Os ydych wedi optio allan o gynllun pensiwn gweithle eich cyflogwr, neu wedi stopio talu cyfraniadau, gallwch ail-ymuno yn nes ymlaen.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Sut gallaf ail-ymuno â chynllun fy nghyflogwr?
A ydych wedi optio allan o gynllun pensiwn gweithle eich cyflogwr, neu wedi stopio talu cyfraniadau? Yna mae rhaid i'ch cyflogwr eich ailymrestru yn ôl i'r cynllun yn ddiweddarach.
Mae hyn fel arfer bob tair blynedd, os ydych yn ddeiliad swydd cymwys bryd hynny.
Mae deiliaid swyddi cymwys:
- rhwng 22 oed ac Oedran Pensiwn y Wladwriaeth
- yn ennill dros y trothwy enillion (£10,000), ac
- yn gweithio, neu’n gweithio fel arfer, yn y DU a bod â chontract cyflogaeth (felly, nid contractwr hunangyflogedig); neu fod â chontract i ddarparu gwaith a/neu wasanaethau yn bersonol (felly, ni allant is-gontractio i drydydd parti).
Bydd eich cyflogwr yn dweud wrthych y cyfraniadau y mae rhaid i chi eu talu, a'r opsiynau sydd ar gael i chi.
Mae rhaid i'ch cyflogwr eich ailymrestru o fewn tair blynedd oherwydd gallai eich amgylchiadau fod wedi newid, ac efallai y bydd pensiwn gweithle bellach yn iawn i chi.
Os nad ydych yn barod i ail-ymuno, gallwch optio allan eto.
Os nad ydych eisiau aros i gael eich ailymrestru, gallwch ofyn am ail-ymuno.
Gallwch ofyn ar unrhyw adeg. Ond dim ond unwaith bob 12 mis y mae rhaid i'ch cyflogwr weithredu cais i ail-ymuno.
Mae hyn oherwydd bod costau gweinyddu i'r cyflogwr bob tro y bydd aelod yn gadael neu'n ail-ymuno â chynllun. Bwriad y mesur 12 mis yw cyfyngu'r costau hyn.
Nid oes rhaid i'ch cyflogwr aros i'ch ymrestru a gallant eich ail-ymrestru yn dilyn unrhyw gais os ydynt yn dewis gwneud hynny.
Sawl gwaith gallaf adael ac ail-ymuno â chynllun?
Efallai y bydd eich cyflogwr yn dewis derbyn mwy nag un cais gennych i ail-ymuno mewn cyfnod o 12 mis. Ond dim ond unwaith mewn cyfnod o 12 mis y mae gennych hawl i ail-ymuno (os ydych yn gymwys i ail-ymuno).
Os nad ydych yn ddeiliad swydd cymwys, gallwch ofyn am ail-ymuno os ydych naill ai:
- yn deiliad swydd anghymwys, neu
- yn weithiwr â hawl.
Dim ond unwaith bob 12 mis y mae rhaid i'ch cyflogwr weithredu cais i ail-ymuno.
Oeddech chi’n gwybod?
- Rhwng 16 a 74 oed;
- Yn ennill llai na’r swm enillion is a
- Yn gweithio yn y DU ac â chontract cyflogaeth.
Os ydych yn weithiwr â hawl pan ofynnwch am ail-ymuno, efallai y byddwch yn ymuno â chynllun gwahanol i'r un y mae'ch cyflogwr yn ei ddefnyddio ar gyfer ymrestru'n awtomatig. Ac nid oes rhaid i'ch cyflogwr dalu cyfraniadau.