Os oes gennych anabledd, amhariad neu salwch hirdymor, mae’n rhaid i gwmnïau rydych yn ddyledus iddynt eich trin yn deg. Darganfyddwch sut i siarad â'ch credydwyr a pha help y gallwch ei gael.
Sut i wybod a ydych chi, neu rywun rydych chi’n ei adnabod, yn fregus i niwed ariannol
Gall unrhyw un ddod yn fregus ar unrhyw adeg. Os ydych yn fregus, mae cyfrifoldeb ar bob cwmni - yn enwedig y rhai rydych yn ddyledus iddynt – i’ch helpu gyda lefel briodol o ofal. Efallai bod gennych gyflwr iechyd meddwl, salwch hirdymor, anabledd corfforol, amhariad ar y clyw neu olwg, eich bod yn cael problemau gyda chaethiwed neu fod gennych anabledd gwybyddol.
Efallai y bydd gan y cwmnïau hyn dimau arbenigol i roi’r cymorth sydd ei angen arnoch i reoli eich dyled a’ch arian o ddydd i ddydd.
Sut ydw i’n gwybod a oes rhaid i gwmni roi cymorth ychwanegol i mi?
Mae’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) yn dweud bod yn rhaid i gwmnïau gymryd gofal ychwanegol o'u cwsmeriaid os ydyn nhw’n profi un o’r pedwar math yma o fregusrwydd:
- Iechyd – er enghraifft os oes gennych gyflwr iechyd neu salwch sy’n effeithio ar eich gallu i gyflawni tasgau o ddydd i ddydd.
- Digwyddiadau bywyd – er enghraifft os ydych wedi dioddef profedigaeth, wedi colli eich swydd, neu bod eich perthynaswedi chwalu.
- Gwydnwch – er enghraifft os ydych chi’n ei chael hi’n anodd gwrthsefyll sioc ariannol neu emosiynol.
- Gallu – os nad ydych yn deall, ac yn cael trafferth rheoli, eich arian. Gall hyn fod oherwydd eich bod yn ei chael hi’n anodd gwneud pethau fel darllen llythyrau neu ysgrifennu e-bost.
Os ydych yn wynebu costau byw uwch, darganfyddwch am ffynonellau ychwanegol o incwm a chymorth yn ein hadran Help gyda chostau byw.
Sut i siarad â’ch credydwyr
Credydwyr yw cwmnïau a phobl y rydych yn ddyledus iddynt.
Os oes gennych anabledd corfforol, problemau iechyd meddwl, neu rydych yn fregus, efallai y byddwch yn poeni am siarad â’ch credydwyr.
Ond mae’n syniad da i roi gwybod iddynt am eich sefyllfa. Mae hyn oherwydd pan maent yn ymwybodol, byddant yn gallu cynnig cymorth. Efallai bydd ganddynt dîm arbenigol i helpu cwsmeriaid fel chi.
Bydd y rhan fwyaf o gwmnïau’n eich galluogi i gysylltu â nhw yn y ffordd sydd fwyaf addas i chi. Gall hyn fod dros wesgwrs, e-bost, ffôn, neu’n wyneb yn wyneb. Yn aml, gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt ar unrhyw filiau a gewch gan y cwmni.
Beth yw addasiad rhesymol?
Mae gan gwmnïau ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol i sicrhau bod nwyddau a gwasanaethau yn hygyrch i gwsmeriaid anabl, heb unrhyw gost ychwanegol. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, gwneud addasiadau i’r ffordd y maent yn cyfathrebu â chi, neu gynnig ffordd i berson dibynadwy eich helpu i reoli eich arian.
Os ydych am roi gwybod i’ch credydwyr am fregusrwydd neu addasiad, gallwch wirio a ydynt wedi cofrestru i SupportHubYn agor mewn ffenestr newydd
Os yw poeni am arian yn effeithio ar eich iechyd meddwl, gallwch ddod o hyd i help yn ein canllaw Problemau ariannol a lles meddyliol.
Os ydych angen helpu i drefnu’ch taliadau, rhowch gynnig ar ein Blaenoriaethwr biliau. A gall ein Cynlluniwr Cyllideb eich helpu i ddeall faint allwch fforddio ei gynnig i’ch credydwyr.
Gallwch hefyd ddarganfod pa fudd-daliadau rydych yn gymwys iddynt a sut i wneud cais amdanynt yn ein canllawiau i fudd-daliadau, a pha gymorth ariannol a gwasanaethau cymorth sydd ar gael i’ch helpu.
Beth i’w wneud os ydych yn meddwl eich bod wedi cael eich trin yn annheg gan gredydwr
Os ydych chi’n teimlo eich bod wedi cael eich cam-drin gan eich banc, cymdeithas adeiladu neu ddarparwr benthyciadau eraill ar ôl dweud wrthynt am y cymorth ychwanegol y gallai fod ei angen arnoch, rhowch gyfle iddyn nhw unioni pethau’n gyntaf.
Y ffordd symlaf o wneud hyn yw cysylltu â goruchwyliwr neu reolwr. Os nad yw hynny’n datrys pethau, gallwch wneud cwyn.
Os ydych yn ei chael hi’n anodd dechrau cwyn ffurfiol, gallech ofyn i ffrind, perthynas neu weithiwr cymorth eich helpu yn lle.
Os na allwch ddatrys y mater gyda’r darparwr benthyciadau a’ch bod yn teimlo bod angen i chi fynd â’ch cwyn ymhellach, gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Ombwdsmon AriannolYn agor mewn ffenestr newydd
Mae gan Gyngor ar Bopeth fwy o wybodaeth am sut i wneud cwynYn agor mewn ffenestr newydd