Skip to content
Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
    • Credyd Cynhwysol

      Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    • Budd-daliadau os oes gennych blant

      Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    • Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

      Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    • Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

      Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    • Budd-daliadau a gwaith

      Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    • Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

      Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    • Problemau gyda budd-daliadau

      Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    • Budd-daliadau

      Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Bancio a thaliadau

      Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    • Cyllidebu

      Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    • Prynu a rhedeg car

      Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    • Credyd

      Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    • Yswiriant

      Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    • Arian bob dydd

      Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Canfyddwr prisiau Petrol

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Dod yn rhiant

      Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    • Marwolaeth a phrofedigaeth

      Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    • Ysgariad a gwahanu

      Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    • Salwch ac anabledd

      Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    • Gofal tymor hir

      Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    • Arian myfyrwyr a graddedigion

      Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    • Siarad am arian

      Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    • Teulu a gofal

      Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Morgeisi a phrynu cartref

      Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    • Rhentu

      Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau

    • Cartrefi

      Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Help gyda chostau byw

      Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    • Delio â dyled

      Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    • Problemau a chwynion am arian

      Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    • Sgamiau

      Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    • Problemau ariannol

      Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Rheoli a chronni’ch pensiwn

      Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn

    • Esbonio pensiynau

      Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion

    • Problemau a newidiadau pensiwn

      Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno

    • Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau

      Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da

    • Pensiwn y Wladwriaeth

      Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu

    • Cymryd eich pensiwn

      Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau

    • Treth a phensiynau

      Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio

    • Gwneud y mwyaf o’ch pensiwn

      Deall eich opsiynau pensiwn a chyfrifo eich incwm a chostau ymddeoliad

    HOLL BENSIYNAU AC YMDDEOLIAD

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Cael arweiniad ymddeoliad

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

    • Sut i gynilo

      Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    • Buddsoddi

      Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    • Math o gynilion

      Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    • Cynilion

      Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Cyflogaeth

      Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    • Colli eich swydd

      Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    • Hunangyflogaeth

      Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    • Gwaith

      Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cyflog

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
    • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    • Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    • Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    • Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    • Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    • Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    • Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    • Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    • Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    • Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    • Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    • Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    • Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Canfyddwr prisiau Petrol

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    • Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    • Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    • Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    • Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    • Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    • Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    • Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Morgeisi a phrynu cartref Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    • Rhentu Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau
    • Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    • Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    • Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    • Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    • Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Rheoli a chronni’ch pensiwn Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn
    • Esbonio pensiynau Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion
    • Problemau a newidiadau pensiwn Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno
    • Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da
    • Pensiwn y Wladwriaeth Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu
    • Cymryd eich pensiwn Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau
    • Treth a phensiynau Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio
    • Gwneud y mwyaf o’ch pensiwn Deall eich opsiynau pensiwn a chyfrifo eich incwm a chostau ymddeoliad

    HOLL BENSIYNAU AC YMDDEOLIAD

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Cael arweiniad ymddeoliad

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

    • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    • Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    • Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    • Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    • Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    • Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    • Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cyflog

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Arian bob dydd
  3. Yswiriant
Arian bob dydd Yswiriant

Yswiriant anifeiliaid anwes - oes ei angen arnoch?

Mae yswiriant anifeiliaid anwes yn ffordd o’ch diogelu rhag costau annisgwyl mewn perthynas â’ch anifail anwes. Darganfyddwch sut mae yswiriant anifeiliaid anwes yn gweithio, beth i edrych amdano, faint y gallai ei gostio a rhai o'r pethau eraill i'w hystyried os ydych yn ystyried prynu polisi. 

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Beth mae yswiriant anifeiliaid anwes yn ei wneud?
  • A oes angen yswiriant anifeiliaid anwes arnaf?
  • Beth all yswiriant anifeiliaid anwes ei gwmpasu?
  • Mathau o yswiriant anifeiliaid anwes
  • Sut i brynu yswiriant anifeiliaid anwes
  • Pum peth i feddwl amdanynt wrth brynu yswiriant anifeiliaid anwes
  • Sut i ganslo yswiriant anifail anwes

Beth mae yswiriant anifeiliaid anwes yn ei wneud?

Mae'r rhain yn bolisïau sy'n eich helpu i dalu cost triniaeth filfeddygol a threuliau meddygol pan fydd anifail anwes yn cael ei anafu neu'n mynd yn sâl.

