Gan amlaf, mae aros mewn pensiwn gweithle wedi i chi gael eich ymrestru’n awtomatig yn gwneud synnwyr. Ond os oes gennych ddyledion nad ydych yn gallu eu rheoli’n ddidrafferth, dylech feddwl am ad-dalu’r dyledion hyn yn gyntaf.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Meddyliwch ddwywaith os yw’ch dyledion yn broblem
Mae’n beth cyffredin i bobl gynilo a benthyca ar yr un pryd – er enghraifft, gwneud cyfraniadau pensiwn yr un pryd â thalu morgais.
Ond os gwelwch eich hun yn dibynnu ar fenthyca er mwyn cadw dau ben llinyn ynghyd bob mis, dylech roi’r flaenoriaeth gyntaf i reoli’ch dyledion.
Mae ymrestru awtomatig yn ffordd wych o ddechrau cynilo ar gyfer eich ymddeoliad, ond os ydych yn cael trafferth â’ch benthyca, mae’n gwneud synnwyr i chi ailfeddwl.
I’ch helpu i weithio allan faint allai gostio i dalu i'r pensiwn – ac felly faint o'ch dyledion y gallech fod yn eu talu yn lle – defnyddiwch ein Cyfrifiannell cyfraniadau pensiwn gweithle.
Byddwch yn ymwybodol y gallwch fel arfer ymuno â phensiwn gweithle eich cyflogwr yn y dyfodol os penderfynwch dalu eich dyledion yn gyntaf.
Os ewch i’r arfer o neilltuo swm misol i dalu dyledion, gallech barhau i neilltuo’r un swm o arian wedi i chi dalu’ch dyledion ond ei roi i mewn i’ch pensiwn yn lle tuag at ddyledion.