Skip to content
Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Canfyddwr prisiau Petrol

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Morgeisi a phrynu cartref

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Rheoli a chronni’ch pensiwn

    Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn

    Esbonio pensiynau

    Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion

    Problemau a newidiadau pensiwn

    Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno

    Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau

    Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu

    Cymryd eich pensiwn

    Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau

    Treth a phensiynau

    Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio

    Gwneud y mwyaf o’ch pensiwn

    Deall eich opsiynau pensiwn a chyfrifo eich incwm a chostau ymddeoliad

    HOLL BENSIYNAU AC YMDDEOLIAD

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Cael arweiniad ymddeoliad

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cyflog

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Canfyddwr prisiau Petrol

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Morgeisi a phrynu cartref Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Rheoli a chronni’ch pensiwn Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn
    Esbonio pensiynau Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion
    Problemau a newidiadau pensiwn Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno
    Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da
    Pensiwn y Wladwriaeth Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu
    Cymryd eich pensiwn Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau
    Treth a phensiynau Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio
    Gwneud y mwyaf o’ch pensiwn Deall eich opsiynau pensiwn a chyfrifo eich incwm a chostau ymddeoliad

    HOLL BENSIYNAU AC YMDDEOLIAD

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Cael arweiniad ymddeoliad

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cyflog

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Teulu a gofal
  3. Marwolaeth a phrofedigaeth
Teulu a gofal Marwolaeth a phrofedigaeth

Sut i roi trefn ar ystâd pan fydd rhywun yn marw yn gadael ewyllys: canllaw cam wrth gam

Mae rhoi trefn ar ystâd rhywun, sef popeth yr oeddent yn berchen arno gan gynnwys arian, eiddo a meddiannau, yn ogystal ag unrhyw ddyledion, yn broses sylweddol. Gall deimlo’n frawychus, hyd yn oed pan fo cyfarwyddiadau clir mewn ewyllys. Mae’r canllaw hwn yn eich tywys drwy’r hyn sydd angen i chi ei wneud, gam wrth gam. 

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Cam 1: Deall beth mae rhoi trefn ar yr ystâd yn ei olygu
  • Cam 2: Penderfynu pwy ddylai ddelio â’r ewyllys a deall cyfrifoldebau’r ysgutor
  • Cam 3: Dewch o hyd i’r ewyllys a chasglu dogfennau allweddol
  • Cam 4: Sut i brisio ystâd ar gyfer profiant
  • Cam 5: Cyfrifo Treth Etifeddiant
  • Cam 6: Gwneud cais am brofiant neu gadarnhad
  • Cam 7: Casglu asedau’r person
  • Cam 8: Talu dyledion a threthi
  • Cam 9: Dosbarthu’r ystâd

Cam 1: Deall beth mae rhoi trefn ar yr ystâd yn ei olygu

Gall gwybod ble i ddechrau pan fydd rhywun sy’n bwysig i chi wedi marw deimlo’n llethol, ar ben popeth arall rydych yn mynd drwyddo. Am help ar beth i'w wneud yn ystod y cyfnod anodd hwn, darllenwch ein canllaw Beth i'w wneud pan fydd rhywun yn marw.

Unwaith y byddwch chi'n barod i ddelio â'r ystâd ei hun, mae dwy brif ran i'r broses.

  1. Y cyntaf yw gwneud cais am Grant Profiant (Grant of Confirmation yn yr Alban) ac adrodd i CThEF (os oes angen). Mae hon yn ddogfen gyfreithiol sy'n rhoi'r awdurdod i'r ysgutor ddelio â'r ystâd yn unol â'r cyfarwyddiadau yn yr ewyllys.
  2. Yr ail yw cwblhau'r gwaith o weinyddu’r ystâd. Unwaith y bydd gan yr ysgutor y Grant Profiant, ac wedi cymryd y cyfrifoldeb sy'n dod gydag ef, gallant ddechrau cadarnhau asedau'r person a'u dosbarthu i'r buddiolwyr (pobl neu sefydliadau sydd wedi'u henwi yn yr ewyllys i etifeddu).

Beth yw profiant a pha mor hir mae’n ei gymryd?

Profiant yw’r ddogfen gyfreithiol sy’n caniatáu i ysgutor ewyllys roi trefn ar ystâd person yn unol â’r cyfarwyddiadau yn yr ewyllys. 

