Bydd yr awgrymiadau syml hyn yn helpu i’ch diogelu yn erbyn sgamiau a thwyll, a'n dweud wrthych beth i’w wneud os nad ydych yn cael yr eitem rydych yn archebu.
Defnyddio cysylltiad diogel
Defnyddiwch gysylltiad wi-fi sâff a diogel neu ddata ffôn symudol wrth siopa ar-lein – gall twyllwyr ddefnyddio wi-fi cyhoeddus i ddwyn gwybodaeth.
Mae hefyd yn werth sicrhau bod eich meddalwedd ac diogelwch gwrthfeirysau wedi’u diweddaru. Gallwch ddod o hyd i ganllawiau ar feddalwedd gwrthfeirws am ddim ar MoneySavingExpertYn agor mewn ffenestr newydd
Gwiriwch a yw’r wefan yn ddilys
Os nad ydych yn adnabod manwerthwr, byddwch yn ofalus bob tro cyn prynu. Yn enwedig os ydych wedi dod o hyd i fargen sy’n rhy dda i fod yn wir.
Mae’n werth gwirio:
- adborth gan eraill, fel adolygiadau ar TrustPilotYn agor mewn ffenestr newydd – ond byddwch yn ymwybodol efallai na fydd y rhain i gyd yn wir.
- bod y cwmni wedi’i gofrestri ar Tŷ'r CwmnïauYn agor mewn ffenestr newydd
- os ydynt yn ymateb i e-byst neu’n ateb y ffôn.
- bod y wefan yn gyfreithlon gan ddefnyddio gwiriwr gwefan Get Safe Online.
Gall sgamwyr greu gwefannau ffug i’ch twyllo i feddwl ei fod yn fargen go iawn. Felly, hyd yn oed os yw’n brand rydych yn ei ymddiried, gwiriwch fod bar cyfeiriad y gwefan:
- gyda symbol clo clap wedi’i gloi
- yn dechrau gyda https://
- heb wallau sillafu neu gymeriadau rhyfedd.
Gweler Ydw i’n cael fy sgamio? am help i adnabod sgamiau.
Gwiriwch y polisi danfon a dychwelyd
Bydd gwerthwyr dilys yn nodi gwybodaeth dychwelyd a dosbarthu ar eu gwefan. Mae'n ddefnyddiol i wybod rhag ofn y bydd rhywbeth yn mynd o’i le.
Dylech wirio:
- pa mor hir y bydd dosbarthu yn ei gymryd
- a fyddwch yn cael rhif tracio
- beth fydd yn digwydd os yw’r eitem ar goll neu’n cyrraedd yn ddiffygiol
- sut i'w ddychwelyd os ydych yn newid eich meddwl.
Defnyddiwch gyfrinair cadarn os ydych yn creu cyfrif
Dewiswch gyfrinair cadarn bob tro ar gyfer eich cyfrifon ar-lein, gan ddefnyddio cyfuniad o lythrennau mawr a bach, rhifau a nodau arbennig.
Gallwch weld canllawiau ar greu cyfrinair cryf ar Get Safe OnlineYn agor mewn ffenestr newydd
Defnyddio cerdyn credyd i dalu
Mae cerdyn credyd yn rhoi diogelwch gwario am ddim i chi ar bopeth rydych yn ei brynu. Os aiff rhywbeth o’i le ac os na fydd y manwerthwr yn rhoi ad-daliad i chi, gofynnwch eich banc i roi’r arian yn ôl i chi.
Mae yna ddau lefel:
- Adran 75 os yw’r eitem yn costio rhwng £100 a £30,000 – hyd yn oed os ydych ond yn talu rhywfaint o’r swm hwnnw ar eich cerdyn credyd-mae gan y darparwr cardiau credyd gyfrifoldeb cyfartal â'r gwerthwr am eitemau diffygiol, anfoddhaol neu sydd heb eu cyrraedd
- Chargeback ar bob pryniant – mae'n well gwneud cais cyn gynted ag y byddwch yn sylweddoli bod problem, gan y bydd angen i chi wneud cais o fewn 120 diwrnod fel arfer. Dysgwch fwy am sut mae'n gweithio yn ein hadran ar Cardiau debyd a chargeback.
Ar yr amod eich bod yn talu'r bil yn llawn ac ar amser bob mis, ni chodir llog arnoch. Gweler ein canllaw syml i gardiau credyd i gael mwy o wybodaeth.
PayPal and Section 75
Byddwch yn ofalus wrth wneud taliad gan ddefnyddio eich cerdyn credyd trwy PayPal – gan na fyddwch yn aml yn cael diogelwch Adran 75 fel hyn.
