Problemau gyda Chredyd Cynhwysol

Os ydych yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol am y tro cyntaf - efallai oherwydd eich bod wedi colli’ch swydd neu fod eich amgylchiadau wedi newid - dyma rai problemau cyffredin y mae pobl yn eu profi.  Dyma beth i’w wneud amdanynt.

Mae eich taliad Credyd Cynhwysol yn hwyr

Fel arfer mae’n cymryd pum wythnos i gael eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf. Ar ôl hynny, dylech gael eich taliad ar yr un dyddiad bob mis.

Os yw’ch taliad yn hwyr, mewngofnodwch i’ch cyfrif ar-lein a gadewch neges i’ch anogwr gwaith yn eich dyddlyfr.

Mewngofnodwch i'ch cyfrif ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Gofynnwch iddynt wirio a oes unrhyw beth ar goll o’ch cais a allai fod yn achosi’r oedi.

Os mai hwn yw’ch taliad cyntaf o Gredyd Cynhwysol gallwch ofyn am daliad ymlaen llaw. Mae hwn yn fenthyciad y bydd rhaid i chi ei ad-dalu o’ch taliadau Credyd Cynhwysol yn y dyfodol.

Gallwch ofyn am daliad ymlaen llaw hyd yn oed os nad yw’ch taliad yn hwyr.

Talwyd y swm anghywir o Gredyd Cynhwysol i chi

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol

Os oes angen help arnoch â'ch cais, ffoniwch y llinell gymorth Credyd Cynhwysol am ddim ar:

Ffôn: 0800 328 1744
Ffôn testun: 0800 328 1344

8am i 6pm, dydd Llun i ddydd Gwener (ar gau ar wyliau banc a gwyliau cyhoeddus). Mae galwadau am ddim.

Gall faint o Gredyd Cynhwysol rydych yn ei gael newid o fis i fis ac mae’n anodd cyfrifo faint rydych yn mynd i’w gael.

Cewch syniad cyffredinol o beth fydd eich taliad ar wefan Cyngor ar Bopeth

Os bu camgymeriad gyda’ch taliad Credyd Cynhwysol mae angen i chi ffonio’r llinell gymorth neu fewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein a gadael neges i’ch anogwr gwaith yn eich dyddlyfr. Gofynnwch iddynt esbonio’r swm i chi.

Mewngofnodwch i'ch cyfrif ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Rhowch dystiolaeth, os gallwch, i ddangos pam rydych yn meddwl eu bod wedi gwneud camgymeriad. Gallai hyn gynnwys:

  • cyfriflenni banc neu slipiau cyflog
  • anfonebau gan eich darparwr gofal plant
  • prawf o’ch rhent.

Os ydych yn dal i feddwl bod y taliad yn anghywir, gallwch fynd â’r mater ymhellach.

Rydych wedi cael eich gwrthod am Gredyd Cynhwysol

Mae enillion eich cartref yn rhy uchel

Os yw'ch enillion chi - a’ch partner os ydych yn gwneud cais ar y cyd - yn ddigon uchel i olygu na fyddwch yn cael unrhyw Gredyd Cynhwysol mewn mis, bydd eich cais Credyd Cynhwysol yn cau.

Gallai hyn fod, er enghraifft, oherwydd i chi golli’ch swydd ond wedi cael eich cyflog terfynol ar ôl i chi gyflwyno’ch cais am Gredyd Cynhwysol.

Os yw’ch enillion yn debygol o ostwng, dylech ail-ddechrau’ch cais cyn gynted â phosibl.  Mae hyn er mwyn sicrhau nad ydych yn colli allan ar unrhyw daliadau yn y dyfodol.

Ail-ddechreuwch eich cais trwy fewngofnodi i'ch cyfrif Credyd Cynhwysol ar wefan GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Nid oes gennych ‘unrhyw hawl i arian cyhoeddus’

Os yw’ch statws mewnfudo yn golygu nad oes gennych ‘unrhyw hawl i arian cyhoeddus’, ni fyddwch yn gallu cael Credyd Cynhwysol.

Os ydych wedi bod yn gweithio ac yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol, efallai y gallwch wneud cais am Lwfans Ceisio Gwaith dull newydd neu Lwfans Cyflogaeth a Chefnogaeth dull newydd yn lle.

Darganfyddwch a ydych yn gymwys gan ddefnyddio'r gyfrifiannell ar wefan Policy in Practice

Os nad ydych wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol i fod yn gymwys, cysylltwch â’ch awdurdod lleol i ofyn am fanciau bwyd a chymorth lles lleol arall.

Dewch o hyd i’ch cyngor lleol yn GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Rydych am herio’r penderfyniad

Os ydych yn anghytuno â’r penderfyniad i wrthod eich cais am Gredyd Cynhwysol, gallwch ofyn iddynt edrych arno eto - ac yna apelio.

