Mae cyfrif ar y cyd yn gadael i chi rannu arian gyda rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo. Bydd y ddau ohonoch yn gallu rheoli'r cyfrif, gan gynnwys gwneud taliadau a thalu biliau. Dyma bopeth sydd angen i chi ei wybod.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Beth yw cyfrif ar y cyd?
Mae cyfrif ar y cyd fel arfer yn caniatáu dau neu fwy o bobl i:
- dderbyn taliadau, fel cyflogau, budd-daliadau a phensiwn
- talu am bethau neu gymryd arian parod gyda cherdyn debyd
- trosglwyddo arian i dalu biliau neu bobl eraill, gan gynnwys Debydau Uniongyrchol ac archebion sefydlog
- rheoli'r cyfrif gan ddefnyddio bancio symudol ac ar-lein, dros y ffôn, mewn cangen neu mewn Swyddfa’r Post (yn dibynnu ar y banc).
Os ydych yn edrych i reoli arian rhywun arall, fel perthynas hŷn, gweler sut i sefydlu trefniant ffurfiol yn lle hynny - gan gynnwys sut i sefydlu atwrneiaeth
Pethau i fod yn wyliadwrus ohonno
Gall cyfrif ar y cyd fod yn ffordd syml o rannu arian a rheoli costau byw, fel biliau, morgais a thaliadau rhent. Fodd bynnag, mae rhai anfanteision posibl:
Gallai cyfrif ar y cyd niweidio'ch sgôr credyd
Mae agor cyfrif ar y cyd yn ychwanegu cysylltiad ariannol i'r person arall. Mae hyn yn golygu y bydd cwmnïau'n edrych ar hanesion credyd y ddau ohonoch fel rhan o unrhyw wiriadau credyd. Os oes ganddynt hanes credyd gwael, gallai hyn ostwng eich cyfle o dderbyn.
Gallech fod yn gyfrifol am ddyled rhywun arall
Mae pawb a enwir ar y cyfrif yr un mor gyfrifol a gallant dynnu arian parod neu wario pryd bynnag y dymunant. Os yw rhywun arall yn gwario gormod ac yn benthyg arian gan ddefnyddio gorddrafft, gallai'r banc ofyn i chi ei ad-dalu.
Efallai y bydd rhai banciau yn cynnig 'pawb i'w lofnodi', sy'n golygu bod yn rhaid i bob deiliad cyfrif wneud penderfyniadau ar y cyd, ond mae hyn fel arfer yn eich cyfyngu i reoli eich cyfrif mewn cangen.
Mae cyfrifon ar y cyd ar gyfer perthnasoedd dibynadwy
Os ydych yn ystyried cyfrif ar y cyd, gwnewch hynny dim ond gyda rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo. Er enghraifft, ni fyddai gennych unrhyw hawliau pe bai'r person arall yn gwario'r holl arian. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, peidiwch â gwneud hynny.
Gallwch barhau i rannu biliau gyda chyfrifon ar wahân, gallwch drosglwyddo'ch cyfran i rywun – neu gallent drosgwyddo’u cyfran i chi. Gwelwch A ddylech reoli arian ar y cyd neu ar wahân? am help llawn.
Diogelu eich hun rhag camdriniaeth ariannol
Mae gan bawb yr hawl i annibyniaeth ariannol. Os yw'ch partner yn rheoli'ch arian neu'n creu dyledion yn eich enw chi, mae'n gam-drin ariannol.
Peidiwch â brwydro ar eich pen eich hun, gwelwch diogelu eich hun rhag cam-drin ariannol.
Sut i agor cyfrif banc ar y cyd
Bydd y rhan fwyaf o fanciau yn cynnig cyfrifon ar y cyd, ond nid pob un. I'r rhai sy'n gwneud hynny, gallwch naill ai:
- dewis agor cyfrif newydd gyda'ch gilydd
- ychwanegu rhywun at gyfrif sydd gennych eisoes.
Bydd rhai banciau yn gadael i chi wneud cais am gyfrif ar y cyd ar-lein, tra byddai angen i eraill weld pob deiliad cyfrif mewn cangen. Mae ein teclyn cymharu cyfrifon banc yn eich helpu i weld nodweddion, ffioedd a thaliadau cyfrif.
Gwelwch Sut i agor, newid neu gau cyfrif banc am wybodaeth lawn, gan gynnwys yr ID y bydd ei angen arnoch.
Mae hyd at £85,000 y person, fesul grŵp bancio fel arfer yn cael ei ddiogelu
Mae’r rhan fwyaf o gyfrifon banc yn cael eu diogelu gan y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS). Pe bai’ch banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd yn methu, sy’n annhebygol o ddigwydd, byddech yn cael eich arian yn ôl yn awtomatig – hyd at £85,000 y person. Felly, gallai dau ddeiliad cyfrif adneuo £170,000 yn ddiogel.
Gallwch ddefnyddio gwiriwr diogelwch FSCSYn agor mewn ffenestr newydd i wirio a yw eich banc wedi'i ddiogelu.
Os nad ydyw, mae’n debygol o fod yn gyfrif cyfredol rhithwir a gwmpesir gan reolau e-arian. Mae hyn yn golygu bod eich arian yn cael ei gadw’n ddiogel mewn banc gwahanol, ond byddai angen i chi wneud hawliad i’r gweinyddwr os bydd eich darparwr yn methu.
Treth ar gyfrifon ar y cyd
Fel arfer, dim ond os yw'ch cyfrif ar y cyd yn talu llog y mae'r dreth yn berthnasol. Er na fyddwch yn talu treth ar yr arian parod yn y cyfrif, efallai y byddwch ar y llog cynilo a gewch.
