Benthyca cyfoedion i gyfoedion: yr hyn mae angen i chi ei wybod

Mae Cyfoedion i gyfoedion (P2P) yn ffurf o roi benthyciad a chael benthyg rhwng unigolion a busnesau, neu ‘gyfoedion’, heb sefydliad ariannol traddodiadol fel banc neu gymdeithas adeiladu. Darganfyddwch y manteision neu anfanteision o gyllid P2P.

Beth yw benthyca P2P

Mae gwefannau P2P yn paru pobl sy’n edrych i fenthyg arian gyda’r rhai sy’n edrych i’w fenthyca. Mae’r cwmnïau sy’n darparu’r gwasanaethau hyn (a elwir yn ‘lwyfannau’) yn gweithredu fel cyfryngwyr rhwng benthycwyr a’r sawl sydd yn rhoi benthyciad.

Gall benthycwyr P2P gynnig cyfraddau llog is na benthycwyr traddodiadol fel banciau. Bydd p’un a yw hyn yn wir i chi yn dibynnu ar rai ffactorau fel eich sgôr credyd.

Sut i wneud cais am fenthyciad P2P

I wneud cais, ewch i un o’r safleoedd benthyca a chofrestru. Dewiswch y swm rydych am ei fenthyg ac am ba hyd.

Os ydych yn gymwys i gael benthyciad ar ôl gwiriad credyd, dywedir wrthych am y gyfradd llog.

Mae benthycwyr P2P fel arfer yn ‘parselu’ benthyciadau rhwng llawer o wahanol bobl. Mae hyn yn golygu y bydd nifer o fenthycwyr unigol yn cytuno i fenthyca cyfran o’r cyfanswm rydych am ei fenthyca.

Yn dibynnu ar eich sgôr credyd a’r llwyfan rydych yn ei ddefnyddio, efallai y cewch gynnig llai nag y dymunwch ei fenthyca.

Manteision benthyca P2P
    • Gall benthyciadau cyfoedion i gyfoedion gynnig cyfradd llog is na banciau neu gymdeithasau adeiladu, yn enwedig os oes gennych chi statws credyd da.
    • Nid oes isafswm benthyg gofynnol gan rai gwefannau P2P a allai fod yn addas i chi os mai dim ond cael benthyg swm bach am gyfnod byr o amser ydych chi.
    • Efallai y byddant yn opsiwn os ydych yn ei chael yn anodd cael benthyciad gan fanc neu gymdeithas adeiladu.
  • Mae’r rhan fwyaf o fenthyca yn cynnig ad-daliad hyblyg, ac fel arfer ni fydd yn rhaid i chi dalu unrhyw ffioedd ychwanegol am dalu’r benthyciad yn ôl yn gynnar.

  • Nid yw benthyciadau wedi'u sicrhau, felly nid oes angen defnyddio ased fel eich car neu gartref fel rhywbeth i’w sicrhau.

Anfanteision benthyca P2P
  • Os byddwch yn methu ar fenthyciad, gallai’r benthyciwr drosglwyddo’r ddyled i asiantaeth casglu dyledion. Fel dewis olaf, efallai y bydd y benthyciwr yn mynd â chi i’r llys i geisio cael yr arian sy’n ddyledus gennych yn ôl.

  • Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffi i’r platfform am drefnu’r benthyciad, hyd yn oed os nad yr hyn rydych yn gofyn amdano gan unrhyw un benthyciwr yw’r swm cyfan rydych chi am ei fenthyg. Gall hyn olygu y bydd yn rhaid i chi dalu ffioedd lluosog os oes rhaid i chi wneud cais i fwy nag un benthyciwr i gwmpasu’r cyfanswm rydych yn chwilio amdano.

  • Efallai y bydd un benthyciwr yn codi un gyfradd i chi am y swm y bydd yn ei fenthyca i chi ond efallai y bydd benthycwyr eraill sy'n cynnig benthyg y balans (neu eu rhan o’r balans) yn codi cyfraddau llog gwahanol.

  • Dim ond ar-lein mae benthyciadau P2P ar gael.

  • Gallwch ond benthyg hyd at £35,000.

  • Efallai na fydd gennych yr un amddiffyniad trwy Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol (FOS) na’r Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS). Mae’n bwysig gwirio pa amddiffyniad sydd gennych cyn i chi gymryd y benthyciad allan.

Dewisiadau amgen i fenthyca P2P

Mae gwahanol gynhyrchion credyd yn addas ar gyfer gwahanol anghenion. 

