Mae rhai budd-daliadau yn cael eu heffeithio gan faint o arian sydd gennych mewn cynilion, megis arian mewn cyfrif cynilo, neu fuddsoddiadau mewn cyfranddaliadau. Gelwir y budd-daliadau hyn yn fudd-daliadau prawf modd. Darganfyddwch fwy am ba fudd-daliadau sydd wedi eu heffeithio gan gynilion neu daliad lawmp swm, megis tâl diswyddo neu iawndal.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Pa fudd-daliadau a effeithir gan gynilion?
- Beth sy’n cyfri fel cynilion
- Sut mae cynilion yn effeithio ar Gredyd Pensiwn
- Teclynnau defnyddiol
- Llinell gymorth Credyd Cynhwysol
- A fydd fy nhâl diswyddo neu daliadau lwmp swm eraill yn effeithio ar fy mudd-daliadau?
- Taliadau lwmp swm ôl-ddyddiedig gan DWP
Pa fudd-daliadau a effeithir gan gynilion?
Mae’r prif fudd-daliadau prawf modd sydd wedi eu heffeithio gan incwm a chynilion yn cynnwys:
- Credyd Cynhwysol
- Credyd Pensiwn
- Credydau Treth (Credyd Treth Plant a Chredyd Treth Gwaith)
- Cymorth Treth Cyngor
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
- Cymhorthdal Incwm
- Budd-dal Tai.
Beth sy’n cyfri fel cynilion
Mae cynilion yn cael ei gyfri fel unrhyw arian y gallwch chi gael gafael ynddo’n gymharol hawdd, neu gynnyrch ariannol a all gael eu gwerthu. Os ydych yn byw fel cwpl mae unrhyw arian sydd ganddynt mewn cynilion neu gyfalaf yn cael ei gyfri hefyd.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- arian parod ac arian mewn cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, gan gynnwys cyfrifon cyfredol nad ydynt yn talu llog
- cyfrifon cynilio a Buddsoddiadau Cenedlaethol, a Bondiau Premiwm
- stociau a chyfranddaliadau
- etifeddiant
- eich cronfa bensiwn os ydych yn cymryd eich pensiwn ar hyn o bryd
- eiddo, nad yw'n brif gartref i chi.
Mewn rhai amgylchiadau, efallai caiff eiddo eraill rydych yn berchen arnynt ond nad ydych yn byw ynddynt gael eu diystyru.
Os ydych wedi cael arian neu eiddo’n ddiweddar ac nad ydych yn sicr a yw’n cyfrif fel cynilion, gallwch roi gwybod am newid mewn amgylchiadau a gofyn i DWP. Os ydych yn ysgrifennu eich ewyllys ac nid ydych am i’r etifeddiant rydych yn gadael i rywun effeithio ar eu budd-daliadau, gall fod yn werth ceisio cyngor proffesiynol. Efallai byddent yn argymell eich bod yn sefydlu ymddiriedolaeth, yn enwedig os yw’r person rydych yn gadael yr arian neu asedau iddynt yn fregus. Am ragor o wybodaeth darllenwch ein canllaw ar ddefnyddio ymddiriedolaeth i dorri treth etifeddiant.
Cynilion a chyfalaf eraill sydd fel arfer yn cael eu diystyru, gan gynnwys:
- eiddo personol, fel gemwaith, dodrefn neu gar
- eich cronfa bensiwn os nad ydych wedi dechrau cymryd allan ohono eto
- gwerth unrhyw gynlluniau angladd rhagdaledig
- polisïau yswiriant bywyd sydd heb gael eu cyfnewid am arian
- caiff hawliadau yswiriant eu hanwybyddu am chwe mis os ydynt yn cael eu defnyddio i ailosod neu atgyweirio.
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn gyfrifol am benderfynu pa gynilion sydd wedi’u cynnwys neu eu heithrio o gais budd-daliadau. Gall hwn fod yn seiliedig ar eich amgylchiadau personol. Os ydych yn gwario arian neu’n rhoi i eraill er mwyn lleihau cyfanswm eich cynilion, efallai bydd y DWP yn dal i ystyried hwn fel rhan o’ch cynilion. Y DWP sy’n gwneud y penderfyniad terfynol ar beth sydd yn cyfrif neu ddim yn cyfrif tuag at gynilion, os oes gennych unrhyw amheuaeth, gallwch ofyn am gadarnhad ysgrifenedig o’u penderfyniad.
Darganfyddwch fwy am gymhwysedd a gwneud cais ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Os nad ydych yn hapus gyda phenderfyniad budd-dal, mae gennych yr hawl i apelio.
