfreithiwr ar wefan Law Society of Northern IrelandYn agor mewn ffenestr newydd
Yn yr Alban, gallwch ddod o hyd i gyfreithiwr ar wefan Family Law SocietyYn agor mewn ffenestr newydd neu wefan Law Society of ScotlandYn agor mewn ffenestr newydd
Eich cam nesaf
Edrychwch ar ein canllaw Eich dewisiadau o ran cyngor cyfreithiol neu ariannol ar ysgariad a diddymiad.