Os oes ewyllys, a'ch bod yn byw yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon, byddwch yn gwneud cais am Grant Profiant, a elwir hefyd yn Grant Cynrychiolaeth. Yn yr Alban, gelwir hyn yn Grant of Confirmation.

Pryd efallai na fydd angen profiant gydag ewyllys

Efallai na fydd angen i chi wneud cais am brofiant os:

  • oedd yr ystâd yn cael ei dal ar y cyd â'r priod neu'r partner sifil sy'n goroesi, fel cyfrif banc ar y cyd gan fod hyn yn trosglwyddo'n uniongyrchol i'r cydberchennog. Mae rhai asedau sy'n eiddo ar y cyd yn yr Alban yn trosglwyddo'n awtomatig i'r perchennog sy'n goroesi pan fydd un person yn marw. Mae hyn yn aml yn berthnasol i gartrefi sy'n eiddo ar y cyd a rhai cynilion neu fuddsoddiadau. Os nad yw asedau'n trosglwyddo’n awtomatig, efallai y bydd angen i'r ysgutor gael cadarnhad cyn y gellir ymdrin â nhw.
  • nid yw'r ystâd yn cynnwys tir, eiddo na chyfranddaliadau
  • mae'r arian a gedwir yng nghyfrifon y person sydd wedi marw yn dod o fewn terfynau'r banc, sy'n amrywio yn dibynnu ar y darparwr.

Yn y sefyllfaoedd hyn, mae angen i chi gysylltu â'r banc neu'r gymdeithas adeiladu i roi gwybod iddynt fod y person wedi marw.

Efallai y byddant yn gofyn am gopi o'r dystysgrif marwolaeth fel tystiolaeth, a gall y priod sy'n goroesi barhau i gael mynediad i'r cyfrif ar y cyd fel arfer.

Nol i’r brig

Cam 2: Penderfynu pwy ddylai ddelio â’r ewyllys a deall cyfrifoldebau’r ysgutor

Pan fydd rhywun yn gadael ewyllys, fel arfer byddant wedi dewis o leiaf un person i weithredu fel ysgutor. Mae hwn yn aml yn berthynas neu'n ffrind, er weithiau mae'n gyfreithiwr, cyfrifydd, banc neu gwmni profiant arbenigol.

Os mai chi yw'r ysgutor, rydych chi'n gyfrifol am gael profiant. Gallwch naill ai ddefnyddio arbenigwr profiant, a all gostio miloedd o bunnoedd, neu ei weinyddu eich hun, sydd fel arfer yn costio ychydig gannoedd o bunnoedd. Telir y costau hyn fel arfer o'r ystâd, ar yr amod bod digon o arian ar gael.

Os oes mwy nag un ysgutor

Os yw'r ewyllys yn enwi mwy nag un ysgutor, bydd angen i chi benderfynu rhyngoch chi pwy fydd yn gwneud cais am brofiant. Os nad ydych mewn cysylltiad â'r ysgutorion eraill, bydd angen i chi ddangos eich bod wedi ceisio cysylltu â nhw cyn mynd ati.

Yng Nghymru a Lloegr, os nad yw unrhyw ysgutor a enwir eisiau gwneud cais ar hyn o bryd, mae ganddyn nhw rai opsiynau. Gallant roi'r gorau i'w hawl i wneud cais yn barhaol, neu gamu'n ôl wrth ganiatáu i rywun arall wneud cais, gan gadw'r hawl i wneud cais yn ddiweddarach os ydyn nhw'n newid eu meddwl. Mae'r sefyllfa ychydig yn wahanol yn yr Alban a dylid cael cyngor cyfreithiol yr Alban.

Gall unrhyw un sydd â'r hawl i wneud cais am grant profiant roi'r gorau i'r hawl honno trwy lofnodi ffurflen ymwrthod. Fodd bynnag, unwaith y bydd ysgutor wedi dechrau gweithredu ar ran yr ystâd, ni allant roi'r gorau i'r rôl mwyach. Gallai hyn gynnwys pethau fel casglu neu gael gwared ar eiddo yr ymadawedig, talu dyledion, neu redeg busnes ar ran yr ystâd.

Gallwch ddarganfod mwy am wneud cais am brofiant os oes ewyllysYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK. 

