Credyd siop

Mae llawer o frandiau catalog, siopau ar-lein a rhai siopau'r stryd fawr yn cynnig credyd prynu nawr, talu wedyn. Efallai y cewch gynnig i dalu gyda chredyd catalog, cardiau siop, hurbwrcas, cyllid pwynt gwerthu neu fath arall o gyllid sy'n gysylltiedig â phrynu mewn siop.

Beth i'w ystyried cyn i chi gymryd allan credyd siop

Rydych yn cael cyllid ar bryniant unigol ac yn ei ad-dalu dros amser. Os ydych yn ystyried defnyddio cytundeb 'prynu nawr talu wedyn', gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth mae hyn yn ei olygu cyn i chi ddefnyddio cyllid mewn siopau

Gall cardiau siop, credyd catalog, hurbwrcas a chyllid pwynt gwerthu fod yn ddefnyddiol os gallwch dalu'r hyn sy'n ddyledus gennych bob mis, ond os na, gallant hwy a phob math o gredyd siop fod yn ddrud – felly gwiriwch a yw opsiynau credyd eraill yn well.

Mae'n bwysig sicrhau eich bod yn dewis y math cywir o gredyd neu fenthyciad ar gyfer eich sefyllfa.

Gofynnwch i'ch hun:

  • Ydw i wir angen yr eitem mewn gwirionedd? Os yw'n eitem rhywbeth moethus, efallai na fydd yn werth cymryd credyd i dalu am rywbeth nad ydych ei angen mewn gwirionedd. 

  • Ydw i yn gallu aros nes bod gen i ddigon o arian i dalu ymlaen llaw am yr eitem?

  • Ydw i’n gallu prynu'r eitem yn rhatach yn rhywle arall? Os yw'n eitem wedi'i frandio, efallai y byddwch yn gallu prynu fersiwn rhatach heb ei frandio yn rhywle arall neu hyd yn oed brynu'r un eitem yn ail-law trwy safle ocsiwn neu ailgylchu.

  • Ydw i’n gallu benthyg ar gost is yn rhywle arall? Os na allwch gael yr eitem am bris is, ystyriwch fath rhatach o gredyd, fel cerdyn credyd 0% (cyn belled â'ch bod yn siŵr y gallwch ei ad-dalu'n llawn cyn i'r cyfnod 0% ddod i ben).

  • Ydw i wedi gwirio'r holl delerau ac amodau? 

  • Ydw i'n deall y gyfradd llog a'r gyfradd ganrannol flynyddol (APR)

A yw incwm eich cartref yn cael ei wasgu?

Os ydych yn wynebu costau byw uwch, ond heb fawr ddim arian ychwanegol yn dod i mewn, darganfyddwch am ffynonellau incwm a chymorth ychwanegol sydd ar gael i'ch helpu i reoli biliau'ch cartref ac arbed arian yn ein canllaw 
Help gyda chostau byw

Mathau o gredyd siop

Credyd catalog

Mae credyd catalog, a elwir hefyd yn 'gyfrif siopa' a 'cyfrif archebu drwy'r post', yn ffordd o brynu nwyddau, naill ai drwy'r post neu ar-lein, gyda thaliadau'n cael eu lledaenu dros randaliadau wythnosol neu fisol. Gall cyfnod ad-dalu arferol fod yn un neu ddwy flynedd.

Gallwch naill ai gael eich catalog eich hun neu brynu drwy asiant. Mae'r asiant fel arfer yn ennill comisiwn ar yr hyn maent yn ei werthu.

Mae pobl yn aml yn cyfeirio at eu pryniant credyd fel un sy'n cael ei brynu 'ar gyfrif'.

Weithiau gall credyd catalog neu archeb bost fod yn ddi-log, cyn belled â bod cost yr eitem yn cael ei had-dalu o fewn cyfnod penodol o amser (fel arfer rhwng tri a 12 mis). 

Ond os nad ydych yn talu ar amser, gall llog ddechrau cynyddu yn gyflym - ac mae rhai catalogau yn codi llog o'r dyddiad prynu.

Hurbwrcas

Mae cytundeb hurbwrcas (HP) yn cael ei gynnig yn aml pan fyddwch yn prynu car neu ddodrefn.

Yn wahanol i fathau eraill o gredyd siop, nid ydych yn berchen ar y nwyddau nes eich bod wedi gwneud y taliad terfynol. Mae hyn yn golygu, mewn gwirionedd, eich bod yn llogi'r nwyddau gydag opsiwn i'w prynu.

Pan fyddwch wedi gwneud yr holl daliadau i'r cwmni cyllid, gallwch ddewis prynu'r nwyddau trwy dalu ffi derfynol 'opsiwn i brynu'. Gallai hyn fod yn swm bach neu'n rhywbeth llawer mwy. Gelwir y taliadau mwy hyn yn aml yn daliadau 'balŵn'

Cytundebau gwerthu amodol

Mae cytundebau 'gwerthu amodol' yn gweithio mewn ffordd debyg i hurbwrcas - mae perchnogaeth yn amodol ar wneud yr holl daliadau. Os na fyddwch yn gwneud y taliadau, gall y cwmni gymryd y nwyddau yn ôl.

