Ers blynyddoedd mae modurwyr wedi dioddef ‘cosb teyrngarwch’ am ganiatáu i'r polisi adnewyddu'n awtomatig ac am aros gyda'r un yswiriwr. Fodd bynnag, ar 1 Ionawr 2022 daw rheolau newydd yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) i rym, sy'n golygu bod yn rhaid i gwmnïau yswiriant gynnig pris i gwsmeriaid presennol nad yw’n uwch nag y byddent yn ei dalu fel cwsmer newydd. Mae hyn nid yn unig yn arbed arian i chi ond hefyd amser gan nad oes rhaid i chi siopa o gwmpas a newid bob blwyddyn er mwyn osgoi talu prisiau uwch am fod yn deyrngar.
Wrth gwrs, gallwch barhau i gymharu â darparwyr eraill, neu drafod gyda’ch darparwr cyfredol. Mewn gwirionedd, rhaid i ddarparwyr yswiriant roi ffyrdd syml i chi ganslo adnewyddiad awtomatig eich polisi. Ond ni chodir mwy arnoch am adnewyddu dim ond am fod yn gwsmer cyfredol.
Mae’n werth nodi hefyd nad yswiriant car rhad yw’r yswiriant car gorau i chi o reidrwydd. Ond wedi dweud hynny, mae yna bethau y gallwch eu gwneud a fydd yn gostwng y siawns eich bod yn edrych fel gyrrwr peryglus yng ngolwg cwmnïau yswiriant ac yn cael cynnig rhatach I’ch hun.
Mae gennym ganllaw sydd â rhestr lawn o driciau ac awgrymiadau i gael y cynnig gorau ar eich yswiriant car, ond mae syniadau’n cynnwys gwneud eich car yn fwy diogel, gyrru gwneuthuriad car a model o grŵp yswiriant isel, byddwch yn gywir am eich milltiroedd, gyrru’n ddiogel ac ychwanegu ail yrrwr.