Darganfyddwch fwy am apelio ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Beth yw’r terfynau cynilo?
Credyd Cynhwysol
Os oes gennych chi neu’ch partner £6,000 neu lai mewn cynilion, yna ni fydd hyn yn effeithio ar eich cais am fudd-daliadau.
Os oes gennych chi/a neu’ch partner fwy na £16,000 mewn cynilion, ni fydd gennych hawl i Gredyd Cynhwysol.
Os oes gennych chi/a neu’ch partner unrhyw gynilion neu gyfalaf o rhwng £6,000 ac £16,000, fe anwybyddir y £6,000 cyntaf. Ystyrir y gweddill fel arian sy’n rhoi incwm misol o £4.35 am bob £250, neu ran o £250.
Enghraifft o sut mae cynilion yn effeithio Credyd Cynhwysol
- rydych yn hawlio Credyd Cynhwysol ac mae gennych chi £7,000 mewn cyfrif cynilo
- anwybyddir y £6,000 cyntaf
- ystyrir y £1,000 sy’n weddill fel arian sy’n rhoi incwm misol o £17.40 i chi
- £1,000 ÷ £250 = 4
- 4 × £4.35 = £17.40
- bydd £17.40 yn cael ei dynnu oddi ar eich taliad Credyd Cynhwysol misol.
Sut mae'ch cynilion yn effeithio ar eich credydau treth
Ar gyfer credydau treth, nid yw'r terfyn cynilo o £16,000 yn bodoli. Yn lle, mae faint o incwm (llog fel arfer) rydych chi'n ei dderbyn o'r cynilion hynny yn effeithio ar eich credydau treth.
Os ydych chi'n derbyn llai na £300 mewn incwm o'r cynilion hynny, ni fydd yn effeithio ar eich credydau treth.
Os ydych chi'n derbyn mwy na £300 mewn incwm o'r cynilion hynny, yna tynnir £300 o'ch incwm blynyddol, a ddefnyddir i gyfrifo faint o gredydau treth rydych chi'n eu derbyn bob blwyddyn.
Gallwch ddarganfod mwy am yr hyn sy'n cyfrif fel incwm ar gyfer credydau treth yn y canllaw hwn ar wefan y Grŵp Diwygio Treth Incwm Isel
Darganfyddwch fwy am symud i Gredyd Cynhwysol o gredydau treth yn ein canllaw
Sut mae eich cynilion yn cael eu heffeithio os byddwch yn symud o gredydau treth i Gredyd Cynhwysol
Os ydych chi'n hawlio credydau treth ac yn awr yn gorfod hawlio Credyd Cynhwysol oherwydd newid mewn amgylchiadau, er enghraifft, colli neu newid swydd amgylchiadau teuluol neu sefyllfa dai ac mae gennych chi dros £16,000 mewn cynilion, ni fyddwch fel arfer yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol.
Bydd unrhyw gynilion sydd gennych rhwng £6,000 a £16,000 yn lleihau faint o Gredyd Cynhwysol a gewch.
Fodd bynnag, os ydych chi'n symud fel rhan o’r cynllun ‘Symud i Gredyd Cynhwysol’, (dyma pryd nad oes unrhyw beth wedi newid yn eich bywyd ond mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn gofyn i chi symud drosodd i Gredyd Cynhwysol) bydd unrhyw gynilion sydd gennych dros £16,000 yn cael eu diystyru am 12 mis o'r adeg honno rydych chi'n symud i Gredyd Cynhwysol. Ar ôl 12 mis, mae'r rheolau arferol yn berthnasol.
Ceisiwch gael cyngor gan arbenigwr budd-daliadau cyn i chi symud o gredydau treth i Gredyd Cynhwysol i sicrhau eich bod yn deall effaith gwneud hynny. Bydd cynghorydd Cymorth i Hawlio Cyngor ar Bopeth yn gallu gweithio allan beth sydd orau i chi ei wneud.
Sut mae cynilion yn effeithio ar Gymorth Treth Cyngor
Mae Cymorth Treth Cyngor yn cael ei redeg gan gynghorau lleol.
Os ydych o oedran gwaith mae faint o gynilion a ganiateir yn ddibynnol ar reolau’r cynllun Cymorth Treth Cyngor yn eich ardal.
Gall eich cyngor lleol ddweud mwy wrthych am sut mae’r cynllun yn gweithio ble rydych chi’n byw.
Dewch o hyd i'ch cyngor lleol ar wefan GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn cael Credyd Pensiwn ac yn gymwys i gael Cymorth Treth Cyngor, gallai eich cynilion effeithio ar faint allech chi ei gael.
Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar Incwm, Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Tai
Ni all y mwyafrif o bobl wneud ceisiadau newydd am y budd-daliadau hyn oherwydd maent yn cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol.
Ydych chi eisoes yn hawlio un o’r budd-daliadau hyn a bod gennych gynilion gwerth £6,000 neu fwy? Yna bydd angen i chi roi gwybod i’r swyddfa sy’n talu’ch budd-dal.
Os ydych yn sydyn yn cael swm o arian o £16,000 neu fwy, gallu hyn hefyd effeithio eich hawl i wneud cais am y budd-daliadau hyn.
Sut mae cynilion yn effeithio ar Gredyd Pensiwn
Os oes gennych £10,000 neu lai o gynilion neu fuddsoddiadau (gan gynnwys eich cronfa bensiwn) ni fydd yn effeithio ar faint o Gredyd Pensiwn y byddwch yn ei dderbyn. Ond efallai y byddwch chi’n derbyn llai o swm os oes gennych chi fwy na £10,000 o gyfalaf.
Ar gyfer pob £500 neu ran o £500 o bensiynau neu gynilion sydd gennych dros £10,000 - byddwch yn cael eich ystyried i fod ag incwm o £1 yr wythnos. Ychwanegir hwn at unrhyw incwm arall sydd gennych, fel pensiwn.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Credyd Pensiwn
Teclynnau defnyddiol
Llinell gymorth Credyd Cynhwysol
Os ydych angen help gyda’ch cais, ffoniwch linell gymorth Credyd Cynhwysol am ddim ar:
Ffôn: 0800 328 1744
Ffôn testun: 0800 328 1344
8am i 6pm, dydd Llun i ddydd Gwener (wedi cau ar wyliau bank a chyhoeddus). Mae galwadau am ddim.
Mae’r llinell gymorth yn brysur iawn ar hyn o bryd oherwydd yr argyfwng coronafeirws. Felly efallai byddai’n well gennych ddefnyddio eich cyfrif ar-lein os gallwch. Mewngofnodwch ar wefan GOV.UK
A fydd fy nhâl diswyddo neu daliadau lwmp swm eraill yn effeithio ar fy mudd-daliadau?
Tâl diswyddo
Os ydych chi’n derbyn tâl diswyddo, bydd hyn yn cael ei drin fel cynilion ar gyfer unrhyw fudd-daliadau prawf modd rydych chi’n eu hawlio.
Cofiwch nad yw pob budd-dal yn destun prawf modd. Os ydych chi wedi colli’ch swydd, y prif fudd-dal y gallwch ei hawlio yw Lwfans Ceisio Gwaith dull newydd - ac nid yw eich cynilion yn effeithio ar hyn.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Budd-daliadau a chredydau treth pan ydych wedi colli eich swydd
Taliadau iawndal
Mae iawndal yn cael ei drin fel cynilion ar gyfer unrhyw fudd-daliadau prawf modd rydych chi’n eu hawlio. Mae angen i chi ddweud wrth y swyddfa sy’n talu’ch budd-dal cyn gynted ag y byddwch chi’n cael eich iawndal.
Pan fyddwch yn hawlio iawndal am ddamwain, anaf neu afiechyd nad oedd yn fai arnoch chi, mae’n rhaid i’r sefydliad rydych chi’n hawlio ganddo ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).
Os ydych chi wedi bod yn derbyn budd-daliadau oherwydd y ddamwain, efallai y bydd yn rhaid i’r sefydliad dalu’r swm rydych chi wedi’i dderbyn mewn budd-dal yn ôl i’r DWP. Efallai y bydd hyn yn cael ei dynnu o’ch taliad.
Darganfyddwch fwy am fudd-daliadau ac iawndal ar wefan GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Amddifadu o asedau
Ni allwch leihau eich asedau neu gynilion yn fwriadol er mwyn cynyddu faint a dderbyniwch mewn budd-daliadau. Mae’r Adran Waith a Phensiynau (DWP) yn galw hyn yn amddifadu o asedau.
Gall amddifadu o asedau gynnwys:
- rhoi arian i ffwrdd
- trosglwyddo perchnogaeth o eiddo
- prynu meddiannau sydd wedi eu heithrio o brawf modd, er enghraifft ceir a gemwaith.
Os ydych wedi gwneud unrhyw rai o’r pethau hyn cyn hawlio budd-daliadau, bydd y DWP yn edrych ar pa bryd wnaethoch chi gael gwared ar eich cynilion ac asedau.
