Pa fudd-daliadau y gallaf eu hawlio os ydw i’n ysgaru neu’n gwahanu?

Os ydych yn ysgaru neu’n gwahanu oddi wrth eich partner a bod eich incwm wedi gostwng, mae rhai budd-daliadau y gallwch wneud cais amdanynt fel person sengl. Mae hefyd budd-daliadau y gallwch wneud cais amdanynt os ydych nawr yn rhiant unigol a bod eich plant yn byw gyda chi drwy’r amser neu ran fwyaf o’r amser. 

Credyd Cynhwysol os ydych yn ysgaru neu’n gwahanu

Os ydych yn chwilio am waith neu ar incwm isel, efallai y gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Gall Credyd Cynhwysol eich helpu gyda chostau tai, plant a gofal plant.

Sut mae Credyd Cynhwysol yn disodli budd-daliadau presennol

Mae nifer o’r budd-daliadau y byddech wedi gallu gwneud cais amdanynt os ydych yn ysgaru neu’n gwahanu yn cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
  • Credyd Treth Plant
  • Credyd Treth Gwaith
  • Budd-dal Tai.

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn galw'r rhain yn budd-daliadau etifeddol. Gofynnir yn awr i'r mwyafrif o bobl wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn lle.

Os ydych  yn cael y budd-daliadau hyn yn barod a bod eich partner neu briod yn gadael y cartref teuluol, bydd yn rhaid i chi ddweud wrth  DWP neu CThEM.

Efallai y bydd rhaid i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn awr -  a byddwch yn cael eich asesu naill ai fel person sengl neu riant unigol.

Sut mae Credyd Cynhwysol yn effeithio arnoch os ydych yn rhiant unigol

Os ydych yn gymwys i wneud cais am Gredyd Cynhwysol byddwch fel arfer yn cael eich rhoi mewn un o bedwar grŵp yn dibynu ar oed eich plant:

Oed y plentyn Gofyniad gwaith

O dan un

Dim gofyniad  sy’n gysylltiedig â gwaith 

Plentyn ieuengaf yn un oed

Cyfweliad wedi’i ganolbwyntio ar waith yn unig

Plentyn ieuengaf yn ddwy oed

Gofyniad paratoi am waith

Plentyn ieuengaf yn dair oed neu drosodd

Gofyniad sy’n gysylltiedig â holl waith 

Tra mae eich plentyn ieuengaf yn ddwy oed neu lai byddwch ond angen meddwl am beth allech chi ei wneud i ddychwelyd i waith. Efallai bydd yn rhaid i chi fynychu cyfweliadau i drafod beth allech chi ei wneud ac edrych at wella eich sgiliau, fel hyfforddiant ychwanegol neu gael ei CV yn addas i wneud cais am swyddi.

Pan fydd eich plentyn ieuengaf yn cyrraedd tair oed, bydd disgwyl i chi chwilio am waith os nad ydych yn gweithio’n barod. Dylech siarad â’ch anogwr gwaith am ba waith sy’n realistig i chi ar sail eich cyfrifoldebau gofalu a phethau eraill, megis yr amser rydych ei angen i chi adael neu gasglu o’r ysgol neu ofal plant.

Oed y plentyn Oriau gwaith neu chwilio am waith

Tair oed hyd nes dechrau’r ysgol yn llawn amser

16 awr yr wythnos

Ar ôl iddynt ddechrau’r ysgol yn llawn amser i 13 oed

25 awr yr wythnos

13 oed neu drosodd

5 awr yr wythnos. Gallwch ddal ofyn i hyn gael ei newid os oes rheswm da dros wneud hynny

Unwaith rydych wedi cytuno ar yr hyn y byddwch yn ei wneud i ddod o hyd i neu baratoi am waith - bydd hyn yn ffurfio rhan o’ch ymrwymiad hawlydd. Os na fyddwch yn cadw at yr hyn sydd wedi’i gytuno, fe allech chi gael eich sancsiynu. Mae hyn yn golygu y gallech golli’ch cyfan neu rhywfaint o’ch budd-daliadau am ychydig wythnosau.