Gall y polisïau sydd ar gael amrywio'n sylweddol o ran cost, yr hyn meant yn ei gwmpasu a'r hyn nad ydynt yn ei gynnwys.

Mae'r polisïau mwy cynhwysfawr yn ymdrin â:

  • costau deintyddol
  • colli anifail anwes trwy ladrad 
  • atebolrwydd trydydd parti - lle mae anifail anwes wedi achosi difrod neu niwed i eiddo neu berson.
Nol i’r brig

A oes angen yswiriant anifeiliaid anwes arnaf?

Os nad ydych yn siŵr a yw yswiriant anifeiliaid anwes yn werth chweil, ystyriwch sut y byddech yn delio â bil annisgwyl. Mae ffioedd milfeddyg wedi cynyddu, a gall triniaethau redeg i mewn i'r cannoedd ac yn aml miloedd o bunnoedd.

Bydd angen i chi gydbwyso hyn â chost eich premiymau a'r tebygolrwydd y byddwch yn gwneud cais yn erbyn yr yswiriant.

Mae p'un a yw'n werth trefnu yswiriant anifeiliaid anwes yn dibynnu ar sawl ffactor gwahanol:

Er enghraifft:

Pa mor hen yw'ch anifail anwes?

Gall anifeiliaid hŷn gostio mwy i yswirio, ond yn aml maent yn fwy tebygol o fod angen sylw meddygol. 

Y math o anifail anwes sydd gennych

Mae’r rhan helaeth o bolisïau yswiriant anifeiliaid anwes yn cael eu trefnu ar gyfer cathod a chŵn ac mae’n hawdd dod o hyd i yswirwyr ar gyfer yr anifeiliaid hynny. Fodd bynnag, bydd y costau yn amrywio, yn enwedig os oes gennych frîd o gi neu gath sy'n tueddol o gael problemau iechyd. 

Mae yswiriant ar gyfer mamaliaid llai fel bochdewion, gerbilod a chwningod ar gael. Ond gan nad ydynt yn byw yn hir, efallai nad yw’n werth da am arian.

Mae anifeiliaid anwes egsotig, fel madfallod, nadroedd a pharotiaid yn anoddach i’w hyswirio gan nad oes yna lawer o gwmnïau yn cynnig y gwasanaeth hwn. Mae’n werth edrych o gwmpas.

Allwch chi hunan yswirio?

Hunan yswiriant yw pan fydd gennych ddigon o arian wedi'i gynilo i dalu am unrhyw driniaeth milfeddygol sydd ei hangen yn hytrach na phrynu yswiriant. Mae hwn yn ddewis arall dilys, ond mae angen llawer o ddisgyblaeth arnoch i wneud yn siŵr bod arian bob amser ar gael, yn enwedig os oes rhaid i chi dalu am ofal drud, parhaus.

Faint o risg sydd gan eich anifail anwes

Er enghraifft, gall cŵn a chathod pedigri fod yn fwy tueddol o gael clefydau cynhenid a chyflyrau etifeddol.

Maent hefyd yn fwy tebygol o gael eu dwyn. Yn yr un modd, mae rhai bridiau yn fwy agored i broblemau penodol - er enghraifft, mae cŵn mwy yn fwy tebygol o ddioddef o broblemau ar eu cymalau. 

Nol i’r brig

Beth all yswiriant anifeiliaid anwes ei gwmpasu?

Fel mathau eraill o yswiriant, gall polisïau yswiriant anifeiliaid anwes amrywio'n fawr.

Gellir rhannu'r yswiriant sydd ar gael yn gostau sy'n gysylltiedig â biliau milfeddyg, a'r eitemau ar ben y rheini.

Biliau milfeddyg

Gall y rhain fod yn annisgwyl ac yn aml yn ddrud. I’w sicrhau yn eu herbyn yw'r prif reswm y mae pobl yn cymryd yswiriant anifeiliaid anwes.

Gwiriwch eich polisi yn ofalus i ddeall yn union yr hyn y gellir hawlio amdano, faint y byddwch chi'n ei gael ac am ba hyd.