Dysgwch fwy am PayPal a chardiau credyd ar MoneySavingExpertYn agor mewn ffenestr newyddYn agor mewn ffenestr newydd
Mae cardiau debyd a Paypal hefyd yn cynnig diogelwch
Os nad ydych eisiau defnyddio cerdyn credyd:
- Mae cardiau debyd hefyd yn cynnig diogelwch chargeback ar bob pryniant (ond nid Adran 75).
- Mae gan PayPal gynllun diogelwch os nad yw eitem yn cyrraedd neu nad yw’n cydfynd â’r disgrifiad.
Mae trosglwyddiadau banc yn cynnig llai o ddiogelwch
Mae’n well osgoi talu trwy drosglwyddiad banc wrth siopa ar-lein. Mae hyn oherwydd ei bod yn anoddach cael eich arian yn ôl, ac mae gennych lawer llai o ddiogelwch os aiff rhywbeth o’i le.
Os yw rhywun yn gofyn i chi dalu trwy drosglwyddiad banc, gallai fod yn arwydd ei fod yn sgam. Mae'n llawer mwy diogel defnyddio dull talu gyda diogelwch adeiledig, fel cardiau credyd. Mae gan rai dulliau talu ar-lein hefyd ddiogelwch prynwyr, megis PayPal.
Mae rhagor o wybodaeth yn ein blog Sut i gael ad-daliad am sgamiau trosglwyddo banc
Prynu Nawr Talu wedyn
Yn aml byddwch yn cael y dewis i dalu am eitem mewn rhandaliadau, neu’n ddiweddarach, gan ddefnyddio’r hyn a elwir yn Prynu Nawr Talu Wedyn (BNPL). Mae hyn yn cynnwys cynhyrchion fel Klarna a ‘Pay in 3’ PayPal, sydd fel arfer yn cael eu cynnig pan fyddwch chi’n cyrraedd y ddesg dalu.
Mae BNPL yn fath o fenthyg tymor byr a dylech feddwl yn ofalus cyn ei ddefnyddio. Meddyliwch a yw’r pryniant yn fforddiadwy, a sut y byddwch yn gwneud yr ad-daliadau.
Gallwch ddysgu mwy yn ein canllaw Beth yw Prynu Nawr Talu Wedyn
Beth i’w wneud os aiff rhywbeth o’i le
Mae’r broses i’w dilyn yn dibynnu ar beth sydd wedi digwydd.
Problem gyda phryniant
Os ydych yn cael trafferth gyda phryniant, fel derbyn eitem ddiffygiol neu nad ydych yn derbyn beth rydych wedi talu amdano, gofynnwch y cwmni i’w ddatrys yn gyntaf. Fodd bynnag, cadwch lygad ar unrhyw derfynau amser (fel y terfyn o 120 diwrnod ar gyfer gwneud cais am chargeback) os yw'r cwmni'n araf i ymateb.
Os nad ydynt yn rhoi ad-daliad i chi, gallwch ofyn eich banc neu ddarparwr cerdyn credyd i roi’r arian yn ôl i chi os gwnaethoch dalu â cherdyn. Mae hyn yn cynnwys os ydych chi wedi talu â cherdyn drwy system dalu ar-lein fel PayPal neu Apple Pay.
Bydd eich banc yn ymchwilio ac yn rhoi gwybod i chi am y canlyniad o fewn wyth wythnos.
Os nad ydych yn cytuno, neu mae’r amser wedi mynd heibio, gallwch fynd â’ch cwyn i’r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol am ddim. Byddant yn darparu penderfyniad annibynnol ynghylch a oedd ymateb eich banc yn deg neu a oes angen mwy o wybodaeth arnynt. Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw sut i gwyno.
Mae gan rai marchnadoedd ar-lein amddiffyniad prynwyr
Os aiff rhywbeth o’i le, gwiriwch a oes gan y wefan rydych wedi’i defnyddio i brynu’r eitem unrhyw diogelwch prynwr. Os ydyw, efallai y byddwch yn gallu cael eich arian yn ôl os aiff rhywbeth o'i le.
Gallwch ddarganfod pa farchnadoedd sy'n cynnig amddiffyniad ar-lein ar Which?Yn agor mewn ffenestr newydd Byddwch hefyd yn cael diogelwch prynwr os ydych chi'n defnyddio PayPal.
Dioddefwr twyll neu sgam
Os ydych yn meddwl eich bod wedi defnyddio gwefan dwyllodrus neu mae gan sgamwyr eich manylion, gofynnwch i’ch banc canslo eich cerdyn yn gyflym. Efallai gallant hefyd ad-dalu’r trafodion.
I siarad â rhywun, ffoniwch ein huned troseddau ariannol a sgamiau ar 0800 015 4402.
Mae hefyd yn werth rhoi gwybod i:
- Action FraudYn agor mewn ffenestr newydd neu drwy ffonio 0300 123 2040
- y heddlu ar 101Yn agor mewn ffenestr newydd (os ydych yn yr Alban)
- FCA Scam SmartYn agor mewn ffenestr newydd