Mae cyfrif banc yn hanfodol i'r rhan fwyaf o bobl, gan wneud rheoli eich arian bob dydd yn ddiogel ac yn syml. Rydym yn ymdrin â hanfodion bancio, gan gynnwys sut i newid cyfrif banc a'r ffioedd cyffredin i gadw llygad amdanynt.
Sut i agor, newid a chau cyfrif banc
Cyfrifon banc wedi’u hegluro
Mae cyfrifon cyfredol yn caniatáu i chi wneud a derbyn taliadau, fel talu biliau, tynnu arian allan neu gael eich cyflog wedi’i dalu. Yma rydym yn egluro hanfodion bancio, termau allweddol ac yn tynnu sylw at y ffioedd a'r taliadau i wylio amdanynt.
Cip olwg ar y nodweddion allweddol
Dyma beth mae'r holl dermau yn ei olygu:
cerdyn debyd – yn gadael i chi wario ar-lein neu mewn siopau, a thynnu arian allan mewn peiriannau arian parod
trosglwyddiad banc – yn gadael i chi symud arian rhwng eich cyfrifon neu dalu rhywun arall
archeb sefydlog – trosglwyddiad banc rydych chi am ei ailadrodd, fel talu rhent neu symud arian i gyfrif cynilo
debyd uniongyrchol – yn gadael i gwmnïau gymryd arian sy'n ddyledus gennych ar ddyddiad penodol, fel arfer ar gyfer biliau fel ynni neu ffonau symudol
gorddrafft – yn gadael i chi wario mwy nag sydd gennych, ond byddwch fel arfer yn talu llog bob tro y byddwch yn ei ddefnyddio
bancio ar-lein a symudol – yn rhoi mynediad diogel i chi i'ch cyfrifon 24/7
bancio cangen neu swyddfa bost – os ydych am reoli eich arian yn bersonol.
Y ffordd orau i reoli cyfrif cyfredol
Mae cyfrif banc a reolir yn dda yn aml yn gwneud eich bywyd yn haws. Gall hefyd wella eich sgôr credyd, gan eich gwneud yn fwy tebygol o gael y cynhyrchion gorau.
Dyma rai o’r prif awgrymiadau:
gwiriwch eich balans yn aml – gwnewch yn siwr bod gennych ddigon o arian ar gael ar gyfer gwariant a thaliadau (gallai tâl gael ei godi arnoch os na wnewch hyn)
gwiriwch y trafodion a rhowch wybod am unrhyw beth nad ydych yn ei adnabod yn gyflym – byddwch fel arfer yn cael ad-daliad os yw'n dwyll
os ydych yn defnyddio eich gorddrafft, cael gwybod sut y byddwch yn ad-dalu – bydd ei glirio cyn gynted â phosibl yn lleihau taliadau llog
os ydych yn credu y byddwch yn methu taliad, gofynnwch i'r darparwr rydych yn ei dalu am help – byddant yn gwrando ac yn darparu ffyrdd i'ch cefnogi. Gweler siarad siarad â'ch credydwr am help.
Ydych chi wedi methu taliad?
Defnyddiwch ein Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion i ddod o hyd i gyngor ar ddyled cyfrinachol am ddim ar-lein, dros y ffôn neu'n agos i ble rydych yn byw.
Ffioedd banc a thaliadau i gadw llygad amdanynt
Mae'r rhain yn amrywio fesul banc, ond dyma'r prif rai i'w gwirio:
os ydych yn gwario mwy nag sydd gennych chi:
llog dyddiol ar gyfer defnyddio gorddrafft - yn aml hyd at 40% APR (cyfradd ganrannol flynyddol) nes ei dalu'n ôl
ffi os nad oes gennych ddigon o arian i dalu am daliad – a elwir fel arfer yn ffi trafodiad heb ei dalu.
defnyddio eich cerdyn debyd dramor:
ffi cyfnewid tramor, yn aml tua 3% o swm y trafodiad
ffi gwario neu beiriant arian parod, fel arfer rhwng £1 a £3 bob tro y byddwch yn defnyddio'ch cerdyn (ac eithrio Ewros yn yr UE).
Efallai y bydd banciau hefyd yn codi tâl am rai ceisiadau, fel trosglwyddo symiau mawr iawn o arian neu gael copïau o gyfriflenni.
Edrychwch ar gyfrifon cyfredol gwahanol yn seiliedig ar eu ffioedd a'u taliadau.
