Os oes gennych broblem gyda thaliad, cymerwch gamau i unioni pethau. Dyma sut i ddatrys problemau cyffredin.
Problem talu cerdyn debyd neu gredyd
Siaradwch â'r cwmni rydych chi'n ei dalu bob amser i geisio datrys unrhyw broblemau yn gyntaf. Gallai hyn gynnwys:
- codi tâl arnoch am y swm anghywir, neu’n fwy nag unwaith
- peidio â derbyn yr eitem neu'r gwasanaeth y gwnaethoch dalu amdano
- eitem sy'n cyrraedd yn ddiffygiol neu o ansawdd gwael.
Os nad yw hyn yn gweithio, gofynnwch i'ch banc ymchwilio. Ar gyfer problemau gyda nwyddau neu wasanaethau, mae'r llwybr i'w gymryd yn dibynnu ar y math o gerdyn rydych wedi'i ddefnyddio.
Cerdyn credyd
Mae cerdyn credyd yn rhoi diogelwch wrth wario i chi ar bopeth rydych yn ei brynu. Os aiff rhywbeth o'i le ac na fydd y cwmni'n rhoi ad-daliad i chi, gallwch ofyn i'ch banc roi'r arian yn ôl.
Os yw'r eitem neu'r gwasanaeth yn costio £100 i £30,000, cyflwynwch gais Adran 75. Nid oes terfyn amser o ran pryd y gallwch wneud y math hwn o gais.
Ar gyfer symiau eraill, mae gennych 120 diwrnod i wneud cais am ‘chargeback’.
Darganfyddwch fwy yn Adran 75 a chargeback wedi’i esbonio.
Cerdyn debyd
Mae cerdyn debyd yn rhoi diogelwch chargeback ar bob pryniant. Os yw eitem yn ddiffygiol neu os nad yw'n cyrraedd ac na fydd y cwmni'n rhoi ad-daliad i chi, gallwch ofyn i'ch banc hawlio'r arian yn ôl.
Mae gennych 120 diwrnod o'r dyddiad prynu, neu ddyddiad y tocynnau, i gyflwyno cais am chargeback
Gweler Chargeback wedi'i esbonio am fwy o wybodaeth.
Mae gan eich banc wyth wythnos i ymateb
Dylech gael gwybod canlyniad eich cais am chargeback neu Adran 75 o fewn wyth wythnos.
Os ydych chi'n anhapus gyda'r ymateb, neu mae'r terfyn amser wedi mynd heibio, gallwch gwyno i Wasanaeth yr Ombwdsmon AriannolYn agor mewn ffenestr newydd
Problemau talu digyffwrdd, gan gynnwys Apple a Google Pay
Gweler beth i'w wneud os bydd taliad cerdyn debyd neu gredyd yn mynd o'i le, mae'r broses yr un fath.
Problem talu PayPal
Os na ddanfonir eitem neu nad yw fel y disgrifiwyd, ceisiwch ddatrys y broblem gyda'r cwmni yn gyntaf bob amser.
Os nad yw hyn yn gweithio, mae gennych:
- 180 diwrnod i ddadlau â’r taliad gan ddefnyddio Cynllun Buyer Protection PayPalYn agor mewn ffenestr newydd
- 120 diwrnod i gyflwyno cais i ddarparwr eich cerdyn, gan ddefnyddio'r cynllun chargeback (os oeddech chi'n defnyddio'ch cerdyn debyd neu gredyd i dalu drwy PayPal)
Yn y rhan fwyaf o achosion, ni fydd Adran 75 yn diogelu taliadau PayPal. Dysgwch fwy am beth sydd wedi ac sydd heb ei gynnwys ar MoneySavingExpertYn agor mewn ffenestr newydd
Problem trosglwyddiad banc
Os ydych wedi gwneud camgymeriad ac wedi anfon arian i'r cyfrif anghywir, cysylltwch â'ch banc cyn gynted â phosibl i roi gwybod am y broblem.
