Wrth i gyfraddau llog godi a gostwng, gallant gael effaith ar daliadau morgais a rhent. Dyma beth i’w wneud os ydych yn berchennog tŷ neu’n ceisio mynd ar yr ysgol dai am y tro cyntaf.
Help gyda chyfraddau llog morgais
Pam mae cyfraddau llog yn bwysig
Pan fyddwch chi'n benthyca arian am unrhyw beth, mae'r cyfanswm rydych chi'n ei dalu'n ôl yn dibynnu ar y gyfradd llog. Dyma beth sydd angen i chi ei wybod.
Mae cyfraddau llog yn effeithio ar eich morgais
Mae cyfraddau llog cyfnewidiol yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf wedi cael effaith ddramatig ar berchnogion tai yn y DU.
Mae'r gyfradd llog ar eich morgais yn chwarae rhan yn y swm y byddwch yn ei dalu bob mis a thros oes eich benthyciad.
Pan fydd cyfraddau llog yn isel, gallech sicrhau bargen dda gyda chyfradd isel a mwynhau taliadau morgais misol is. Gall hyn eich gadael ag arian ychwanegol ar gyfer treuliau eraill neu eich helpu i gadw rhai cynilion.
Ar y llaw arall, os bydd cyfraddau llog yn codi, gallai olygu taliadau misol uwch, sy’n rhoi straen ar eich cyllideb.
Mae’n syniad da cadw llygad ar dueddiadau cyfraddau llog. Gallwch ystyried opsiynau ail-ariannu os bydd cyfraddau’n gostwng yn sylweddol er mwyn arbed arian i chi ar eich morgais.
A yw cyfraddau llog morgais yn gostwng?
Ddim eto. Ym mis Chwefror 2024, arhosodd cyfradd sylfaenol Banc Lloegr ar 5.25%.
Gall unrhyw gynnydd neu ostyngiad yn y gyfradd sylfaenol effeithio ar y gyfradd llog y mae benthycwyr morgeisi yn ei chynnig. Ond byddant hefyd yn ystyried ffactorau economaidd eraill, felly dylech bob amser chwilio am y fargen forgais orau i chi.
Byddwch yn barod bob amser ar gyfer rhywfaint o symudiad yn y farchnad - fel y gwelsom, gall cyfraddau llog fynd y naill ffordd neu'r llall.
Siaradwch â'ch benthyciwr neu frocer morgeisi i archwilio'r opsiynau sydd ar gael i chi yn dibynnu ar eich sefyllfa unigol.
Os yw’ch cyfradd morgais sefydlog neu ostyngedig yn dod i ben
Os ydych yn dod i ddiwedd bargen cytundeb sefydlog neu ostyngedig ac yn poeni am gyfraddau llog morgais yn newid, dilynwch y camau hyn i sicrhau eich bod yn ystyried eich opsiynau i gyd.
Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud
Siaradwch â’ch benthyciwr yn gyntaf
Pan fydd eich cyfradd sefydlog yn dod i ben, os nad ydych yn gweithredu, bydd eich cyfradd yn mynd yn ôl i’r gyfradd safonol amrywiol (SVR) yn awtomatig.
Mae gan y rhan fwyaf o fenthycwyr adran cadw cwsmeriaid ac yn cynnig rhai cyfraddau ffafriol i gwsmeriaid presennol. Cysylltwch â’ch darparwr morgais a byddant yn drafod yr opsiynau sydd ar gael i chi.
Gallwch ddechrau siarad â’ch benthyciwr tua chwe mis cyn bod eich bargen yn dod i ben i ddeall pa gynigion sydd ar gael am gyfraddau newydd.
Gofynnwch i’ch benthyciwr presennol a allwch ‘gadw’ cyfradd newydd. Mae rhai yn gadael i chi ddal cyfradd am hyd at 3 mis. Os bydd y gyfradd yn gostwng, gallwch ganslo a manteisio ar fargen well.