Diogelu eich hun rhag twyll a sgamiau
Mae banciau'n defnyddio technoleg uwch i gadw'ch cyfrif yn ddiogel, fel adnabod wyneb i gael mynediad i'ch ap bancio symudol. Ond mae yna lawer o sgamiau ar-lein a ffôn i wylio allan amdanynt.
Y nod yw eich cael i rannu cyfrineiriau a manylion sensitif eraill fel y gall twyllwyr ddwyn o'ch cyfrif.
I helpu, dilynwch y rheolau hyn:
peidiwch byth â rhannu cyfrineiriau na manylion mewngofnodi bancio ar-lein gydag unrhyw un – gan gynnwys dros y ffôn a thrwy neges destun neu e-bost
os yw'ch banc yn cysylltu â chi ar hap gallai fod yn sgamiwr – i fod yn ddiogel, rhowch y ffôn i lawr a'u ffonio yn ôl ar y rhif sydd wedi'i argraffu ar eich cerdyn.
dylech bob amser allgofnodi o sesiynau bancio ar-lein.
Darllenwch fwy yn ein canllaw i ddechreuwyr ar sgamiau.
Gallwch gwyno os nad ydych yn hapus
Os yw'ch banc yn gwneud camgymeriad neu os ydych yn anhapus gyda rhywbeth y maent wedi'i wneud, dilynwch y camau hyn:
Cysylltwch â gwasanaethau cwsmeriaid a gofyn iddynt unioni pethau – os na allwch gytuno ar ddatrysiad, yna
Gwnewch gwyn ffurfiol - mae ganddynt wyth wythnos i ymchwilio a rhoi ymateb terfynol. Os ydych yn parhau i anghytuno, neu os yw'r amserlen wedi mynd heibio, gallwch
Fynd â'ch cwyn i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol am ddim – fe gewch benderfyniad annibynnol ynghylch a oedd ymateb y cwmni yn deg neu a oes angen iddynt wneud mwy.
Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Hawlio iawndal os ydych wedi dioddef cam-werthu.
Sut i agor cyfrif banc
Mae agor cyfrif cyfredol fel arfer yn broses syml, ond yn aml mae angen i chi gael rhai mathau o brawf adnabod a phrawf cyfeiriad. Dyma bopeth sydd angen i chi ei wybod.
Cymharu cyfrifon
Mae yna lawer o opsiynau i ddewis ohonynt, gan gynnwys banciau stryd fawr gyda changhennau, banciau ar-lein yn unig, cyfrifon gyda manteision fel arian yn ôl a chyfrifon banc sylfaenol.
I helpu, mae ein teclyn cymharu cyfrifon banc yn eich galluogi i weld nodweddion, ffioedd a thaliadau cyfrif. Neu mae gennym gymorth cam wrth gam o ran sut i ddewis cyfrif banc.
Os ydych yn gweld bod adolygiadau cyfrif cyfredol yn ddefnyddiol, gweler:
Os ydych chi'n byw yng Ngogledd Iwerddon, rhowch gynnig ar y Consumer Council’s Current Account Comparison TableYn agor mewn ffenestr newydd
Gwiriwch y meini prawf cymhwysedd
Wrth wneud eich rhestr fer o gyfrifon, mae'n bwysig gwirio eich bod yn gallu gwneud cais. Fel arfer mae angen i chi fod yn 18 oed neu'n hŷn ac yn breswylydd yn y DU, er y gallai fod angen i chi wneud y canlynol:
talu i mewn isafswm bob mis
ennill cyflog penodol
talu ffi fisol
cael hanes credyd da
bod yn berchen ar ffôn clyfar.
Os ydych chi ar ôl banc y gallwch ymweld ag ef yn bersonol, mae'n werth sicrhau bod eich cangen leol yn agor ar adegau cyfleus.
Myfyriwr? Gweler Cyfrifon banc Myfyrwyr a Graddedigion.
Dan 18? Gweler Cyfrifon banc gorau i blant gan MoneySavingExpertYn agor mewn ffenestr newydd
Gweld pa ID rydych ei angen
Bydd y rhan fwyaf o fanciau yn gofyn am drwydded yrru neu basbort i brofi pwy ydych chi - neu lun os ydych yn gwneud cais ar-lein, yn aml ynghyd â hunlun.
Os nad oes gennych y rhain, gwiriwch a fyddant yn derbyn dogfennau diweddar eraill (fel arfer o dan dri mis oed) fel:
bil Treth Cyngor
bil cyfleustodau, fel nwy neu drydan
cyfriflen banc neu gymdeithas adeiladu
datganiad cardiau credyd
llythyr neu ddatganiad treth CThEM
datganiad morgais
cytundeb tenantiaeth
datganiad budd-dal neu bensiwn y wladwriaeth
llythyr gan eich cyflogwr, coleg neu ddarparwr hyfforddiant.
