Os ydych wedi cael eich gordalu budd-daliadau, mae'n debygol y bydd yn rhaid i chi ad-dalu'r arian hwn. Darganfyddwch pam y gallech fod wedi cael eich gordalu, sut y gallwch chi wneud ad-daliadau, sut i'w herio a beth i'w wneud os ydych chi'n cael trafferth talu.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Os ydych yn meddwl eich bod wedi cael eich gordalu
- Pam efallai eich bod wedi cael eich gordalu
- Gordaliadau o gredydau treth
- A fydd yn rhaid i chi dalu gordaliad yn ôl?
- Faint yw’r ad-daliadau?
- Mae gan y DWP bwerau newydd i gymryd arian sy’n ddyledus gennychchi o’ch cyfrif banc
- Sut i herio penderfyniad gordaliad
- Pa daliadau eraill sy’n rhaid eu talu’n ôl?
- Ad-dalu dyled budd-dal
- Methu fforddio’r ad-daliadau?
Os ydych yn meddwl eich bod wedi cael eich gordalu
Os ydych chi’n meddwl eich bod wedi cael gordaliad o fudd-daliadau, mae’n bwysig rhoi gwybod amdano cyn gynted â phosibl. Po hiraf y byddwch yn ei adael, y mwyaf o arian y gallai fod yn rhaid i chi ei ad-dalu.
Credyd Cynhwysol
Rhowch wybod am newidiadau neu cysylltwch â llinell gymorth Credyd Cynhwysol os ydych yn meddwl eich bod wedi cael eich gordalu (yng Nghymru, Lloegr a'r Alban).
Ffôn: 0800 328 1744Yn agor mewn ffenestr newydd.
Relay UK (ffôn testun yn flaenorol): 18001Yn agor mewn ffenestr newydd ac yna 0800 328 1344Yn agor mewn ffenestr newydd.
8am i 6pm, dydd Llun i ddydd Gwener.
Neu mewngofnodwch i’ch cyfrif ar-lein ar GOV.UK ac ychwanegu nodyn i’ch dyddlyfr.
Os ydych yng Ngogledd Iwerddon
Ffôn: 0800 012 1331.
Relay UK (ffôn testun yn flaenorol): 18001 ac yna 0800 012 1441.
9am i 4pm, dydd Llun i ddydd Gwener.
Budd-dal Tai neu Ostyngiad Treth Cyngor
Rhoi gwybod am ordaliad Budd-dal Tai neu Ostyngiad Treth Cyngor i’ch awdurdod lleol. Darganfyddwch eich awdurdod lleolYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.
Budd-daliadau eraill
Cysylltwch â’r swyddfa sy’n talu eich budd-dal cyn gynted â phosibl a dywedwch wrthynt os ydych chi'n meddwl eich bod wedi cael eich gordalu.
Pam efallai eich bod wedi cael eich gordalu
Efallai digwyddodd y gordaliad oherwydd:
- camgymeriad gan y DWP wrth gyfrifo’ch budd-daliadau
- y wybodaeth anghywir, neu dim digon o wybodaeth, pan wnaethoch eich cais
- newid mewn amgylchiadau, megis symud i mewn neu allan gyda phartner, swydd newydd neu blentyn sy'n gadael cartref.
Gordaliadau o gredydau treth
Er ddaeth credydau treth i ben ym mis Ebrill 2025, gall hen ddyledion dal cael eu hadfer gan CThEF, hyd at 6 mlynedd yn ôl. Er enghraifft, efallai y bydd anghydfod rhyngoch chi a chyn-bartner ynghylch pwy sy'n gyfrifol, neu pwy oedd ar fai am y gordaliad.
I ddeall sut gall hen ddyledion dal cael eu hadferYn agor mewn ffenestr newydd ewch i wefan Low Incomes Tax Reform Group.
A fydd yn rhaid i chi dalu gordaliad yn ôl?
Bydd fel arfer. Yn dibynnu ar y budd-dal, mae gwahanol reolau ynghylch ad-dalu gordaliad.
Credyd Cynhwysol, Lwfans Ceisio Gwaith dull newydd neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth dull newydd
Nid oes ots a oedd y gordaliad yn eich bai chi neu oherwydd camgymeriad gan y DWP, yn y ddau achos fel arfer gofynnir i chi ei ad-dalu.
Fodd bynnag, os ydych yn credu bod y swm a gawsoch yn gywir, mae gennych yr hawl i ddadlau nad ydych wedi cael eich gordalu a herio’r penderfyniad. Gweler ein hadran isod ar – ‘Sut i herio penderfyniad gordaliad’.
Mewn nifer fach o achosion bob blwyddyn, gall y DWP gytuno nad oes rhaid i chi ad-dalu'r arian os ydych chi'n dioddef caledi.
