Pum ffordd i leihau premiwm eichyswiriant car

Cyhoeddwyd ar:

Mae cost yswiriant car yn debygol o godi ym mis Ionawr 2022, felly paratowch am brisiau uchel. O'r flwyddyn newydd, mae'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) wedi dyfarnu na all cwmnïau yswiriant car roi premiwm uwch i gwsmeriaid presennol nag y byddent yn rhoi i gwsmeriaid newydd. Mae'n debygol serch hynny y bydd hyn yn hytrach yn golygu prisiau uwch yn gyffredinol wrth i yswirwyr geisio adennill eu colledion.

Fodd bynnag, mae yna ffyrdd eraill y gallwch chi dalu llai. Dyma ein pum peth gorau i feddwl amdanynt pan fyddwch chi eisiau yswiriant car.

1. PEIDIWCH â thalu'r bil bob mis

Yn wahanol i filiau eraill lle rydych chi'n cael arbedion am dalu drwy ddebyd uniongyrchol, gall talu'n fisol am yswiriant gostio mwy. Mae talu'r premiwm blynyddol mewn un cyfandaliad yn aml yn rhatach.

Cadwch lygad am bethau ychwanegol efallai na fydd eu hangen arnoch neu y gallech fod wedi eich cynnwys mewn man arall. Er enghraifft, mae rhai cyfrifon banc yn cynnig adferiad chwalu. Efallai y byddai hefyd yn rhatach i brynu rhai o'r ychwanegiadau hyn ar wahân.

2. Osgowch adnewyddu awtomatig

Byddwch yn talu llawer mwy os ydych chi'n gadael i'ch yswiriant car rolio drosodd bob tro.

Pan gewch eich dyfynbris, ffoniwch eich darparwr i weld a allant gynnig gostyngiad neu gyfateb pris yn rhywle arall. Os nad ydych yn gofyn, ni chewch.

3. Siopwch o gwmpas

Po fwyaf o amser ac ymchwil a roddwch i gael dyfynbrisiau, y mwyaf tebygol y byddwch chi o gael bargen well.

Mae hyn yn arbennig o bwysig os ydych chi dros 70 neu dan 25 oed, ac yn y flwyddyn gyntaf o adnewyddu pan all premiymau gynyddu'n sylweddol.

Os oes gennych yr amser, casglwch ddyfynbrisiau o leiaf ddau safle cymharu a defnyddiwch yswirwyr a broceriaid nad ydynt yn ymddangos ar safleoedd cymharu. Cofiwch, nid rhataf sydd orau o reidrwydd.

Gall broceriaid yswiriant hefyd eich helpu i ddod o hyd i'r fargen orau - a'r swm cywir o yswiriant - i chi.

4. Lleihau’r risg

Y lleiaf o risg ydych chi, yr isaf fydd eich premiwm.

Wrth asesu'r tebygolrwydd y bydd eich car yn cael ei ddwyn, bydd yswirwyr modur yn ystyried ffactorau a allai leihau'r risg, felly os gallwch chi roi eich car mewn garej dros nos neu osod ansymudwr cerbyd cymeradwy, dylech dalu llai.

Bydd goryrru yn cynyddu eich premiwm - mae yswirwyr fel arfer yn codi mwy os oes gennych bwyntiau ar eich trwydded.

Os ydych chi'n prynu modur newydd, mae dewis car cyflym yn ffordd hawdd o dalu mwy am eich premiwm yswiriant. Bydd dewis model mwy cyffredin mewn categori yswiriant is yn helpu i gadw'r costau i lawr.

5. Defnyddiwch eich bonws dim-hawlio

Os na fyddwch yn dweud wrth yswiriwr newydd am eich bonws dim-hawlio, yna gallai eich premiwm fod yn uwch o ganlyniad.

Mae'n werth ystyried talu premiwm ychwanegol i amddiffyn eich bonws dim hawlio, os ydych chi'n gymwys am bum mlynedd neu fwy o fonws dim-hawlio

Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.