Os ydych newydd golli’ch swydd, efallai y byddwch yn meddwl am ba fudd-daliadau allan o waith y byddwch yn gallu gwneud cais amdanynt. Mae’r budd-daliadau sydd ar gael yn dibynnu ar yr amser y buoch yn gweithio, eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol, dan ba amgylchiadau y gadawsoch eich swydd a’ch amgylchiadau gartref.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Pa fudd-daliadau gallwch wneud cais amdanynt os ydych wedi colli’ch swydd?
Os ydych wedi colli’ch swydd, y prif fudd-dal y gallwch wneud cais amdano yw Lwfans Ceisio Gwaith dull newydd (JSA).
Efallai y byddwch yn gallu cael help â chostau fel costau tai a gofal plant drwy Gredyd Cynhwysol.
Mae Credyd Cynhwysol yn disodli nifer o fudd-daliadau y byddech wedi eu hawlio fel arfer, gan gynnwys Credydau Treth a Budd-dal Tai.
Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd
Os ydych wedi gwneud digon o Gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 dros y ddwy flynedd dreth ddiwethaf, efallai y gallech gael Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd.
Gallwch gael hwn am hyd at chwe mis. Caiff ei dalu i’ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd bob pythefnos. Ni fydd incwm eich partner neu briod yn effeithio ar eich cais.
Darganfyddwch fwy am wneud cais am Lwfans Ceisio Gwaith dull newydd ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Os bydd angen help arnoch â phethau fel costau tai neu fagu’ch plant, bydd rhaid i chi gyflwyno cais ar wahân ar gyfer Credyd Cynhwysol.
Mae Credyd Cynhwysol yn seiliedig ar incwm y cartref, felly bydd incwm eich partner neu briod yn effeithio ar faint a gewch.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Egluro Credyd Cynhwysol
Darganfyddwch fwy o am y Lwfans Ceisio Gwaith dull newydd ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut mae cynilion a thaliadau cyfandaliadauyn effeithio ar fudd-daliadau?
Credydau treth
Ni fydd y rhan fwyaf o bobl yn gallu gwneud cais newydd am Gredydau Treth Gwaith na Chredydau Treth Plant. Yn lle hynny, gofynnir i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol.
Os ydych eisoes yn cael credydau treth ac yn colli’ch swydd, mae hynny’n golygu newid yn eich amgylchiadau. Gallai hyn olygu y bydd rhaid i chi wneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol.
Mae rhaid i chi ddweud wrth y Swyddfa Credydau Treth CThEM o fewn 30 niwrnod. Gallwch ffonio’r Llinell Gymorth Credydau Treth ar 0300 200 1900. Darganfyddwch am ffyrdd eraill i gysylltu â Swyddfa Credydau Treth ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Efallai y byddwch yn dal i allu gwneud cais am Gredydau Treth os bydd naill ai chi neu’ch partner o oed Credyd Pensiwn.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Credydau Treth Gwaith
Budd-daliadau i helpu â chostau tai
Help â’ch rhent
Yn ddibynnol ar eich incwm a’ch cynilion, efallai gallech gael ychydig o help â’ch rhent o elfen costau tai Credyd Cynhwysol os ydych yn gwneud cais newydd am gymorth.
Ni all y rhan fwyaf o bobl wneud cais newydd am Fudd-dal Tai. Os ydych yn cael Budd-dal Tai yn barod ac rydych yn colli'ch swydd, efallai bydd hyn yn cyfrif fel newid amgylchiadau a bydd rhaid i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn lle.
Os ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol, caiff eich Budd-dal Tai ei dalu am dwy wythnos ychwanegol ar ôl i chi anfon eich cais am Gredyd Cynhwysol cyn iddo stopio.
Darganfyddwch fwy am Fudd-dal Tai ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Faint yw Credyd Cynhwysol?
Help â Threth Cyngor
Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael help â’ch Treth Gyngor.
Gwnewch gais am Ostyngiad Treth Gyngor ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Help â thaliadau llog morgais
Os ydych yn berchen ar dŷ, gallech fod yn gymwys i gael help â’ch taliadau llog morgais.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cymorth ar gyfer Llog ar Forgais (SMI)
Budd-daliadau i helpu â chostau eraill
Mae mathau eraill o fudd-daliadau arbenigol ar gael. Felly waeth beth yw eich amgylchiadau, gwnewch yn siwr eich bod yn cael y budd-daliadau cywir n agor mewn ffenestr newydd
Cymerwch ychydig funudau i wirio pa fudd-daliadau y gallwch eu hawlio a faint y gallech ei gael bob mis gyda’n Cyfrifiannell Budd-daliadau
Grantiau lles a grantiau addysgol
Os ydych ar incwm isel, efallai bod peth cymorth ar gael drwy grantiau lles a grantiau addysgol gan elusennau.
Gallwch chwilio am grantiau ar Turn2usYn agor mewn ffenestr newydd
Tâl diswyddo statudol
Os ydych wedi cael eich diswyddo, fel arfer bydd gennych hawl i gael tâl diswyddo statudol os ydych:
- yn gyflogai
- wedi cyfrannu digon o Gyfraniadau Yswiriant Gwladol, ac
- wedi bod yn gweithio i’ch cyflogwr presennol ers 2 flynedd o leiaf.
Dylech hefyd wirio eich cytundeb cyflogaeth i weld a ydych yn gymwys am dâl diswyddo cytundebol hefyd.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Tâl diswyddo
A oes gennych hawl i gael budd-daliadau os ydych wedi cael eich diswyddo?
Os ydych wedi colli’ch swydd yn sgil camymddwyn, neu wedi gadael heb reswm digonol, gall fod oedi cyn y gallwch ddechrau cael Lwfans Ceisio Gwaith neu Gredyd Cynhwysol.
Y rheswm am hyn yw bod eich anogwr gwaith y Ganolfan Byd Gwaith yn gallu rhoi sancsiwn i’ch budd-dal. Mae hyn yn golygu, y gallant ei atal rhag cael ei dalu am nifer o wythnosau. Mae i fyny i’ch anogwr gwaith i benderfynu ar hyd y sancsiwn.
Darganfyddwch fwy am sancsiynau Lwfans Ceisio Gwaith ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Os yw eich amgylchiadau’n newid
Cofiwch ddweud wrth y Ganolfan Byd Gwaith os ydych yn dychwelyd i’r gwaith neu os yw’ch amgylchiadau’n newid.
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, mae angen i chi ddweud wrth eich Jobs & Benefits office.
Mae angen i chi hefyd dweud wrth Gyllid a Thollau EM. Gallech gael dirwy o £300 os nad ydych yn dweud wrth y Swyddfa Credydau Treth bod eich amgylchiadau wedi newid.
Gallech barhau i fod â hawl i gael rhywfaint o help pan fyddwch yn dychwelyd i’r gwaith ac mae eich incwm yn isel.
Er enghraifft, os oeddech yn cael Lwfans Ceisio Gwaith efallai y byddwch yn parhau i gael Budd-dal Tai neu Gredyd Treth Gwaith.
Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol efallai bydd eich taliadau’n lleihau’n raddol hyd nes y bydd eich incwm yn codi i bwynt ble nad ydych yn gymwys i’w gael mwyach.