Mae rhaid i bob cyflogwr nawr gynnig cynllun pensiwn gweithle a chofrestru bob gweithiwr cymwys ynddo yn awtomatig. Mae hyn yn helpu llawer mwy o bobl i gynilo ar gyfer ymddeol
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth yw ymrestru awtomatig?
- Pa bryd ddechreuodd ymrestru awtomatig?
- Pwy fydd yn cael eu cofrestru’n awtomatig?
- Faint bydd rhaid i mi ei gyfrannu?
- A oes gennyf unrhyw ddewis ynghylch cael fy ymrestru?
- A ddylwn aros i mewn neu optio allan?
- Beth sy'n digwydd pan fydd fy enillion neu fy oedran yn newid?
- Ni allaf fforddio fy nghyfraniadau 5% - a allaf eu lleihau?
- Beth os nad yw fy nghyflogwr yn cydymffurfio â'r rheolau
Beth yw ymrestru awtomatig?
Ymrestru'n awtomatig yw pan fydd gweithiwr sy'n cwrdd â gofynion penodol yn cael ei wneud yn aelod o gynllun pensiwn gweithle heb orfod gofyn am fod yn rhan ohono.
Yn y gorffennol, gweithwyr oedd yn penderfynu a oeddent am ymuno â chynllun pensiwn eu cyflogwr.
Ond ers 2012, mae cyflogwyr wedi gorfod cofrestru eu gweithwyr cymwys yn awtomatig mewn cynllun pensiwn gweithle.
O ganlyniad, mae llawer mwy o bobl yn gallu cronni arbedion y gallant eu defnyddio i roi incwm iddynt o 55 oed ymlaen. Bydd hyn yn newid i 57 oed yn gynnar yn 2028.
Pa bryd ddechreuodd ymrestru awtomatig?
Cafodd ymrestru awtomatig ei gyflwyno mewn camau ers 2012.
Y cyflogwyr mwyaf ddechreuodd gyntaf, â chyflogwyr canolig yn dilyn ac wedyn cyflogwyr bach. Dylai pob cyflogwr, yn cynnwys cyflogwyr newydd, nawr fod yn rhan o ymrestru awtomatig.
Os nad ydych wedi’ch ymrestru mewn cynllun, neu wedi cael cynnig un, siaradwch â’ch cyflogwr i gael gwybod pam.
Pwy fydd yn cael eu cofrestru’n awtomatig?
P'un a ydych yn gweithio'n llawn amser neu'n rhan-amser, bydd yn rhaid i'ch cyflogwr eich cofrestru mewn cynllun pensiwn gweithle os ydych yn bodloni'r rheolau cofrestru awtomatig hyn:
- rydych yn gweithio yn y Deyrnas Unedig (gan gynnwys morwyr sy'n byw yn y DU)
- nad ydych yn rhan o gynllun pensiwn gweithle addas eisoes
- rydych yn 22 mlwydd oed o leiaf, ond yn iau nac oedran Pensiwn y Wladwriaeth
- rydych yn ennill mwy na £10,000 y flwyddyn ar gyfer blwyddyn dreth 2024/25.
Darganfyddwch fwy am eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn ein canllaw Pensiwn y Wladwriaeth: trosolwg
Cyn belled â’ch bod yn bodloni’r amodau cofrestru awtomatig hyn, byddwch hefyd yn cael eich cynnwys os:
- ydych ar gontract tymor byr
- yw asiantaeth yn talu’ch cyflog, neu
- ydych i ffwrdd ar absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu neu fel gofalwr.
Os ydych yn ennill llai na £10,000 ond mwy na £6,240 (yn ystod blwyddyn dreth 2024/25) nid oes rhaid i’ch cyflogwr eich ymrestru’n awtomatig fewn i gynllun.
Fodd bynnag, gallwch ofyn i ymuno serch hynny – ni all eich cyflogwr wrthod a bydd rhaid iddo wneud cyfraniadau ar eich rhan.
Faint bydd rhaid i mi ei gyfrannu?
Mae isafswm y bydd rhaid i chi, eich cyflogwr a’r llywodraeth ei gyfrannu (ar ffurf rhyddhad treth.)
Mae'r isafswm hyn yn gyffredinol 5% gennych chi (sy'n cynnwys rhyddhad treth) a 3% gan eich cyflogwr.
