Sut i ddewis cyfrinair diogel a’i gadw’nddiogel
Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
18 Awst 2021
Maen nhw'n dweud mai'r ddau beth na allwch eu hosgoi mewn bywyd yw marwolaeth a threth, ond i ddweud y gwir, mae angen i ni ychwanegu cyfrineiriau i'r gymysgedd. Yn yr oes hon, rydym yn byw ar-lein, ac mae pob cyfrif unigol sydd gennym yn debygol o wneud i ni greu cyfrinair fel y gallwn ddiogelu ein gwybodaeth breifat.
Bydd llawer ohonom eisiau cadw pethau'n syml a cheisio cadw at yr un cyfrinair rydych chi wedi bod yn ei ddefnyddio ers 10 mlynedd oherwydd nid yw cofio 50 o wahanol gyfrineiriau ar gyfer 50 o gyfrifon gwahanol yn beth hawdd.
Ond mae gwneud hynny'n golygu nad yw'ch cyfrinair yn mynd i fod yn ddiogel a gallai eich bywyd ar-lein cyfan syrthio fel dominos os bydd rhywun yn darganfod beth ydyw. Felly, dyma sut rydych chi'n dewis cyfrinair diogel a sut rydych chi'n ei gadw'n ddiogel.
Pa mor ddiogel yw fy nghyfrinair?
Os yw'ch cyfrinair yn edrych rhywbeth ar hyd y llinellau 'qwerty', '12345678' neu 'password', yna mae angen i ni sgwrsio. Mae hacwyr, sef pobl sydd eisiau dwyn eich gwybodaeth oddi wrthych, ac yn aml eich arian, yn gwybod y cyfrineiriau safonol. Y cyfan rydych chi'n ei wneud yw gwneud bywyd yn hawdd iddyn nhw.
Mae yna offer ar-lein a fydd yn dweud wrthych pa mor gryf yw eich cyfrinair, fel arfer yn seiliedig ar system goleuadau traffig. Enghraifft o hyn yw The Password MeterYn agor mewn ffenestr newydd
Sut i greu cyfrinair cryf?
Ta waeth pa mor ddiflas mae'n ymddangos, gwnewch bwynt i ddiweddaru'ch cyfrineiriau yn rheolaidd. Mae hyn yn cynnwys y llythrennau mawr a llythrennau bach ynghyd â symbolau a rhifau.
Rhannodd Edward Snowden (sy'n gwybod tipyn am gyfrineiriau a diogelwch ar-lein!) ei gyngor ar sut rydych chi'n creu cyfrinair da ac eto cofiadwy. Dywedodd:
"I rywun sydd â chyfrinair wyth nod cyffredin iawn, gall gymryd llai nag eiliad i gyfrifiadur fynd trwy bosibiliadau a thynnu'r cyfrinair hwnnw allan.
"Anghofiwch am gyfrineiriau a defnyddiwch 'passphrases', neu ymadroddion sy'n hir, unigryw, ac felly'n hawdd i'w cofio.
"Fel 'margaretthatcheris110%SEXY'."
Pam mae’n bwysig cael cyfrinair cryf?
Mwy a mwy rydyn ni'n gwneud pethau pwysig ar-lein. Nid ydym yn edrych ar luniau o gŵn yn unig nac yn gweld beth mae ein cyn bartner yn ei wneud ar y cyfryngau cymdeithasol!
Rydyn ni'n creu cyfrifon bancio, rydyn ni'n prynu morgeisi, mae gennym gyfrifon cyfryngau cymdeithasol gyda'n holl fanylion personol ynddynt. Yr unig beth sy'n cadw pobl sydd eisiau dwyn eich arian rhag gallu yw cyfrinair da.
Nid manylion banc yw'r unig fanylion pwysig y gellir eu dwyn chwaith. Gall haciwr eich gwneud chi'n anhygoel o fregus.
Y gwir yw bod eich cyfrif e-bost yn gysylltiedig â phethau eraill hefyd, fel bancio ar-lein. Os yw haciwr yn cael mynediad i'ch cyfrif e-bost, gallent fewngofnodi i wefan y banc, clicio ar y ddolen 'wedi anghofio cyfrinair' ac yna e-bostio dolen cyfrinair newydd i'r cyfrif e-bost y mae gan yr haciwr fynediad iddo nawr.
Sut i ddewis cyfrinair y gallwch ei gofio?
