Os ydych yn aros am eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf ac nad oes gennych ddigon o arian i fyw arno, gallwch ofyn i fenthyciad ymlaen llaw gael ei dalu’n gynnar. Dyma beth sydd angen i chi ei wybod, gan gynnwys sut bydd y benthyciad yn cael ei ad-dalu.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Siaradwch ag ymgynghorydd dyled os ydych yn cael trafferth
- Sut i gael help gyda’ch biliau, rhent a morgais
- Beth yw taliad ymlaen llaw Credyd Cynhwysol?
- Pryd gallaf ofyn am daliad ymlaen llaw Credyd Cynhwysol?
- Faint yw taliad ymlaen llaw Credyd Cynhwysol?
- Pa mor gyflym y gallaf gael taliad ymlaen llaw Credyd Cynhwysol?
- Sut ydw i’n ad-dalu taliad ymlaen llaw Credyd Cynhwysol?
- Sut i wneud cais am daliad ymlaen llaw
- Beth i’w wneud os gwrthodir eich taliad ymlaen llaw
Siaradwch ag ymgynghorydd dyled os ydych yn cael trafferth
Mae’n bwysig cael cyngor am ddim ar ddyledion os ydych yn poeni y byddwch chi’n methu taliad, wedi methu taliad, neu’n wynebu unrhyw faterion brys, gan gynnwys:
- cysylltiad gan feilïaid (swyddogion siryf yn yr Alban)
- derbyn gwŷs llys
- diffodd eich nwy neu drydan
- adfeddiannu eich cartref, car neu nwyddau.
Defnyddiwch ein teclyn Lleolwr cyngor ar ddyledion i ddod o hyd i gyngor cyfrinachol am ddim ar ddyledion ar-lein, dros y ffôn neu’n agos at eich cartref.
Bydd ymgynghorydd dyled yn:
- trin popeth a ddywedwch yn gyfrinachol
- peidio byth â'ch barnu na gwneud i chi deimlo'n ddrwg am eich sefyllfa
- awgrymu ffyrdd o ddelio â dyledion efallai nad ydych yn gwybod amdanynt
- gwirio eich bod wedi gwneud cais am yr holl fudd-daliadau a hawliadau sydd ar gael i chi.
Sut i gael help gyda’ch biliau, rhent a morgais
Os ydych chi’n hawlio Credyd Cynhwysol, dim ond un o’r ffyrdd o gael cymorth yw taliadau ymlaen llaw. Gan y byddwch yn cael llai nes bydd y taliad ymlaen llaw wedi’i ad-dalu, efallai y bydd ffyrdd eraill o gael yr help sydd ei angen arnoch, gan gynnwys grantiau na fydd angen i chi eu talu’n ôl.
I gael gwybodaeth lawn a chymorth cam wrth gam, gweler ein canllawiau eraill:
Beth yw taliad ymlaen llaw Credyd Cynhwysol?
Mae Credyd Cynhwysol yn cael ei gyfrifo’n fisol a’i dalu mewn ôl-daliadau. Mae hyn yn golygu efallai y bydd angen i chi aros hyd at bum wythnos i gael yr arian.
Os byddwch yn cael trafferth ymdopi tra’n aros, gallwch ofyn am hyd at fis llawn i gael ei dalu’n gynnar. Gelwir hyn yn flaendaliad Credyd Cynhwysol, neu fenthyciad ymlaen llaw yng Ngogledd Iwerddon.
Yna, bydd y taliadau Credyd Cynhwysol byddwch yn ei dderbyn yn y dyfodol yn cael eu lleihau i ad-dalu’r swm a gymerwyd gennych yn gynnar. Mewn geiriau eraill, mae'n fenthyciad di-log.
I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Credyd Cynhwysol yn cael ei gyfrifo, gweler ein canllaw Faint yw Credyd Cynhwysol?
Pryd gallaf ofyn am daliad ymlaen llaw Credyd Cynhwysol?
Gallwch ofyn am daliad ymlaen llaw os ydych yn aros am eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf. Ar ôl hyn, dim ond os bydd eich amgylchiadau’n newid a bod eich taliad Credyd Cynhwysol nesaf i fod i fod yn uwch y gallwch ofyn am daliad ymlaen llaw.
Os ydych wedi bod yn hawlio Credyd Cynhwysol am o leiaf chwe mis, neu os oes angen yr arian arnoch i’ch helpu i gael neu gadw swydd, efallai y byddwch yn gallu cael Taliad Cyllidebu Ymlaen Llaw gwahanol yn lle. Benthyciad di-log yw hwn i helpu i dalu am gostau hanfodol neu annisgwyl.
Gweler ein canllaw Benthyciadau Cyllidebu a Thaliadau Cyllidebu Ymlaen Llaw am fwy o wybodaeth.
Faint yw taliad ymlaen llaw Credyd Cynhwysol?
