Cyllid ceir wedi’i gamwerthu – pwy fydd yn cael iawndal a sut y bydd yn cael ei dalu?
Diweddarwyd diwethaf:
10 Mehefin 2026
Os oedd gennych gytundeb cyllid car rhwng 2007 a 2024, gallwch fod â hawl i iawndal. Ar gyfartalog mae taliadau dros £800, a gallwch wneud cais dros eich hunan, ond mae’r cynllun wedi oedi. Darganfyddwch pwy allai gael iawndal, beth sydd angen i chi ei wneud nesaf a pham y dylech osgoi cwmnïau rheoli hawliadau a chwmnïau cyfreithiol.
Ar yr olwg gyntaf: yr hyn sydd angen i chi ei wybod
- Mae heriau cyfreithiol newydd yn erbyn y cynllun yn golygu ei bod hi’n debygol y bydd taliadau’n cael eu gohirio tan 2027-28.
- Mae’n debygol y bydd llawer o gytundebau cyllido ceir rhwng 6 Ebrill 2007 ac 1 Tachwedd 2024 yn gymwys i gael iawndal.
- Mae’n debygol y byddwch yn gymwys i gael iawndal os oedd gan eich cytundeb drefniant comisiwn dewisol (DCA), comisiwn annheg o uchel neu rwymedigaeth gytundebol na chawsoch wybod amdani.
- Mae amser o hyd i gwyno’n uniongyrchol i’ch benthyciwr os ydych chi’n meddwl eich bod chi’n gymwys ac nad ydych chi wedi gwneud hynny eto. Rhaid i’ch benthyciwr ddweud wrthych chi os nad ydyn nhw’n meddwl eich bod chi’n gymwys.
- Nid oes angen i chi ddefnyddio cwmni rheoli hawliadau na chwmni cyfreithiol i gael eich arian.
- Byddwch yn wyliadwrus o sgamwyr gan fod rhai twyllwyr yn defnyddio'r newyddion am gyllid ceir sydd wedi'i gamwerthu i gael arian neu fanylion pobl.
- Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon yn rheolaidd gyda'r holl wybodaeth wedi'i chadarnhau cyn gynted ag y gallwn.
Pam ddylwn i osgoi defnyddio cwmni rheoli hawliadau neu gwmni cyfreithiol?
Bydd hawlio iawndal eich hun yn golygu eich bod chi'n cadw pob ceiniog sy'n ddyledus i chi.
Efallai eich bod chi wedi gweld hysbysebion ar gyfer cwmnïau a all hawlio iawndal ar eich rhan (a elwir yn gwmnïau rheoli hawliadau, neu CMCs). Fel arfer, mae'r cwmnïau hyn yn cymryd cyfran fawr o unrhyw iawndal. Er enghraifft, os oedd £1,000 yn ddyledus i chi mewn iawndal:
- gallai defnyddio CMC adael cyn lleied â £640 ar ôl o'r arian sy'n ddyledus i chi
- ond bydd cwyno eich hun yn sicrhau eich bod chi'n cael y £1,000 llawn
Dylech osgoi hysbysebion ‘awgrymiadau arian’ cyllid car gan CMCs a chwmnïau cyfreithiol ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae ymchwil gan reoleiddwyr, gan gynnwys yr FCA, wedi canfod bod hysbysebion sy’n ymddangos fel pe baent yn cynnig cyngor annibynnol gan arbenigwr neu enwogion yn aml mewn gwirionedd yn hyrwyddiadau taledig gan CMCs a chwmnïau cyfreithiol sy’n annog pobl i gofrestru ar gyfer hawliadau cyllid car.
Ni fydd CMC neu gwmni cyfreithiol yn gyflymach nac yn gwneud unrhyw beth na allwch ei wneud eich hun – a gallai eu hosgoi arbed £100 i chi.
Beth os ydw i eisoes wedi cofrestru gyda chwmni rheoli hawliadau?