Rydych yn waeth eich byd ar Gredyd Cynhwysol

Os ydych wedi symud i Gredyd Cynhwysol o unrhyw un o’r budd-daliadau y mae’n eu disodli, fel Credyd Treth Gwaith neu Fudd-dal Tai, mae’n bosibl y byddwch yn gweld bod gennych lai o incwm nag o’r blaen.  Neu nad ydych yn gymwys o gwbl.

Gallai hyn fod, er enghraifft, os ydych yn byw gyda rhywun a bod eich incwm a’ch cynilion ar y cyd yn golygu nad ydych yn gymwys.

Am y rheswm hwn, mae’n bwysig gwirio’n ofalus iawn cyn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Os ydych eisoes wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol a bod hyn wedi digwydd i chi, gofynnwch am esboniad trwy’ch cyfrif ar-lein. Os ydych yn anghytuno â’r canfyddiadau gallwch herio’r penderfyniad.

Ar ôl symud i Gredyd Cynhwysol ni allwch fynd yn ôl at eich hen fudd-daliadau.

Nid yw’ch Credyd Cynhwysol yn talu am eich gwariant

Os nad yw’ch taliad Credyd Cynhwysol yn ddigon am eich gwariant, bydd angen i chi weithredu’n gyflym i osgoi mynd i ddyled.

Sicrhewch eich bod wedi gwneud cyllideb gyfoes o’ch holl incwm a’ch gwariant.

Gwiriwch a ydych yn cael popeth y mae gennych hawl iddo -  er enghraifft, prydau ysgol am ddim a help gyda’ch Treth Gyngor.

Lleihau eich treuliau

Os ydych wedi colli incwm o ganlyniad i goronafeirws, efallai y gallwch leihau eich gwariant dros dro. Er enghraifft, â gwyliau talu ar fenthyciadau a chardiau credyd, neu ohirio taliadau ar eich premiymau yswiriant.

 

Nid yw’ch Credyd Cynhwysol yn talu am eich rhent neu’ch morgais

Rydych yn talu rhent

Os ydych yn talu rhent i awdurdod lleol, cyngor neu gymdeithas dai cewch eich rhent llawn fel rhan o’ch taliad Credyd Cynhwysol.

Fodd bynnag, bydd y swm a gewch yn cael ei leihau gan:

  • 14% am 1 ystafell wely sbâr
  • 25% am 2 ystafell wely sbâr neu fwy.

Os ydych yn rhentu’n breifat, mae eich costau tai yn seiliedig ar y Lwfans Tai Lleol (LHA) i’ch ardal. Er enghraifft, os ydych yn sengl a heb blant dibynnol -  bydd yr LHA yn seiliedig ar gost rhentu fflat un ystafell wely yn lleol.

Os ydych yn mynd i gael trafferth talu’ch rhent o ganlyniad i ddiffyg yn y swm rydych yn ei gael yn erbyn y swm y mae rhaid i chi ei dalu, gallwch wneud cais i’ch cyngor lleol am Daliad Tai Dewisol.

Darganfyddwch fwy am Daliadau Tai Dewisol ar yn GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Mae gennych forgais

Yr enw ar yr help a gewch gyda’ch morgais yw Cymorth ar gyfer Llog Morgais. Mae’n fenthyciad y bydd rhaid i chi ei dalu’n ôl pan fyddwch yn gwerthu’r eiddo.

Dim ond ar ôl i chi fod yn hawlio Credyd Cynhwysol am 39 wythnos y gallwch gael Cymorth ar gyfer Llog Morgais.

Os yw coronafeirws wedi effeithio ar eich incwm a’ch bod yn cael trafferth cadw i fyny â’ch ad-daliadau morgais, gallwch wneud cais am wyliau talu.

Ffynonellau cymorth eraill

Dod o hyd i’ch cynllun lles lleol

Os oes angen help arnoch gyda biliau gwresogi, tanwydd neu fwyd neu os oes gennych gost frys, gallwch weld a all eich cynllun lles lleol helpu.

Yn Lloegr mae’r cynllun hwn yn cael ei redeg gan eich cyngor lleol.

Darganfyddwch eich cyngor lleol yn GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Mae’r gwledydd eraill yn y Deyrnas Unedig yn rhedeg eu cynlluniau eu hunain.

Cymru

Darganfyddwch fwy am y Gronfa Cymorth Ddewisol ar wefan Llywodraeth Cymru

Lloegr

Darganfyddwch eich cynllun cymorth lles lleol ar wefan Children’s Society

Yr Alban

Darganfyddwch fwy am Gronfa Les yr Alban ar wefan Llywodraeth yr Alban

Gogledd Iwerddon

Darganfyddwch fwy am gymorth ariannol ychwanegol ar wefan nidirect

Os oes angen help arnoch gyda chyllidebu personol, gofynnwch yn y Ganolfan Gwaith a byddant yn gallu dweud wrthych ble mae cefnogaeth wyneb yn wyneb ar gael.

Os ydych yn cael trafferth talu dyledion presennol, mae’n bwysig cael cyngor gan elusen cyngor ar ddyledion ar unwaith.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.