Defnyddiwch ein cyfrifiannell morgais i gyfrifo sut bydd newid cyfradd llog morgais yn effeithio arnoch
Cymharu cyfraddau morgais newydd gyda benthycwyr eraill
Pan rydych yn gwybod beth sydd gan eich benthyciwr presennol i gynnig, gwiriwch fod gennych y fargen orau sydd ar gael i chi o’i gymharu â’r farchnad morgais llawn.
Os ydych yn gwybod beth rydych chi'n chwilio amdano, gallwch wneud ymchwil eich hun a newid ar-lein. Defnyddiwch ein rhestr wirio cymharu morgeisi i weld beth sydd angen i chi ei ystyried.
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn siarad â brocer morgeisi annibynnol. Codir ffi arnoch am eu cyngor. Os yw eich amgylchiadau wedi newid ers i chi drefnu eich morgais diwethaf, byddant yn cymryd hyn i ystyriaeth.
Wrth gymharu cyfraddau, cadarnhewch unrhyw ffioedd trefnu a chosbau adbryniad cynnar (os ydych am gael hyblygrwydd i newid cynnyrch cyn i’ch cytundeb dod i ben).
Bydd broceriaid morgeisi yn aml yn dyfynnu cyfraddau gyda'r holl ffioedd wedi'u cynnwys, nid y brif gyfradd yn unig.
Dewch o hyd i frocer morgais gyda’n canllaw ar gael cyngor morgais
Cadwch eich cynlluniau am y dyfodol mewn cof
Siaradwch â’ch brocer morgais am eich anghenion a nodau ariannol a beth sy’n bwysig i chi. Gall hwn eich helpu i benderfynu pa fath o forgais sydd orau i chi.
Mae’r pethau i’w ystyried yn cynnwys:
- Faint o lonyddwch meddwl rydych am gael am daliadau. Mae sefydlu yn meddwl rydych bob tro yn gwybod faint bydd eich ad-daliadau, ond efallai byddwch yn talu mwy os yw’r cyfraddau’n cwympo yn ystod y cyfnod sefydlog.
- Os ydych yn bwriadu symud yn yr ychydig flynyddoedd nesaf. Efallai byddwch am gael cyfradd sefydlog neu ostyngedig tymor byr, neu gyfradd morgais heb gosbau adbryniad cynnar.
- Y gallu i ordalu. Mae hyn yn rhoi’r hyblygrwydd i chi dalu eich morgais yn gyflymach os yw pethau’n gwella yn y dyfodol..
Darganfyddwch fwy am ddefnyddio brocer morgais
Adolygwch eich cyllideb
Os ydych yn gorfod gwario mwy ar eich taliadau morgais, nid oes angen dweud bod angen i chi edrych ar ble y gallwch dorri costau a chynyddu incwm trwy wneud yn siŵr eich bod wedi hawlio popeth y mae gennych hawl iddo.
Os ydych dal yn ei chael yn anodd gwneud taliadau, siaradwch â’ch benthyciwr am eich opsiynau. Er enghraifft, efallai gallwch estyn tymor eich morgais i gadw daliadau yn gyson.
Efallai bydd hyn yn meddwl y bydd yn cymryd yn hirach i ad-dalu eich morgais a byddwch yn talu mwy o log dros y tymor. Felly ystyriwch eich cyllideb heddiw a’ch anghenion yn y dyfodol cyn gwneud penderfyniad.
Defnyddiwch ein Cynlluniwr Cyllideb i weld ble gallwch dorri costau a chynyddu incwm
Darganfyddwch beth i wneud i gadw lan gyda thaliadau morgais
Os ydych chi'n sownd ar gyfradd anghystadleuol
Os ydych yn meddwl eich bod yn talu gormod am eich morgais, dilynwch y camau hyn i archwilio eich opsiynau.