Dyma rhai triniaethau y gellir eu cynnwys:

  • Costau cyffredinol milfeddyg - gan gynnwys ystod o driniaethau ar gyfer damweiniau, anafiadau a salwch.
  • Cyflyrau etifeddol a chynhenid ​​- yn gyffredinol, nid yw'r rhain yn cael eu dosbarthu fel amodau presennol neu barhaus. Fodd bynnag, bydd angen i chi sicrhau bod y sicrwydd yn ‘ddigyfyngiad’ yn hytrach na dim ond o dan rai amgylchiadau.
  • Cyflyrau hirdymor a chyflyrau sy'n bodoli eisoes – fel arfer dim ond os oes gennych bolisi gydol oes y cânt eu cynnwys. Os byddwch chi'n newid yswiriwr, efallai y byddwch chi'n colli eich yswiriant ar gyfer y gyflyrau hyn. Edrychwch ar y polisi unigol i ddarganfod faint o yswiriant sydd gennych yn y maes hwn.
  • Gofal deintyddol - wedi'i gwmpasu ar rai polisïau yswiriant anifeiliaid anwes, ond nid pob un. Fel arfer mae'n cynnwys gofal deintyddol sy'n ofynnol oherwydd damwain, salwch neu anaf, ond nid ar gyfer gwaith cosmetig.
  • Gellir cynnwys triniaethau amgen - fel homeopathi, aciwbigo a ffisiotherapi - trwy eich yswiriant anifeiliaid anwes os argymhellir gan filfeddyg.
  • Risgiau neu gostau bridio - os ydych yn bwriadu defnyddio'ch anifail anwes i fridio, bydd angen i chi sicrhau bod hyn yn cael ei gynnwys yn y polisi. Bydd ysbio neu ysbaddu eich anifail anwes fel arfer yn arwain at ostyngiad premiwm yswiriant.

Ymunwch â'n grŵp Facebook

Ymunwch â'n grŵp Facebook Budgeting and Saving preifat i gael awgrymiadau a chefnogaeth i arbed arian gan gymuned o gynilwyr. 

Beth arall y gellir ei gynnwys

  • Colli neu ddwyn eich anifail anwes. Sicrhewch fod hyn yn talu am bris prynu eich anifail anwes, y gallai fod angen prawf arnoch, fel arall gallai eich yswiriwr dalu ‘gwerth y farchnad’. Efallai y bydd y cwmni yswiriant hefyd yn talu tuag at gost hysbysebu eich anifail anwes coll (£300 neu fwy) a chost gwobr am ei adfer (£250 neu fwy). Bydd rhai polisïau yn cynnig digon o yswiriant i gymryd lle eich anifail anwes os nad ydyn nhw wedi dod o hyd iddyn nhw.
  • Triniaeth ar gyfer problemau ymddygiad. Dylai hyn hefyd gael ei gwmpasu mewn polisi da, ac mae angen i'r yswiriant fod am £500 neu fwy. Efallai y bydd angen i'r driniaeth hefyd gael ei chynnal gan sefydliad proffesiynol neu o dan gyfarwyddyd milfeddyg.
  • Marwolaeth oherwydd salwch neu anaf. Efallai y bydd angen i chi drefnu i filfeddyg cymwys ardystio achos y farwolaeth. Mae terfyn oedran fel arfer yn berthnasol i yswiriant ar gyfer marwolaeth oherwydd salwch. Dylai polisi da hefyd gwmpasu ewthanasia os oes rhaid rhoi eich anifail anwes i lawr.
  • Yswiriant atebolrwydd. Mae hwn ar gael ar gyfer cŵn yn unig, a bydd yn talu am unrhyw gostau rydych chi'n gyfreithiol gyfrifol am eu talu os yw digwyddiad sy'n ymwneud â'ch ci yn achosi anaf i rywun neu ddifrod i eiddo. Mae'r yswiriant fel arfer am £1 miliwn neu fwy, ond dim ond y costau y mae'r yswiriwr wedi cytuno iddynt fydd yn cael eu talu. Mae'r mwyafrif o bolisïau hefyd yn nodi na ddylech gyfaddef atebolrwydd. Gallwch gael yswiriant anifeiliaid anwes naill ai dim ond i gwmpasu'r sefyllfa hon (trydydd parti) neu fel rhan o bolisi yswiriant anifeiliaid anwes mwy cynhwysfawr. Mae'r Dogs Trust yn cynnig yswiriant trydydd parti hyd at £1 miliwnYn agor mewn ffenestr newydd fel rhan o'i aelodaeth. 
  • Ffioedd catri a chynelau. Mae hyn os oes rhaid i chi fynd i'r ysbyty am fwy na phedwar diwrnod yn olynol. Rhaid i'r yswiriant fod am £500 neu fwy.
  • Unrhyw driniaeth frys y gallai fod ei hangen ar eich anifail anwes wrth deithio dramor. Rhaid i'r yswiriant fod am £1,500 neu fwy.
Nol i’r brig

