Mae Credyd Cynhwysol yn cynnwys lwfans safonol misol, ynghyd ag arian ychwanegol ar gyfer costau tai, magu plant, gofalu a byw gyda salwch neu anabledd. Dyma beth sydd angen i chi ei wybod, gan gynnwys ein cyfrifiannell Credyd Cynhwysol am ddim.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Gweld faint allech chi ei gael gyda'n cyfrifiannell Credyd Cynhwysol
Bydd ein cyfrifiannell Budd-daliadau yn dangos yn gyflym:
- os gallech fod yn gymwys i gael budd-daliadau, gan gynnwys Credyd Cynhwysol
- faint o arian ychwanegol y gallech ei gael
- so gallech gael taliadau a gostyngiadau eraill.
Os ydych chi eisiau darganfod sut mae eich taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei gyfrifo, rydym yn esbonio sut mae'r gwahanol rannau'n gweithio isod.
Sut mae Credyd Cynhwysol yn cael ei gyfrifo
Mae Credyd Cynhwysol yn cynnwys:
- lwfans safonol, ac
- Elfennau ychwanegol os ydych yn:
- gyfrifol am blant
- ofalwr di-dâl
- methu â gweithio oherwydd salwch neu anabledd, a/neu
- rhentu eich cartref.
Mae'n cael ei gyfrifo fel taliad misol sengl, ond efallai y cewch eich talu ddwywaith y mis os ydych yn byw yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon.
Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllawiau:
Efallai y cewch fwy os ydych yn symud o fudd-daliadau etifeddiaeth
Os ydych wedi derbyn Hysbysiad Ymfudo gan y DWP, mae hyn yn golygu y bydd eich buddion 'etifeddiaeth' presennol yn dod i ben erbyn y dyddiad cau ar y llythyr.
Byddwch yn cael taliad ychwanegol yn awtomatig os yw'ch taliad Credyd Cynhwysol yn llai na beth chi'n cael yn bresennol, nid yw eich amgylchiadau wedi newid a'ch bod yn gwneud cais mewn amser. Gelwir hyn yn 'amddiffyniad trosiannol' ac mae'n golygu na fyddwch yn waeth eich byd.
Am fwy o wybodaeth a pha mor hir y mae'n para, gweler ein canllaw Symud i Gredyd Cynhwysol o fudd-daliadau eraill.
Symiau lwfans safonol
Mae'r lwfans Credyd Cynhwysol safonol a gewch yn seiliedig ar eich oedran ac os ydych yn byw gyda'ch partner.
Eich sefyllfa | Swm misol ar gyfer blwyddyn dreth 2024/25 |
---|---|
Sengl – dan 25 oed |
£311.68 |
Sengl – 25 neu drosodd |
£393.45 |
Mewn cwpl ac mae’r ddau ohonoch o dan 25 oed |
£489.23 (Cyfanswm ar gyfer y ddau ohonoch) |
Mewn cwpl ac mae un ohonoch yn 25 oed neu drosodd |
£617.60 (Cyfanswm ar gyfer y ddau ohonoch) |
Gallwch ddefnyddio ein Cyfrifiannell Budd-daliadau i weld faint mae hyn yn gweithio allan pob wythnos.
Bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn dod i ben pan fyddwch chi (neu'r ddau ohonoch, os ydych yn hawlio fel cwpl) yn cyrraedd oedran Pensiwn y WladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd. Er mwyn parhau i gael cymorth, bydd angen i chi wneud cais am Gredyd Pensiwn yn lle hynny.
Symiau elfen ychwanegol
Ar ben eich lwfans safonol, efallai y byddwch yn gymwys i gael un neu fwy o daliadau ychwanegol yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol.
Gelwir y rhain yn elfennau ychwanegol a gallant roi cefnogaeth i chi ar gyfer:
- costau plant a gofal plant
- costau tai
- gofalu (elfen gofalwr)
- salwch ac anabledd hirdymor (elfen gallu cyfyngedig i weithio a gweithgaredd sy'n gysylltiedig â gwaith).
Bydd ein cyfrifiannell Budd-daliadau yn dangos i chi pa rai y gallech fod yn gymwys i'w cael.