Talu i newid eich cytundeb morgais yn gynnar
Os ydych mewn cytundeb morgais ar hyn o bryd ond yn credu bod opsiynau gwell ar gael, gallech ystyried newid yn gynnar. Mae’n bosibl y bydd gan rai cynhyrchion Daliadau Ad-dalu’n Gynnar (ERC) am wneud hyn.
Gall bod ERC yn berthnasol os byddwch yn ailforgeisio neu’n talu gweddill eich morgais cyn i’ch cytundeb ddod i ben.
Gall talu’r tâl hwn ymlaen llaw fod yn ddrud ond gallai arbed arian i chi yn y tymor hir drwy adael i chi newid i fargen morgais fwy cystadleuol.
Gall fod yn fuddiol os oes gennych falans morgais mwy.
Mae ERC fel arfer yn cael ei gyfrifo fel 1% i 5% o falans eich morgais heb ei dalu, ond mae gan rai bargeinion gyfradd safonol.
Siaradwch â’ch darparwr morgais am fanylion yr hyn y byddwch yn ei dalu i newid.
Archwiliwch ordalu'ch morgais
Os oes gennych yr arian parod i dalu tâl ad-dalu’n gynnar, opsiwn arall yw defnyddio hwn i leihau balans cyffredinol eich morgais i leddfu rhywfaint o’r pwysau o gyfraddau llog cyfnewidiol.
Os gallwch fforddio gwneud taliadau ychwanegol, mae gordalu eich morgais yn golygu eich bod yn talu llai o log yn y dyfodol ac yn talu eich morgais yn gynt.
Mae gordalu hefyd yn golygu y bydd gennych forgais llai os bydd cyfraddau llog uwch yn y dyfodol.
Gwiriwch eich bargen bob amser oherwydd gall cyfyngiadau fod yn berthnasol. Efallai y codir tâl arnoch am ad-dalu'ch morgais yn gynnar, neu wneud gordaliad sy'n mynd dros y terfyn y cytunwyd arno.
Beth i wneud i gadw i fyny gyda thaliadau morgais
Os ydych yn cael trafferth i gadw i fyny gydag ad-daliadau, dyma beth i’w wneud.
Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud
Siaradwch â’ch benthyciwr am drefniadau amgen
Mae’n rhaid i fenthycwyr eich trin yn deg ac ystyried unrhyw gais rydych yn gwneud i newid y ffordd rydych yn talu eich morgais i’ch helpu.
Felly os yw’r taliadau newydd yn edrych yn anhylaw, gofynnwch am ffyrdd i’w wneud yn fwy fforddiadwy.
Gall ddatrysiadau cynnwys:
- estyn tymor eich morgais
- cymryd gwyliau taliad
- derbyn taliadau llai am ychydig
Pan rydych yn drafod datrysiadau gyda’ch benthyciwr, ni fydd unrhyw sgwrs yn ymddangos ar eich ffeil credyd.
Fodd bynnag, mae rhai datrysiadau yn, felly dylech bob tro ofyn beth fydd effaith unrhyw ganlyniadau rydych yn cytuno arnynt ar eich sgôr credyd.
Cofiwch, mae unrhyw effaith yn debygol o fod yn llai nag os ydych yn mynd i ôl-ddyledion a’n methu taliadau heb siarad â’ch benthyciwr yn gyntaf.
Os ydych yn cael trafferth i newid i fenthyciwr newydd, mae gennych forgais llog yn unig na allwch ad-dalu neu am drafod Cynlluniau Rhyddhau Ecwiti, cysylltwch â ni. Gallwn drafod eich sefyllfa a’ch cyfeirio at gyngor arbenigol, annibynnol, am ddim i archwilio eich opsiynau.
Ffoniwch ni ar 0800 138 1677 neu ddechreuwch wesgwrs ar-leinYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn barod wedi methu taliadau
Mae cadw lan gyda’ch morgais yn flaenoriaeth mae angen i chi edrych ar gyn biliau a thaliadau eraill.
