Benthyca anghyfreithlon: darparwyr benthyciadau didrwydded

Mae darparwyr benthyciadau didrwydded yn fenthycwyr anghyfreithlon sy'n aml yn targedu pobl sydd angen arian ar frys ac na allant wneud hyn yn gyfreithiol. Gallant hefyd godi cyfraddau llog uchel iawn a dylent gael eu hosgoi – hyd yn oed os ydych yn teimlo fel nad oes gennych ddewis arall.

Rhesymau dros osgoi darparwyr benthyciadau didrwydded

Efallai y bydd darparwyr benthyciadau didrwydded yn ymddangos yn gyfeillgar. Ac os byddwch yn parhau i wneud eich ad-daliadau, efallai y byddant yn aros felly.

Ond bydd benthyg ganddynt yn parhau i fod yn ddrud.

Mae llawer o beryglon wrth fenthyca gan ddarparwr benthyciadau didrwydded, er enghraifft:

  • byddwch yn talu llawer mwy o log nag y byddech yn ei dalu trwy ddulliau benthyca cyfreithlon 

  • efallai y cewch eich aflonyddu neu eich bygwth pe byddech yn methu’ch ad-daliadau

  • efallai y cewch eich rhoi dan bwysau i fenthyca un benthyciad ar ôl y llall, gan wynebu dyled diddiwedd na allwch ei had-dalu.

Arwyddion bod rhywun sydd wedi cynnig arian i chi’n ddarparwr benthyciadau didrwydded

Mae’n bwysig osgoi benthyg gan bobl nad ydych yn eu hadnabod yn dda, fel cydweithwyr, adnabyddiaeth achlysurol, ffrind i ffrind, neu bobl rydych yn eu hadnabod yn eich cymuned leol neu grŵp ffydd. Mae hyn oherwydd y gallent fod yn ddarparwr benthyciadau didrwydded.

Dyma rai o'r arwyddion i gadw golwg amdanynt os ydych yn meddwl y gallech fod yn benthyca gan ddarparwr benthyciadau didrwydded:

  • Dim gwaith papur - mae gwaith papur yn gwneud i rywbeth ymddangos yn fwy cyfreithlon, ac mae benthycwyr arian didrwydded yn ei osgoi.

  • Benthyciadau arian parod neu drosglwyddiadau banc – er bod mwy o ddarparwyr benthyciadau didrwydded nawr yn defnyddio trosglwyddiadau banc, fel arfer mae’n well ganddynt arian parod. 

  • Gwrthod rhoi gwybodaeth i chi am y benthyciad - bydd y mwyafrif o ddarparwyr benthyciadau didrwydded yn osgoi rhoi manylion clir i chi am eich benthyciad, fel y gyfradd llog, manylion ad-daliadau blaenorol a'r cyfanswm sy'n ddyledus gennych.

  • Cymryd eiddo fel sicrwydd - bydd rhai darparwyr benthyciadau didrwydded yn cymryd eiddo personol fel sicrwydd, fel pasbort neu gardiau banc.

  • Mae eich benthyciad yn cynyddu - gallai darparwyr benthyciadau didrwydded gynyddu'r ddyled neu ychwanegu taliadau ychwanegol ar unrhyw adeg, hyd yn oed os ydych yn gwneud taliadau rheolaidd. 

  • Bygythiadau trais - mae darparwyr benthyciadau didrwydded yn aml yn defnyddio braw a bygythiadau i ddychryn pobl i dalu eu harian yn ôl.  

  • Maent yn benthyca i fwy nag un person – os yw’n rhywun rydych yn ei adnabod ac rydych yn ymwybodol ei fod wedi cynnig i fenthyca arian i bobl eraill hefyd.

Os ydych wedi benthyca gan ddarparwr benthyciadau didrwydded yn barod, nid ydych wedi torri’r gyfraith ac mae help ar gael. Darganfyddwch fwy ar wefan Stop Loan SharksYn agor mewn ffenestr newydd

Sut i wirio bod darparwr benthyciadau yn un dilys

Rhaid i unrhyw un sy’n benthyca arian gael eu hawdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA)Yn agor mewn ffenestr newydd

Os nad yw darparwr wedi’i restru fel un sydd ag awdurdod i fenthyca arian i rywun, peidiwch â benthyca ganddo a pheidiwch â gadael iddo ddod i mewn i’ch cartref.

Darparwyr benthyciadau didrwydded a’r gyfraith

Mae unrhyw fenthyciwr, awdurdodedig neu ddidrwydded, sy’n eich aflonyddu yn torri’r gyfraith.

Bydd rhai darparwyr benthyciadau didrwydded yn eich bygwth trwy ddweud y byddwch yn cael eich erlyn, ac yn cael eich anfon i’r carchar hyd yn oed, os na fyddwch yn talu. Ni all hyn ddigwydd.

Nid oes gan fenthyciwr anawdurdodedig fel darparwr benthyciadau didrwydded yr hawl cyfreithiol i wneud i chi ad-dalu’r benthyciad o gwbl. Mae hyn oherwydd bod y benthyciad yn anghyfreithlon.

Os oes rhywun rydych chi'n meddwl sy'n ddarparwr benthyciadau didrwydded wedi cysylltu â chi, cysylltwch â'r heddlu. Ffoniwch 999 os ydych mewn perygl uniongyrchol. 

Ni fydd darparwyr benthyciadau didrwydded byth yn rhoi'r gorau i fynd ar eich ôl am arian, felly mae'n bwysig eich bod yn gweithredu cyn gynted ag sy’n bosibl. Bydd unrhyw beth rydych yn ei ddweud wrth yr heddlu'n gyfrinachol a gallwch aros yn ddienw.

Adrodd ar ddarparwr benthyciadau didrwydded

Os ydych wedi darganfod bod benthyciwr yn ddarparwr benthyciadau didrwydded, gallwch roi gwybod amdanynt yn ddienw. Gallwch naill ai ffonio neu adrodd ar-lein os oes gwell gennych beidio siarad â rhywun.

Opsiynau eraill heblaw darparwr benthyciadau didrwydded

Os yw’ch incwm yn isel, a’ch statws credyd yn wael, neu os mai dim ond swm bach o arian sydd ei angen arnoch am gyfnod byr, mae darparwyr dibynadwy ar gael ar eich cyfer yn hytrach na darparwyr benthyciadau didrwydded.

Darganfyddwch fwy yn ein Canllaw syml i gardiau credyd.

Os ydych yn wynebu costau byw uwch, darganfyddwch ffynonellau incwm  chefnogaeth ychwanegol yn ein hadran Help gyda chostau byw.

Help gan y llywodraeth

Os ydych chi’n brin o arian, gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr holl fudd-daliadau y mae gennych yr hawl i’w cael. Os ydych chi eisoes yn hawlio budd-daliadau, efallai y bydd gennych hawl i Daliad Cyllidebu Ymlaen Llaw neu Fenthyciad Trefnu.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.