Mae BNPL yn aml yn cael ei gyflwyno fel y ffordd hawsaf o dalu wrth y ddesg dalu, sy’n eich galluogi i brynu rhywbeth gydag un neu ddau glic yn unig.
Cyn prynu unrhyw beth, gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu ei fforddio ac yn gwybod sut y byddwch yn talu amdano.
Mae cynhyrchion BNPL a gynigir gan rai darparwyr fel Klarna, PayPal a Clearpay bellach yn cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA), sy'n rhoi mwy o ddiogelwch i chi. Mae hefyd yn golygu bod yn rhaid iddynt wirio eich sefyllfa ariannol cyn iddynt ddewis benthyca i chi, i wneud yn siŵr nad ydych chi'n benthyca mwy nag y gallwch fforddio ei ad-dalu.
Gallwch wirio a yw darparwr BNPL yn cael ei reoleiddioYn agor mewn ffenestr newydd ar wiriwr cwmni y FCA.
Fodd bynnag, nid yw cynhyrchion BNPL a gynigir yn uniongyrchol gan y manwerthwr fel arfer yn cael eu rheoleiddio, sy'n golygu y gallech gael cynnig mwy nag y gallwch fforddio ei ad-dalu.
Os dewiswch ddefnyddio BNPL, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n deall sut mae'n gweithio a beth sy'n digwydd os na allwch fforddio ad-dalu. Er enghraifft, gallech wynebu ffioedd hwyr neu gallai’r taliad gael ei ychwanegu at y taliad nesaf.
Os ydych chi'n cael trafferth talu’r hyn sy’n ddyledus gennych, ceisiwch osgoi ymrwymo i nifer o gytundebau BNPL nes eich bod yn ôl ar y trywydd iawn gan fod hyn yn ei gwneud yn anoddach cadw golwg ar ddyddiadau ad-dalu gwahanol.