Bydd eich benthyciwr yn ystyried eich bod mewn ôl-ddyledion os ydych wedi methu dau neu fwy o daliadau.
Os yw hwn yn digwydd, o fewn 15 diwrnod mae’n rhaid iddynt:
- dweud wrthych swm llawn eich ôl-ddyledion
- rhestri’r taliadau rydych wedi methu neu dalu mewn rhan
- dweud wrthych yr union swm sy’n ddyledus o dan eich morgais
- dweud wrthych swm unrhyw daliadau yr eir iddynt oherwydd methu unrhyw daliadau (a nodi unrhyw ffioedd a all ddigwydd os nad yw’r ôl-ddyledion yn cael eu had-dalu)
Nad oes modd i’ch benthyciwr ceisio adfeddiannu oni bai bod ymdrechion rhesymol eraill i ddatrys y sefyllfa i gyd wedi methu, ac mae’n rhaid iddynt roi hysbysiad rhesymol cyn iddynt gymryd y weithred hynny.
Peidiwch ag oedi ar weithredu. Os ydych wedi colli dau neu fwy o daliadau morgais nawr yw’r amser i gael cyngor ar ddyledion.
Cael cyngor ar ddyledion dienw ac am ddim
Darganfyddwch a allwch gael cymorth y llywodraeth
Os ydych yn cael trafferth talu eich ad-daliadau morgais, efallai gall y llywodraeth helpu.
Yn dibynnu ar eich sefyllfa, mae gan y llywodraeth fudd-daliadau a chynlluniau cymorth ar gael i berchnogion tai. Gall y rhain helpu i roi lle i chi geisio datrys materion ariannol a gostwng eich costau misol.
Bydd y cymorth sydd ar gael yn amrywio yn dibynnu ar ble rydych yn byw yn y DU, ond mae cynlluniau presennol yn cynnwys:
- Cefnogaeth ar gyfer Llog Morgais
- Cymorth i Aros - Cymru
Mae’r ddau gynllun yn cynnig gwahanol fathau o gymorth, fel benthyciadau ecwiti a rennir neu fenthyciadau ad-daladwy i helpu gyda llog morgais.
Darganfyddwch fwy am help y Llywodraeth os na allwch dalu eich morgais
Beth yw wneud os oes rhywun yn ceisio cael meddiant o’ch cartref
Mae help ar gael o’r eiliad y byddwch yn derbyn hysbysiad ysgrifenedig gan gredydwr sy’n ceisio cael meddiant o’ch cartref.
Gall y Gwasanaeth Cynghori Atal Colli Tai helpu os ydych mewn perygl o gael eich troi allan o’ch eiddo os yw eich morgais mewn ôl-ddyledion.
Bydd arbenigwr tai a ariennir gan y llywodraeth yn gweithio gyda chi i nodi beth sydd wedi sbarduno’r cais am feddiant ac yn argymell atebion. Efallai y byddant yn gallu rhoi cyngor cyfreithiol am ddim i chi ar:
- ôl-ddyledion morgais
- taliadau budd-daliadau lles
- dyled.
Os na allwch ddatrys materion a gofynnir i chi fynychu gwrandawiad llys, gall ymgynghorydd tai hefyd ddarparu cyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol am ddim yn y llys. Dylech gyrraedd o leiaf 30 munud cyn eich gwrandawiad a siaradwch â’r tywysydd llys a byddant yn eich cyfeirio at yr ymynghorydd.
Gallwch ddod o hyd i’ch darparwr Gwasanaeth Cyngor Atal Colli Tai agosaf drwy deipio eich cod post a ticio’r blwch ‘Gwasanaeth Cyngor Atal Colli Tai’ yn find-legal-advice.justice.gov.ukYn agor mewn ffenestr newydd
Defnyddio ecwiti yn eich cartref i ymdopi â chostau cynyddol
Os ydych yn poeni am gostau cynyddol, efallai byddwch yn ystyried rhyddhau arian parod, fel defnyddio ecwiti yn eich cartref neu ail-forgeisio. Tra ei fod yn werth ystyried, mae hefyd yn dod gyda goblygiadau sylweddol hirdymor.
Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud
Deall manteision ac anfanteision ail-forgeisio
Gall ail-forgeisio gael ei ddefnyddio i godi arian parod a chyfuno dyledion.
Ond mae risg o ychwanegu dyledion anniogel i’ch morgais. Er enghraifft, byddwch yn rhoi’ch cartref mewn perygl os na allwch gadw i fyny gydag ad-daliadau.
Hefyd, byddwch yn talu mwy ar y cyfan os yw’r benthyciad dros dymor hirach, hyd yn oed pan mae’r cyfraddau llog morgais yn isel.
Efallai caiff opsiynau ail-forgeisio eu heffeithio hefyd os yw’ch incwm wedi gostwng neu mae gwerth eich tŷ yn gostwng, felly efallai bydd yn anodd newid i fenthyciwr arall neu fenthyg mwy.
Mae’n bwysig i archwilio eich opsiynau eraill ac os ydych yn meddwl am ail-forgeisio i gyfuno dyledion, cael cyngor ar ddyledion am ddim cyn meddwl yn ddifrifol am ychwanegu mwy o ddyled i’ch morgais.
Darganfyddwch fwy am os yw ail-forgeisio yn addas i chi yn ein canllaw Sut mae ailforgeisio’n gweithio?
Defnyddio rhyddhad ecwiti i hybu’ch incwm
Mae cynlluniau rhyddhau ecwiti yn ffordd i bobl dros 55 oed cael mynediad at arian sydd ynghlwm â’u cartref. Mae hwn yn cynnwys cymryd cyfandaliad arian parod, sawl swm llai neu gymysgedd o’r ddau.
Efallai bod hwn yn ymddangos fel opsiwn da os oes angen arian arnoch ac nad ydych eisiau symud tŷ, ond mae’n werth fod yn ymwybodol am y goblygiadau hirdymor.
Yn debygol nid rhyddhad ecwiti bydd yr opsiwn gorau os ydych wedi cael eich effeithio’n ariannol gan y cynyddiadau yng nghostau byw. Gall y cynlluniau hyn fod yn ddrud iawn yn yr hirdymor a gallant gyfyngu eich opsiynau yn ddiweddarach.
Sicrhewch eich bod wedi ystyried pob opsiwn cyn i chi edrych ar ryddhad ecwiti.
Gall opsiynau eraill gynnwys symud i gartref llai o faint, cael lletywr neu fynd yn ôl i’r gwaith.
Edrychwch ar ein tudalen ar sut mae’r cynlluniau hyn yn gweithio a beth i ystyried
Defnyddio ecwiti yn eich cartref i ad-dalu dyledion
Nid yw defnyddio eich cartref i gyfuno dyledion anniogel, byrdymor fel benthyciadau, cardiau credyd a gorddrafftiau yn gam i’w gymryd yn ysgafn.
Mae sawl risg i chi ac aelodau eraill o’ch teulu. Mae rhai o’r risgiau’n cynnwys:
- Gall llog, lle’n berthnasol, gronni dros sawl blwyddyn. Mae hwn yn meddwl gall yr ecwiti yn eich cartref leihau’n gyflym iawn dros amser. Felly, mae’n syniad da i gymryd dim ond beth sydd angen arnoch ac ystyried cynllun sydd â gwarant ‘dim ecwiti negyddol’.
- Bydd yn dod yn anoddach i symud tŷ, felly ystyriwch symud i gartref llai o faint fel opsiwn yn gyntaf.
- Gall unrhyw etifeddiaeth rydych am ei adael cael ei leihau’n ddifrifol.
