Sut i arbed arian ar eich ffôn symudol

A ydych eisiau prynu ffôn symudol newydd? Yn dod at ddiwedd eich contract? Cymerwch ychydig funudau i weld a ddylech aros neu newid i leihau cost eich uwchraddio a'ch biliau ffôn. Hefyd, darganfyddwch am gostau cudd, p'un a ddylech yswirio'ch ffôn symudol. 

Chwilio am ffôn symudol newydd?

Gall cael ffôn newydd fod yn ddrud – yn enwedig os ydych eisiau'r model diweddaraf. Ond mae ychydig o bethau y gallwch eu gwneud i gadw'ch costau'n isel:

  • Gwneud eich ymchwil. A yw'n rhatach prynu'r ffôn rydych ei eisiau yn llwyr neu fel rhan o gontract? Defnyddiwch wefannau cymharu i edrych o gwmpas a'ch helpu i ddod o hyd i'r cynnig gorau.
  • Dim ond talu am yr hyn sydd ei angen arnoch. Ddim yn defnyddio llawer o ddata? Peidiwch â llofnodi cynllun data diderfyn drud. Cydweddwch eich cynnig â'ch anghenion.
  • Bargeinio â’ch cyflenwr cyfredol. Os yw'ch contract yn dod i ben, byddant am eich cadw ac efallai y byddant yn cynnig cynigion rhad i chi.
  • Hapus â'ch ffôn cyfredol? Glynwch ato. Mae cynnig Sim-yn-unig yn rhatach o lawer na chontract sy'n dod â ffôn.

Mae gan MoneySavingExpert rhagor o awgrymiadau ar dorri costau eich ffôn symudol.

Gwirio eich bod ar y cynnig cywir

Mae dau brif beth y mae rhaid i chi eu gwneud i sicrhau eich bod ar y cynnig ffôn symudol gorau:

  1. Gwirio nad ydych yn talu am alwadau, negeseuon testun na data nad ydych yn eu defnyddio, neu'n mynd dros eich lwfans yn rheolaidd ac yn cael biliau drud.
  2. Siopa o gwmpas gan ddefnyddio gwahanol wefannau cymharu. Mae bob amser yn syniad da defnyddio mwy nag un safle cymhariaeth i sicrhau eich bod yn cael y cynnig gorau.

Mae MoneySavingExpert a Which? yn wefannau defnyddiol

Osgowch taliadau ffôn annisgwyl

Bydd rhifau ffôn sy'n dechrau â 09, 0871, 0872, 0873 a 118 yn ddrytach na galwadau ffôn rheolaidd. Mae tecstio codau byr symudol yn costio mwy hefyd.

Os cewch dâl ffôn annisgwyl, darganfyddwch sut i'w herioYn agor mewn ffenestr newydd

Peidiwch â gadael i'ch plant achosi i’ch biliau fod yn uchel

Mae llawer o apiau a gemau yn ‘chwarae'n rhydd’, ond yn cynnwys pryniannau ‘in-app’.

Mae hyn yn golygu efallai na fydd lawrlwytho'r gêm yn costio unrhyw arian, ond efallai y gofynnir i chi dalu am nodweddion pan fyddwch yn dechrau ei ddefnyddio.

Er mwyn osgoi cael bil mawr, cadwch lygad ar beth mae eich plant yn ei chwarae a darllenwch y print mân o amgylch pryniannau yn y gêm.

Gallwch ddarganfod mwy ar sut i gadw eich ffioedd ffôn symudol dan reolaeth 

Contract ffôn symudol yn dod i ben - a ddylech aros neu newid?

Pan fydd eich contract yn dod i ben, bydd eich cyflenwr presennol fel arfer yn ymdrechu'n galed i'ch cadw.

Eich cam cyntaf yw ffonio'ch gweithredwr rhwydwaith.

Gofynnwch am y pecyn gorau y gallant ei gynnig i chi, ac yna dilynwch hynny trwy ofyn am eich defnydd nodweddiadol (munudau/negeseuon testun/lawrlwythiadau data).

Bydd cael y wybodaeth hon:

  • yn eich helpu i gymharu cynigion ar wefannau cymharu prisiau
  • yn rhybuddio'ch cyflenwr y gallech newid – a fydd bron yn sicr o’ch cael wedi’ch trosglwyddo i'r adran gadw. Eu gwaith yw eich argyhoeddi i aros, ac maent fel arfer yn cynnig bargeinion a gostyngiadau na fyddech yn eu gweld fel arall.

Os ydych wedi cael cynnig da, efallai yr hoffech aros lle rydych. Ond cyn i chi wneud, gwelwch beth arall y gallwch ei gael, yn seiliedig ar eich defnydd cyfredol.

Talu wrth fynd neu dalu bob mis?

