Gall gweithio allan pa fudd-daliadau neu gredydau treth y mae gennych hawl iddynt fod yn anodd, yn enwedig â'r newidiadau lles diweddar. Darganfyddwch ble i gael cyngor arbenigol am ddim ar-lein, wyneb yn wyneb neu trwy ffonio llinell gymorth.
Cyngor Ar Bopeth
Gall Cyngor Ar Bopeth roi cyngor cyfrinachol, diduedd ac annibynnol am ddim i chi ar fudd-daliadau.
Y cyngor a gynigir
Yn ogystal â chyngor ar fudd-daliadau, gallant eich helpu i ddatrys problemau â dyled, tai a llawer mwy.
Y gwasanaethau a ddarperir
- ar-lein
- ymweliadau cartref
- wyneb yn wyneb
- llinell gymorth
- e-bost (mewn rhai achosion).
Yn addas ar gyfer
Pawb.
Cysylltwch â Chyngor Ar Bopeth
Chwiliwch am eich canolfan leol i drefnu apwyntiad neu i weld rhestr o rifau ffôn:
Sut i gael mynediad at fanc bwyd
Os ydych yn wynebu argyfwng ac nid oes gennych arian i dalu am fwyd, efallai y gallech ddefnyddio banc bwyd.
Fel arfer ni allwch fynd yn uniongyrchol at fanc bwyd. Bydd y rhan fwyaf ohonynt yn gofyn i chi gael taleb atgyfeirio gan sefydliad yn eich cymuned cyn i chi allu eu defnyddio.
Dyma rai o’r llefydd ble gallwch gael taleb banc bwyd:
- Cyngor ar Bopeth
- eich cyngor lleol
- Meddyg teulu neu ymwelydd iechyd
- Gweithiwr cymorth
- Gweithiwr cymdeithasol
- Canolfan Blant
- Heddlu.
Os credwch fod angen i chi ddefnyddio banc bwyd, dilynwch y camau canlynol:
- Gallwch chwilio ar-lein am fanciau bwyd yn eich ardal leol. Byddwch yn gallu gweld lleoliad pob un ac â pha sefydliadau cymunedol y mae’r banciau bwyd yn cydweithio â hwy a fydd yn gallu trefnu’r daleb ar eich cyfer.
- Neu, gall sefydliad atgyfeirio eich helpu i ddod o hyd i'r banc bwyd agosaf a rhoi taleb i chi. I gael help â hyn, ewch i wefan Cyngor ar Bopeth
- Wedi i chi gyrraedd y sefydliad atgyfeirio, byddant yn gofyn am ychydig o wybodaeth syml gennych er mwyn canfod eich anghenion a gwirio a ydych yn ddilys i gael taleb.
- Os byddwch yn gymwys, cewch daleb gan y sefydliad atgyfeirio i’w defnyddio yn y banc bwyd i chi ei chyfnewid am fwyd.
- Os bydd angen i ddefnyddio banc bwyd eto, bydd angen i chi gael atgyfeiriad arall.
Pethau i’w hystyried os byddwch angen taleb banc bwyd
Os credwch y byddwch yn fyr o fwyd erbyn diwedd yr wythnos mae’n bwysig i chi gynllunio ymlaen llaw. Nid yw’r rhan fwyaf o fanciau bwyd ar agor dros y penwythnos, felly ceisiwch gael atgyfeiriad cyn y penwythnos.
Cyn ymweld â sefydliadau atgyfeirio cymunedol, neu gangen Cyngor Ar Bopeth - gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio eu bod ar agor yn gyntaf, cyn teithio yno.
Os ydych wedi cael eich taleb ond nid oes modd i chi deithio, efallai y gallai’ch banc bwyd agosaf ddanfon y bwyd atoch. Dylech gysylltu â hwy i gael gwybod hynny.
Mae rhai banciau bwyd yn cyfyngu ar y nifer o weithiau y cewch fynd atynt. Os gwelwch eich bod yn dibynnu’n ormodol arnynt, byddant yn gallu eich cyfeirio at rywle arall am gymorth.
Dod o hyd i fanc bwyd
Darganfyddwch fanc bwyd annibynnol yn lleol ar wefan Food Aid Network
Gallwch ddod o hyd i’ch banc bwyd Ymddiriedolaeth Trussell ar wefan Ymddiriedolaeth Trussell
Dod o hyd i sefydliad atgyfeirio
Darganfyddwch eich swyddfa Cyngor ar Bopeth agosaf a’i horiau agor, ar wefan Cyngor Ar Bopeth
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, ewch i wefan Advice NI
Darganfyddwch fanylion cyswllt eich cyngor lleol ar wefan GOV.UK
Canolfannau’r Gyfraith
Mae Canolfannau’r Gyfraith yn darparu cyngor cyfreithiol a chynrychiolaeth am ddim i bobl dan anfantais. Efallai y gallant eich helpu â chyngor arbenigol os oes gennych broblem budd-dal gymhleth neu os ydych am apelio yn erbyn penderfyniad a wnaed ar eich hawl i fudd-dal.