Mae’r isafswm cyfraniad yn berthnasol i unrhyw beth fyddwch yn ei ennill dros £6,240 hyd at derfyn o £50,270 (yn ystod blwyddyn dreth 2024/25). Gelwir y gyfran hon o’ch enillion yn “enillion cymwys”.
Felly pe byddech yn ennill £18,000 y flwyddyn, byddai isafswm eich cyfraniad yn ganran o £11,760 (sef y gwahaniaeth rhwng £6,240 a £18,000).
Mae rhai cyflogwyr yn defnyddio ‘enillion pensiynadwy’ i gyfrifo eich cyfraniad pensiwn yn hytrach nag enillion cymwys.
Os yw hyn yn berthnasol, mae’n bosibl na fydd eich cyfraniadau pensiwn yn seiliedig ar enillion cymwys ac yn hytrach byddant yn cael eu cyfrifo yn unol â rheolau’r cynllun.
Os nad ydych yn siŵr ar ba enillion y mae eich cyfraniadau pensiwn yn seiliedig, siaradwch â’ch cyflogwr.
Bydd eich cyflogwr yn eich hysbysu faint o’ch enillion y bydd angen i chi ei gyfrannu.
Gallent ei fynegi naill ai fel swm o arian neu fel canran.
A fyddaf yn cael rhyddhad treth ar fy nghyfraniadau?
Fel rheol, byddwch yn cael rhyddhad treth ar eich cyfraniadau. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw ar Rhyddhad treth a’ch pensiwn.
A oes gennyf unrhyw ddewis ynghylch cael fy ymrestru?
Gallwch ddewis optio allan o gynllun pensiwn gweithle eich cyflogwr ar ôl i chi gael eich ymrestru.
Ond os gwnewch hynny, byddwch yn colli allan ar gyfraniad eich cyflogwr i’ch pensiwn, yn ogystal â’r cyfraniad gan y llywodraeth ar ffurf rhyddhad treth.
Os penderfynwch optio allan, gofynnwch i’r bobl sy’n rhedeg cynllun pensiwn gweithle eich cyflogwr am ffurflen optio allan.
Mae rhaid i chi wedyn ddychwelyd eich ffurflen wedi’i chwblhau i’ch cyflogwr, nid i’r bobl sy’n rhedeg y cynllun.
Os byddwch yn dewis optio allan o fewn mis o ymrestru, bydd unrhyw daliadau a wnaethoch i’ch pensiwn yn ystod y cyfnod hwn yn cael eu had-dalu i chi.
Ar ôl y mis cyntaf, gallwch stopio cyfraniadau ar unrhyw adeg. Ond efallai bydd unrhyw daliadau a wnaed eisoes yn aros yn eich pensiwn hyd at eich ymddeoliad yn hytrach na chael ei ad-dalu.
Os ydych mewn cynllun bensiwn buddion wedi'u diffinio, mae'r rheolau'n wahanol. Gallwch ddal derbyn ad-daliad o'ch cyfraniadau os ydych yn gadael y cynllun o fewn y ddwy flynedd gyntaf.
Gallwch ail-ymuno’n ddiweddarach â chynllun pensiwn gweithle eich cyflogwr os byddwch yn dymuno gwneud hynny.
Yn gyfreithiol, bydd yn ofynnol i’ch cyflogwr eich ail-ymrestru ar y cynllun bob rhyw dair blynedd. Mae hyn cyn belled â’ch bod yn parhau i fodloni’r meini prawf cymhwyso.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Ail-ymuno ar ôl optio allan
A ddylwn aros i mewn neu optio allan?
I’r rhan fwyaf o bobl, mae aros ar gynllun pensiwn gweithle yn syniad da, yn enwedig gan fod rhaid i’ch cyflogwr gyfrannu ato.
Mae cyfraniad eich cyflogwr i’ch pensiwn yn rhan o’ch pecyn cyflogaeth cyffredinol. Felly mae optio allan yn cyfateb i wrthod cyflog.
Mae hyn yn gwneud pensiynau gweithle yn ffordd dda o gynilo ar gyfer eich ymddeoliad.
Fodd bynnag, yn dibynnu ar eich amgylchiadau, mae’n bosibl na fyddai’n gwneud synnwyr aros, er enghraifft, os ydych yn delio â dyled sydd allan o reolaeth.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Ymrestru awtomatig os oes gennych ddyledion
Beth sy'n digwydd pan fydd fy enillion neu fy oedran yn newid?