Os oes gennych sgôr credyd gwael neu ddim hanes credyd, a’ch bod wedi cael eich gwrthod am fenthyciad gan fenthyciwr stryd fawr fel banc neu gymdeithas adeiladu, gallwch wneud cais am fathau eraill o gredyd, fel benthyciad gan Undeb Credyd neu Sefydliad Cyllid Datblygu Cymunedol. 

Beth yw benthyca P2P

Os ydych am fenthyca arian, cymharwch fenthycwyr P2P a dod o hyd i un rydych yn gyffyrddus ag ef.

Mae tri cham pwysig:

  1. Agor cyfrif gyda benthyciwr P2P a thalu rhywfaint o arian i mewn gyda cherdyn debyd neu drosglwyddiad uniongyrchol.
  2. Gosodwch y gyfradd llog yr hoffech ei derbyn neu gytuno ar un o’r cyfraddau sydd ar gael.
  3. Benthycwch swm o arian am gyfnod penodol o amser – er enghraifft, tair neu bum mlynedd. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffi i fenthyca arian, fel 1% o’r benthyciad. 

Mae gan rai benthycwyr gyfleuster ‘autobid’. Mae hyn yn golygu y gallwch osod terfynau ar faint rydych chi am ei fenthyca i bob busnes a’r gyfradd llog isaf rydych chi’n barod i’w benthyca arni.

Deall y risgiau

Gall benthyca P2P fod yn beryglus. Mae’n ddefnyddiol deall y risgiau a sut y gellir eu lleihau.

Y risg o ddiffygdalu

Efallai na fydd y person neu’r busnes rydych chi’n rhoi benthyg arian iddo yn gallu ei ad-dalu (gelwir hyn yn ‘ddiffygdalu’).

Po uchaf yw’r gyfradd diffygdalu ar wefan P2P, po uchaf yw nifer y bobl neu fusnesau nad ydynt yn gallu ad-dalu eu benthyciadau. 

Yn wahanol i gynilion banc a chymdeithas adeiladu, nid yw’r arian rydych chi’n ei fenthyca trwy blatfform P2P yn dod o dan Gynllun Digolledu y Gwasanaethau AriannolYn agor mewn ffenestr newydd

Fodd bynnag, mae gan lawer o wefannau P2P gronfeydd neu ddarpariaeth wrth gefn, sydd wedi’u cynllunio i dalu os yw benthyciwr yn diffygdalu ar eu benthyciad.

Mae’r cronfeydd darpariaeth hyn yn amrywio’n fawr o un safle i’r llall, felly mae’n bwysig gwybod beth sydd wedi’i gwmpasu os ydych yn ystyried dod yn fenthyciwr.

Y risg o ad-dalu’n gynnar neu’n hwyr

Os caiff eich benthyciad ei ad-dalu’n gynnar neu’n hwyr, gallech wneud llai o elw nag yr oeddech wedi’i ddisgwyl.

Os bydd benthyciad yn cael ei ad-dalu'n gynnar, gallwch fenthyca’r arian eto.

Ond mae siawns na fyddwch yn gallu benthyca ar yr un gyfradd llog o bosibl..

Y risg y bydd safle’r P2P yn mynd i’r wal

Gallech golli arian os yw’r cwmni P2P yn mynd allan o fusnes (fel y mae sawl un wedi gwneud).

Os ydynt yn cael eu rheoleiddio gan yr FCAYn agor mewn ffenestr newydd – fel y mae’n rhaid i bob benthyciwr P2P sy’n gweithredu yn y DU fod - rhaid iddynt gadw arian benthycwyr mewn cyfrifon wedi’u clustnodi ar wahân i’w rhai eu hunain.

Sefydliadau sy’n gallu helpu

Mae llwyfannau P2P yn cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA). Gwiriwch fod unrhyw lwyfannau rydych chi’n eu hystyried yn cael eu rheoleiddio ar Gofrestr yr FCAYn agor mewn ffenestr newydd

Mae hyn yn golygu, os ydych wedi cwyno wrth eich benthyciwr ac yn anhapus gyda’r canlyniad - neu nad yw’n ymateb i chi o fewn wyth wythnos – gallwch gysylltu â Gwasanaeth yr Ombwdsmon AriannolYn agor mewn ffenestr newydd (FOS).

Nid yw benthyciad P2P bob amser yn dod o dan yr FOS, felly mae’n bwysig eich bod yn gwirio.

Os yw’r FOS yn cytuno bod y busnes wedi gwneud rhywbeth o’i le, gallant eu cyfarwyddo i unioni pethau. Mae’r gwasanaeth am ddim i’w ddefnyddio.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.