Os ydych chi eisoes wedi cofrestru gydag un o'r cwmnïau hyn, gallwch ganslo. Ond bydd angen i chi wirio a oes rhaid i chi dalu ffi ganslo. Gallwch ofyn i adael am ddim os cawsoch eich cofrestru heb roi eich caniatâd, os cawsoch eich camarwain, neu os cawsoch eich trin yn annheg. Os byddwch yn canslo, rhaid i unrhyw ffi fod yn deg ac yn adlewyrchu faint o waith y mae’r cwmni eisoes wedi’i wneud.
Dylai'r cwmni roi crynodeb i chi o'r gwaith maen nhw wedi'i wneud hyd yn hyn. Os nad ydych chi'n credu eu bod nhw'n esbonio pethau'n glir, gallwch chi gwyno i'r cwmni. Gallwch chi hefyd wneud hyn os ydych chi'n credu eich bod chi wedi cael eich camarwain gan hysbysebu, eich bod chi wedi cael ffioedd afresymol neu eich bod chi wedi cael eich trin yn annheg.
Os ydych yn anhapus gyda’r ffordd y mae CMC neu gwmni cyfreithiol wedi delio â’ch achos, gallwch wneud cwyn yn uniongyrchol i’r cwmni. Mae’r FCA wedi creu templed llythyr y gallwch ei lawrlwytho i helpu gyda’ch cwynYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych chi'n anhapus ag ymateb y cwmni, gallwch godi'ch cwyn gyda:
Pwy fydd yn gymwys i gael iawndal?
Gallech fod yn gymwys i gael iawndal am unrhyw gytundeb cyllid modur (gan gynnwys ceir, faniau, faniau gwersylla a beiciau modur) os na ddywedwyd wrthych ei fod:
- yn cynnwys trefniant comisiwn dewisol (DCA)
- wedi cael comisiwn annheg o uchel neu
- wedi cael rhwymiad cytundebol - trefniant rhwng y benthyciwr a'r brocer, gan roi hawliau unigryw iddynt ddarparu credyd.
Mae hefyd angen iddo fod wedi'i gytuno rhwng 6 Ebrill 2007 ac 1 Tachwedd 2024.
Bydd cytundebau Prynu Contract Personol (PCP) a Hurbwrcas (HP) yn gymwys. Fodd bynnag, os gwnaethoch logi car trwy Llogi Contract Personol (PCH), ni fyddwch yn cael iawndal trwy'r cynllun hwn.
Nid yw nifer fach o fenthyciadau gwerth uchel wedi’u cynnwys yn y cynllun iawndal – gallwch wirio’r manylion ar dudalen cwynion cyllid ceir yr FCAYn agor mewn ffenestr newydd
Sut ydw i’n gwybod a ydw i’n gymwys i gael iawndal DCA?
Os oedd gan eich cytundeb DCA na chawsoch chi wybod yn iawn amdano, mae'n debygol iawn y bydd iawndal yn ddyledus i chi. Byddwch chi'n gymwys cyn belled â:
- ybod eich cytundeb wedi’i drefnu rhwng 6 Ebrill 2007 a 28 Ionawr 2021 - y dyddiad y gwaharddwyd DCAs
- bod eich cytundeb naill ai'n Brynu Contract Personol (PCP) neu'n Hurbwrcas (HP)
- bod eich cerbyd wedi'i brynu at ddefnydd personol.
Beth yw DCA?
Roedd DCAs yn fath cudd o gomisiwn a oedd yn caniatáu i werthwyr a broceriaid gynyddu'r comisiwn a enillwyd ganddynt drwy godi mwy ar gwsmeriaid.
Roedd y trefniant yn golygu y gallai brocer osod cyfradd llog uwch ar gytundeb, sy'n golygu y byddent yn ennill mwy mewn comisiwn.
Cafodd DCAs eu gwahardd ym mis Ionawr 2021. Felly, ni fydd unrhyw gytundebau cyllido ceir a wnaed ers hynny yn cynnwys DCA.
A oedd fy nghytundeb cyllid car yn cynnwys DCA?