Os na all yr un o’r ysgutorion wneud cais

Os yw'r ysgutorion a enwir yn yr ewyllys wedi marw cyn y person a wnaeth yr ewyllys, neu na allant wneud cais am reswm arall, gall rhywun arall wneud cais yn eu lle. Mae pwy all wneud hyn yn dibynnu ar bwy sy'n etifeddu o dan yr ewyllys. Mae'r ewyllys yn dal i fod yn ddilys hyd yn oed os na all yr ysgutorion wneud cais. Mae'r rheolau sy'n llywodraethu pwy all wneud cais yn wahanol ledled y DU a dylid cael cyngor cyfreithiol os oes unrhyw ansicrwydd.

Yng Nghymru a Lloegr, gelwir y grant y gwneir cais amdano yn 'Grant Llythyrau Gweinyddu gydag Ewyllys ynghlwm’ ond mae'r broses o weinyddu’r ystâd fwy neu lai yr un fath â phan fydd yr ysgutorion yn gwneud cais am y Grant Profiant. 

Mae'r sefyllfa yn yr Alban yn wahanol, a dylid cael cyngor cyfreithiol arbenigol yn yr amgylchiadau hyn.

Sut i wneud cais am brofiant eich hun

Os ydych chi'n teimlo'n barod i ymgymryd â hyn, gall gwneud y gwaith eich hun arbed swm sylweddol o arian, a gallwch dalu cyfreithiwr am dasgau llai, fel gwirio’r ffurflenni.

Os penderfynwch wneud hyn, rydych chi'n gyfrifol yn gyfreithiol am sicrhau bod unrhyw ddyledion a threthi yn cael eu talu cyn i'r ystâd gael ei ddosbarthu i’r buddiolwyr.

Yng Nghymru a Lloegr, fel arfer gallwch wneud cais am brofiant ar-lein os mai chi yw’r ysgutor, bod gennych yr ewyllys wreiddiol a mwyaf diweddar, y dystysgrif marwolaeth wreiddiol neu dros dro, a’ch bod eisoes wedi adrodd gwerth yr ystâd. Mae gweithdrefnau gwahanol yn berthnasol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. 

Yn yr Alban, rhaid i ysgutorion wneud cais i'r Llys Siryf perthnasol am Gadarnhad. Nid yw'n bosibl gwneud cais am Gadarnhad ar-lein.

  • Mae angen i chi roi gwybod am werth yr ystâdYn agor mewn ffenestr newydd, gallwch wneud hyn ar GOV.UK.
  • Dechreuwch eich cais ar-lein am brofiantYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK. 

Defnyddio arbenigwr profiant

Os ydych chi'n defnyddio cyfreithiwr neu arbenigwr profiant, fel arfer gallwch adennill eu costau cyfreithiol rhesymol o'r ystâd. Nid oes rheol benodol ynghylch yr hyn sy'n cyfrif yn rhesymol, felly mae'n werth cadw hyn mewn cof a thrafod costau ymlaen llaw. Bydd llawer o arbenigwyr profiant hefyd yn cynnig opsiwn ffi sefydlog a all roi sicrwydd ynghylch y costau.

Mae gan fuddiolwyr hawl i weld y treuliau profiant, ac os ydynt yn teimlo bod y costau a godir i'r ystâd yn afresymol, gallant gymryd camau cyfreithiol. Mae'n werth bod yn ymwybodol o hyn os ydych chi'n dewis defnyddio arbenigwr.

Mae'r rhan fwyaf o arbenigwyr profiant yn hapus i helpu gyda'r rhannau technegol yn unig, fel ffeilio'r ffurflen dreth etifeddiant gyda CThEF a gwneud cais am y grant. Gallwch wedyn ofalu am weddill yr ystâd eich hun ar ôl i’r grant gael ei roi. 

Nol i’r brig

Cam 3: Dewch o hyd i’r ewyllys a chasglu dogfennau allweddol

Mae’r dasg ymarferol gyntaf yn cynnwys rhywfaint o chwilio a gwaith papur. Bydd angen i chi ddod o hyd i’r ewyllys a chasglu copïau o rai dogfennau allweddol. 

Efallai bod y person a fu farw wedi dweud wrthych chi, perthynas neu ffrind ble mae'r ewyllys wedi'i chadw. Mae hefyd yn werth gwirio am godisil, sef dogfen gyfreithiol rwymol sy'n gwneud newidiadau i'r ewyllys wreiddiol, a llythyr dymuniadau, nad yw'n gyfreithiol rwymol ond a all esbonio agweddau ar yr ewyllys neu ddymuniadau ynghylch yr angladd.