- Dylech ystyried yr effaith ar unrhyw fudd-dal prawf modd gallwch fod yn gymwys iddo.
Os ydych yn cael trafferth gyda dyledion neu’n poeni efallai byddwch yn gwneud cyn bo hir, siaradwch â’ch darparwyr (banciau a benthycwyr eraill).
Mae’n rhaid iddynt gynnig mesurau i’ch helpu. Er enghraifft, lleihau eich taliadau neu log, neu gytuno i gynllun ad-dalu ymarferol.
Os nad yw hyn yn gweithio, gall arbenigwr cyngor ar ddyledion eich helpu i ddod o hyd i ddatrysiad sy’n eich galluogi i gadw’r ecwiti sydd yn eich cartref wrth ad-dalu eich dyledion.
Os ydych am siarad am eich opsiynau gyda chynghorydd cymwysedig sydd wedi’i reoleiddio, gallwch gael cyngor arian a rhyddhad ecwiti diduedd, am ddim ar wefan StepChangeYn agor mewn ffenestr newydd neu ffoniwch 0808 1686 719
Darganfyddwch fwy am beth i wneud os ydych yn edrych ar brynu eich cartref cyntaf
Os ydych yn edrych ar brynu eich cartref cyntaf
Y newyddion da yw nad yw prynwyr tro cyntaf yn talu treth stamp ar eiddo sy’n costio hyd at £425,000. Gallwch hefyd hawlio rhyddhad pellach ar dreth stamp os nad yw gwerth eich eiddo yn fwy na £625,000.
Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud
Parhewch i gynilo cymaint ag y gallwch
Mae’n syniad da i sicrhau bod eich cynilion am flaendal yn gweithio mor galed ag y gallent amdanoch.
Os ydych o dan 40 oed, mae’r ISA Gydol-Oes wedi’i ddylunio gan y llywodraeth i’ch helpu i gynilo am gostau prynu eich cartref cyntaf.
Gallwch gynilo hyd at £4000 pob blwyddyn dreth ac mae’r ISA yn talu bonws blynyddol o hyd at 25%, rydych hefyd yn ennill llog di-dreth ar beth bynnag rydych yn cynilo. Mae hyn yn ei wneud yn ddeniadol iawn o’i gymharu ag ISAs arian parod, sy’n talu llog ond dim bonws.
Os gallwch gynilo mwy na £4,000 y flwyddyn, sicrhewch eich bod yn cymharu cyfrifon cynilo cyffredinol, gan fod cyfraddau llog yn cynyddu. Gall newid i ddarparwr arall gwneud gwahaniaeth mawr i falans eich cynilion.
Ac os ydych yn rhoi arian wrth ochr pob mis am filiau, gwyliau neu ddiwrnod glawog, edrychwch ar gyfrifon gynilo mynediad hawdd arferol - maent yn talu rhai o’r cyfraddau uchaf sydd ar gael.
Darganfyddwch fwy am Gyfrifon Gynilo Gydol-Oes Annibynol (LISAs)
Gwybod faint gallwch fforddio benthyg
Defnyddiwch ein cyfrifiannell Fforddiadwyedd Morgais.
Bydd yn eich helpu i ragdybio faint gallwch fforddio benthyg i brynu cartref gan edrych ar eich incwm a’ch gwariant.
Bydd benthycwyr morgais hefyd yn edrych ar y ffigurau hyn i gyfrifo faint byddant yn ei fenthyg i chi.
Dylai gymryd dim ond tua phum munud i’w gwblhau.
Darganfyddwch fwy am faint gallwch fforddio benthyg gyda’n cyfrifiannell Fforddiadwyedd Morgais.
Deall manteision ac anfanteision gwahanol forgeisio
Mae pedwar prif fath o forgeisi, felly dewch i adnabod sut maent yn gweithio ac a ydynt yn addas ar gyfer eich anghenion.