Y ffordd orau o ddarganfod yw trwy edrych trwy waith papur eich cyllid car, os ydyw gyda chi o hyd. Os nad yw’n bosibl, gallwch gyflwyno cwyn a bydd eich benthyciwr yn cysylltu â chi os ydych yn gymwys.
Hyd yn oed os nad ydych yn siwr a’ch bod yn dewis peidio â gwneud cwyn, dylech gael iawndal o hyd os oedd eich cytundeb yn cynnwys DCA.
Mae rhai cwmnïau wedi honni nad ydynt erioed wedi defnyddio DCAs. Gallwch weld rhestr o gwmnïau nad ydynt yn defnyddio DCAs ar MoneySavingExpert.
Sut ydw i’n gwybod a dalwyd comisiwn annheg o uchel?
Bydd comisiwn uchel iawn nad yw wedi'i egluro'n iawn i chi yn golygu eich bod yn gymwys i gael iawndal, ond mae angen iddo gyrraedd canran benodol o'r gost gyffredinol.
Er enghraifft:
- Roedd eich cytundeb cyllid car yn cynnwys benthyciad o £10,000
- Dros gyfnod y cytundeb, fe wnaethoch chi ad-dalu £13,000 (y benthyciad, ynghyd â £3,000 o log)
- Yn yr enghraifft hon, os gwnaethoch chi dalu dros £1,200 mewn comisiwn, byddech chi'n gymwys i gael iawndal oherwydd comisiwn annheg o uchel. Mae hyn oherwydd bod y comisiwn dros 39% o'r llog, a thros 10% o'r benthyciad.
Fodd bynnag, ni fydd llawer o gytundebau wedi gwneud y ffigurau hyn yn glir – felly os nad ydych chi’n siŵr,
gallwch naill ai:
- cyflwyno cŵyn oherwydd y bydd yn rhaid i’ch benthyciwr gysylltu â chi i gynnig iawndal i chi os ydych yn gymwys, neu
- aros i’r cynllun iawndal ddechrau, oherwydd y bydd eich benthyciwr dal yn cysylltu â chi os ydych yn gymwys – ond gallai hyn gymryd yn hirach na phe baech yn gwneud cwyn.
Sut ydw i’n gwybod a oedd gan fy nghytundeb rwymiad cytundebol?
Cafodd rhai cytundebau cyllid modur eu camwerthu oherwydd bod rhwymiad cytundebol yn bodoli. Mae hyn yn golygu bod gan y gwerthwr gytundeb â benthyciwr i gynnig eu hopsiwn cyllido i chi yn unig yn hytrach na chwilio'r farchnad am fargen well.
Os na chawsoch wybod am yr ymrwymiad cytundebol, byddwch yn gymwys i gael iawndal. Nid yw rhai cytundebau lle'r oedd gan fenthycwyr a delwyr gysylltiadau gweladwy (megis rhannu enw) wedi'u cynnwys yn y cynllun.
Gallwch naill ai:
- gyflwyno cwyn, gan y bydd angen i'ch benthyciwr gysylltu â chi i gynnig iawndal os ydych chi'n gymwys, neu
- aros i unrhyw gynllun iawndal ddechrau, gan y bydd eich benthyciwr yn dal i gysylltu â chi os ydych chi'n gymwys - ond gallai hyn gymryd mwy o amser nag os byddwch chi'n cwyno.
A ddylwn i gyflwyno cwyn?
Dylai cwsmeriaid a gyflwynodd gwyn cyn y dyddiad y bwriadwyd i’r cynllun ddechrau (30 Mehefin yn wreiddiol) gael iawndal yn gyflymach.
Os dewiswch beidio â chwyno, byddwch yn dal i gael taliad os ydych yn gymwys ond byddwch yn cael ymateb yn gyflymach os byddwch yn cwyno nawr.
Nid oes angen i chi gwyno eto. Os ydych eisoes wedi cwyno a bod eich benthyciwr wedi cydnabod hynny, fel arfer nid oes angen i chi gwyno eto. Arhoswch i'ch benthyciwr gysylltu â chi.