Gyda ffonau symudol rydych naill ai'n talu am yr union beth rydych yn ei ddefnyddio mewn munudau, negeseuon testun a data – talu-wrth-fynd. Neu rydych yn cael ffi benodol sy'n cynnwys ystod o wasanaethau – talu bob mis.

Mae'r opsiwn gorau i chi yn dibynnu ar faint rydych yn defnyddio'ch ffôn ac ar gyfer beth rydych yn ei ddefnyddio.

Ar dariff talu wrth fynd, rydych yn talu am bob galwad, testun neu dalp o ddata rydych yn ei ddefnyddio. Os mai anaml y byddwch yn defnyddio'ch ffôn, mae'n debyg mai dyma'r opsiwn rhatach.

Fodd bynnag, os ydych yn defnyddio'ch ffôn yn fwy rheolaidd, gallai fod yn rhatach talu ffi fisol, sy'n cynnwys nifer benodol o munudau galwadau, negeseuon testun a data.

I'ch helpu i reoli eich arian, rhowch gynnig ar ein Cynlluniwr Cyllideb hawdd i'w ddefnyddio am ddim.

Gwirio signal yn eich ardal

Os penderfynwch newid, peidiwch ag anghofio gwirio a oes gan y cyflenwr newydd signal da lle mae ei angen arnoch. Mae gan wefan Ofcom ddolenni i wirwyr darllediadau ar gyfer yr holl brif gyflenwyr.

Gwiriwch signal ffôn symudol am eich ardal Yn agor mewn ffenestr newydd

Beth os yw fy narparwr yn codi prisiau?

Os oes gennych gytundeb a bod eich darparwr yn penderfynu codi eu prisiau, mae'n rhaid iddynt:

  • roi mis o rybudd i chi, a
  • chaniatáu i chi newid i ddarparwr arall heb dalu cosb.

Mae gan Ofcom fwy o wybodaeth am eich hawliau defnyddiwrYn agor mewn ffenestr newydd

A ddylech yswirio’ch ffôn?

Mae p'un a ddylech yswirio'ch ffôn yn gyffredinol yn dibynnu ar dri pheth:

  • Gwerth eich ffôn – os ydych yn berchen arno'n llwyr.
  • Ad-daliadau’r contract os oes gennych gontract symudol
  • Yr anghyfleustra o ailosod ffôn sydd ar goll neu wedi'i ddifrodi.

Os penderfynwch dynnu yswiriant, byddwch yn ymwybodol:

  • nad oes rhaid cymryd yswiriant ffôn symudol â'ch darparwr ffôn – gall llawer o yswirwyr trydydd parti ddarparu yswiriant rhatach
  • weithiau gellir darparu yswiriant â'ch cyfrif banc, felly gwiriwch cyn prynu.

Sicrhewch eich bod yn gwirio am beth yn union y mae eich ffôn wedi'i yswirio cyn cofrestru

Mae gan MoneySavingExpert mwy o wybodaeth am yswiriant ffôn symudolYn agor mewn ffenestr newydd 

Yn cael trafferth i dalu’ch biliau ffôn?

Os nad oes gennych linell daear, mae eich ffôn symudol yn gysylltiad hanfodol â gwasanaethau eraill. Felly mae'n bwysig ei gadw os gallwch.

Os oes angen help arnoch, cysylltwch â'ch darparwr cyn gynted â phosibl i esbonio'r sefyllfa.

Efallai mai dyma'ch profiad cyntaf o ddyled. Cofiwch ei bod yn bwysig cadw i fyny â'ch taliadau. Nid yw hyn mond yn wir fel na fyddwch yn colli'ch cysylltiad, ond hefyd oherwydd gallai effeithio ar eich sgôr credyd os na wnewch hynny.

Mae gan lawer o ddarparwyr gefnogaeth ar waith i'ch helpu, gan gynnwys:

  • newid dyddiad eich bil
  • sefydlu cynllun ad-dalu fforddiadwy
  • symud i dariff gwahanol
  • gostwng eich cap gwariant
  • peidio â chodi cosbau fel ffioedd talu hwyr.

Y peth gorau yw defnyddio'ch ffôn dim ond pan fydd angen.

Os ydych yn cael trafferth talu'ch bil, ni ddylai'ch darparwr eich datgysylltu hefyd. Mae hyn oni bai ei fod yn ddewis olaf llwyr pan fydd yr holl opsiynau eraill wedi'u disbyddu.

Mae rhai darparwyr yn cynnig cynlluniau cost isel i’ch helpu i wneud galwadau ffôn a mynd ar-lein os ydych yn cael budd-daliadau penodol. Darganfyddwch fwy, gan gynnwys beth sy’n digwydd os ydych yn methu taliad, yn ein canllaw Help os ydych yn cael trafferth i dalu’ch biliau.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.