Mae hefyd yn werth cofrestru i bleidleisioYn agor mewn ffenestr newydd gan fod rhai banciau yn defnyddio hyn fel rhan o'u gwiriadau.
Os nad oes gennych y dogfennau cywir, gallech ystyried cyfrif cerdyn rhagdaledig yn lle hynny, lle nad oes angen ID fel arfer.
Gwneud cais - fel arfer bydd angen i chi basio gwiriad credyd
Yn dibynnu ar y cyfrif rydych wedi'i ddewis, gallwch wneud hyn fel arfer:
ar-lein
drwy ddefnyddio ap
dros y ffôn
yn bersonol.
Gwnewch yn siwr nad oes unrhyw gamgymeriadau ar y ffurflen oherwydd gall camgymeriadau arwain at oedi neu geisiadau yn cael eu gwrthod.
Fel arfer, bydd y banc yn cynnal gwiriad credyd i weld eich hanes credyd, gan gynnwys a ydych wedi cael problemau talu arian yn ôl. Mae'n syniad da gwirio bod eich ffeil credyd mewn cyflwr da cyn gwneud cais, gweler sut i wella eich sgôr credyd.
Byddwch wedyn yn cael gwybod os ydych wedi cael eich derbyn neu eich gwrthod. Os cewch eich gwrthod am gyfrif safonol, efallai y cewch gynnig cyfrif banc sylfaenol yn ei le - nid yw'r rhain yn codi ffioedd nac yn cynnig gorddrafftiau.
Sut i newid neu gau cyfrif banc
Gallwch ddewis cau cyfrif neu newid banc ar unrhyw adeg. Mae newid fel arfer yn hawdd iawn, gyda'ch holl daliadau yn cael eu symud drosodd yn awtomatig i chi. Dyma bopeth sydd angen i chi ei wybod.
Defnyddio'r Gwasanaeth Newid Cyfrif Cyfredol (CASS)
Wrth agor cyfrif newydd, gofynnir i chi fel arfer a ydych am newid o gyfrif sy'n bodoli eisoes – neu gallwch ei wneud yn nes ymlaen. Bydd rhai banciau hyd yn oed yn cynnig pethau rhad ac am ddim os gwnewch hyn.
I ofyn i newid, byddwch angen:
rhoi rhifau eich cyfrif a cherdyn debyd
dewis dyddiad i'w gwblhau – mae'n cymryd saith diwrnod gwaith
Yna bydd CASS yn gofalu am y gweddill, gan gynnwys:
trosglwyddo Debydau Uniongyrchol ac archebion sefydlog
symud eich balans
ailgyfeirio taliadau sy'n dod i mewn, fel budd-daliadau neu gyflogau
cau eich hen gyfrif
Os bydd unrhyw beth yn mynd o'i le, byddwch yn cael eich ad-dalu unrhyw log a thaliadau ar eich hen gyfrifon a'ch cyfrifon newydd. Gweler y gwarant newid Cyfrif CyfredolYn agor mewn ffenestr newydd
Newid gyda gorddrafft
Fel rhan o'r cais am newid, fel arfer fe ddangosir i chi a fydd y banc newydd yn cynnig gorddrafft i chi. Os yw hyn yn cwmpasu'r hyn sy'n ddyledus gennych, bydd yr arian yn cael ei anfon i'ch hen fanc a bydd balans y gorddrafft yn ddyledus ar y cyfrif newydd yn lle.
Os yw'n swm is, neu os na allwch gael un, bydd angen i chi drefnu i dalu'r gweddill ar wahân cyn y gallwch newid neu gau'ch hen gyfrif.
Am help i glirio gorddrafft, gweler canllaw MoneySavingExpert i dorri costau gorddrafftYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych ond eisiau cau, cysylltwch â'ch banc
Mae cau cyfrif fel arfer yn syml, dim ond gofyn i'r banc sydd yn rhaid i chi. Fel arfer, gallwch ofyn am hyn:
ar-lein
dros y ffôn neu sgwrs fyw
yn bersonol.
Os ydych yn defnyddio'ch gorddrafft, bydd yn rhaid i chi ei dalu'n ôl cyn y gallwch gau'ch cyfrif. Byddwch yn colli mynediad at ddatganiadau, felly gwnewch yn siwr bod gennych gopïau os ydych eu hangen.