Mae contractau blwydd-daliadau ymddeol yn fath o gynllun pensiwn cyfraniadau diffiniedig. Roeddent ar gael i bobl hunangyflogedig a gweithwyr na chynigiwyd pensiwn gweithle iddynt cyn Gorffennaf 1988.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth yw contractau blwydd-daliadau ymddeol?
- Amnewid contractau blwydd-daliadau ymddeol
- Sut mae contractau blwydd-daliadau ymddeol yn wahanol i bensiynau personol?
- A yw cyfraddau blwydd-dal gwarantedig yn berthnasol i’ch contract blwydd-daliad ymddeol?
- A yw eich cronfa bensiwn â chronfa ag-elw?
- Beth fydd yn digwydd i’ch contract blwydd-dal ymddeol os byddwch farw?
- A gaf newid y swm rwyf yn ei dalu i’m contract blwydd-dal ymddeol?
Beth yw contractau blwydd-daliadau ymddeol?
Mae contractau blwydd-dal ymddeol yn gontractau unigol rhyngoch chi a'r darparwr pensiwn. Mae'r darparwr pensiwn fel arfer yn gwmni yswiriant.
Fe'u gelwir hefyd yn bensiynau Adran 226, pensiynau s226 neu flwydd-daliadau ymddeol hunangyflogedig .
Ni fu'n bosibl cymryd contract blwydd-dal ymddeol newydd allan ers 6 Ebrill 1988. Gall contractau a wnaed cyn y dyddiad hwn aros yn eu lle, ac efallai y gallwch barhau i dalu iddynt.
Bob blwyddyn mae cyfyngiadau i'r swm y gallwch ei dalu i'ch cynlluniau pensiwn a chael rhyddhad treth o hyd. Gallech dalu mwy i mewn, ond os ydych yn talu mwy na'r terfyn, ni fyddwch yn cael rhyddhad treth ar unrhyw beth ychwanegol rydych yn ei gyfrannu.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw rhyddhad treth a'ch pensiwn
Darganfyddwch fwy am y ffyrdd y gallwch ddefnyddio'ch pot pensiwn yn ein canllaw Eich opsiynau ar gyfer defnyddio'ch pot pensiwn cyfraniadau diffiniedig
Amnewid contractau blwydd-daliadau ymddeol
Ar 6 Ebrill 2006, newidiodd Cyllid a Thollau EM (HMRC) y rheolau a oedd yn berthnasol i gontractau blwydd-daliadau ymddeol. Gwnaethant hyn i'w hunioni â'r rheolau pensiwn personol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Pensiynau personol
Sut mae contractau blwydd-daliadau ymddeol yn wahanol i bensiynau personol?
Gyda chontractau blwydd-daliadau ymddeol, fel rheol roedd gan unigolion hawl i gyfandaliad di-dreth dair gwaith y blwydd-dal blynyddol cychwynnol .
Ond mae'r cyfandaliad di-dreth uchaf a delir ganddynt nawr wedi'i gyfyngu i 25% o werth y buddion sy'n cael eu talu.
Nid yw rhai darparwyr yn hawlio ac yn ychwanegu rhyddhad treth ar eich cyfraniadau yn awtomatig. Mae hyn yn golygu bod rhaid i chi gyflwyno ffurflen dreth hunanasesu i Gyllid a Thollau EM i gael rhyddhad treth.
Hyd yn oed pan fydd y darparwr yn ychwanegu rhyddhad treth - mae hyn ar y gyfradd sylfaenol. Felly os ydych yn drethdalwr cyfradd uwch, bydd angen i chi hawlio'r rhyddhad treth ychwanegol.
Mae gan rai contractau blwydd-daliadau ymddeol gyfraddau blwydd-dal gwarantedig. Gallai'r rhain roi incwm gwarantedig uwch i chi am weddill eich oes nag sydd ar gael ar y farchnad blwydd-daliadau .
Byddwch yn ymwybodol
Mae'n bwysig gwirio eich bod yn cael y rhyddhad treth llawn y mae gennych hawl iddo os ydych yn dal i dalu i'ch pensiwn.
A yw cyfraddau blwydd-dal gwarantedig yn berthnasol i’ch contract blwydd-daliad ymddeol?
Mae cyfradd blwydd-dal gwarantedig yn un y gosodwyd yn amodau a thelerau'ch polisi pensiwn pan wnaethoch gymryd y polisi. Mae hyn yn golygu gellid cynnig incwm gwarantedig i chi ar gyfradd fydd yn uwch na'r cyfraddau sydd ar gael i'r rhan fwyaf o bobl heddiw.
Mae'n syniad da gwirio â'ch darparwr oherwydd gallai hyn fod yn fudd gwerthfawr.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cyfraddau blwydd-dal gwarantedig
A yw eich cronfa bensiwn â chronfa ag-elw?
Buddsoddir llawer o gontractau blwydd-daliadau ymddeol mewn cronfeydd ‘ag-elw’. Mae'r rhain yn darparu taliadau bonws os yw buddsoddiadau wedi perfformio'n dda.
A ydych yn ystyried tynnu'ch arian allan cyn neu ar ôl y dyddiad ymddeol yn y polisi? Bydd yn bwysig gwirio a fydd gwerth llawn y taliadau bonws yn cael eu talu.
Weithiau bydd darparwyr yn defnyddio Gostyngiad Gwerth y Farchnad (MVR) os yw gwerth y gronfa wedi gostwng. Nid oes MVR pan gymerwch arian ar y dyddiad ymddeol a ddewiswyd gennych.
Beth fydd yn digwydd i’ch contract blwydd-dal ymddeol os byddwch farw?
Gwiriwch beth fydd yn digwydd i'ch contractau blwydd-daliadau ymddeol ar eich marwolaeth. A fydd gwerth llawn y gronfa yn cael ei dalu allan ?
Hefyd, os ydych yn poeni am dreth etifeddiant – bydd llawer yn rhan o'ch ystad ar ôl marwolaeth. Y peth gorau yw gwirio hyn â'ch darparwr.
A gaf newid y swm rwyf yn ei dalu i’m contract blwydd-dal ymddeol?
Efallai na fydd hyn yn bosibl. Cyn newid cyfraniadau, mae'n bwysig gwirio â'ch darparwr pensiwn yn gyntaf. Mae hyn oherwydd y gallai effeithio ar eich budd-daliadau pan fyddwch yn ymddeol - yn enwedig os oes gennych gyfradd blwydd-dal gwarantedig wedi'i chynnwys.
Fel arfer gallwch ddarganfod faint rydych yn cyfrannu ar hyn o bryd trwy wirio'ch datganiad blynyddol.
Nodwch: nid oes rhaid i'ch darparwr pensiwn anfon datganiad blynyddol atoch yn dangos faint rydych yn ei gyfrannu a faint sydd gennych yn eich cronfa, ond mae llawer o ddarparwyr yn gwneud yn wirfoddol. Os nad ydynt, gallwch ofyn iddynt.