Mae gennyf fwy nag un swydd - sut mae hyn yn effeithio ar fy mhensiwn?

Os ydych yn gweithio i fwy nag un cyflogwr, efallai y byddwch yn cael eich cofrestru'n awtomatig i fwy nag un cynllun pensiwn gweithle. 

Beth fydd yn digwydd os oes gennyf fwy nag un swydd?

Os oes gennych fwy nag un swydd, bydd pob un o'ch cyflogwyr yn gwirio a ydych yn gymwys i ymuno â'u cynllun pensiwn gweithle yn awtomatig.

Byddant yn seilio eu penderfyniad ar lefel eich enillion gyda'r cyflogwr hwnnw, yn hytrach na'ch enillion cyffredinol gyda chyflogwyr eraill.

Os ydych yn gymwys, mae hyn yn golygu eich bod yn cael eich ystyried yn ‘ddeiliad swydd cymwys’.

Yna byddwch wedi'ch cofrestru'n awtomatig yng nghynllun pensiwn gweithle'r cyflogwr hwnnw. Ond yna gallwch benderfynu eithrio allan.

Gallwch berthyn i fwy nag un cynllun pensiwn gweithle cyflogwr.

Efallai na fyddwch yn gymwys i gael eich cofrestru'n awtomatig mewn cynllun pensiwn gweithle ag un neu fwy o'ch cyflogwyr. Mae hyn yn golygu eich bod naill ai'n ‘ddeiliad swydd nad yw'n gymwys’ neu’n ‘weithiwr cymwys’.

Fodd bynnag, gallwch ofyn am ymuno â chynllun pensiwn gweithle'r cyflogwr hwnnw ac os ydych yn ‘weithiwr nad yw'n gymwys', mae'n rhaid i'ch cyflogwr gyfrannu.

Ond, os ydych yn ‘weithiwr cymwys’, nid oes rhaid i’ch cyflogwr gyfrannu at eich pensiwn (er y gallai ddewis gwneud hynny beth bynnag).

Efallai y gofynnir i chi dalu cyfraniadau, yn seiliedig ar eich cyflog o'r gyflogaeth honno, i bob un o'r cynlluniau rydych yn ymuno â nhw.

Gall yr hyn a gewch o bob cynllun pan fyddwch yn ymddeol fod yn wahanol. Bydd hyn yn dibynnu a yw'r cynllun yn fudd diffiniedig neu'n gyfraniad diffiniedig.

Ond y peth pwysig yw y byddwch yn adeiladu pensiwn a all roi incwm i chi ar ôl ymddeol.

Os byddwch yn gadael cyflogwr, neu wrth i chi agosáu at y dyddiad y gallwch ddechrau cymryd incwm o'ch pensiynau, efallai y bydd yn bosibl dechrau dod â'ch pensiynau at ei gilydd.

Nid oes cyfyngiad ar nifer y gwahanol gynlluniau pensiwn y gallwch berthyn iddynt. Fodd bynnag, mae cyfyngiadau ar y cyfanswm y gellir ei gyfrannu ar draws pob cynllun bob blwyddyn, os ydych am dderbyn rhyddhad treth ar gyfraniadau.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.