Mae'r dogfennau sy'n ofynnol yn amrywio ledled y DU. Efallai y bydd angen sawl copi ardystiedig o'r ewyllys, tystysgrif geni, tystysgrif marwolaeth, unrhyw godisiliau, a thystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil os yw'n berthnasol. Os nad ydych yn gwneud cais ar-lein, bydd angen y rhain arnoch i’w hatodi i’r ffurflenni profiant ac i gael mynediad at gyfrifon, buddsoddiadau neu yswiriant bywyd y person a fu farw.

Os nad ydych chi'n siŵr ble i chwilio am ewyllysYn agor mewn ffenestr newydd, ewch i GOV.UK am arweiniad. 

Nol i’r brig

Cam 4: Sut i brisio ystâd ar gyfer profiant

Cyn gwneud cais am brofiant, neu gadarnhad yn yr Alban, bydd angen i chi brisio'r ystâd. I wneud hyn, bydd angen i chi:

  • ddod o hyd i werth asedau fel eiddo, pensiynau, cynilion, cyfranddaliadau, gemwaith neu gasgliadau gwerthfawr, gan gael prisiad proffesiynol am unrhyw beth rydych chi'n meddwl sy'n werth mwy na £500
  • cynnwys gwerth unrhyw anrhegion a roddodd y person yn y saith mlynedd cyn iddynt farw, gan y gall rhai o'r rhain fod yn destun Treth Etifeddiant i ddidynnu gwerth unrhyw ddyledion, gan gynnwys morgeisi, cardiau credyd neu fenthyciadau, ynghyd ag unrhyw gostau angladd sy'n cael eu talu o'r ystâd
  • cyfrifo gwerth yr ystâd unwaith y bydd dyledion a chostau eraill wedi'u didynnu.

Bydd angen i chi hefyd gadarnhau a oedd ganddo unrhyw asedau mewn cydberchnogaeth, fel eiddo neu gyfrif banc, gan fod hyn yn effeithio ar yr hyn y mae angen ei gynnwys. 

Sut i brisio asedau sy’n eiddo ar y cyd ar gyfer profiant

Mae sut mae ased sy'n eiddo ar y cyd, fel car, tŷ neu dir, yn cael ei ddal yn effeithio ar sut y caiff ei brisio. Mae dwy brif ffordd y gall pobl fod yn berchen ar rywbeth gyda'i gilydd. Fel arfer, mae asedau’n eiddo naill ai fel ‘cyd-denantiaid’ neu fel ‘tenantiaid cydradd’. 

Mae bod yn berchen ar ased fel cyd-denantiaid yn golygu bod gan y ddau berchennog hawliau cyfartal i'r ased cyfan. Yna mae hyn yn trosglwyddo'n awtomatig i'r perchennog sy'n goroesi pan fydd y llall yn marw. Ni all y person a fu farw adael eu cyfran o'r ased yn eu hewyllys, ond mae angen ei brisio a'i gynnwys wrth gyfrifo Treth Etifeddiant, er efallai na fydd treth yn ddyledus os yw'n dod o fewn y lwfans di-dreth neu os yw'r cyd-berchennog yn briod neu'n bartner sifil.

Mae tenantiaid ar y cyd yn golygu y gall pob perchennog ddal gwahanol gyfran o'r ased, nad yw'n trosglwyddo'n awtomatig i'r perchennog arall. Gall y person a fu farw adael eu cyfran yn eu ewyllys, ac mae angen i'w cyfran gael ei brisio a'i gynnwys wrth gyfrifo Treth Etifeddiant.

Os nad yw'r ased yn cael ei ddal ar y cyd â phriod neu bartner sifil, gallai'r gwerth fod yn destun disgownt cydberchnogaeth a all leihau'r gwerth at ddibenion Treth Etifeddiant.

Yn yr Alban

Yn yr Alban, mae rhywfaint o eiddo cyd-berchnogaeth yn trosglwyddo'n awtomatig i'r perchennog sy'n goroesi pan fydd un person yn marw. Os nad yw eiddo cyd-berchnogaeth yn trosglwyddo’n awtomatig, bydd cyfran y person ymadawedig fel arfer yn rhan o'u hystâd ac yn trosglwyddo o dan eu hewyllys neu'r rheolau diewyllysedd, ond dim ond ar ôl i'r ysgutorion gael Grant of Confirmation.