Gall y rhan fwyaf o bobl ennill hyd at £1,000 mewn llog cynilo cyn talu treth, neu £500 os ydych yn ennill £50,271 i £125,140. Am ddisgrifiad llawn, gan gynnwys lwfansau ychwanegol i'r rhai sy'n ennill llai na £17,570, gwelwch sut mae treth ar gynilion yn gweithio.
Bydd unrhyw log rydych yn cael mewn cyfrif ar y cyd fel arfer yn cael ei rannu'n gyfartal rhwng pob person. Felly dim ond os yw eich cyfran o'r llog yn uwch na'ch lwfans blynyddol y bydd treth yn ddyledus.
Rhewi'r cyfrif os oes gennych anghydfod
Os ydych yn cael problemau gyda deiliaid eraill y cyfrif, fel perthynas sy'n dod i ben, gofynnwch i'ch banc gofrestru anghydfod a 'chanslo'r gorchymyn'. Mae hyn yn ei rewi, fel na all unrhyw un cyrchu’r cyfrif nac unrhyw arian parod.
Dim ond pan fydd pawb yn cytuno sut i rannu'r arian y bydd y cyfrif yn cael ei ddatgloi. Os na allwch chi, efallai y bydd yn rhaid i chi adael i'r llysoedd benderfynu pwy sy'n cael beth.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Trefnu cyfrifon banc ar y cyd, dyled, cynilion a'ch arian gyda chyn-bartner.
Sut i gau cyfrif banc ar y cyd
Gallwch gau cyfrif ar y cyd ar unrhyw adeg, ond bydd angen ad-dalu unrhyw orddrafft yn gyntaf.
Mae angen caniatâd gan holl ddeiliaid y cyfrif ar rai banciau, tra bydd eraill yn gadael i un person ei gau - ar yr amod nad oes anghydfod wedi ei gofrestru. Felly gwiriwch bob amser gyda'ch banc.
Fel arfer, gallwch ofyn i gau'r cyfrif:
- drwy sgwrs fyw wrth fancio ar-lein neu symudol
- dros y ffôn
- drwy'r post, gan lofnodi ffurflen cau cyfrif
- yn y gangen.
Os oes angen i bawb gytuno, bydd angen i bawb lofnodi'r ffurflen neu gysylltu â'r banc ar wahân i roi eu caniatâd.
Sut i newid cyfrif ar y cyd
Os ydych am newid banciau, mae'r Gwasanaeth Newid Cyfrif Cyfredol (CASS) yn symud eich arian a'ch taliadau drosodd yn awtomatig.
Mae hyn yn gweithio ar gyfer cyfrifon ar y cyd, ar yr amod eich bod yn newid i gyfrif arall ar y cyd a bod pob deiliad cyfrif yn cytuno. Gallwch hefyd newid cyfrif yn eich enw i gyfrif ar y cyd yn rhywle arall.
Gweler sut i agor, newid a chau cyfrif banc am fwy o wybodaeth am CASS.
Os ydych eisiau datgysylltu eich sefyllfa ariannol
Ni fydd cau cyfrif ar y cyd yn dileu’r cysylltiad i'r person arall o'ch ffeil credyd.
Os nad oes gennych unrhyw gysylltiad ariannol â hwy mwyach (felly dim cyfrif ar y cyd, benthyciad na morgais arall) gallwch ofyn i'r asiantaethau cyfeirio credyd gyhoeddi 'hysbysiad o ddatgysylltiad'. Mae hyn yn eu hatal rhag effeithio ar eich ceisiadau credyd yn y dyfodol.
Y tri i gysylltu â nhw yw:
Beth sy'n digwydd os bydd cyd-ddeiliad cyfrif yn marw?
Os bydd deiliad cyfrif yn marw, bydd y cyfrif ar y cyd yn parhau yn yr enwau sy'n weddill.
Gallwch gysylltu â'ch banc yn uniongyrchol neu ddefnyddio gwasanaeth am ddim i hysbysu llawer o sefydliadau ar unwaith. Fel arfer, bydd angen i chi greu cyfrif, llenwi ffurflen ac uwchlwytho copi o'r dystysgrif farwolaeth:
- Gwasanaeth Hysbysu MarwolaethYn agor mewn ffenestr newydd
- SettldYn agor mewn ffenestr newydd
- LifeLedgerYn agor mewn ffenestr newydd
Gwelwch beth i'w wneud pan fydd rhywun yn marw am fwy o help.
Oni bai eich bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu treth ar rywfaint neu'r cyfan o'r arian yn y cyfrif. Gwelwch ein canllaw i Dreth Etifeddiant am fwy o wybodaeth.
Os bydd pethau'n mynd o'i le
Os oes gennych broblem gyda'ch banc neu gyfrif ar y cyd, dilynwch y camau hyn.
- Gofynnwch i wasanaethau cwsmeriaid eich banc gywiro pethau – os na allwch gytuno ar ddatrysiad, yna
- Gwnewch gwyn ffurfiol - mae ganddynt wyth wythnos i ymchwilio a rhoi ymateb terfynol. Os nad ydych chi'n cytuno o hyd, neu os yw'r amserlen wedi mynd heibio, gallwch chi
- Fynd â'ch cwyn at Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol am ddim – fe gewch chi benderfyniad annibynnol ynghylch a oedd ymateb eich banc yn deg neu a oes angen iddynt wneud mwy.
Am fwy o wybodaeth, gwelwch ein canllaw llawn sut i gwyno.