Cyfrifon undeb credyd 

Mae undeb credyd yn darparu benthyciadau, cynilion, cyfrifon banc a gwasanaethau eraill i'w haelodau. Maent wedi'u cynllunio i helpu'r gymuned yn hytrach na gwneud arian, gan yn aml dderbyn pobl sydd wedi cael eu gwrthod am gyfrifon a benthyciadau mewn mannau eraill. 

Beth yw undeb credyd?

Mae undeb credyd yn ddarparwr ariannol nid-er-elw sy'n helpu pobl i gael mynediad at gynhyrchion bancio fel cyfrifon banc, cynilion a benthyciadau.

Fel arfer, maent yn:

  • cael eu rhedeg gan aelodau i fod o fudd i gymunedau, yn hytrach na gwneud elw
  • gallu helpu'r rhai a wrthodwyd gan ddarparwyr eraill.

Bydd angen i chi ddod yn aelod, sydd fel arfer yn golygu gofyn i chi dalu ffi fach (er enghraifft, £2) neu gynilo swm penodol (fel £10). 

Pwy all ymuno ag undeb credyd? 

Mae undebau credyd yn gweithio drwy i bob aelod rannu 'cwlwm cyffredin'. Er enghraifft, efallai y byddwch yn:

  • byw, gweithio, astudio neu wirfoddoli mewn ardal benodol
  • gweithio yn yr un diwydiant neu i gyflogwyr penodol
  • perthyn i'r un undeb llafur.

Gweler sut i ddod o hyd i undeb credyd

Pa ID fyddaf ei angen? 

Fel arfer, bydd angen i chi ddarparu dwy ddogfen ddiweddar i brofi pwy ydych chi a'ch cyfeiriad. Er enghraifft:

  • pasport
  • trwydded yrru
  • cerdyn ID myfyrwiwr neu waith
  • pas bws
  • tystysgrif geni
  • cyfriflen banc neu fil ynni.

Mae'r rhan fwyaf o undebau credyd yn rhestru'r dogfennau y byddant yn eu derbyn ar-lein. Os oes amheuaeth, cysylltwch â nhw i wirio. 

Cyfrifon undeb credyd y gallwch eu cael 

Mae'r rhan fwyaf o undebau credyd yn cynnig:

  • Cyfrifon cynilo – mae'r rhain naill ai'n talu llog neu gyfran o unrhyw elw. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y rhain yn cyfrifon cynilo undebau credyd.
  • Benthyciadau – mae cyfraddau llog yn cael eu capio, ond efallai y bydd angen i chi gael swm penodol wedi'i gynilo gyda'r undeb credyd cyn y gallwch wneud cais. Gweler benthyca gan undeb credyd am fwy o help. 

Ond bydd rhai hefyd yn cynnig yswiriant, cardiau rhagdaledig, morgeisi a chyfrifon cyfredol. 

Cyfrifon banc undeb credyd 

Mae hyn yn gweithio fel cyfrif cyfredol gan fanc neu gymdeithas adeiladu, ond fel arfer mae ganddo ffioedd am rai nodweddion.

Am ddim, gallwch fel arfer:

  • dalu i mewn neu dynnu arian parod allan yn yr undeb credyd
  • cael arian wedi ei dalu i mewn, fel cyflogau, budd-daliadau a phensiynau
  • defnyddio bancio ar-lein, symudol neu ffôn
  • cael cyngor a chefnogaeth ariannol.

Yn aml, bydd angen i chi dalu ffi cyfrif misol ar gyfer:

  • cerdyn debyd ar gyfer gwario neu ddefnyddio peiriannau arian parod
  • sefydlu taliadau rheolaidd, fel biliau drwy Ddebyd Uniongyrchol
  • mynediad i fenthyca arian gan ddefnyddio gorddrafft – fel arfer gyda llog dyddiol hyd at 42.6%.

Efallai y codir tâl arnoch bob tro y byddwch yn defnyddio peiriant arian parod i dynnu arian allan neu i weld eich balans, felly gwiriwch bob amser. Bydd rhai cyfrifon hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i chi dalu isafswm i mewn bob mis, fel £80.

Fel arfer, ni fydd yn rhaid i chi basio gwiriad credyd, hyd yn oed os byddwch yn gwneud cais am orddrafft Mae undebau credyd fel arfer yn defnyddio gwiriadau â llaw i benderfynu a ddylid rhoi benthyg i chi ai peidio. 

Cyfrifon banc eraill i'w hystyried 

Cyn agor cyfrif undeb credyd, mae opsiynau eraill a allai fod yn rhatach: 

  • cyfrif cyfredol banc neu gymdeithas adeiladu – fel arfer y man galw cyntaf i'r rhan fwyaf roi cynnig arni
  • cyfrif banc sylfaenol – mae hyn yn cynnig y rhan fwyaf o'r un nodweddion â chyfrif cyfredol nodweddiadol (ac eithrio gorddrafft) a bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael eu derbyn felly gallai fod yn addas ar gyfer y rhai sydd â hanes credyd gwael, euogfarnau neu bobl yn y carchar
  • cyfrif cerdyn rhagdaledig – gallwch ddefnyddio hwn i wario a thynnu arian parod allan, ond fel arfer ni allwch sefydlu taliadau fel Debydau Uniongyrchol neu dderbyn eich cyflog neu fudd-daliadau i mewn iddo.

Mae ein teclyn cymharu cyfrifon banc yn gadael i chi weld nodweddion, ffioedd a chostau cyfrif. Neu mae gennym gymorth cam wrth gam ar sut i ddewis cyfrif banc

Mae eich arian yn cael ei ddiogelu os bydd undeb credyd yn mynd i'r wal 

Yn union fel y rhan fwyaf o fanciau, mae hyd at £85,000 y person wedi'i ddiogelu mewn cyfrif undeb credyd. Darganfyddwch sut mae'r Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS) yn gweithio

Sut i ddod o hyd i undeb credyd 

I chwilio am un y gallwch ymuno â hi, defnyddiwch y canlynol:

 

Sut i gwyno am gyfrif undeb credyd

Os oes gennych broblem gydag undeb credyd, dilynwch y camau hyn:

  1. Cysylltwch â gwasanaethau cwsmeriaid. Rhowch wybod iddynt:
    1. pam rydych chi'n anhapus
    2. beth ddylen nhw ei wneud i gywiro pethau. Os nad ydych yn gallu cytuno:
  2. Gofynnwch am wneud cwyn ffurfiol. Mae ganddynt wyth wythnos i ymchwilio a rhoi eu hymateb terfynol i chi. Os ydych yn anhapus â hyn, neu os yw'r amserlen wedi mynd heibio, gallwch:
  3. Fynd â'ch cwyn i'r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol (FOS) am ddim. Byddwch yn cael penderfyniad annibynnol ynghylch a oedd ymateb y cwmni yn deg neu a oes angen iddynt wneud mwy. 

Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw llawn ar sut i gwyno.  

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.