Pedwar awgrym i atal gwariant byrbwyll:
[1] Dad-ddilyn a datdanysgrifio o’r brandiau sy’n eich temptio i siopa heb feddwl.
[2] Tynnwch eich manylion cerdyn sydd wedi’u cadw o’ch porwr, Apple Pay neu Google Wallet. Os oes eich manylion mewngofnodi PayPal neu prynu nawr talu wedyn wedi'u cadw, dylech ddileu'r rheini hefyd. Gwnewch hi'n anoddach gwario'r arian rydych wedi gweithio mor galed i'w ennill.
[3] Peidiwch â siopa pan fyddwch chi'n flinedig neu dan straen. Mae pori siopau ar-lein yn hwyr yn y nos pan na allwch gysgu yn cael ei alw'n 'siopa fampirod' [sgrech ddoniol] a gall arwain at wario mwy nag yr hoffech chi ei wneud.
[4] Defnyddiwch y rheol 24 awr. Peidiwch â phrynu unrhyw beth nad yw'n hanfodol heb aros diwrnod llawn i benderfynu a yw'n wirioneddol werth ei brynu. Ydych chi ei angen neu ydych chi ei eisiau? Cadwch y ddolen yn eich app nodiadau ar gyfer yn nes ymlaen, ac mae’n debygol y byddwch yn anghofio amdano.
Am fwy o syniadau, chwiliwch:‘HelpwrArian gwariant byrbwyll’.