Dylai eich cyflogwr fod wedi eich asesu ar y dyddiad y cychwynnodd eu dyletswyddau ymrestru awtomatig (eu 'dyddiad llwyfannu'), neu pan wnaethoch ymuno â'r cwmni.
Os nad ydych wedi ymrestru'n awtomatig, cewch eich ailasesu ar bob cyfnod tâl pellach.
Felly mae'n bosibl efallai na fyddwch wedi'ch ymrestru'n awtomatig i ddechrau. Ond gallai cynnydd mewn enillion yn y dyfodol olygu eich bod wedi ymrestru'n awtomatig.
Os oeddech o dan 22 oed pan gyrhaeddodd eich cyflogwr eu dyddiad llwyfannu, byddwch wedi'ch ymrestru'n awtomatig pan gyrhaeddwch yr oedran hwn os ydych yn ennill dros £10,000 y flwyddyn.
Ni allaf fforddio fy nghyfraniadau 5% - a allaf eu lleihau?
Mae p'un a yw'r opsiwn hwn ar gael yn dibynnu ar eich trefniant unigol.
Er mwyn manteisio ar yr hyblygrwydd hwn, mae angen i'ch cynllun nodi yn ei reolau y gallwch dalu cyfraniadau ar gyfradd is. Mae rhaid iddo hefyd gadarnhau beth fydd cyfradd cyfraniadau'r cyflogwr o dan yr amgylchiadau hynny.
Mewn sefyllfaoedd lle gallwch aros ar gyfradd gyfrannu is – neu leihau eich cyfraniadau ar ôl cynnydd (ac mae cyfanswm y cyfraniadau yn is nag 8%) – ni fyddwch bellach mewn cynllun cymwys.
Bydd hyn yn sbarduno'r darpariaethau ailymrestru sy'n ei gwneud yn ofynnol i'ch cyflogwr ailymrestru deiliaid swyddi cymwys yn awtomatig oddeutu bob tair blynedd os nad ydynt yn aelodau gweithredol o gynllun cymwys.
Beth os nad yw fy nghyflogwr yn cydymffurfio â'r rheolau
Mae rhaid i'ch cyflogwr gyflawni dyletswyddau cyfreithiol ymrestru'n awtomatig. Os na fyddant yn cydymffurfio, gallant wynebu camau gorfodi a dirwyon.
- Os yw'ch cyflogwr yn hwyr yn eu dyletswyddau ymrestru awtomatig, mae'r Rheoleiddiwr Pensiynau yn disgwyl iddynt dalu unrhyw gyfraniadau a gollwyd. Mae hyn er mwyn eich rhoi yn y sefyllfa y byddech wedi bod ynddi pe byddent wedi cydymffurfio mewn pryd. Byddai hyn yn cynnwys ôl-ddyddio cyfraniadau i'r diwrnod y gwnaethoch fodloni'r meini prawf gyntaf i fynd i mewn i gynllun.
- Wrth ôl-ddyddio cyfraniadau, mae rhaid i'ch cyflogwr dalu'r holl gyfraniadau cyflogwr heb ei dalu a rhaid i chi dalu'ch un chi. Mae hyn oni bai bod eich cyflogwr yn dewis eu talu ar eich rhan.
Mae'r Rheoleiddiwr Pensiynau yn gyfrifol am bensiynau gweithle yn y DU. Gallant ymchwilio i bryderon os nad yw'ch cyflogwr yn dilyn y rheolau, neu rydych yn methu cyfraniadau i'ch cynllun pensiwn
Os oes gennych unrhyw bryderon, siaradwch â'ch cyflogwr yn gyntaf, os ydych yn teimlo y gallwch. Ceisiwch ddatrys y mater â hwy.
Os ydych yn dal i bryderu ar ôl siarad â hwy, mae gan y Rheoleiddwr Pensiynau gwasanaeth chwythu chwiban ar-leinYn agor mewn ffenestr newydd. Os oes gwell gennych siarad â rhywun, gallwch ffonio nhw ar 0345 600 0707Yn agor mewn ffenestr newydd.
Efallai bydd yr Ombwdsmon Pensiynau yn fwy addas i unigolion sy'n ceisio datrys materion sy'n effeithio arnyn nhw yn unig. Gallent sicrhau bod y symiau sy'n ddyledus i unigolion yn cael eu talu.
Gallwch gysylltu â'r Ombwdsmon Pensiynau ar-leinYn agor mewn ffenestr newydd neu drwy ffonio 0800 917 4487Yn agor mewn ffenestr newydd.