Budd-dal Tai
Fel arfer, bydd yn rhaid i chi ad-dalu gordaliad Budd-dal Tai hyd yn oed os nad oedd eich bai chi neu nad oeddech chi'n gwybod eich bod yn cael eich gordalu.
Darganfyddwch fwy am yr hyn sy'n digwydd os yw'r cyngor yn dweud eich bod wedi cael gordaliad Budd-dal TaiYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Cyngor ar Bopeth.
Mae gan eich cyngor y pŵer i ddileu'r gordaliad os oedd yn amlwg mai nhw a wnaeth y camgymeriad neu os byddai ad-dalu'n achosi caledi eithafol i chi.
Darganfyddwch fwy am ad-dalu gordaliad Budd-dal TaiYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Cyngor ar Bopeth.
Gostyngiad Treth Cyngor
Mae gordaliadau Gostyngiad Treth Gyngor yn cael eu trin fel ôl-ddyledion Treth Gyngor. Mae’r rheolau ar gyfer sut mae angen eu had-dalu yn amrywio yn dibynnu ar ble rydych yn byw.
Darganfyddwch fwy am ordaliadau Gostyngiad Treth CyngorYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Turn2Us.
Budd-daliadau eraill
Ar gyfer pob budd-dal arall, bydd yn rhaid i chi ad-dalu'r gordaliad os gwnaethoch chi roi'r wybodaeth anghywir, neu anghyflawn, pan wnaethoch chi wneud eich cais, hyd yn oed yn ddamweiniol.
Fodd bynnag, lle mae'r gordaliad oherwydd camgymeriad gan y DWP, gelwir hynny'n 'wall swyddogol' ac ni all y DWP fynnu ad-daliad.
Mae gennych chi hefyd yr hawl i ddadlau nad ydych chi wedi cael eich gordalu a herio'r penderfyniad. Gweler ein hadran ar 'Sut i herio penderfyniad gordaliad'.
Faint yw’r ad-daliadau?
Fe gewch lythyr - neu neges yn eich cyfrif ar-lein - am eich gordaliad. Bydd hyn yn egluro faint y cawsoch eich gordalu ac am ba hyd.
Os ydych yn ad-dalu'r swm sy'n ddyledus gennych drwy gymryd arian allan o'ch budd-daliadau presennol, mae’r ffordd y mae’ch ad-daliadau yn cael eu cyfrifo yn wahanol yn dibynnu ar ba fudd-dal sydd wedi’i ordalu.
- Am Gredyd Cynhwysol, ni all fod yn fwy na 15% o’ch lwfans safonol.
- Am Fudd-dal Tai - os yw'n cael ei dalu i chi, mae’r ad-daliadau fel arfer yn £14.40 yr wythnos (2026/27). Os yw’n cael ei dalu’n uniongyrchol i’ch landlord, fel arfer mae’n rhaid iddynt dalu’r cyfan yn ôl ar yr un pryd a bydd yn rhaid i chi gytuno ar gynllun ad-dalu gyda’ch landlord.
- Am fudd-daliadau eraill, fel Credyd Pensiwn, mae’r ad-daliadau fel arfer yn £14.40 yr wythnos (2026/27).
Mae gan y DWP bwerau newydd i gymryd arian sy’n ddyledus gennychchi o’ch cyfrif banc
Mae Deddf Awdurdodau Cyhoeddus (Twyll, Gwall ac Adfer) 2025 yn gyfraith newydd a ddaeth i rym ym mis Mehefin 2026 ac mae'n golygu, os na fyddwch yn talu'ch dyledion budd-daliadau, gellir cymryd yr arian sy'n ddyledus gennych yn uniongyrchol o'ch cyfrif banc heb orchymyn llys ar wahân. Dim ond os ydych chi'n cael budd-daliadau neu mewn swydd Talu wrth Ennill (PAYE) y bydd y DWP yn gallu gwneud hyn.
Bydd y DWP ond yncymryd arian yn uniongyrchol o’ch cyfrif banc os na all adennill yr hyn sy’nddyledus gennych chi mewn ffordd arall
yn iddynt gymryd arian o'ch cyfrif, bydd y DWP yn ceisio adennill yr arian sy'n ddyledus i chi naill ai drwy:
· ddidynnu arian o fudd-daliadau a dderbyniwch
· didynnu arian o'ch cyflog os ydych yn cael eich talu drwy PAYE. Rhaid i'r llwybr hwn eich gadael o leiaf 60% o'ch enillion net, gallwch weld faint y gellir ei ddidynnuYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK. neu,
· cysylltu â chi a gofyn i chi dalu erbyn dyddiad cau y cytunwyd arno.