Mae’r rhan fwyaf o fanciau wedi ymrwymo i gôd ymddygiad gwirfoddol, felly byddant wedyn yn:
- dechrau ymchwilio o fewn dau ddiwrnod gwaith
- gofyn i ddeiliad y cyfrif arall dalu'r arian yn ôl
- rhoi gwybod i chi am y canlyniad o fewn 20 diwrnod gwaith, naill ai:
- mae eich arian yn cael ei dalu'n ôl
- ni ellir adennill eich arian, fel arfer oherwydd bod y person arall yn anghytuno ag ef. Byddwch yn cael gwybod yr opsiynau y gallwch eu cymryd, gan gynnwys gofyn am enw a chyfeiriad y person a dderbyniodd yr arian.
Os ydych yn anhapus gyda gwasanaeth neu ymchwiliad eich banc, gallwch gwyno.
Sgam neu ddwyn hunaniaeth
Os ydych chi'n meddwl eich bod wedi cael eich twyllo, dywedwch wrth eich banc neu ddarparwr cerdyn am yr hyn sydd wedi digwydd yn syth. Byddant yn rhewi'ch cerdyn ac efallai y byddant yn ad-dalu arian coll. Gallwch ffonio'r rhan fwyaf o fanciau drwy ddeialu 159.
Dylech wedyn rhoi gwybod i:
- Action FraudYn agor mewn ffenestr newydd naill ai ar-lein neu drwy ffonio 0300 123 2040 os ydych yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon
- Rhowch wybod i’r heddlu drwy ffonio 101 ac Advice Direct Scotland ar 0808 164 6000 os ydych yn yr Alban.
- Yr FCAYn agor mewn ffenestr newydd os yw'n sgam ariannol, fel twyll buddsoddi.
I siarad â rhywun, ffoniwch ein Huned Troseddau Ariannol a Sgamiau ar 0800 015 4402.
Os yw’ch hunaniaeth wedi cael ei ddwyn
Os yw rhywun wedi agor cyfrifon yn eich enw:
- dywedwch wrth y darparwyr eich bod wedi cael eich hunaniaeth wedi'i dwyn
- cysylltwch â’r asiantaethau gwirio credyd
- ystyriwch wneud cais am gofrestriad amddiffynnol ar Cifas i helpu i gadw eich hunaniaeth yn ddiogel yn y dyfodol.
Gweler ein canllaw Dwyn hunaniaeth a sgamiau am fwy o wybodaeth.
Sut i gwyno i'ch banc neu ddarparwr cerdyn
Mae am ddim ac yn hawdd cwyno i'ch banc neu ddarparwr cerdyn. Cofiwch gadw cofnod o'r holl gyfathrebu sydd gennych.
Dyma'r camau i'w dilyn:
- Gofynnwch i wasanaethau cwsmeriaid eich banc gywiro pethau.
- Os na allwch gytuno ar ddatrysiad, gwnewch gwyn ffurfiol - mae ganddynt 15 diwrnod i ymchwilio a rhoi ymateb terfynol os yw’r cwyn yn ymwneud â thaliadau. Os yw’r cwyn yn ymwneud ag unrhyw beth arall, mae ganddynt wyth wythnos. Os yw’r banc yn derbyn ei bod wedi gwneud rhywbeth o’i le, byddant yn nodi yr hyn y maent yn mynd i’w wneud i unioni pethau.
- Os nad ydych yn hapus o hyd, neu nad ydych yn clywed nol mewn amser, mae gennych chwe fis i fynd â'ch cwyn at Wasanaeth yr Ombwdsmon AriannolYn agor mewn ffenestr newydd Byddwch yn cael penderfyniad annibynnol ynghylch a oedd ymateb eich banc yn deg neu a oes angen iddynt wneud mwy.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw llawn Sut i gwyno i’ch banc, benthyciwr neu ddarparwr cerdyn.