Y siawns yw bod gennych fwy nag un cyfrinair i'w gofio ac oni bai bod gennych rai sgiliau cof ardderchog, ni fyddwch yn gallu eu cofio i gyd. Nid yw defnyddio'r un cyfrinair ar gyfer llawer o gyfrifon gwahanol yn ateb da ond mae yna ychydig o bethau y gallwch eu gwneud i wneud cyfrineiriau diogel lluosog yn haws i'w cofio, yn ddiogel.
Ni ddylech byth, byth ysgrifennu eich cyfrineiriau i lawr. Os yw rhywun yn ei weld, mae'r gêm drosodd pan ddaw hi i ddiogelwch. Wedi dweud hynny, mae ysgrifennu cliwiau / nodiadau atgoffa ac ati y gallwch chi yn unig eu dehongli a fydd yn eich atgoffa bob amser yn beth da.
Mae rhai pobl yn creu cyfrineiriau y gallant eu cofio'n hawdd trwy greu eu cod arbennig eu hunain. Er enghraifft, gallech gamsillafu geiriau yn fwriadol sy'n eu gwneud yn fwy unigryw ac yn anodd iawn i hacwyr eu dyfalu.
Er enghraifft, yn lle defnyddio'r llythyren 'i' mewn geiriau, beth am ei newid i'r symbol '!' yn lle hynny?
Ffordd arall o ddewis cyfrinair y byddwch chi'n ei gofio yw ei seilio bob amser ar un gair. Gadewch i ni ddweud mai'r gair rydych chi'n ei ddewis yw 'cennin'.
Yr hyn y gallech chi ei wneud, yw ychwanegu tair llythyren gyntaf llythrennau'r wefan rydych chi arni ac yna ei ychwanegu gyda'r ddau rif olaf o'r flwyddyn y cawsoch eich geni. Felly, os cawsoch eich geni ym 1973 ac maer cyfrinair ar gyfer eich cyfrif Facebook, y cyfrinair fyddai FacCennin73. Pe baech chi ar Twitter byddai'n TwiCennin73 ac ati.
Beth yw rhai enghreifftiau o gyfrineiriau da - a drwg?
Wrth feddwl am gyfrinair, mae yna ychydig o bethau y mae angen i chi eu cynnwys a bydd yn lleihau'n ddramatig y tebygolrwydd y bydd haciwr yn cael mynediad, gan gadw'ch holl wybodaeth bersonol - a’ch arian - yn ddiogel.
Mae'r rhain yn cynnwys:
- Rhaid i'r cyfrineiriau fod yn hir ac mor gymhleth â phosibl.
- Dylai gynnwys o leiaf deg nod a chyfuno symbolau fel atalnod ac arwyddion canran, yn ogystal â phriflythrennau, llythrennau bach a rhifau.
- Peidiwch byth ag ysgrifennu eich cyfrinair i lawr gan ei fod yn ei gwneud hi'n haws i'r cyfrineiriau gael eu dwyn a'u defnyddio gan rywun arall.
- Peidiwch byth â defnyddio'r un cyfrinair ar gyfer dau neu fwy o ddyfeisiau, gan y bydd hacwyr sy'n torri i mewn i un peiriant yn ceisio defnyddio'r un cyfrinair i gymryd rheolaeth ar eraill.
Gan ddefnyddio'r holl awgrymiadau hyn, byddai cyfrinair da yn edrych rhywbeth fel:
- Dw!’ncaruC03dNadolig
- GameOfThronesIsBrilliant!999!
- HelpwrArianBl@gIsTheB3st.
Meddyliwch am ymadroddiad yna meddyliwch am ffyrdd hawdd o ychwanegu darnau ychwanegol ato i wneud y cyfrinair yn fwy cymhleth.
Awgrymiadau diogelwch cyfrinair
Rydym yn gobeithio eich bod wedi cael digon o awgrymiadau yn yr erthygl hon fel y gallwch chi greu cyfrinair cadarn i gadw'ch arian a'ch gwybodaeth bersonol yn ddiogel.
Crynodeb cyflym:
- peidiwch byth â rhoi eich cyfrinair i unrhyw un
- peidiwch â defnyddio un cyfrinair
- defnyddiwch frawddeg ar gyfer cyfrinair (does dim rhaid iddo gynnwys Margaret Thatcher!)
- gwnewch y cyfrinair o leiaf 10 nod o hyd
- cynnwys rhifau, priflythrennau a symbolau
- ystyriwch ddefnyddio rheolydd cyfrineiriau
- ystyriwch ddefnyddio dilysiant aml-ffactor
- peidiwch â syrthio fewn i ymosodiadau gwe-rwydo
- gwnewch yn siŵr bod eich dyfeisiau'n ddiogel
- defnyddiwch gyfrinair neu olion bysedd ar gyfer eich ffôn hefyd.