Adolygu yswiriant ar gyfer eich cartref a’ch eiddo ar ôl i chi wahanu

A ydych yn symud i gartref newydd ar ôl i chi a’ch cyn partner wahanu, neu a yw’ch cyn partner yn symud allan? Os felly, efallai y bydd angen i chi newid eich yswiriant presennol neu brynu polisi newydd. Efallai hefyd y bydd angen i chi adolygu neu brynu yswiriant car neu anifail anwes. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr yswiriant iawn am y pris gorau.

Tynnu eich cyn partner o’ch polisi

Os oes angen i chi dynnu enw eich cyn partner o’ch polisi yswiriant cartref neu os oes angen i chi dod oddi ar eu polisi, bydd angen i’ch cwmni yswiriant gwybod eich bod chi’ch dau’n cytuno i hyn.

Gweithio allan pa yswiriant sydd ei angen arnoch

Fel rhan o’ch gwahaniad, efallai y byddwch yn cymryd cyfrifoldeb am y tŷ neu’r gytundeb tenantiaeth.

Er mwyn helpu i weithio allan y dewis cywir i chi, gallwch ddefnyddio ein Cynllunydd Cyllideb hawdd ei ddefnyddio.

Neu, os oeddech yn berchen ar gar pan oeddech gyda’ch cyn partner, efallai hoffech ei newid. Mae’n debygol y bydd angen yswiriant gwahanol neu ychwanegol arnoch.

Rhestr Wirio:

  1. Lluniwch restr o’r pethau rydych yn berchen arnynt, fel eich cartref (oni bai ei fod wedi ei rentu), eiddo sydd gennych yn eich cartref, car, anifeiliaid anwes a theclynnau.
  2. Gwiriwch a oes gennych eisoes yswiriant ar eu cyfer, ac os felly, a yw’n rhoi lefel ddigonol o sicrwydd. Os nad oes gennych yswiriant, ystyriwch a oes ei angen arnoch.
  3. Chwiliwch am y polisi cywir.
  4. Lluniwch gyllideb ar gyfer costau ychwanegol yswiriant y gallech fod ei angen arnoch.

Trefnu yswiriant adeiladu

Bydd angen yswiriant adeiladau a chynnwys arnoch os ydych yn berchen ar eich cartref (heblaw am fflatiau prydles).

Gyda fflatiau prydles, bydd eich landlord fel arfer yn trefnu yswiriant adeiladau.

Mae yswiriant adeiladau wedi ei gynllunio i dalu os bydd eich cartref yn cael ei ddifrodi gan rywbeth fel llifogydd, tân neu storm.

Os ydych yn trefnu yswiriant ar eich cartref, gwnewch yn siŵr eich bod yn chwilio am y polisi gorau.

Peidiwch â dewis yr un rhataf, ond gwnewch yn siŵr y bydd yn darparu’r yswiriant sydd ei angen arnoch ar gyfer ble rydych yn byw.

Trefnu yswiriant cynnwys

P’un a ydych yn berchen ar, neu’n rhentu eich eiddo, bydd angen yswiriant cynnwys arnoch.

Os oes angen yswiriant adeiladau arnoch hefyd, gallwch brynu polisïau sy’n cyfuno adeiladau a chynnwys.

Os nad oes angen yswiriant adeiladau arnoch, gallwch brynu yswiriant ar gyfer cynnwys yn unig.

Bydd hyn yn talu os bydd eich eiddo yn cael eu dwyn o’ch cartref neu eu difrodi gan dân neu lifogydd, er enghraifft.

Yswirio eich car

Os oeddech wedi’ch enwi fel gyrrwr ar yswiriant car cyn partner, efallai nad oes gennych ostyngiad ‘dim hawliau o’r polisi’ eich hun.

Mae hyn yn ostyngiad oddi ar bris llawn yswiriant y byddwch yn ennill am bob blwyddyn pan na fyddwch yn hawlio o’r polisi.

Os nad oes gennych ostyngiad dim hawliau o’r polisi, gall fod yn anodd cael pris am yswiriant car gan rai cwmnïau, a ble gallwch gael dyfynbris, mae’r premiymau yn debygol o fod yn uwch.

Yswirio eich anifail anwes

Efallai y credwch fod yswiriant anifeiliaid anwes yn ychwanegiad moethus y gallwch ei wneud hebddo pan fyddwch yn delio â phwysau eraill wrth wahanu.

Ond cyn i chi benderfynu – ystyriwch sut fyddech yn talu bil milfeddyg pe byddai’ch anifail yn sâl neu’n cael damwain.

Os ydych yn penderfynu prynu yswiriant anifail anwes, mae’n werth gwybod y gall polisïau amrywio. Mae rhai yn talu am gyfnod cyfyngedig o amser, tra bydd eraill yn talu am gyflyrau parhaus - fel arthritis neu ddiabetes er enghraifft.

Yswirio eich teclynnau

Os oes gennych ffôn symudol drud, cyfrifiadur llechen neu liniadur, efallai hoffech gymryd yswiriant rhag ofn:

  • y byddwch yn eu colli
  • eu bod yn cael eu dwyn neu
  • os ydynt yn cael eu difrodi.

Gwiriwch eich polisi yswiriant cartref yn gyntaf, gan y gallai hyn yswirio eich teclynnau yn barod. Os na, efallai hoffech brynu polisi penodol.

Ond gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio gwybodaeth y polisi fel eich bod yn gwybod am beth y bydd y polisi yn ei dalu.

Eich cam nesaf

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.