Mathau o yswiriant anifeiliaid anwes

Mae pedwar prif fath o yswiriant anifeiliaid anwes - Oes, Blynyddol (neu derfyn amser), Damwain yn unig ac Uchafswm budd-dal.

Oes

Dyma'r math mwyaf cynhwysfawr o sicrwydd y gallwch ei gael.

Rydych yn talu premiymau bob blwyddyn yn ystod oes eich anifail anwes, a bydd yn rhaid i'r yswiriwr ddal ati i ddarparu yswiriant- waeth beth yw’r oedran neu unrhyw amodau sy'n bodoli (yn destun i amodau).

Wrth i'ch anifail anwes heneiddio, mae'n debygol y bydd eich premiymau'n cynyddu.

Blynyddol (neu derfyn amser)

Rydych yn talu gwerth 12 mis o sicrwydd ar sail dreigl. Mae hyn yn rhoi'r opsiwn i chi newid i bolisi rhatach bob blwyddyn.

Mae'r math hwn o bolisi yn costio llai, ond gallai gynnig yswiriant llai cynhwysfawr ac yn gyffredinol ni fydd yn ymdrin ag amodau sy'n bodoli eisoes.

Byddwch hefyd yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i yswiriant wrth i'ch anifail anwes heneiddio.

Damwain yn unig

Y lefel fwyaf sylfaenol a rhataf o sicrwydd sydd ar gael. Mae'n cynnwys damweiniau (fel eich ci yn cael ei daro gan gar), ond nid salwch. 

Uchafswm buddion

Fe'i gelwir hefyd yn ‘fesul cyflwr’, mae’r sicrwydd hwn yn darparu swm sefydlog i drin pob salwch neu anaf cyhyd â bod y polisi’n parhau mewn grym. 

Nol i’r brig

Sut i brynu yswiriant anifeiliaid anwes

Gall yswiriant anifeiliaid anwes fod yn gymharol ddrud, felly mae'n werth edrych o gwmpas am y fargen orau.

Mae gwefannau cymhariaeth yn lle da i ddechrau. Ond nid ydynt i gyd yn cwmpasu'r farchnad gyfan. Felly defnyddiwch ychydig o wefannau gwahanol i sicrhau nad ydych yn colli unrhyw fargeinion da.

Edrychwch ar y tablau cymharu yswiriant anifeiliaid anwes ar wefan Which?
 
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i ddod o hyd i'r cynnig gorau ar eich yswiriant gan ddefnyddio gwefannau cymharu prisiau

Mae sawl manwerthwr yn gwerthu yswiriant anifeiliaid anwes, a gallwch hefyd ei brynu'n uniongyrchol gan yswirwyr.

Ymhlith yr arbenigwyr yn y farchnad hon mae Petplan a Healthy Pets.

Efallai y byddwch chi'n gallu cael y pedair neu bum wythnos gyntaf o yswiriant am ddim, o dan gytundeb y mae llawer o fridwyr a llochesi anifeiliaid anwes bellach yn ei gynnig.

Os oes gennych anifail anwes egsotig yr ydych yn cael trafferth dod o hyd i yswiriant ar ei gyfer, efallai y bydd brocer yn gallu helpu.