Y cyngor a gynigir
Yn ogystal â chyngor ar fudd-daliadau a hawliau lles, mae Canolfannau’r Gyfraith yn cynnig cyngor cyfreithiol ar faterion yn cynnwys cyflogaeth a thai.
Y gwasanaethau a ddarperir
- wyneb yn wyneb
- ffôn (mewn rhai ardaloedd).
Yn addas ar gyfer
Pawb sy'n methu fforddio talu am gymorth cyfreithiol.
Cysylltwch â’ch Canolfan y Gyfraith leol
Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, darganfyddwch eich un agosaf ar wefan Law Centres Network
Yn yr Alban, darganfyddwch eich Canolfan Gyfraith agosaf ar wefan Shelter Scotland
Cynghorwyr budd-daliadau Macmillan ar gyfer pobl a effeithir gan ganser
Gall cynghorydd budd-daliadau Macmillan eich helpu i gyfrifo pa gymorth ariannol mae gennych hawl iddo.
Y cyngor a gynigir
Maent yn cynnig cyngor arbenigol i helpu i leddfu pryderon ariannol.
Gan gynnwys gwybodaeth ar:
- fenthyciadau
- grantiau
- budd-daliadau
- credydau treth.
Y gwasanaethau a ddarperir
- wyneb yn wyneb
- ymweliadau cartref
- ffôn.
Yn addas ar gyfer
Unrhyw un a effeithir gan ganser.
Darganfyddwch gynghorydd budd-daliadau Macmillan
Darganfyddwch un yn agos i chi ar wefan Macmillan Cancer Support
Cyngor budd-daliadau Age UK ar gyfer pobl hŷn
Mae rhai canghennau lleol Age UK yn cynnig gwasanaeth cyngor cyfrinachol am ddim ar fudd-daliadau.
Y cyngor a gynigir
Cymorth ymarferol i wneud yn siŵr eich bod yn cael yr holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt.
Y gwasanaethau a ddarperir
- wyneb yn wyneb
- ymweliadau cartref
- ffôn
- cymorth i lenwi ffurflenni cais.
Yn addas ar gyfer
Unrhyw un sydd dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac yn byw yn yr ardal a gwmpasir gan y gangen leol.
Cysylltwch ag Age UK
Ffoniwch Linell Gymorth Age UK: 0800 169 6565 (8am i 7pm, 365 diwrnod y flwyddyn).
Ewch i wefan Age UK
Neu rhowch ‘Age UK’ ac enw’ch ardal leol mewn peiriant chwilio.
Llinell Gymorth Gingerbread i Rieni Sengl
Mae Gingerbread yn cynnig cyngor a chymorth ymarferol i rieni sengl, gan gynnwys cyngor ar fudd-daliadau a chredydau treth.
Gallwch ffonio am ddim ar 0808 802 0925 (ddydd Llun: 10am i 6pm, ddydd Mawrth, ddydd Iau, ddydd Gwener: 10am i 4pm, ddydd Mercher: 10am i 1pm a 5pm-7pm). Neu ewch i wefan Gingerbread
Gogledd Iwerddon
Ewch i wefan Parenting NI Gallwch hefyd eu ffonio am ddim ar 0808 8010 722 (ddydd Llun i ddydd Iau: 9.30am i 3.30pm, a ddydd Gwener: 9.30am i 12.30pm).
Cymorth a chyngor arall am ddim
Cyngor ar ddyledion
Os ydych yn poeni am gadw i fyny ag ad-daliadau dyled mae llawer o gymorth a chyngor cyfrinachol ar gael am ddim.
Cyngor ar dai
Os oes gennych ôl-ddyledion rhent neu forgais neu os ydych yn poeni am golli’ch cartref, mae Shelter yn cynnig cyngor cyfrinachol ar amrediad o broblemau ynghylch tai.
- Ewch i Shelter Cymru am gyngor
- Ewch i Shelter England am gyngor
- Ewch i Shelter Scotland am gyngor
- Ewch i Shelter Northern Ireland am gyngor
Help sy'n lleol i chi
Os yw eich problem yn gymhleth, gall Advicelocal eich helpu i ddod o hyd i gyngor am ddim a didueddYn agor mewn ffenestr newydd yn eich ardal chi ar:
- fudd-daliadau
- Treth Cyngor
- Tai
- cyflogaeth
- anabledd a gofal cymdeithasol
- lloches a mewnfudo.