Os ydych angen help gyda chostau gofal plant, gallwch wneud cais am hyd at 85% o’r costau hyd at gyfyngiad penodol.

Lwfans Ceisio Gwaith (JSA)

Os ydych ar gael i weithio ac wedi talu digon o Gyfraniadau Yswiriant Gwladol a gweithio am ddwy flwyddyn dreth lawn cyn gwneud cais, efallai y byddwch yn gallu cael JSA Dull Newydd ynghyd â Chredyd Cynhwysol os ydych angen help ychwanegol gyda phethau fel costau tai neu fagu plant.

Os nad ydych yn gymwys i wneud cais am JSA Dull Newydd ac ar gael i weithio, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am y lwfans sylfaenol o Gredyd Cynhwysol yn lle hynny.

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA)

Os ydych yn methu â gweithio oherwydd salwch neu anabledd efallai y byddwch yn gallu gwneud Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) Dull Newydd os ydych wedi talu digon o Gyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Gallwch wneud cais am hwn ynghyd â Chredyd Cynhwysol os ydych hefyd angen help gyda chostau tai neu fagu plant oherwydd eich bod ar incwm isel.

Os nad ydych yn gymwys ar gyfer ESA Dull Newydd, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am yr elfen ‘gallu gyfyngedig i weithio’ a ‘gweithgareddau sy'n gysylltiedig â gwaith’ o Gredyd Cynhwysol.

Help gyda chostau tai os ydych yn ysgaru neu’n gwahanu

Os ydych yn rhentu ac ddim eisoes yn gwneud cais am Fudd-dal Tai, bydd yn rhaid i chi wneud cais am yr elfen costau tai o Gredyd Cynhwysol.

Os ydych chi eisoes yn cael Budd-dal Tai a bod eich partner neu briod yn gadael y cartref teuluol bydd angen i chi ddweud wrth eich cyngor lleol am y newid hwn.

 Efallai y bydd rhaid i chi nawr wneud cais am Gredyd Cynhwysol. Byddwch yn parhau i gael Budd-dal Tai am bythefnos ar ôl i’ch cais Credyd Cynhwysol ddechrau – mae hyn yn lleihau’r risg o ôl-ddyledion rhent.

Rydych ond yn gallu gwneud cais newydd am Fudd-dal Tai os yw’r canlynol yn berthnasol i chi:

  • Rydych chi wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, neu
  • Rydych chi mewn tai â chymorth, tai gwarchod, neu dai dros dro.

Os ydych yn berchen ar eich cartref ac yn cael rhai budd-daliadau prawf modd fel Credyd Cynhwysol mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais am Gymorth ar gyfer Llog Morgais (SMI).

Telir SMI fel benthyciad, y mae’n rhaid i chi ei ad-dalu. Mae gwahanol ffyrdd o wneud hyn.

Gostyngiad Treth Cyngor

Os mai chi bellach yw'r unig oedolyn nad yw mewn addysg llawn amser yn eich cartref, mae'n debyg y byddwch yn gymwys i gael gostyngiad person sengl (25%) ar eich bil Treth Gyngor.

Efallai y cewch help i dalu'ch Treth Gyngor os ydych yn cael rhai budd-daliadau, fel neu Gredyd Cynhwysol. Bydd angen i chi wneud cais i'ch cyngor lleol.

Yng Nghymru a Lloegr, dewch o hyd i'ch cyngor lleol ar wefan GOV.UK

Yn yr Alban, dewch o hyd i'ch cyngor lleol ar wefan mygov.scot

Yng Ngogledd Iwerddon, darganfyddwch am yr ardrethi ar wefan nidirect

Budd-dal Plant os ydych yn ysgaru neu’n gwahanu

Sut i newid i bwy y telir Budd-dal Plant

Os ydych yn ysgaru neu’n gwahanu efallai bydd angen i chi ddiweddaru eich manylion ar gyfer Budd-dal Plant.