Cyfrifon banc ar y cyd

Mae cyfrifon banc ar y cyd bron bob amser yn cael eu dal fel tenantiaid ar y cyd. Er bod perchnogaeth fel arfer yn trosglwyddo’n awtomatig i'r deiliad cyfrif sy'n goroesi, bydd angen i chi ei brisio fel rhan o'r ystâd o hyd, fel arfer drwy rannu'r balans â nifer y deiliaid cyfrif, oni bai bod cytundeb yn nodi fel arall.

Mae CThEF yn aml yn edrych yn fanylach ar gyfrifon ar y cyd sydd gan gyplau dibriod neu gyfuniadau eraill, fel rhiant a phlentyn, gan drin pob deiliad fel perchennog cyfran sy’n gymesur â’r hyn a gyfrannodd. Os oes Treth Etifeddiant yn ddyledus ar arian mewn cyfrif ar y cyd, fel arfer deiliad y cyfrif sy’n goroesi ac sy’n etifeddu drwy hawl goroesi sy’n ei thalu, yn hytrach na’r ystâd, oni bai bod yr ewyllys yn nodi fel arall.

Ar gyfer cyfrifon sy’n trosglwyddo’n awtomatig drwy hawl goroesi, mae incwm sy’n codi ar ôl y farwolaeth yn perthyn i’r deiliad sy’n goroesi. Ar gyfer cyfrifon sy’n cael eu dal fel tenantiaid cydradd, mae incwm sy’n ymwneud â chyfran y person a fu farw yn trosglwyddo i’r ystâd.

Yn yr Alban, nid yw'r arian mewn cyfrif banc ar y cyd yn trosglwyddo'n awtomatig i ddeiliad y cyfrif sy'n goroesi. Mae perchnogaeth y cronfeydd yn dibynnu ar:

  • bwy gyfrannodd yr arian mewn gwirionedd, a
  • phwy sydd â hawl i'r arian o dan yr ewyllys neu o dan reolau diewyllysedd yr Alban os nad oes ewyllys.

Os yw'r cyfrif ar y cyd yn enwau priod, mae rhagdybiaeth gyffredinol y bydd pob un wedi cyfrannu'r arian yn gyfartal ond nid yw'r rhagdybiaeth hon yn berthnasol i ddeiliaid cyfrif di-briod.

Ddim yn siŵr am berchnogaeth yr eiddo?

Gallwch ddod o hyd i'r wybodaeth yma am ffi o'r gofrestrfa dir berthnasol ar gyfer y wlad y mae'r eiddo ynddi.

Os oedd yr eiddo yn: Cyswllt:

Cymru a Lloegr

Y Gofrestrfa TirYn agor mewn ffenestr newydd

Yr Alban

Registers of ScotlandYn agor mewn ffenestr newydd

Gogledd Iwerddon

Department of Finance and PersonnelYn agor mewn ffenestr newydd

Ar gyfer asedau eraill fel cyfranddaliadau, cysylltwch â'r cwmni'n uniongyrchol i ddarganfod am fanylion eu perchnogaeth a beth oedd gwerth cyfran y person.

Nol i’r brig

Cam 5: Cyfrifo Treth Etifeddiant

Ar ôl i chi wybod gwerth yr ystâd a’i dyledion, bydd angen i chi gyfrifo faint o Dreth Etifeddiant sy’n ddyledus. Rhaid talu hon o fewn chwe mis o ddiwedd y mis y bu farw’r person; ar ôl hynny codir llog. Er enghraifft, pe bai rhywun yn marw ar 3 Ionawr, byddai angen talu’r Dreth Etifeddiant erbyn 31 Awst. Os na thelir y dreth erbyn hynny, bydd llog yn dechrau cael ei godi o 1 Awst.

Er mwyn osgoi talu llog, mae’n werth ystyried talu rhywfaint o’r dreth neu’r dreth gyfan cyn i chi orffen prisio’r ystâd. Gallwch dalu’r Dreth Etifeddiant i CThEF yn uniongyrchol o gyfrifon banc y person, gan ddefnyddio ffurflenni penodol CThEF. Os byddwch yn ei thalu o’ch arian eich hun yn lle hynny, gallwch ei hadennill o’r ystâd yn ddiweddarach.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Canllaw i Dreth Etifeddiant yn y DU.