Peidiwch ag anwybyddu llythyrau gan y DWP yn gofyn i chi dalu eich dyled
Os na allwch dalu, dylech gysylltu â thîm Rheoli Dyled DWP i sefydlu cynllun taluYn agor mewn ffenestr newydd
Bydd y DWP yn gwneud ymdrechion lluosog i gysylltu â chi
- Bydd y DWP yn ceisio o leiaf bedair gwaith ar wahân i gysylltu â chi, gan ddweud wrthych faint fydd yn cael ei gymryd a phryd.
- Hyd yn oed yn y cam hwn byddwch yn dal i allu cysylltu â'r DWP a thrafod eich sefyllfa.
- Bydd y DWP yn darparu'r opsiwn i drefniant talu trwy eich porth Repaymydebt ar-lein.
- Ar ôl hyn, gellir cymryd yr arian yn uniongyrchol o'ch cyfrif.
Mewn rhai achosion, lle mae'ch dyled yn £1,000 neu fwy, gall llys roi gwaharddiad gyrru i chi. Dyma'r dewis olaf, er enghraifft os yw'r DWP yn meddwl bod gennych arian yn eich cyfrif ond wedi symud yr arian i rywle arall i osgoi'r didyniad. Os yw gyrru'n hanfodol i chi, er enghraifft rydych chi'n gweithio fel gyrrwr dosbarthu neu fod gennych gyfrifoldebau gofalu, ni allwch gael eich gwahardd rhag gyrru.
Os bydd y didyniad yn achosi caledi i chi, dylech gysylltu â'r DWP ar unwaith
Os byddai cymryd yr arian yn uniongyrchol o'ch cyfrif yn eich gadael yn methu fforddio costau byw hanfodol, dylech gysylltu â'r DWP ar unwaith. Cyn i'r arian gael ei gymryd, gallai fod rhai opsiynau ar gael i chi o hyd – er enghraifft, gallai'r DWP gynnig cynllun talu fforddiadwy neu atal yr ad-daliad dros dro.
Suti gysylltu â thîm Rheoli Dyledion DWP
- Ffôn: 0800 916 0647Yn agor mewn ffenestr newydd.
- Relay UK (os na allwch glywed na siarad ar y ffôn): 18001Yn agor mewn ffenestr newydd yna 0800 916 0647Yn agor mewn ffenestr newydd.
- Gwasanaeth video relay ar gyfer defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL) — gwiriwch y gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth.
- Ffonio o dramor: +44 (0)161 904 1233Yn agor mewn ffenestr newydd.
Ar ôl i’r arian gael ei gymryd ac rydych chi’n ei chael hi’n anodd,gallwch gael help
Os ydych chi'n cael arian wedi'i gymryd, ac yn gweld eich bod chi'n cael trafferth, mae'n bwysig estyn allan am gymorth cyn gynted ag y gallwch.
Cysylltwch ag ymgynghorydd dyled am ddim am help. Gallant esbonio'r holl opsiynau gwahanol sydd ar gael i chi, fel y gallwch wneud penderfyniad gwybodus. Defnyddiwch ein teclyn Lleolwr cyngor ar ddyledion i ddod o hyd i gyngor ar ddyledion am ddim a chyfrinachol ar-lein, dros y ffôn neu’n agos i lle rydych chi'n byw.
Cosbau
Os mai chi sydd ar fai am y gordaliad, neu os na wnaethoch geisio cywiro camgymeriad, efallai y codir cosb o £50 arnoch ar ben yr arian y mae’n rhaid i chi ei dalu’n ôl.
Gallwch apelio yn erbyn penderfyniad i godi cosb arnoch.
Sut i herio penderfyniad gordaliad
Gallwch ofyn i’r penderfyniad gael ei edrych arno eto ac apelio yn ei erbyn, os:
- nid ydych yn cytuno eich bod wedi cael eich gordalu
- nid ydych yn cytuno â’r swm
- nid ydych yn credu y dylid fod wedi codi cosb arnoch.
Darganfyddwch sut i herio penderfyniad budd-daliadauYn agor mewn ffenestr newydd yn Cyngor ar Bopeth.
Pa daliadau eraill sy’n rhaid eu talu’n ôl?
Taliadau ymlaen llaw Credyd Cynhwysol
Efallai eich bod wedi derbyn taliad ymlaen llaw tra roeddech yn aros i’ch taliad Credyd Cynhwysol cyntaf ddod drwyddo.
Mae’n debyg y bydd eich ad-daliadau’n dechrau o’ch taliad Credyd Cynhwysol llawn cyntaf, er y gellir eu gohirio hyd at dri mis os ydych mewn argyfwng ariannol.