Gallwch ofyn am eich taliad Credyd Cynhwysol llawn neu swm is, naill ai ar yr un pryd neu mewn ceisiadau lluosog.
Er enghraifft, gallech ofyn am daliad rhannol i ddechrau, ac yna gwneud cais eto os oes angen mwy o arian arnoch cyn i’ch taliad Credyd Cynhwysol rheolaidd gyrraedd.
Byddwch yn ofalus i dim ond gofyn am yr hyn sydd ei angen arnoch gan y bydd yn rhaid i chi ad-dalu’r benthyciad o daliadau Credyd Cynhwysol byddwch yn ei dderbyn yn y dyfodol.
Pa mor gyflym y gallaf gael taliad ymlaen llaw Credyd Cynhwysol?
Dylid dweud wrthych os ydych wedi cael eich derbyn am daliad ymlaen llaw ar yr un diwrnod ag y byddwch yn gwneud cais.
Fel arfer telir yr arian i’ch cyfrif banc o fewn tri diwrnod gwaith – neu’r un diwrnod os na allwch aros.
Sut ydw i’n ad-dalu taliad ymlaen llaw Credyd Cynhwysol?
Bydd ad-daliadau ar gyfer eich taliad ymlaen llaw yn cael eu gwneud yn awtomatig i chi, gan ddefnyddio arian o’ch taliadau Credyd Cynhwysol byddwch yn ei gael yn y dyfodol.
Byddwch fel arfer yn dechrau ad-dalu o’ch taliad Credyd Cynhwysol cyntaf. Os na allwch fforddio’r ad-daliadau, dywedwch wrth eich anogwr gwaith gan y gallai eu gohirio am hyd at dri mis.
Gallwch ad-dalu dros uchafswm o 24 mis, gyda hyd at 25% o’ch lwfans safonol Credyd Cynhwysol yn cael ei ddidynnu bob tro.
Er enghraifft:
- Amcangyfrif eich taliad cyntaf yw £400.
- Rydych yn cymryd £200 fel blaendaliad ac yn ad-dalu dros 24 mis.
- Bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei leihau £8.33 y mis nes bydd y blaendaliad yn cael ei ad-dalu. Mae hyn yn golygu bydd eich taliad cyntaf yn £391.67.
O fis Ebrill 2025 bydd swm yr arian y gellir ei gymryd o'ch lwfans safonol bob mis tuag at ad-daliadau yn cael ei ostwng o 25% i 15%.
Sut i wneud cais am daliad ymlaen llaw
Bydd gofyn i chi esbonio pam fod angen y taliad ymlaen llaw arnoch, i ddarparu eich manylion banc a chael prawf hunaniaeth.
I ofyn am daliad ymlaen llaw, gallwch:
- Ychwanegu nodyn at eich dyddlyfr ar-lein gan ddefnyddio eich cyfrif Credyd Cynhwysol ar-leinYn agor mewn ffenestr newydd
- Ffonio’r Llinell Gymorth Credyd CynhwysolYn agor mewn ffenestr newydd am ddim neu'r Ganolfan Gwasanaeth Credyd CynhwysolYn agor mewn ffenestr newydd yng Ngogledd Iwerddon.
- Siarad â'ch anogwr gwaith.
Os gwnewch gais ar-lein, fe welwch y gwahanol opsiynau a symiau ad-dalu. Fel arall, bydd eich anogwr gwaith neu gynghorydd llinell gymorth yn esbonio faint y byddwch yn ei ad-dalu bob mis.
Os ydych yn aros am eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf, gallwch hefyd ofyn i gynghorydd Cymorth i Wneud Cais Cyngor ar Bopeth neu Advice NI am help a chefnogaeth gyda’ch cais.
Os ydych yn byw yn: | Gallwch gysylltu â: |
---|---|
Lloegr |
|
Yr Alban |
|
Cymru |
|
Gogledd Iwerddon |
Beth i’w wneud os gwrthodir eich taliad ymlaen llaw
Gallai fod nifer o resymau pam na chymeradwywyd eich taliad ymlaen llaw. Er enghraifft, os ydych chi (a/neu eich partner os ydych yn hawlio fel cwpl):
- yn byw gyda theulu neu ffrindiau
- bod gennych ddigon o arian neu gynilion i bara tan eich taliad nesaf
- nad yw eich ID wedi cael ei wirio mewn Canolfan Byd Gwaith.
Os ydych yn anhapus neu’n meddwl bod camgymeriad wedi bod, gallwch ofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) ailystyried y penderfyniad. Mae hyn yn golygu y bydd rhywun arall yn edrych ar eich cais.
Gweler Gofyn am ailystyriaeth orfodol am fwy o help a gwybodaeth, ond ni fyddwch yn gallu apelio.
Am fwy o help, gweler ein canllaw Ble gallaf gael cymorth brys gydag arian a bwyd?