Mae gwahanu oddi wrth eich cyn-bartner yn golygu y bydd rhaid i chi newid sut rydych yn rheoli'ch cartref a chyllid arall. Yn aml mae'n llawer mwy costus i chi'ch dau fyw ar eich pen eich hun nac i gyd-fyw. Ond mae ffyrdd y gallwch arbed arian a thorri costau.
Pam y gall cyllideb helpu
Torri’n ôl ar eich gwariant
Gwelwch a allwch dorri'n ôl ar eich gwariant o ddydd i ddydd. Bydd hyd yn oed ychydig bunnoedd a arbedir yma ac acw yn adio i fyny.
Arbed arian ar eich biliau
Os nad ydych erioed wedi newid eich cyflenwr nwy neu drydan, neu os nad ydych wedi newid am ychydig, mae'n werth edrych eto gan y gallai arbed arian i chi.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i arbed arian ar filiau cartrefi
Gallwch hefyd ystyried newid os ydych, er enghraifft, eisiau tariff pris sefydlog. Trwy hynny, byddwch yn gwybod y pris rydych yn ei dalu am eich nwy a'ch trydan bob mis neu chwarter.
Os oes gennych fand eang gartref, a bod gennych linell dir neu ffôn symudol, efallai y gallwch newid neu gael cynnig gwell gan eich darparwr presennol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i arbed arian ar eich ffôn cartref a'ch band eang
Teithio am lai
Gall costau teithio wneud tolc mawr yn eich cyllideb - er enghraifft, eich tocyn trên i'r gwaith neu gost rhedeg eich car.
Darganfyddwch sut i dorri'ch costau yn ein canllaw Torri i lawr ar eich car a'ch costau teithio
Talu llai o Dreth Cyngor neu Drethi
Yng Nghymru, Lloegr a’r Alban
Os yw'ch partner yn symud allan a chi yw'r unig oedolyn sy'n byw yn yr eiddo, gallwch hawlio gostyngiad o 25% ar eich bil Treth Gyngor.
Gallwch hefyd hawlio'r gostyngiad os yw oedolyn yn byw gyda chi sy'n fyfyriwr llawn amser, yn ofalwr sy’n byw i mewn neu rywun ag anabledd meddwl difrifol.
Os ydych ar incwm isel, efallai y byddwch hefyd yn gallu cael gostyngiad yn eich Treth Cyngor. Bydd rhaid i chi wneud cais i'ch cyngor lleol.
Darganfyddwch fwy am ostyngiad Treth Gyngor ar wefan GOV.UK
Yng Ngogledd Iwerddon
Yn dibynnu ar eich incwm a’ch sefyllfa, efallai y gallwch hawlio ‘rates Housing Benefit’ neu ‘Rate Relief’.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Treth Cyngor: beth ydyw, beth mae'n ei gostio a sut i arbed arian ac ar wefan nidirect
Cynilion argyfwng
Er y gallai arian fod yn dynn ar ôl gwahanu, mae'n werth ceisio rhoi rhywfaint o arian i ffwrdd bob wythnos neu fis fel cynilion argyfwng, os gallwch. Yn y ffordd honno, os yw'ch boeler neu beiriant golchi yn torri i lawr, er enghraifft, bydd rhywfaint o arian wrth gefn gennych.