Math arall o sgam y gallech gael eich targedu ganddo yw negeseuon e-bost neu negeseuon testun sy'n esgus eu bod gan gwmnïau dosbarthu fel Royal Mail, DPD neu InPost.
Byddant yn aml yn gofyn am daliad am dâl postio sydd heb ei dalu'n llawn, drwy ddefnyddio dolen sy'n mynd â chi i wefan ffug.
Ar gyfer danfoniadau'r Post Brenhinol o'r DU, bydd hysbysiad am dâl postio sydd heb ei dalu'n llawn fel arfer yn dod ar gerdyn llwyd drwy eich drws, nid drwy e-bost na neges destun.
Os ydych chi'n disgwyl danfoniad rhyngwladol, mae'n eithaf cyffredin y bydd angen talu treth neu daliadau tollau arno, ac efallai y cewch eich hysbysu am hynny drwy e-bost.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio'r manylion a roddir ar gyfer talu. Efallai y byddant yn dweud wrthych i ffonio rhif i wneud taliad, gwiriwch fod hyn yn cyfateb i'r rhif ar wefan swyddogol y cwmni dosbarthu.
Ni fyddai unrhyw gwmni dosbarthu dilys yn gofyn i chi dalu drwy drosglwyddiad banc neu gerdyn rhodd am unrhyw bostio, treth neu dollau sy’n ddyledus.