Beth allaf ei wneud os na allaf fforddio prynu neu redeg car?

Cyhoeddwyd ar:

Mae cael car yn hanfodol am nifer, ond gyda chostau byw’n cynyddu, mae pobl nawr mewn sefyllfa heb ddigon o arian i dalu am y pethau sylfaenol. Felly, beth ydych yn ei wneud os na fedrwch fforddio un ar hyn o bryd? Isod mae’r atebion i’r cwestiynau mwyaf cyffredin am gael a fforddio car ar gyllid llym. 

Beth os nafedrai fforddio car ar hyn o bryd?

Os nad yw cael car yn rhywbeth gallwch fforddio ar hyn o bryd, gall fod opsiynau mwy fforddiadwy eraill gallwch edrych arno. Er enghraifft, efallai byddwch am edrych ar:

Os yw car yn angenrheidiol er mwyn eich cael i’ch cyrchfan, ystyriwch drefnu rhannu taith gyda’ch teulu neu ffrindiau, neu efallai defnyddio tacsi os nad oes angen i chi yrru (neu gael eich gyrru) bob dydd.

Pa bynnag penderfyniad rydych yn ei wneud, ceisiwch addasu’ch cyllideb lle’n bosib, fel y gallwch gadw arian i allu prynu car yn y dyfodol. 

Costau car ar gyfer y dyfodol i’w hystyried

Mae pethau eraill efallai y byddwch am feddwl amdanynt os ydych yn cael car, yn cynnwys cost treth y ffordd, yswiriant, MOT a gwasanaethu car, ayyb. Sicrhewch y gallwch fforddio’r costau ychwanegol hyn wrth ddewis i brynu car neu beidio.

Beth yw’rffordd rataf i gael car?

Y ffordd rataf i brynu car yw talu amdano (yn llawn neu mewn rhan) gydag arian parod.

Os fedrwch dalu yn llawn ymlaen llaw am gerbyd, byddwch yn ei berchen a byddwch yn osgoi taliadau llog ar gynlluniau gyllid mwy hirdymor.

Mae angen cararnaf, ond ni allaf fforddio talu amdano’n llwyr. Beth yw fy opsiynau?

Os oes angen car arnoch ond nid yw’r cyllid gennych i dalu am un ymlaen llaw, mae opsiynau eraill fel cyllid car.

Mae cyllid car, fel pryniad cytundeb personol (PCP) neu hurio cytundeb personol (PCH) yn eich galluogi i gael car yn gyflym, ond mae’r taliadau llog yn ei wneud yn fwy drud yn y tymor hir. Taliadau balwn trwy gynllun PCP yw cyfandaliad sy’n cael ei dalu ar ddiwedd cyfnod benthyg. Mae’r taliad balwn yn fwy na’r taliadau sydd wedi’i wneud trwy gydol y cytundeb cyllid gwreiddiol.

Gall eich statws credyd effeithio ar gost eich cytundeb cyllid car.

Os nad yw’r arian gennych i dalu am y car ymlaen llaw, gallwch ystyried opsiynau eraill fel benthyciadau cymheiriad-i-gymheiriad (lle mae pobl yn benthyg yn uniongyrchol i unigolion eraill). Fodd bynnag, mae’n werth nodi gall fod yn anodd cael benthyciad cymheiriad-i-gymheiriad os oes gennych statws credyd gwael. Darganfyddwch fwy am fenthyciadau cymheiriad-i-gymheiriad.

A allaf gael cyllid car gydag ychydig neu ddim credyd neu statws credyd gwael?

Mae’n bosib cael eich cymeradwyo am gar gyda statws credyd gwael. Ond mae’n werth nodi bod cael eich cymeradwyo am gyllid car yn dibynnu ar eich hanes credyd a’ch cymhwysedd. Os yw’ch statws credyd yn isel, efallai bydd angen i chi dalu cyfraddau llog uwch ar eich taliadau misol, yn ei wneud yn llawer mwy drud yn yr hirdymor.

Cofiwch nid yw’n meddwl bydd car yn gwbl fforddiadwy i chi os ydych yn cael eich cymeradwyo am fenthyciad. Bydd angen i chi gyfrifo cyllideb a sicrhau bod gennych arian ar gyfer costau annisgwyl fel trwsio car a gallu cadw i fyny gyda thaliadau os yw’ch incwm yn newid.  

Beth os ydwi’n ddi-waith?