Talu Treth Etifeddiant

Fel arfer bydd angen i chi dalu rhywfaint neu'r cyfan o unrhyw Dreth Etifeddiant sy'n ddyledus cyn caiff profiant ei gyhoeddi.

Os ydych chi'n poeni am fforddio'r dreth oherwydd bod angen i chi werthu asedau o'r ystâd yn gyntaf, gallwch ofyn i CThEF am grant ar gredyd, sy'n eich galluogi i gael profiant yn gyntaf fel y gallwch werthu asedau i dalu'r dreth.

Ar ôl i'r Dreth Etifeddiant gael ei thalu, neu cyn hynny os ydych yn gwneud cais am grant ar gredyd, byddwch yn derbyn cod gan CThEF y bydd angen i chi ei ddarparu i'r Gofrestrfa Profiant (neu'r Llys Siryf priodol yn yr Alban) pan fyddwch yn gwneud cais am y grant.

Gallwch ddysgu am dalu Treth Etifeddiant yn gynnarYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK. 

Nol i’r brig

Cam 6: Gwneud cais am brofiant neu gadarnhad

Ar ôl i chi brisio'r ystâd, bydd angen i chi lenwi'r ffurflenni perthnasol a'u hanfon i'ch Cofrestrfa Profiant agosaf (neu'r Llys Siryf priodol yn yr Alban), ynghyd â'r ffi ymgeisio. Os oedd Treth Etifeddiant yn daladwy, bydd angen i chi hefyd ddarparu'r cod a dderbyniwyd gan CThEF. Mae'r union broses yn amrywio yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw.

Fel arfer, ni fydd angen i chi wneud cais am brofiant os oedd yr ystâd yn eiddo ar y cyd ac yn trosglwyddo i briod sy'n goroesi, neu os nad yw'n cynnwys tir, eiddo na chyfranddaliadau.

Os ydych chi'n gwneud cais ar-lein, ni fydd angen i chi lawrlwytho ffurflenni, er bydd angen i chi anfon yr ewyllys wreiddiol. Rhoddir y cyfeiriad cywir i chi unwaith y bydd eich cais wedi'i gwblhau, ac mae'r taliad yn cael ei wneud ar-lein. Bydd angen i chi hefyd lofnodi datganiad o wirionedd sy'n cadarnhau bod y cais yn gywir.

Sut i wneud cais am brofiant yng Nghymru neu Loegr

Gallwch wneud cais am brofiantYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK. Y ffi yw £526 os yw'r ystâd yn werth mwy na £5,000, p'un a ydych chi'n gwneud cais eich hun neu'n defnyddio cyfreithiwr. Os yw'r ystâd yn werth llai na £5,000, nid oes ffi.

Byddwch hefyd angen copïau ychwanegol o'r grant i'w hanfon i bob man sy'n dal asedau'r person, fel banciau. Fel arfer, mae un copi fesul ased yn ddigon. Mae'r rhain yn costio £2 yr un os ydych chi'n eu harchebu pan fyddwch chi'n gwneud cais am y grant, neu £16 yr un os ydych chi'n eu harchebu yn nes ymlaen.

Os ydych ar incwm isel neu'n derbyn budd-daliadau penodol, efallai y byddwch yn gallu cael help gyda'r ffi profiant a ffioedd llys eraillYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK. 

Sut i wneud cais am brofiant yn yr Alban

Mae'r ffurflen sydd ei hangen arnoch yn dibynnu ar faint yr ystâd ac a fu farw'r person cyn neu ar ôl 1 Ionawr 2022. Bydd y ffi Cadarnhau yn amrywio. Cysylltwch â'ch clerc siryf lleol am arweiniad ar y ffi a chwblhau'r ffurflenni.

Darganfyddwch fwy am wneud cais am gadarnhad pan fydd rhywun yn marwYn agor mewn ffenestr newydd ar mygov.scot

Efallai y bydd gennych hawl i gael eich eithrio rhag talu ffiYn agor mewn ffenestr newydd mewn rhai amgylchiadau penodol. Darganfyddwch fwy ar wefan Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd yr Alban. 

Sut i wneud cais am brofiant yng Ngogledd Iwerddon

Cysylltwch â Swyddfa Profiant Belfast i ofyn am apwyntiad. Byddant yn eich helpu i lenwi'r ffurflenni angenrheidiol pan fyddwch chi'n mynychu.