Elfen ychwanegol | Swm misol ar gyfer blwyddyn dreth 2024/25 |
---|---|
Plentyn – os ydych yn gofalu am blentyn o dan 16 oed neu berson ifanc cymwysYn agor mewn ffenestr newydd o dan 20 oedYn agor mewn ffenestr newydd |
Fel arfer, byddwch ond yn cael swm ar gyfer eich dau blentyn cyntaf |
Costau gofal plant – os ydych chi a'ch partner (os oes gennych un) yn gweithio ac yn talu am ofal plant |
Hawliwch 85% o'ch costau yn ôl, hyd at:
|
Gallu cyfyngedig i weithio a gweithgaredd sy'n gysylltiedig â gwaith – os ydych yn sâl neu os oes gennych anabledd ac nad ydych yn gallu gweithio |
£416.19 |
Gofalwr - os ydych yn ofalwr di-dâl i berson ag anabledd difrifol am o leiaf 35 awr yr wythnos |
£198.31 |
Costau tai – os ydych yn rhentu a/neu'n talu taliadau gwasanaeth |
Gellir dalu'r cyfan neu ran o'ch rhent, a rhai taliadau gwasanaeth. Gall y swm ddibynnu ar ble rydych chi'n byw, sut rydych chi'n rhentu a’r nifer o ystafelloedd gwely sydd eu hangen arnoch chi |
Sut y gallai eich taliad Credyd Cynhwysol newid bob mis
Mae’r cyfanswm o Gredyd Cynhwysol a gewch yn seiliedig ar eich enillion a'ch incwm am y mis blaenorol – sef eich cyfnod asesu.
Er enghraifft, os gwnaethoch gais am Gredyd Cynhwysol ar 5 Ionawr, byddai eich cyfnod asesu cyntaf yn para tan 4 Chwefror. Eich ail wedyn fyddai 5 Chwefror i 4 Mawrth ac ati.
Mae hyn yn golygu y gallai eich taliad newid (neu ddod i ben) yn seiliedig ar:
- faint oedd eich incwm arall, megis o:
- gyflogau neu bensiynau
- budd-daliadau eraill.
- os byddwch yn dechrau neu'n peidio â bod yn gymwys ar gyfer elfennau ychwanegol
- y swm oedd gennych mewn cynilion a buddsoddiadau
- Os ydych yn ad-dalu dyledion penodol o'ch taliad Credyd Cynhwysol.
Dyma sut y gallai eich taliad newid bob mis.
Os ydych yn ennill arian o waith cyflogedig
Fel arfer, bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn gostwng 55c am bob £1 rydych yn ei ennill drwy weithio.
Mae unrhyw swm a enillwch fel arfer yn lleihau eich taliad Credyd Cynhwysol, ond byddwch yn gymwys i gael lwfans gwaith os ydych chi neu'ch partner yn:
- yn gyfrifol am blentyn, neu
- methu gweithio llawer o oriau oherwydd salwch neu anabledd.
Mae hyn yn golygu y bydd eich taliad Credyd Cynhwysol ond yn lleihau 55c am bob £1 a enillwch dros eich lwfans.
Dyma'r lwfansau gwaith misol ar gyfer blwyddyn dreth 2024/25 (hyd at 5 Ebrill 2025):
- £404 os yw eich taliad Credyd Cynhwysol yn cynnwys costau tai, neu
- £673 os nad yw'n cynnwys costau tai.
Mae ein Cyfrifiannell Budd-daliadau yn cynnwys teclyn 'Beth os', felly gallwch weld faint fyddech chi'n ei gael pe bai'ch cyflog yn codi neu'n gostwng.
Os ydych yn cael incwm o fudd-daliadau eraill neu bensiwn
Fel arfer, bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn gostwng £1 am bob £1 a gewch o bensiynau a budd-daliadau eraill.
Fodd bynnag, ni fydd rhai budd-daliadau yn lleihau eich taliad. Gweler entitledto am restr o'r incwm di-waithYn agor mewn ffenestr newydd a budd-daliadau eraillYn agor mewn ffenestr newydd a fydd yn lleihau eich taliad Credyd Cynhwysol.
Os oes mwy nag un person yn gofalu am yr un person, bydd angen i chi benderfynu pwy fydd yn cael yr elfen gofalwr.
Os oes gennych gynilion neu fuddsoddiadau
Os oes gennych chi a'ch partner gynilion neu fuddsoddiadau sydd gyda gwerth o:
- £6,000 neu lai, ni fydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn newid.
- £6,001 i £16,000, bydd eich taliad yn mynd i lawr po fwyaf o gynilion sydd gennych
- Dros £16,000, ni fyddwch yn gymwys i gael unrhyw beth.
Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Sut mae cynilion a chyfandaliadau’n effeithio ar fudd-daliadau?