Bydd y DWP neu’ch cyngor lleol edrych ar y dystiolaeth i benderfynu os oedd yn fwriadol.
Os ar y pryd, na fyddech wedi gallu rhagweld bod angen budd-daliadau arnoch, yna efallai na fydd yn cyfrif fel amddifadu o asedau.
Efallai y gofynnir i chi ddarparu gwaith papur a derbynebau i gefnogi’r dyddiad a’r rhesymau pam eich bod wedi cael gwared ar gynilion neu asedau.
Os penderfynir eich bod wedi amddifadu eich hun yn fwriadol o gynilion neu asedau, byddwch yn cael eich trin fel petaent gennych chi o hyd. Gelwir hyn yn gyfalaf tybiannol.
Bydd y cyfalaf tybiannol yn cael ei ychwanegu i’r asedau a chynilion sydd gennych chi. Bydd hyn yn effeithio ar faint fyddwch chi’n ei gael mewn budd-daliadau.
Taliadau lwmp swm ôl-ddyddiedig gan DWP
Os yw eich budd-daliadau wedi cael eu tandalu i chi, efallai bod gennych hawl i ôl-daliad gan y DWP.
Gallai hyn gynnwys taliad lwmp swm sylweddol, a fyddai’n mynd â chi dros y terfyn cynilion ar gyfer budd-daliadau prawf modd, yn cynnwys:
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
- Cymhorthdal Incwm
- Credyd Cynhwysol
- Budd-dal Tai
- Credyd Pensiwn.
Mewn rhai achosion, ni fydd y taliad hwn yn cael ei gyfrif fel cynilion am flwyddyn ac ni fydd yn effeithio ar fudd-daliadau yn seiliedig ar incwm neu brawf modd yn ystod y cyfnod hwn.
Fodd bynnag, ble nad ydych wedi derbyn budd-daliadau digonol oherwydd gwall gellir diystyru unrhyw daliadau dros £5,000 drwy gydol cyfnod y cais neu nes bydd y dyfarniad yn gorffen. Gall hyn fod yn wall swyddogol neu ar bwynt cyfreithiol.
Elfen symudedd ac iechyd meddwl o PIP
Os na allwch, neu os ydych yn ei chael yn anodd, cynllunio neu gwblhau taith oherwydd cyflyrau iechyd meddwl, mae gennych hawl i elfen symudedd o Daliad Annibyniaeth Personol (PIP).
Os ydych eisoes yn cael PIP ac yn meddwl y gallech elwa o hyn, nid oes angen i chi wneud dim. Mae’r DWP yn adolygu pob cais PIP ar hyn o bryd ac fe gysylltir â chi’n uniongyrchol.
Os ydych chi eisoes wedi gofyn i’ch dyfarniad PIP gael ei adolygu, dylech fwrw ymlaen â’ch cais.
Bydd ceisiadau yn cael eu hôl-ddyddio i 28 Tachwedd 2016.
Tandaliadau ESA
Mae tua 70,000 o bobl wedi cael eu talu rhy ychydig o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar ôl trosglwyddo o fudd-daliadau hŷn, gan gynnwys Budd-dal Analluogrwydd.
Y bobl yr effeithir arnynt fwyaf yw tua 20,000 o’r rhai a oedd â hawl i gael y premiwm anabledd difrifol ac na chafodd y taliad hwnnw. Mewn rhai achosion, gallai pobl fod ag £20,000 yn ddyledus iddynt.
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) nawr yn gwneud ôl-daliadau i’r cwsmeriaid a effeithiwyd. Bydd y taliadau’n mynd yn ôl i ddyddiad yr hawliad gwreiddiol.
Os credwch fod iawndal yn ddyledus i chi, nid oes raid i chi wneud dim. Bydd y DWP yn cysylltu â chi’n uniongyrchol.
Os ydych yn cael budd-daliadau prawf modd, mae unrhyw ôl-ddyledion o fudd-dal sy'n ddyledus i chi o dan £5,000 yn cael eu diystyru fel cyfalaf am 52 wythnos o'r dyddiad y cânt eu talu.
Os yw'ch taliad yn £5,000 neu fwy, bydd yn cael ei ddiystyru am 52 wythnos neu nes bydd eich dyfarniad budd-dal yn dod i ben, p’un bynnag sydd hiraf.
Mae'r rheolau hyn hefyd yn berthnasol os symudwch i Gredyd Cynhwysol (UC) ac mae ôl-ddyledion yn ddyledus i chi sy'n ymwneud â hawl i fudd-dal sy'n seiliedig ar incwm.