Gallwch ddod o hyd i frocer arbenigol yn BIBA

Help gyda chostau byw

Poeni am arian oherwydd rhenti cynyddol, biliau ynni uchel neu ddyled? Os felly, rydym yma i helpu.

Cymerwch y camau cyntaf i ddod o hyd i’ch ffordd ymlaen gyda’n canllawiau i’ch helpu gyda chostau byw.

Nol i’r brig

Pum peth i feddwl amdanynt wrth brynu yswiriant anifeiliaid anwes

1. Oedran eich anifail anwes

Mae'n anoddach dod o hyd i orchudd ar gyfer cŵn a chathod hŷn, gan eu bod yn fwy tebygol o fod angen triniaeth.

Dim ond os yw'ch anifail anwes o dan wyth neu naw oed, neu hyd yn oed yn iau ar gyfer rhai bridiau arbennig, y bydd rhai yswirwyr yn gadael i chi weithredu polisi newydd.

Efallai nad prynu polisi oes pan fyddant yn ifanc yw'r opsiwn rhataf, ond mae'n gwarantu bod eich anifail anwes bob amser yn cael yswiriant - hyd yn oed ar gyfer salwch hirdymor.

2. Byddwch yn onest am eu hanes meddygol

Rhaid i chi ddatgan unrhyw amodau sy'n bodoli eisoes wrth geisio cael yswiriant ar gyfer eich anifail anwes. Fel arall, gallai'r polisi fod yn ddi-rym a gwrthod eich cais.

Os oes gan eich anifail anwes gyflwr sy'n bodoli eisoes, efallai y byddwch chi'n dal i allu dod o hyd i fargen - ond mae'n debyg na fyddwch yn cael unrhyw yswiriant ar gyfer y cyflwr sy'n bodoli eisoes.

3. Byddwch yn graff gyda gormodedd

Dyma swm yr hawliad rydych yn cytuno i'w dalu ymlaen llaw. Mae rhai yswirwyr yn gofyn am ormodedd ar sail canran yn ogystal â ffi unffurf.

Gelwir hyn yn ‘ormodedd cyd-yswiriant’ a gallai fynd yn ddrud iawn os ydych yn talu biliau milfeddyg mawr.

Felly edrychwch am bolisi sy'n codi dim ond un ffi dros ben o £50 i £100.

Hefyd, ceisiwch osgoi polisïau sy'n cynyddu'r swm gormodedd wrth i'ch anifail anwes heneiddio - oni bai y byddai'n well gennych ffi gormodedd uwch yn gyfnewid am bremiymau rhatach.

4. Gwiriwch y gorchudd uchaf ar gyfer ffioedd milfeddygon

Fel arfer, uchafswm yr yswiriant y mae gwahanol fathau o bolisïau yn ei ddarparu ar gyfer biliau milfeddyg yw:

  • £6,000 y flwyddyn am oes
  • £5,000 y cyflwr y flwyddyn am oes
  • cyfanswm o £5,000 neu fwy fesul cyflwr.

5. A allwch chi lehau faint mae eich yswiriant anifail anwes yn ei gostio?

Gall cael eich anifail anwes wedi'i disbaddu neu ei ysbaddu leihau eich premiymau, gan ei fod yn dileu'r risgiau sy'n gysylltiedig â bridio a beichiogrwydd. Fodd bynnag, nid yw cost ysbaddu fel arfer yn cael ei chynnwys gan yswiriant anifeiliaid anwes.

Os oes gennych fwy nag un anifail anwes, fe allech gael yswiriant aml-anifail anwes. Mae hyn yn rhoi gostyngiad i chi ar gyfer unrhyw anifeiliaid dilynol a roddir ar y polisi.

Nol i’r brig

Sut i ganslo yswiriant anifail anwes

Gallwch ofyn i'ch yswiriwr ganslo eich polisi ar unrhyw adeg, ond mae rhai pethau i fod yn ymwybodol ohonynt:

  • gallai yswiriant newydd yn ei le fod yn ddrytach gan fod prisiau'n seiliedig ar oedran eich anifail anwes pan fydd eich polisi yn dechrau
  • os oes gan eich anifail anwes gyflyrau meddygol sy'n bodoli eisoes, ni fyddant fel arfer yn cael eu cynnwys o dan bolisi newydd
  • fel arfer, bydd yn rhaid i chi dalu ffi canslo, oni bai ei fod yn amser adnewyddu.