Gallwch wneud yr ad-daliadau dros uchafswm o 24 mis. A gallant fod hyd at 15% o'ch lwfans sylfaenol Credyd Cynhwysol, Gelwir hyn yn Gyfradd Ad-dalu Teg.
Taliadau Cyllidebu Ymlaen Llaw Credyd Cynhwysol
Efallai eich bod wedi cael Taliad Cyllidebu Ymlaen Llaw i helpu gyda chostau cartref brys neu i dalu tuag at angladd.
Bydd eich ad-daliadau wedi dechrau ar unwaith ar ôl cael y taliad ymlaen llaw. Fe’u tynnir o’ch taliadau Credyd Cynhwysol.
Maent fel arfer yn cael eu lledaenu dros 12 mis, ond gellir ymestyn hyn tri mis ychwanegol os oes angen.
Benthyciadau Trefnu o’r Gronfa Gymdeithasol
Efallai eich bod wedi derbyn Benthyciad Trefnu er mwyn helpu talu am nwyddau cartref neu i helpu gyda chost symud cartref.
Fel arfer caiff ad-daliadau eu lledaenu dros ddwy flynedd a chânt eu tynnu’n awtomatig o’ch budd-daliadau. Mae swm yr ad-daliad yn seiliedig ar eich incwm a'r hyn y gallwch ei fforddio.
Taliadau Caledi os ydych ar Gredyd Cynhwysol
Efallai eich bod wedi cael Taliad Caledi i helpu â diffyg arian os gostyngwyd eich taliadau budd-dal oherwydd sancsiwn.
Dim ond os ydych ar Gredyd Cynhwysol (nid budd-daliadau eraill) y mae’n rhaid i chi ad-dalu Taliad Caledi. Fe’u had-delir o’ch taliadau yn y dyfodol a gallant fod hyd at 30% o’ch lwfans sylfaenol Credyd Cynhwysol.
Ad-dalu dyled budd-dal
Cyn ad-dalu dyled budd-dal, siaradwch â chynghorydd dyledion am ddim i sicrhau y gallwch fforddio'r ad-daliadau. Defnyddiwch ein teclyn Lleolwr ymgynghorwyr dyledion i ddod o hyd i gyngor dyled cyfrinachol acam ddim ar-lein, dros y ffôn neu'n agos at ble rydych chi'n byw.
Gallwch ad-dalu dyled budd-dal trwy:
- didyniadau o’ch taliadau budd-dal
- gwneud taliadau trwy fancio ar-lein, Debyd Uniongyrchol neu archeb sefydlog
Os nad oes yr un o’r rhain yn bosibl, gellir adennill y ddyled o’ch cyflog neu ei throsglwyddo i asiantaeth casglu dyledion.
Methu fforddio’r ad-daliadau?
Os ydych chi'n cael trafferth, neu'n poeni y gallech chi, siaradwch ag ymgynghorydd dyledion am ddim.
Gall ymgynghorydd dyledion roi cyngor am ddim a chyfrinachol ar ddyledion, ar-lein, dros y ffôn neu'n agos at ble rydych chi'n byw. Byddant yn:
- trin popeth rydych chi'n ei ddweud yn gyfrinachol
- byth â barnu chi neu wneud i chi deimlo'n ddrwg am eich sefyllfa
- awgrymu ffyrdd o ddelio â dyledion nad ydych efallai'n gwybod amdanynt
- gwirio eich bod wedi gwneud cais am yr holl fudd-daliadau a hawliau sydd ar gael i chi.
Os mai dyma’ch unig ddyled
Os nad oes gennych ddigon o arian i fyw arno oherwydd yr ad-daliadau y gofynnir i chi eu gwneud, gallwch ofyn iddynt gael eu lleihau.
Os ydych yn ad-dalu taliad ymlaen llaw Credyd Cynhwysol, ffoniwch y Llinell Gymorth Credyd Cynhwysol neu fewngofnodwch i’ch cyfrif ar-lein ac ychwanegwch nodyn i’ch dyddlyfr yn gofyn am ostwng eich ad-daliadau.
Os oes gennych ddyledion eraill
Gelwir dyledion fel ôl-ddyledion rhent, biliau ynni sydd heb eu talu a Threth Gyngor heb ei thalu yn ddyledion â blaenoriaeth. Mae hyn yn golygu bod canlyniadau peidio â'u talu yn fwy difrifol.
Os oes gennych fwy nag un ddyled â blaenoriaeth, mae'n bwysig cael cyngor cyn gynted â phosibl.
Mae ein blaenoriaethwr biliau hefyd yn helpu i drefnu pa rai y mae angen i chi ddelio â nhw yn gyntaf.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i flaenoriaethu’ch dyledion.