Cyfradd sefydlog: Mae’r swm rydych yn ei dalu’n sefydlog am gyfnod penodol, fel arfer rhwng dau a deg mlynedd. Efallai bydd taliadau’n uwch na chyfraddau morgais amrywiol.
Cyfradd Safonol Amrywiol (SVR): Mae’r gyfradd rydych yn ei dalu’n cael ei osod gan y benthyciwr morgais. Yn wahanol i forgais tracio, nid yw’n gysylltiedig i gynyddiadau a gostyngiadau cyfradd sylfaenol Banc Lloegr. Nid oes tymor sefydlog ac fel arfer nid oes cosb os ydych am newid neu ordalu.
Rydych yn debygol i fynd ar SVR ar ôl gorffen bargen ragarweiniol sefydlog, tracio neu ostyngedig os nad ydych yn gweithredu.
Gostyngedig: Bydd eich benthyciwr yn cynnig gostyngiad o’r Gyfradd Safonol Amrywiol am gyfnod sefydlog, fel arfer dau neu dair blynedd.
Traciwr: Mae’r gyfradd rydych yn ei dalu’n gysylltiedig neu’n ‘tracio’ cyfradd arall, fel arfer cyfradd sylfaenol Banc Lloegr. Po hirach yw’r tymor, yr hirach bydd y gyfradd. Weithiau, gallwch gael traciwr gydol-oes am dymor llawn eich morgais.
Cael cyngor ar ddyledion annibynnol
Pan rydych yn deall pa fathau o gynnyrch morgais sydd ar gael, siaradwch â brocer morgais am eich anghenion a nodau ariannol a beth sy’n bwysig i chi.
Gallent chwilio'r farchnad morgais llawn i gael bargen sy’n addas i chi a’ch amgylchiadau ariannol.
Gall gynghorwyr morgais dod o hyd i fargen na allwch ar eich pen eich hun a gallent wella eich cyfle i gael eich derbyn am forgais. Mae hwn yn benodol yn bwysig os nad oes gennych flaendal mawr, heb fod gyda’ch cyflogwr am hir neu rydych yn hunangyflogedig.
Gallent hefyd eich helpu gyda’r gwaith papur, a all fod yn llethol os nad ydych wedi prynu cartref o’r blaen.
Tra bod cost ymlaen llaw fel arfer, bydd gweld cynghorydd morgais ar ddechrau eich siwrne morgais yn arbed llawer o amser ac ymdrech yn y pen draw.
Dewch o hyd i frocer morgais a darllenwch ein canllaw ar gael cyngor morgais
Cyfrifwch wir gost prynu cartref
Dim ond un o’r costau bydd angen i chi gynllunio am pan rydych yn prynu cartref yw blaendal. Mae costau ymlaen llaw fawr yn cynnwys:
- Treth Stamp
- ffi prisiad
- ffi syrfëwr
- ffioedd cyfreithiol
- ffi’r gwerthwr tai
- ffi trosglwyddiad electronig
- costau symud.
Bydd hefyd rhaid i chi gyllidebu i ddiogelu a chynnal eich cartref. Mae costau’n cynnwys:
- cynnal a chadw ac atgyweirio (cost gyfartalog bil atgyweirio i berchnogwyr tai newydd yw 1% o werth yr eiddo y flwyddyn)
- yswiriant
- Treth Cyngor
- costau rhedeg (cyfleustodau, gofynnwch i’ch gwerthwr faint maent yn ei wario)
- costau lesddaliad a thaliadau gwasanaeth.
Defnyddiwch ein canllaw i sicrhau rydych wedi meddwl am bopeth
Ydych chi wedi methu taliad?
Os felly, nawr yw’r amser i gael cyngor ar ddyledion
-
Mae am ddim ac yn gyfrinachol
-
Yn rhoi gwell ffyrdd i chi reoli eich dyledion a’ch arian
-
Yn sicrhau eich bod yn hawlio’r holl fudd-daliadau a hawliadau cywir