Os ydych yn ddi-waith, efallai gallwch gael car ar gyllid o hyd yn dibynnu ar y darparwr cyllid, eich hanes credyd, statws credyd, a chymhwysedd. Ond mae’n debygol o fod llawer yn anoddach, gyda chytundebau drud iawn. Mae hefyd yn werth nodi bydd cael eich gwrthod gan ddarparwr cyllid yn effeithio’n negyddol ar eich statws credyd.

Mae gwastad yn orau i ystyried eich opsiynau yn ofalus, yn benodol faint gallwch fforddio i dalu yn bersonol a’ch amgylchiadau cyllidol unigol yn erbyn y benthyciad neu gyllid rydych yn ei ystyried.

Ffyrdd eraill i gael car rhad

Mae gwefannau helpfawr am geir newydd ac wedi’u defnyddio fel Which?Opens in a new windowYn agor mewn ffenestr newyddCar ExpertOpens in a new windowYn agor mewn ffenestr newydd yn ffynonellau gwybodaeth dda ar gyfer pobl sy’n edrych am geir rhad.

Gall fod yn rhatach i osgoi delwyr ceir ail-law yn gyfan gwbl (er y gallent gynnig gwarant), oherwydd maent yn cymryd rhan o werthiant o’r gwerthwr gwreiddiol.

Sicrhewch eich bod yn gwybod beth rydych yn ei wneud cyn dechrau’r broses o brynu car fel nad ydych yn cael eich twyllo. Gwiriwch y canllaw i brynu car ail-lawYn agor mewn ffenestr newydd hwn.

Mae hefyd gynlluniau tanysgrifiad car misolOpens in a new window lle rydych yn talu ffi fisol am y car, ac mae hwn fel arfer yn cynnwys costau fel cynnal, atebolrwydd a chymorth ymyl ffordd.

Wrth ystyried yr opsiynau hyn i gyd, y peth orau yw ystyried eich amgylchiadau cyllidol a fforddiadwyedd personol.

Beth yw’r ffordd rataf i gael yswiriant car?

Sicrhewch eich bod yn siopa o gwmpas am fargen dda sy’n addas ar eich cyfer ar eich yswiriant car. Mae gwefannau fel MoneySavingExpertYn agor mewn ffenestr newydd yn lle da i ddechrau! Cofiwch ei fod yn werth gwneud ymchwil eich hunain a gwirio gwefannau fel Direct Line hefyd.

Mae talu’n flynyddol, ystyried y math o yswiriant, cynyddu eich gormodedd gwirfoddol, cyfyngu milltiredd, ac adeiladu eich gostyngiad bonws dim cais yn ffyrdd gallwch ostwng eich costau yswiriant car. Edrychwch ar ein 5 awgrym gorau i ostwng eich premiwm yswiriant car.

Gall adnewyddu eich yswiriant car yn awtomatig gyda’ch darparwr presennol hefyd fod yn ddrud, a gall eich bod yn colli allan ar arbedion gyda darparwr arall. Gall eich yswiriwr hefyd cynyddu premiymau fel hyn hefyd.

Beth sy’n digwydd os nafedrai fforddio yswiriant car?

Os ydych yn cael problemau difrifol i dalu eich yswiriant car, y peth orau yw siarad â’ch darparwr yswiriant yn syth i ddod o hyd i ddatrysiad addas wrth symud ymlaen. Gall methu taliad neu dalu’n hwyr cael canlyniadau difrifol. Gallwch gael ffi taliad hwyr neu fethiant talu gan eich darparwr yswiriant, yn ogystal â ffioedd methiant talu gan eich banc os yw’ch debyd uniongyrchol yn methu. Mae pob tro yn cael ei argymell i gysylltu â’ch darparwr yn uniongyrchol ac mor fuan â phosibl.

Beth ydw i’n gwneud os na fedrai fforddio atgyweiriadau car?

Os ydych mewn sefyllfa lle nad oes modd i chi dalu am atgyweiriadau car, mae’n werth edrych ar eich opsiynau Un o’r pethau cyntaf gallwch ei wneud yw gwirio eich gwarant i weld a allwch gael eich atgyweiriadau yn y ffordd honno. Gall brynu ddarnau ail-law a siarad â’ch mecanydd am y ffordd orau i symud ymlaen fod yn ffordd arall o ddatrys unrhyw broblemau.

Fel gyrrwr mae gennych ddyletswydd i sicrhau a gwirio bod eich cerbyd yn ddiogel Yn agor mewn ffenestr newydd i yrru ar bob adeg.

