Os ydych yn anfodlon â phenderfyniad gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) neu CThEM am eich budd-daliadau neu gredydau treth, mae’n bwysig dilyn y drefn gywir. Dyma grynodeb o’r hyn sydd angen i chi ei wneud a phryd.
Gofyn am ailystyriaeth orfodol
Pwysig
Sicrhewch eich bod yn darllen am sut i anghytuno â phenderfyniad ar wefan GOV.UK cyn gofyn am ailystyriaeth orfodol
Os byddwch yn anghytuno â phenderfyniad am fudd-daliadau gan DWP neu CThEM gallwch ofyn i’r penderfyniad gael ei ystyried unwaith eto.
Gelwir hyn yn ailystyriaeth orfodol. Mae hyn yn golygu y bydd rhywun arall yn edrych ar y penderfyniad i weld a ellir ei newid.
Mae rhaid i chi fynd trwy’r cam hwn cyn y gallwch apelio.
Fel arfer, mae rhaid i chi ofyn am ailystyriaeth orfodol o fewn mis i’r dyddiad sydd ar eich llythyr penderfyniad. Neu’r neges yn eich cyfrif ar-lein os ydych yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol.
Os byddwch yn colli’r terfyn amser, nid oes rhaid i’r adran sy’n gwneud y penderfyniad dderbyn eich cais am ailystyriaeth orfodol oni bai bod gennych reswm da iawn. Er enghraifft roeddech yn yr ysbyty, neu fod perthynas agos wedi marw.
Sut i ofyn i’r DWP am ailystyriaeth orfodol
Gallwch ofyn i’r DWP am ailystyriaeth orfodol trwy:
- ffonio, gan ddefnyddio’r rhif sydd ar y llythyr penderfyniad
- ysgrifennu llythyr
- cwblhau’r ffurflen CRMR1
- ysgrifennu neges yn eich cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein.
Eglurwch pam rydych yn credu bod eu penderfyniad yn anghywir. Ac anfonwch gopïau o unrhyw dystiolaeth arall sydd gennych os credwch y bydd hynny’n helpu’ch achos.
Darganfyddwch fwy am sut i anghytuno â phenderfyniad, ac i lawrlwytho ffurflen CRMR1, ar wefan GOV.UK
Sut i ofyn i CThEM am ailystyriaeth orfodol
Rydych yn gofyn i CThEM am ailystyriaeth orfodol trwy:
- ffonio, gan ddefnyddio’r rhif ar y llythyr penderfyniad
- ysgrifennu llythyr
- llenwi ffurflen CH24A ar gyfer penderfyniad Budd-dal Plant neu Lwfans Gwarcheidwad
- llenwi ffurflen WTC / AP (neu ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein) – ar gyfer penderfyniad credydau treth.
Lawrlwythwch ffurflen CH24A o wefan GOV.UK
Lawrlwythwch ffurflen WTC/AP neu ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein ar wefan GOV.UK
Pan fydd y penderfyniad wedi cael ei ailystyried
Pan fydd DWP neu CThEM wedi edrych ar eich penderfyniad eto, byddant yn anfon dau gopi o ddogfen atoch a elwir yn hysbysiad ailystyriaeth orfodol. Bydd hyn yn rhoi gwybod i chi am ganlyniad yr ailystyriaeth.
Darganfyddwch fwy am ofyn am ailystyriaeth orfodol ar wefan Cyngor ar Bopeth
Sut i apelio
Gallwch ddim ond apelio yn erbyn penderfyniad budd-dal pan fyddwch wedi cael yr hysbysiad ailystyriaeth orfodol.
Mae rhaid i chi apelio o fewn mis i’r dyddiad ar eich hysbysiad ailystyriaeth orfodol.
Apelio yn erbyn penderfyniad DWP
I apelio mae rhaid i chi anfon y canlynol i Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM (mae’r cyfeiriad ar y ffurflen):
- copi o’r hysbysiad ailystyriaeth orfodol
- ffurflen SSCI - lawrlwythwch hi o wefan GOV.UK
Darganfyddwch fwy am apelio yn dilyn ailystyriaeth orfodol ar wefan Cyngor ar Bopeth
Ceisiwch gymorth a chyngor arbenigol
Os ydych am barhau ag apêl, mae’n syniad da cael ychydig o gymorth arbenigol, er enghraifft, gan Gyngor ar Bopeth neu eich Canolfan Gyfreithiol leol.
Darganfyddwch fwy ein canllaw Ble i gael cymorth a chyngor am fudd-daliadau?
Sut i herio penderfyniad gan eich awdurdod lleol
A ydych am herio penderfyniad gan eich cyngor ynghylch eich Budd-dal Tai neu Gostyngiad Treth Gyngor? Bydd rhaid i chi gysylltu â’ch cyngor i gwestiynu ei benderfyniad a dilyn ei weithdrefn apelio.