Os ydych wedi talu ymlaen llaw ac nad ydych wedi gwneud cais, byddwch yn derbyn ad-daliad am y misoedd sy'n weddill – minws unrhyw ffioedd canslo.

Gofynnwch i’ch yswiriwr am help os ydych chi’n cael trafferth talu

Os ydych yn ystyried canslo oherwydd cost neu fforddiadwyedd, mae'n bwysig peidio â chanslo yswiriant rydych ei angen - neu i fethu taliad. Yn hytrach, cysylltwch â'ch yswiriwr a dywedwch wrthynt eich bod chi'n cael trafferth.

Mae'n rhaid i yswirwyr gefnogi cwsmeriaid sydd mewn trafferthion ariannol, felly byddant yn esbonio'ch opsiynau a'r ffyrdd y gallant helpu. Er enghraifft, gallent sefydlu cynllun ad-dalu amgen neu addasu eich yswiriant i gyd-fynd â'ch anghenion a gostwng y gost.

Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook X
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Yswiriant

Diogelu chi a'ch teulu

  • Beth yw yswiriant diogelu incwm?
  • Beth yw yswiriant salwch critigol?
  • Beth yw yswiriant bywyd?
  • Sut i wybod pa fath o yswiriant diogelu sydd ei angen arnoch
  • Yswiriant anifeiliaid anwes - oes ei angen arnoch?
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Diogelu chi a'ch teulu

  • Beth yw yswiriant diogelu incwm?
  • Beth yw yswiriant salwch critigol?
  • Beth yw yswiriant bywyd?
  • Sut i wybod pa fath o yswiriant diogelu sydd ei angen arnoch
  • Yswiriant anifeiliaid anwes - oes ei angen arnoch?
Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Llywodraeth EF
Trustpilot
Plain Numbers Working Together logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2026 Money and Pensions Service, Borough Hall, Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Opsiynau cyswllt Cau

Cysylltwch â ni

Dechrau gwesgwrs

Dydd Llun i ddydd Gwener: 9am i 5pm

Dydd Sadwrn, dydd Sul, gwyliau banc: ar gau

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau, ac yna’n eich cysylltu ag arbenigwr.

Siaradwch â ni dros y ffôn

Dydd Llun i ddydd Gwener: 9am i 5pm
Dydd Sadwrn, dydd Sul, gwyliau banc: ar gau

Mae galwadau yn y DU am ddim ac efallai y cânt eu recordio er mwyn gwella ein gwasanaeth.

Anfonwch e-bost gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein

Ymateb mewn 3 diwrnod gwaith

Os bydd gwell gennych ysgrifennu atom, llenwch ein ffurflen ar-lein.

Atebwch ychydig o gwestiynau ac yna bydd gennych le i ysgrifennu gymaint o fanylion a hoffech.

Sgwrsiwch gyda ni’n fyw gan ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch yr ap: WhatsApp

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau, ac yna’n eich cysylltu ag arbenigwr.

Byddwn yn ymateb rhwng dydd Llun i dydd Gwener, 9am i 5pm (heblaw am wyliau banc).

Opsiynau hygyrchedd

  • Relay UK

    Relay UK logo

    Defnyddiwch y gwasanaeth cyfrinachol i deipio negeseuon atom gan ddefnyddio ffôn testun neu ap.

    Ewch i Relay UK
  • BSL

    British Sign Language logo

    Gwell gennych ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain? Defnyddiwch y gwasanaeth am ddim hon i gyrchu dehonglydd BSL – dewiswch bwnc o’r rhestr ‘department’.

    Cysylltu â InterpretersLive!Yn agor mewn ffenestr newydd

  • Cyfieithydd

    Interpreter logo

    Os nad Saesneg neu Gymraeg yw eich iaith gyntaf, gallwn ddod o hyd i gyfieithydd i helpu.

    Ffoniwch 0800 756 1012