Mae cynllun pensiwn hunan-weinyddu bach yn fath o bensiwn, fel arfer yn bensiwn gweithle cyfraniad, wedi’i diffinio a all roi hyblygrwydd buddsoddi ychwanegol.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Sut mae cynlluniau pensiwn hunan-weinyddu bach yn gweithio
Yn gyffredinol, mae cynlluniau pensiwn hunan-weinyddu bach (SSAS) yn cael eu sefydlu i ganiatáu i nifer fach o staff uwch mewn cwmni adeiladu cronfa o arian.
Yn gyffredinol, mae aelodaeth wedi'i gyfyngu i ddim mwy nag 11 aelod. Yn aml, cyfarwyddwyr cwmni neu uwch swyddogion gweithredol yw'r rhain. Fodd bynnag, gallant fod yn agored i weithwyr eraill a hyd yn oed aelodau o'r teulu.
Mae SSAS yn fath arbenigol o gynllun pensiwn cyfraniad wedi’i diffinio a noddir gan gyflogwr.
Mae gwerth hawl yr aelod o’r SSAS pan fyddant yn ymddeol yn dibynnu ar:
- faint o arian sydd wedi'i dalu ar ran yr aelod hwnnw
- faint o amser y mae pob cyfraniad wedi'i fuddsoddi
- twf buddsoddiad dros y cyfnod hwn a lefel y taliadau (os yw'n berthnasol).
Pan fyddant yn ymddeol, bydd aelodau fel arfer yn gallu cymryd hyd at 25% o'u cronfa fel cyfandaliad di-dreth. Defnyddir y gweddill i ddarparu incwm. Mae opsiynau erall fodd bynnag, y byddwn yn siarad amdanynt isod:
Mae cwmnïau yswiriant a darparwyr pensiwn eraill yn cynnig SSASs.
Mae SSAS yn cael ei redeg gan ei Ymddiriedolwyr, a fyddai hefyd fel arfer yn aelodau o'r cynllun.
Gwneir cyfraniadau SSAS gan yr aelodau a/neu'r cyflogwr.
Mae cyfraniadau gan aelodau unigol yn gymwys i gael rhyddhad treth. Tra gallai cyfraniadau a wneir gan y cyflogwr fod yn ddidynadwy yn erbyn elw, yn destun i rai amodau.
Fel rheol, bydd SSASs yn derbyn trosglwyddiadau o bensiynau eraill os ydych am ddod â'ch pensiynau at ei gilydd.
Fel arfer gallwch hefyd drosglwyddo gwerth eich SSAS i bensiwn arall.
Y manteision o bensiwn SSAS
Un o brif fanteision SSAS yw y gall gynnig mwy o hyblygrwydd o ran lle y gellir buddsoddi'r arian.
Gall hyn gynnwys buddsoddi mewn asedau nad ydynt ar gael yn gyffredinol i lawer o fathau eraill o gynllun. Er enghraifft, gall SSAS brynu adeilad masnachu’r cwmni a’u prydlesu yn ôl i’r cwmni.
Fe allai hefyd, yn destun i rai telerau ac amodau, roi benthyg arian yn ôl i'r cwmni a phrynu cyfranddaliadau'r cwmni.
Gall SSAS hefyd fenthyg arian, yn destun i delerau ac amodau, at ddibenion buddsoddi. Er enghraifft, gallai'r SSAS godi morgais i helpu gyda phrynu adeilad y cwmni gan y cynllun. Ac yna efallai y bydd yr ad-daliad morgais y mae'r cwmni'n ei dalu i'r SSAS yn cwmpasu'r ad-daliadau morgais yn eu cyfanrwydd neu'n rhannol.
Mae holl asedau SSAS yn cael eu dal yn enw'r Ymddiriedolwyr.
Bydd rheolau’r cynllun yn dweud a ddyrennir ‘cronfa unigol’ i bob aelod neu a yw’r asedau’n cael eu cyfuno a bod gan bob aelod gyfran o asedau’r cynllun.
Tynnu'ch buddion o’r cynllun
Fel arfer, gallwch ddechrau tynnu buddion o'ch SSAS o 55 oed.
Mae yna amryw o opsiynau am sut i gymryd yr arian pan fyddwch yn ymddeol. Mae'r rhain yn cynnwys:
- incwm gwarantedig
- incwm hyblyg
- un cyfandaliad neu fwy.
Fel arfer, gellir cymryd hyd at 25% o werth eich cronfa yn ddi-dreth.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Opsiynau i ddefnyddio eich cronfa bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio
Os ydych yn ystyried sefydlu SSAS, mae'n bwysig cael cyngor arbenigol oherwydd gallant fod yn gymhleth.