Sut i adnabod ac adrodd am negeseuon e-bost ffug a sgamiau gwe-rwydo
Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
01 Medi 2021
Does dim wythnos yn mynd heibio lle nad yw sgamiau yn y newyddion un ffordd neu'r llall.
O gael eich twyllo drwy wefan ffug, i alwadau ffôn gan rywun sy’n esgus fod yn eich banc - mae nhw ar gynnydd.
Dyma sut i adnabod ac adrodd am wefannau ffug a sgamiau gwe-rwydo, a sut i amddiffyn eich hun pe baent yn digwydd eto.
Beth yw sgamiau gwe-rwydo?
Mae sgamiau gwe-rwydo ar ffurf e-bost sydd yn edrych yn gyfreithlon gan frand neu gwmni rydych chi'n ei adnabod. Mae seiberdroseddwyr yn defnyddio enwau cwmnïau mawr wrth iddynt chwarae ar y syniad bod derbynwyr yn ymddiried yn y brand hwn ac y byddent yn disgwyl derbyn negeseuon e-bost ganddynt.
Gallai negeseuon e-bost gwe-rwydo cyffredin fod gan CThEF, eich banc, Apple ac Amazon sy'n honni bod angen i chi glicio dolen i ddiweddaru'ch cyfrif, neu fod ad-daliad wedi'i ddyfarnu ac felly mae angen manylion eich cyfrif arnynt. Mae'r rhain yn fwy na thebyg yn negeseuon e-bost ffug.
Hyd yn oed os ydych chi'n meddwl eich bod chi'n adnabod yr anfonwr, efallai na fyddant yn pwy maentdweud ydynt. Rheol bawd yw peidio byth â chlicio ar rywbeth rydych chi'n ansicr ohono, oherwydd trwy glicio ar y ddolen honno rydych chi'n mynd i gael eich cludo i wefan ffug sy'n casglu eich gwybodaeth.
Beth mae e-bost ffug yn edrych fel?
Mae nifer o ffyrdd i benderfynu a yw e-bost yn ddilys:
- Cyfeiriad e-bost - os ydych chi'n ehangu'r blwch ar frig eich e-bost yna byddwch chi'n gallu gweld yn union pwy sydd wedi gyrru’r e-bost i chi. Bydd cyfeiriad e-bost ffug fel arfer yn cynnwys rhifau ar hap, cymysgedd o lythrennau is ac uchaf neu eiriau wedi'u camsillafu.
- Diweddaru cyfrif defnyddiwr – Os ydych chi'n derbyn e-bost yn dweud bod angen i chi ddiweddaru eich cyfrif defnyddiwr, yna gofynnwch i'ch hun yn gyntaf a oes gennych gyfrif gyda'r brand hwnnw. Yn ail, ai dyma'r e-bost rydych chi wedi'i sefydlu ar gyfer y cyfrif hwnnw, neu a ydych chi'n defnyddio cyfeiriad e-bost arall?
- Cliciwch i roi manylion banc – Ni fyddai unrhyw gwmni dilys yn anfon e-bost atoch yn gofyn am wybodaeth bersonol, p'un a yw hynny'n gyfrineiriau, codau pin neu wybodaeth cyfrif banc.
- Rydych chi'n enillydd - a wnaethoch chi hyd yn oed ymuno â’r gystadleuaeth rydych chi'n fuddugol ohoni? Os ydych chi'n ansicr ynghylch unrhyw e-bost yna mae'n well cysylltu â'r cwmni hwnnw yn uniongyrchol a gofyn a yw'n ddilys.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Mathau o dwyll
Sut i adrodd sgâm gwe-rwydo
- Os ydych chi’n ddioddefwr sgâm ac wedi anfon arian yna ffoniwch eich banc ar unwaith a rhoi'r gorau i'r taliadau.
- Rhowch wybod am y sgâm i Action Fraud ar 0300 123 2040 defnyddiwch eu teclyn adrodd ar-leinYn agor mewn ffenestr newydd
- Mae gan y rhan fwyaf o ddarparwyr e-bost weithred adrodd lle gallwch farcio'r e-bost fel sothach, yna unwaith yn eich ffolderi sothach, gallwch ei farcio fel sgâm gwe-rwydo, a fydd wedyn yn adrodd yr anfonwr.
Os ydych chi'n meddwl eich bod wedi cael eich targedu gan sgâm, dylech roi gwybod amdano fel y gellir ymchwilio iddo. Gallwch wneud hyn drwy wefan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol gan ddefnyddio eu ffurflen adroddYn agor mewn ffenestr newydd
Sut alla i amddiffyn fy hun rhag sgamiau?
Mae'n anodd dweud y gwahaniaeth rhwng safle dilys a'r safle ffug yr aethpwyd â chi iddo, yn enwedig os yw gan gwmni rydych chi'n ei adnabod. Fodd bynnag, meddyliwch cyn i chi glicio arno.
- Os ydych chi'n derbyn e-bost yn dweud bod problem gyda'ch cyfrif ar-lein, yna ewch i'r wefan honno'n uniongyrchol a mewngofnodi i wirio.
- Os yw'r e-bost yn creu brys trwy ddweud os na fyddwch chi'n diweddaru'ch cyfrinair nawr, yna bydd eich cyfrif yn cau, yna ewch eto i'r wefan honno yn uniongyrchol neu ffoniwch eu gwasanaethau cwsmeriaid i wirio.
- Peidiwch â chlicio ar unrhyw atodiadau o unrhyw ffynonellau anhysbys nac ymateb i'r e-bost.
- Gwnewch yn siŵr bod gennych unrhyw hidlwyr sbam wedi'u troi ymlaen trwy'ch darparwr e-bost, bydd y rhan fwyaf yn rhoi e-byst o ffynonellau anhysbys yn awtomatig i ffolderi sothach/sbam.
- Ychwanegwch gyfeiriadau e-bost unrhyw negeseuon e-bost amheus i'ch rhestrau anfonwr bloc, ni fyddwch wedyn yn cael e-bost o'r cyfeiriad hwnnw eto.
- Gwnewch yn siŵr bod gennych chi hefyd feddalwedd amddiffyn firws yn gyfoes a chreu cyfrineiriau cryf sy'n wahanol i'w gilydd ar gyfer gwahanol wefannau; Diweddarwch yn rheolaidd hefyd.
Gwiriwch i weld a yw cwmni'n gyfreithlon
Os nad ydych yn siŵr am gwmni gwasanaethau ariannol, edrychwch ar gofrestr yr FCAYn agor mewn ffenestr newydd o gwmnïau a reoleiddir. Os nad ydyn nhw'n gwneud hynny, peidiwch â chael unrhyw beth i'w wneud â nhw.
Os nad ydych yn siŵr am unrhyw fath arall o gwmni, gallwch edrych arnynt ar Companies HouseYn agor mewn ffenestr newydd i ddarganfod eu cefndir, neu chwilio am adolygiadau ar-lein.