Os oes angen i chi ad-dalu dyledion o'ch taliad
Efallai y bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn gostwng hyd at 25% os ydych yn ad-dalu pethau fel:
- taliadau caledi
- taliadau neu fenthyciadau ymlaen llaw
- 'ôl-ddyledion trydydd parti', megis:
- dyled gyda cyflenwyr trydan, nwy a dŵr
- Treth Cyngor gorddyledus.
O fis Ebrill 2025, os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol bydd y swm o arian y gellir ei dynnu o’ch lwfans safonol bob mis tuag at ad-daliadau yn cael ei ostwng o 25% i 15%.
Bydd eich datganiad ar eich cyfrif Credyd Cynhwysol ar-leinYn agor mewn ffenestr newydd yn dangos a oes unrhyw ddidyniadau.
Os ydych yn talu llawer o arian yn ôl i'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) a'ch bod yn cael trafferth talu costau hanfodol eraill, fel rhent neu fwyd, gallwch gysylltu â chanolfan rheoli dyledion DWPYn agor mewn ffenestr newydd i weld a allwch chi gyfrifo cynllun ad-dalu mwy fforddiadwy.
Os ydych yn cael trafferth ac wedi methu taliadau, siaradwch ag ymgynghorydd dyledion am ddim i gael help ac am ffyrdd fforddiadwy o fynd i'r afael â'ch dyled.
Os nad ydych yn bodloni amodau eich hawliad
I gael Credyd Cynhwysol, rhaid i chi fodloni'r amodau a nodir yn eich 'ymrwymiad hawlydd'. Er enghraifft, cytuno i wneud cais am nifer penodol o swyddi a mynychu sesiynau hyfforddi neu baratoi at waith.
Os na wnewch hynny, efallai y byddwch yn cael cosb a elwir yn sancsiwn. Mae hyn yn golygu y gall eich Credyd Cynhwysol leihau neu stopio am ychydig.
Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Sancsiynau budd-daliadau a beth i'w wneud amdanynt.
Os yw’ch taliad yn uwch na'r cap ar fudd-dal
Y cap ar fudd-dal yw'r uchafswm y gall eich cartref ei gael mewn budd-daliadau.
Ond efallai na fydd yn berthnasol i chi, er enghraifft os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth, os oes gennych anabledd neu os ydych yn ennill dros swm penodol. Gweler GOV.UK am restr o pan nad ydych yn cael eich effeithioYn agor mewn ffenestr newydd
Eich sefyllfa | Cap ar fudd-daliadau misol ar gyfer blwyddyn dreth 2024/25 |
---|---|
Sengl |
£1,229.42 (£1,413.92 yn Llundain) |
Yn sengl ac yn byw gyda'ch plant,neu mewn cwpl ac yn byw gyda'ch partner |
£1,835 (£2,110.25 yn Llundain) |
Siaradwch ag ymgynghorydd Help i Hawlio Cyngor ar Bopeth i gael cyngor am ddim
Os oes angen mwy o help neu gefnogaeth arnoch ac eisiau siarad â rhywun yn gyfrinachol, gallwch siarad â chynghorydd ar-lein neu dros y ffôn.
Gallant eich helpu gyda:
sefydlu:
- cyfeiriad e-bost
- cyfrif Credyd Cynhwysol
- cyfrif banc.
gweithio drwy'r rhestr o bethau i'w gwneud ar gyfer gwneud cais llwyddiannus
esbonio'r dyddlyfr ar-lein a sut mae'n cael ei ddefnyddio
cael mynediad i wasanaeth ceisiadau ffôn Credyd Cynhwysol
cael cymorth ymweliadau cartref yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Os ydych yn byw yn: | Gallwch gysylltu â: |
---|---|
Lloegr |
|
Yr Alban |
|
Cymru |
|
Gogledd Iwerddon |
Gallwch hefyd:
- Ffonio’r llinell gymorth Credyd CynhwysoYn agor mewn ffenestr newydd l am ddim yng Nghymru, Lloegr a'r Alban neu'r Ganolfan Gwasanaeth Credyd Cynhwysol yng Ngogledd IwerddonYn agor mewn ffenestr newydd am help gyda'ch cais.
- Dod o hyd i gynghorydd arbenigol yn eich ardal chi ar AdvicelocalYn agor mewn ffenestr newydd i gael help a chymorth am ddim gyda budd-daliadau, gan gynnwys cyngor cyfrinachol ynghylch a ddylech chi hawlio Credyd Cynhwysol.