Beth sy’ndigwydd os na fedrai fforddio talu fy mecanydd?

Siaradwch â’ch mecanydd i weld os gallent gynnig cynllun rhandaliad i dalu unrhyw gostau atgyweirio sy’n weddill. Mae cwmnïoedd fel bumperOpens in a new window yn cynnig cynlluniau ad-daliad misol am atgyweiriadau car. Mae cwmnïoedd sy’n cynnig gwasanaethau rhandaliad fel arfer yn cynnig opsiynau 0% di-log sy’n amrywio o bedwar i chwe mis. Ond mae’n werth nodi bod y math hwn o gynllun rhandaliad fel arfer yn cynnwys gwiriad credyd, ac mae gwastad yn orau i siopio o gwmpas i ddod o hyd i gytundeb sy’n gweithio orau ar gyfer eich cyllid os yw hwn yn rhywbeth rydych yn ystyried.

Mae gwastad yn cael ei argymell i ymweld â mwy nag un mecanydd i wirio prisiau, gan sicrhau eich bod yn cael y pris orau am atgyweiriadau. Mae hefyd yn syniad da i gymryd rhywun sydd â phrofiad gyda cheir gyda chi i’r mecanydd lle’n bosib, i leihau’r posibilrwydd o gael eich twyllo.

Os ydych yn ffeindio bod rhaid i chi dalu swm sylweddol ar atgyweiriadau efallai bydd rhaid ystyried cael gwared â’ch car, yn hytrach na thalu am atgyweiriadau yn barhaus sy’n gallu arwain at wario mwy o arian yn yr hirdymor. Gall ei fod yn werth rhoi arian ychwanegol sydd wedi bod yn mynd tuag atgyweiriadau tua datrysiad dros dro fel defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu gynilo am gerbyd newydd.

Beth sy’ndigwydd os ydw i’n cael tocynnau parcio na fedrai fforddio talu?

Os ydych yn cael trwydded goryrru neu docyn parcio na fedrwch fforddio, dylech gysylltu â’ch awdurdod lleol a gofyn pa opsiynau sydd gennych i ddatrys y broblem.

Gall rhai cynghorau trefnu i chi dalu eich tocynnau parcio mewn rhandaliadau.

Mae’n bwysig cael cyngor mor fuan â phosibl, yn enwedig os oes gennych ddyledion eraill.

Gall tocyn parcio effeithio ar eich statws credyd?

Bydd tocyn parcio ond yn effeithio ar eich statws credyd os rhoddir dyfarniad llys sirol (CCJ) yn eich erbyn os ydych wedi cael eich dwyn i’r llys am beidio â thalu’r tocyn.

Os oes gennych drwydded parcio rydych yn cael trafferth i dalu, gall ei fod yn arwyddocaol o broblem ddyled mwy. Gallwch gael help pellach ohonom ni, StepChangeOpens in a new window National DebtlineOpens in a new window or Gyngor ar BopethOpens in a new window

Beth sy’ndigwydd os na fedrai fforddio fy nghyllid car?                       

Os ydych yn cael trafferth neu wedi cwympo tu ôl gyda thaliadau cyllid car, mae’n bwysig iawn i siarad â’ch darparwr cyllid car i weld pa ddatrysiadau sydd ar gael mor fuan â phosibl.

Gall fod opsiynau fel ymestyn cyfnod y cytundeb i leihau taliadau misol neu wyliau talu fod yn bosib yn dibynnu ar y darparwr, y math o gytundeb sydd gennych a’r amgylchiadau.

Mae hefyd yn werth nodi fod y benthyciwr yn berchen ar y car nes bod y balans dyledus wedi'i dalu'n llawn.

Mae gan StepChangeYn agor mewn ffenestr newydd gyngor ar ddyled cyllid car hefyd. 

Ni allaf fforddio fy nghar mwyach - Beth ddylwn i ei wneud?

Os na allwch fforddio eich car rhagor, efallai bydd angen ystyried gwerthu eich car (oes oeddech wedi’i brynu’n llwyr), dychwelyd neu ail-gyllido eich cerbyd os oeddech wedi’i brynu trwy gyllid car.

Ystyriwch eich amgylchiadau cyllidol wrth wneud penderfyniad. Mae opsiynau eraill o hyd fel defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, llogi car neu rannu neu fenthyg car, neu dacsi yn dibynnu ar amlder eich anghenion teithio. 

Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.