Neu gallwch wneud cais am brofiant ar-leinYn agor mewn ffenestr newydd ar nidirect.

Mae ceisiadau’n dibynnu ar a adawodd y person a fu farw Ewyllys ac ar resymau eraill. Rhaid i chi fod yn 18 oed neu’n hŷn i wneud cais.

Nol i’r brig

Cam 7: Casglu asedau’r person

Gallwch gael mynediad at asedau ariannol y person a fu farw trwy ofyn i fanciau a sefydliadau eraill eu rhyddhau i chi. Mae'n werth agor cyfrif banc ar wahân ar gyfer yr ystâd, a elwir weithiau'n gyfrif ysgutoriaeth, i'w gadw ar wahân i'ch cyllid eich hun a gwneud pethau'n gliriach i fuddiolwyr.

Os byddwch yn agor cyfrif ar wahân, ystyriwch ddefnyddio banc gwahanol i’ch banc eich hun, fel bod unrhyw arian a gedwir yn elwa o ddiogelwch llawn y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS). Er bod yr FSCS yn caniatáu diogelwch dros dro o hyd at £1 miliwn am chwe mis ar gyfer enillion ystâd, y diogelwch safonol yw £120,000 fesul sefydliad ariannol, a all fod yn is na gwerth yr ystâd.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Pa mor ddiogel yw fy nghynilion os bydd fy banc neu gymdeithas adeiladu yn mynd i’r wal? 

Nol i’r brig

Cam 8: Talu dyledion a threthi

Ar ôl i chi gael profiant, gallwch gysylltu â'r sefydliadau sy'n dal asedau'r person a fu farw, fel banciau neu ddarparwyr pensiwn. Yn aml, bydd llog a ffioedd ar ddyledion sydd yn ei enw ef yn unig yn dod i ben ar ôl i chi roi gwybod i’r credydwr, er y bydd fel arfer yn gofyn am gopi o’r llythyr profiant neu gadarnhad yn gyntaf. 

Yna gallwch dalu unrhyw ddyledion a threthi sy'n ddyledus gan gynnwys unrhyw gostau y gellir eu hadennill o'r ystâd. Os yw'r ystâd yn cynnwys eiddo neu gyfranddaliadau, efallai y bydd angen i chi eu gwerthu i dalu'r symiau sy'n ddyledus.

Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:

  • Delio â dyledion rhywun sydd wedi marw 
  • Delio â Threth Incwm a Threth Enillion Cyfalaf pan fydd rhywun yn marw: canllaw cam wrth gam.

Os ydych chi'n gwerthu, dewch o hyd  i gyngor ar brisio eiddo a'r costau sy'n gysylltiedigYn agor mewn ffenestr newydd ar Which?, neu darllenwch ein canllaw  Gwerthu tŷ yn gyflym – cwmnïau gwerthu tai cyflym os ydych chi'n ystyried y llwybr hwn.

Ar gyfer cyfranddaliadau, efallai yr hoffech weinyddu symiau bach eich hun, ond ar gyfer portffolio mwy neu fwy cymhleth, mae'n werth ceisio cyngor proffesiynol.

Hawliau cyfreithiol yn yr Alban

Yn yr Alban, mae gan briod, partner sifil a/neu blant y person a fu farw sy’n goroesi hawl i wneud cais am ran o arian, cynilion, buddsoddiadau ac eiddo’r person a fu farw. Gelwir y ceisiadau hyn yn hawliau cyfreithiol.  

Gall hawliau cyfreithiol fod yn berthnasol p'un a oes ewyllys ai peidio.

Nol i’r brig

Cam 9: Dosbarthu’r ystâd

Ar ôl talu’r holl ddyledion a threthi, gallwch rannu’r ystâd fel y nodir yn yr ewyllys. 

Mae'n syniad da cadw cofnod o'r holl arian sydd wedi dod i mewn ac wedi mynd allan o'r ystâd, gan y gall buddiolwyr a chredydwyr ofyn am weld hyn.

Nid oes angen i'r cofnod hwn fod yn ddogfen ffurfiol, ond dylai gynnwys popeth: yr holl asedau, dyledion, costau gweinyddol, a'r swm terfynol sy'n cael ei rannu.