Yn y ddau achos, ni allwch werthu'r nwyddau nes bod y cytundeb wedi dod i ben. Ac os nad ydych yn cadw i fyny eich ad-daliadau, gellir adfeddiannu'r nwyddau.

Fodd bynnag, os ydych chi wedi talu o leiaf draean o'r cyfanswm sy'n daladwy, ni all y cwmni gymryd y nwyddau heb gael gorchymyn llys yn gyntaf.

Cardiau siop

Gellir defnyddio cardiau siop ond i dalu am nwyddau mewn siop benodol neu grŵp o siopau.

Mae'n debygol y byddwch yn cael cynnig cerdyn wrth y ddesg dalu pan fyddwch yn talu am y nwyddau.

Mae'r cyfraddau llog ar gardiau siop yn aml yn llawer uwch na chardiau credyd arferol.

Mae hyn yn golygu oni bai eich bod yn talu'r balans yn llawn bob mis gall gymryd amser hir, a chostio llawer mwy, i ad-dalu'r ddyled - yn enwedig os ydych yn parhau i ddefnyddio'r cerdyn. 

Cyn i chi gofrestru, gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu fforddio'r ad-daliadau.

Os byddwch yn cofrestru ond yn newid eich meddwl, mae cyfnod ailfeddwl 14 diwrnod lle gallwch ganslo'r cytundeb.

Efallai y bydd rhai cardiau siop yn 'gardiau talu' mewn gwirionedd, sy'n golygu bod yn rhaid i chi dalu'r balans llawn o'r hyn yr ydych wedi talu amdano ar ddiwedd pob mis.

Os na wnewch hynny, byddwch yn cael costau ychwanegol. 

Cardiau credyd sy'n gysylltiedig â siop

Mae cardiau sy'n gysylltiedig â siop yn gardiau credyd sy'n cario brandio'r siop y cawsoch y cerdyn ohono. Efallai y byddant yn dod â buddion a gostyngiadau pan fyddwch yn defnyddio'ch cerdyn i dalu am eitemau a werthwyd gan y cwmni a roddodd y cerdyn i chi, ond, yn wahanol i gardiau siop, gellir eu defnyddio y tu allan i'r siop hefyd.

Efallai y bydd gan gardiau credyd sy'n gysylltiedig â siop gyfnodau di-log hirach na chardiau siop, a chyfraddau llog tebyg i gardiau credyd heb eu brandio. Ond mae dal angen i chi feddwl sut rydych yn mynd i'w talu nhw - gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud hyn cyn i unrhyw gyfnod rhagarweiniol ddod i ben.

Manteision ac anfanteision credyd siop

  • Os oes cyfnod di-log a gallwch ad-dalu'ch balans yn ystod y cyfnod hwn, mae eich credyd am ddim.

  • Gall fod yn ffordd fwy fforddiadwy o dalu am eitemau angenrheidiol fel gwisg ysgol na chymryd benthyciad diwrnod cyflog, neu ddefnyddio credyd cartref.

  • Efallai y cewch eich temtio gan y cyfnod di-log ond yn y pen draw oedi'ch ad-daliad a thalu cyfradd llog uchel, gan gostio llawer mwy i chi nag yw gwerth yr eitemau.

  • Gall methu taliad effeithio ar eich statws credyd yn yr un modd â methu ad-daliad benthyciad neu daliad cerdyn credyd. 

  • Os ydych wedi prynu drwy asiant sydd hefyd yn ffrind neu'n gymydog, gallai methu â gwneud ad-daliadau eu rhoi nhw a chi mewn sefyllfa lletchwith.

  • Gall cael gormod o gytundebau credyd (gan gynnwys credyd siop) ostwng eich statws credyd, hyd yn oed os ydych yn gwneud eich ad-daliadau ar amser. Mae hynny oherwydd y gallai benthycwyr edrych ar gyfanswm y credyd sydd gennych ar gael i chi a'r cyfanswm y mae'n rhaid i chi ei ad-dalu pan fyddant yn penderfynu a ddylid benthyca.

 

Gweler ein canllaw, Sut i leihau cost benthyca ar eich cerdyn credyd a siop.

 

Dewisiadau eraill i gredyd siop

Y dewis arall gorau i gyllid yn y siop, oni bai ei fod yn gyllid 0%, yw prynu'r nwyddau gydag arian sydd gennych eisoes. Mewn rhai achosion, efallai y gallwch drafod gostyngiad am arian parod.

Os yw'r nwyddau yn rhywbeth rydych chi wir ei eisiau ac nad yw cyllid 0% ar gael, a allech chi gynilo ar eu cyfer?

Os ydych eu hangen ar unwaith, ymchwiliwch i'ch opsiynau. Efallai y byddai'n well cymryd cerdyn credyd di-log neu fenthyciad personol.

Dysgwch fwy am gostau benthyca, gan gynnwys gweithio allan gynllun ad-dalu a phenderfynu faint i'w fenthyca, yn ein hadran Rheoli Credyd yn dda

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.