Gall Budd-dal Plant ond cael ei dalu i un person ac mae’n bwysig ei fod yn cael ei dalu i’r prif ofalwr, sydd fel arfer y rhiant mae eich plentyn neu blant yn byw gyda.

Os mai eich cyn bartner sy’n cael y taliad Budd-dal Plant efallai na fyddwch yn cael yr arian oni bai eu bod yn ei drosgwlyddo ymlaen yn wirfoddol.

Gallwch ddiweddaru pwy sy’n cael Budd-dal Plant a rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau ar wefan GOV.UK

Ffôn: 0300 200 3100
Y tu allan i’r DU: +44 161 210 3086

Dydd Llun i ddydd Gwener: 8am i 8pm
Dydd Sadwrn: 8am i 4pm

Budd-dal Plant os ydych nawr yn ennill llai na £50,000

Os oeddech chi neu’ch cyn-bartner yn ennill dros £50,000 ac roeddech yn cael Budd-dal Plant, fe ddylech fod wedi bod yn ad-dalu cyfran o’ch Budd-dal Plant fel Treth Incwm ychwanegol.

Os yw’ch incwm wedi disgyn yn is na £50,000 fel riant unigol a’ch bod yn parhau i gael Budd-dal Plant dylech gysylltu â’r Swyddfa Budd-dal Plant i ddweud wrthynt am eich newid.

Os ydych wedi dewis peidio â chael Budd-dal Plant, fel nad oedd yn rhaid i’ch cyn-bartner dalu’r dreth ychwanegol, dylech siarad â’r Swyddfa Budd-dal Plant am wneud cais am daliad.

Os nad ydych yn gwneud cais am Fudd-dal Plant

Os nad oeddech am unrhyw reswm yn gwneud cais am Fudd-dal Plant o’r blaen, ond rydych am wneud nawr, mae’n bwysig eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl, oherwydd gall gymryd hyd at 12 wythnos i brosesu cais.

Sut y mae cynhaliaeth plant yn effeithio ar eich taliadau budd-daliadau?

Nid yw cynhaliaeth plant yn cael ei gyfrif fel incwm ar gyfer budd-daliadau prawf modd fel Credyd Cynhwysol.

Golyga hyn os ydych yn cael cynhaliaeth ni fyddwch yn cael llai o arian yn y budd-daliadau hyn. Ni effeithir chwaith ar fudd-daliadau eraill nad ydynt ar sail prawf modd.

Os oes yn rhaid i chi dalu cynhaliaeth plant

Os mai chi yw’r rhiant sy’n gorfod talu cynhaliaeth plant a’ch bod yn cael rhai budd-daliadau, bydd yn rhaid i chi dalu £7 yr wythnos allan o’ch budd-daliadau os yw’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant (CMS) neu Asiantaeth Cynnal Plant (CSA) yn gwneud trefniadau cynhaliaeth.

Os ydych yn gwneud trefniant teuluol, fe allech chi a’r rhiant arall gytuno ar yr hyn y dylech chi ei dalu allan o’ch budd-daliadau.

Os ydych yn gwneud cais am fudd-dal, dylech chi bob amser roi gwybod am eich trefniadau cynhaliaeth plant i’ch Swyddfa Canolfan Byd Gwaith, hyd yn oed os nad ydych yn credu y bydd yn effeithio eich cais.

Amddifyn eich hun rhag cam-drin ariannol

Mae gan bawb yr hawl i annibyniaeth ariannol. Os yw'ch partner yn rheoli'ch arian neu'n rhedeg dyledion yn eich enw chi, mae'n gam-drin ariannol. Ond does dim angen ymdrechu ymlaen ar eich pen eich hun.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.