Mae GOV.UK ganllawiau ar ba gofnodion i'w cadw at ddibenion Treth EtifeddiantYn agor mewn ffenestr newydd, ac mae’n werth eu gwirio. Mae hefyd yn arfer da i chi, fel ysgutor, a’r prif fuddiolwyr lofnodi’r cofnod hwn.

Os yw’r ystâd yn ennill unrhyw incwm wrth i chi ymdrin â hi, fel llog banc neu ddifidendau o gyfranddaliadau, efallai y bydd Treth Incwm yn daladwy arno. Chi fel ysgutor sy’n talu hon o arian yr ystâd. Pan fyddwch yn rhannu’r ystâd, mae angen i chi lenwi ffurflen o’r enw  R185 i ddweud wrth bob buddiolwr faint o incwm a enillwydYn agor mewn ffenestr newydd a  faint o dreth a dalwyd arno.

Os ydych chi'n fuddiolwr sydd wedi derbyn incwm o'r ystâd, efallai y bydd angen i chi dalu treth ychwanegol arno, neu efallai y bydd arian yn ddyledus i chi mewn ad-daliad, yn dibynnu ar eich sefyllfa dreth eich hun.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ynglŷn ag incwm ymddiriedolaeth a llenwi ffurflen R185Yn agor mewn ffenestr newydd gan y Low Incomes Tax Reform Group. 

Am gymorth manylach ar beth i'w wneud ar ôl marwolaeth, gweler ein canllawiau marwolaeth a phrofedigaeth. 

Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook X
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Marwolaeth a phrofedigaeth

Trefnu ystâd rhywun sydd wedi marw

  • Sut i roi trefn ar ystâd pan fydd rhywun yn marw gan adael ewyllys: canllaw cam wrth gam
  • Cael trefn ar yr ystâd pan nad oes ewyllys
  • Pryd i ddefnyddio arbenigwr cyfreithiol ar gyfer profiant
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Trefnu ystâd rhywun sydd wedi marw

  • Sut i roi trefn ar ystâd pan fydd rhywun yn marw gan adael ewyllys: canllaw cam wrth gam
  • Cael trefn ar yr ystâd pan nad oes ewyllys
  • Pryd i ddefnyddio arbenigwr cyfreithiol ar gyfer profiant
Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Llywodraeth EF
Trustpilot
Plain Numbers Working Together logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2026 Money and Pensions Service, Borough Hall, Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Opsiynau cyswllt Cau

Cysylltwch â ni

Dechrau gwesgwrs

Dydd Llun - dydd Gwener: 9am i 5pm

Dydd Sadwrn, dydd Sul, gwyliau banc: ar gau

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau, ac yna’n eich cysylltu ag arbenigwr.

Siaradwch â ni dros y ffôn

Dydd Llun - dydd Gwener: 9am i 5pm
Dydd Sadwrn, dydd Sul, gwyliau banc: ar gau

Mae galwadau yn y DU am ddim ac efallai y cânt eu recordio er mwyn gwella ein gwasanaeth.

Anfonwch e-bost gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein

Ymateb mewn 3 diwrnod gwaith

Os bydd gwell gennych ysgrifennu atom, llenwch ein ffurflen ar-lein.

Atebwch ychydig o gwestiynau ac yna bydd gennych le i ysgrifennu gymaint o fanylion a hoffech.

Sgwrsiwch gyda ni’n fyw gan ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch yr ap: WhatsApp

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau, ac yna’n eich cysylltu ag arbenigwr.

Byddwn yn ymateb rhwng dydd Llun – dydd Gwener, 9am i 5pm (heblaw am wyliau banc). 

Opsiynau hygyrchedd

  • Relay UK

    Relay UK logo

    Defnyddiwch y gwasanaeth cyfrinachol i deipio negeseuon atom gan ddefnyddio ffôn testun neu ap.

    Ewch i Relay UK
  • BSL

    British Sign Language logo

    Gwell gennych ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain? Defnyddiwch y gwasanaeth am ddim hon i gyrchu dehonglydd BSL – dewiswch bwnc o’r rhestr ‘department’.

    Cysylltu â InterpretersLive!Yn agor mewn ffenestr newydd

  • Cyfieithydd

    Interpreter logo

    Os nad Saesneg neu Gymraeg yw eich iaith gyntaf, gallwn ddod o hyd i gyfieithydd i helpu.

    Ffoniwch 0800 756 1012