Cynlluniwr cyllideb
I’ch helpu i reoli’ch arian, rhowch gynnig ar ein Cynlluniwr cyllideb rhad ac am ddim sy’n hawdd ei ddefnyddio
Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
21 Hydref 2026
P'un a yw ar eich porth cyfryngau cymdeithasol, eich mewnflwch e-bost neu yn ffenestri siopau ar eich stryd fawr leol, mae'n debyg eich bod wedi gweld llawer o hysbysebion yn hyrwyddo am fargeinion Dydd Gwener y Gwario Gwirion na allwch eu colli. Ond a yw'r bargeinion hyn yn dda mewn gwirionedd? Neu ai marchnata clyfar sydd wedi'i gynllunio i chi wario?
Dyma'r ateb gonest - mae'n dibynnu. Mae rhai gostyngiadau Dydd Gwener y Gwario Gwirion yn cynnig gwerth gwych am arian. Mae eraill yn ymddangos yn gyffrous ond nid ydynt yn arbed llawer o arian i chi unwaith y byddwch chi'n gwneud ychydig o ymchwil.
Dyma beth sydd angen i chi ei wybod i siopa'n glyfar y Dydd Gwener y Gwario Gwirion hwn, p’un a ydych yn prynu, yn aros, neu’n dewis peidio â chymryd rhan o gwbl.
Dechreuodd Dydd Gwener y Gwario Gwirion yn yr Unol Daleithiau fel un diwrnod o ostyngiadau y diwrnod ar ôl Diolchgarwch. Ond mae wedi croesi’r Iwerydd ac wedi dod yn boblogaidd yn y DU hefyd.
Y dyddiau hyn, nid un diwrnod o ostyngiadau yn unig ydyw. Byddwch yn aml yn gweld "bargeinion Dydd Gwener y Gwario Gwirion cynnar" yn ymddangos ymhell cyn y diwrnod ei hun, tra bod manwerthwyr eraill yn cadw eu gostyngiadau mwyaf ar gyfer y diwrnod ei hun neu'n eu hymestyn i'r wythnos ganlynol.
Mae Dydd Gwener y Gwario Gwirion ar y dydd Gwener olaf ym mis Tachwedd bob blwyddyn. Ond mae llawer o fanwerthwyr yn dechrau eu gwerthiannau wythnosau neu ddyddiau ynghynt, ac mae nifer ohonynt yn cadw'r gostyngiadau tan Ddydd Llun Seibr (y dydd Llun ar ôl Dydd Gwener y Gwario Gwirion) ac weithiau y tu hwnt.
Dyma pam y gall deimlo ychydig yn ddryslyd ceisio gweithio allan pryd fydd y bargeinion go iawn yn digwydd.
Mae rhai bargeinion Dydd Gwener y Gwario Gwirion yn cynnig gwerth gwych am arian ond nid bob amser.
Nid yw gostyngiad enfawr o 70% o reidrwydd yn golygu eich bod chi'n cael pris gwych, neu fod angen y peth arnoch chi hyd yn oed yn y lle cyntaf.
Pan fyddwch chi'n siopa, mae bob amser yn werth gwybod arwyddion sgamiau Dydd Gwener y Gwario Gwirion a gwefannau ffug.
Cyn i chi brynu, mae'n werth gofyn i chi'ch hun:
Gall hyn eich helpu i osgoi prynu rhywbeth y gallech ddifaru yn nes ymlaen.
Am fwy o help, edrychwch ar ein blog am wario byrbwyll.
Nid yw pob gostyngiad "oedd yn £100, nawr yn £50" yn gyfreithlon. Dyma sut i wirio a yw gostyngiad yn ddilys:
Yn anffodus, nid oes ateb clir. Mae Dydd Gwener y Gwario Gwirion yn adnabyddus am gynnig bargenni da ar dechnoleg, nwyddau trydanol a nwyddau cartref. Tra bod gwerthiannau Dydd San Steffan yn aml yn canolbwyntio ar glirio stoc fel dillad, dodrefn ac unrhyw beth sy'n weddill o'r tymor Nadolig.
Os nad ydych ar frys, gall fod yn werth cymharu'r ddau gyfnod yn hytrach na chymryd yn ganiataol mai un yw'r opsiwn rhatach yn awtomatig.
Mae prisiau weithiau'n gostwng yn ystod y gwerthiannau clirio ar ôl y Nadolig a gwerthiannau mis Ionawr. Ond nid oes modd gwarantu hynny.
Dyma ychydig o bethau sy'n werth eu hystyried cyn penderfynu a ddylid prynu nawr neu aros:
Os nad ydych ar frys, efallai y byddai'n werth aros i weld beth sy'n digwydd.
Yn meddwl am y Nadolig? Darllenwch ein blog ar 10 peth hanfodol i ychwanegu i'ch cyllideb Nadolig nawr a darganfyddwch cynilo arian ar gyfer y Nadolig.
Mae Dydd Gwener y Gwario Gwirion wedi'i gynllunio i greu ymdeimlad o frys drwy ddefnyddio clociau cyfrif i lawr, negeseuon "dim ond 2 ar ôl mewn stoc", a baneri sy'n fflachio. Er mwyn osgoi cael eich ysgubo ynghyd ag ef a gwario mwy nag yr oeddech wedi'i gynllunio, gallwch:
A chofiwch, nid yw gwario £50 ar rywbeth nad oes ei angen arnoch yn arbediad, hyd yn oed os cafodd ei ostwng o £100. Os nad oeddech chi'n mynd i'w brynu beth bynnag, nid ydych wedi cynilo £50, rydych chi wedi gwario £50.
Gall cymryd yr amser i reoli'ch arian yn well dalu ar ei ganfed, darganfyddwch sut y gallwch chi wneud hyn yn ein canllaw i ddechreuwyr.
Weithiau, ond nid bob amser. Gellir codi prisiau ymlaen llaw i wneud i'r gostyngiad edrych yn well nag y mae mewn gwirionedd, felly mae'n werth gwirio'r hanes prisiau a chymharu ychydig o fanwerthwyr cyn i chi ymrwymo.
Mae hynny'n dibynnu ar yr hyn rydych chi eisiau prynu. Os nad oeddech eisoes yn bwriadu ei brynu, gofynnwch i chi'ch hun a oes ei angen arnoch mewn gwirionedd.
Nid o reidrwydd. Mae'n dibynnu ar y cynnyrch, y manwerthwr, a'r hyn sy'n digwydd gyda stoc ar y pryd. Os gallwch, mae'n werth cymharu'r ddau gyfnod cyn penderfynu.
Weithiau. Gall gwerthiannau mis Ionawr gynnig gostyngiadau gwych wrth i fanwerthwyr glirio stoc ar ôl y Nadolig, ond nid oes sicrwydd y bydd y prisiau’n well na’r rhai a welsoch ar ddydd Gwener y Gwario Gwirion.