Mae defnyddio templed am ddim i gyflwyno cwyn yn golygu y gallwch osgoi cwmnïau rheoli hawliadau a sicrhau eich bod yn cael yr holl arian sy'n ddyledus i chi.
Mae templed llythyr cwyn am ddim ar gael ar:
Dod o hyd i’ch darparwr
Os nad ydych yn siŵr pwy ddarparodd eich cytundeb cyllid car, gallwch:
wirio datganiadau banc blaenorol
edrych am e-byst neu lythyrau cadarnhad
- cysylltu â’r gwethwr ceir y prynoch chi’r car ganddo.
Os oedd eich cytundeb yn weithgar yn y chwe mlynedd ddiwethaf, gallwch wirio eich adroddiad credyd. Dylai eich darparwr fod wedi’i restru yno. Mae gan Equifax hefyd ap gwirio cyllid ceir am ddimYn agor mewn ffenestr newydd sy'n dangos cytundebau sy'n mynd yn ôl i 2007.
Yna gallwch ddarparu'r wybodaeth hon i'ch benthyciwr fel tystiolaeth bod gennych gytundeb, a fydd yn sicrhau eich bod yn cael eich cynnwys yn y cynllun iawndal os ydych chi'n gymwys.
Os ydynt eisoes wedi gwrthod eich cwyn
Os ydynt eisoes wedi gwrthod eich cwyn ond eich bod yn parhau i feddwl eich bod yn gymwys, gallwch gyflwyno cwyn arall.
Os ydych yn penderfynu i beidio â gwneud cwyn eto, bydd eich benthyciwr dal angen cysylltu â chi os ydynt yn darganfod eich bod yn gymwys am iawndal. Os bydd hyn yn digwydd, byddant yn gofyn os hoffech optio i mewn i gael taliad.
Byddwch yn wyliadwrus o sgamiau iawndal a benthycwyr cyllid ceir ffug
Mae iawndal cyllid ceir yn stori newyddion fawr - yn anffodus, mae hyn yn golygu bod twyllwyr yn cysylltu â phobl i gynnig iawndal iddynt fel ffordd o'u twyllo i roi eu gwybodaeth bersonol i ffwrdd.
Byddwch yn ofalus iawn o unrhyw alwadau, negeseuon neu e-byst annisgwyl a gewch sy'n honni eu bod gan gwmnïau cyllid ceir neu'r llywodraeth. Gallent esgus bod angen i chi nodi eich manylion banc, gwybodaeth bersonol neu rifau cerdyn credyd i dderbyn iawndal - ac yna defnyddio hyn i ddwyn eich arian neu hunaniaeth.
Sut alla i wirio a yw neges yn ddilys?
Os ydych chi eisiau sicrhau eich bod chi'n delio â'ch benthyciwr, gallwch chi:
- ffonio llinell gymorth yr FCA ar 0300 124 8899
- gwirio rhestr o fenthycwyr yr FCAYn agor mewn ffenestr newydd, sy'n cynnwys manylion cyswllt ar gyfer pob cwmni sy'n rhan o'r cynllun.
Dysgwch fwy am yr hyn i fod yn wyliadwrus amdano yn ein canllaw Ydw i'n cael fy sgamio? Sut i wybod a ydych wedi cael eich targedu.
Os ydych chi'n poeni y gallai rhywun fod wedi dwyn eich gwybodaeth bersonol neu hunaniaeth, darllenwch ein post blog A allai rhywun fod wedi dwyn eich hunaniaeth?
Ble alla i ddod o hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf?
Bydd yr FCA yn cyhoeddi gwybodaeth am y cynllun a sut i sicrhau eich bod yn cael eich iawndal. Gweler y wybodaeth ddiweddaraf gan yr FCA am gwynion cyllid ceirYn agor mewn ffenestr newydd, neu ffoniwch nhw ar 0800 111 6768Yn agor mewn ffenestr newydd.