Yn gyffredinol mae Credyd Cynhwysol yr un fath ar draws y DU, ond mae gwahaniaethau os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon. Yn gyntaf, fel arfer cewch eich talu ddwywaith y mis. Yn ail, os ydych yn rhentu ac yn cael help gyda'ch costau tai, fel arfer telir hyn yn uniongyrchol i'ch landlord. Dyma help cam wrth gam.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Cam un: gweld faint o Gredyd Cynhwysol gallech ei gael
- Cam dau: gwneud cais am Gredyd Cynhwysol yng Ngogledd Iwerddon
- Cam tri: arhoswch bum wythnos am eich taliad cyntaf
- Cam pedwar: dewiswch sut rydych am i’ch Credyd Cynhwysol a’ch rhent gael eu talu
- Cam pump: gwnewch gais am gymorth arall a gostyngiadau
- Siaradwch â chynghorydd Advice NI am ddim
- Canllaw Credyd Cynhwysol printiedig am ddim
Cam un: gweld faint o Gredyd Cynhwysol gallech ei gael
Bydd ein Cyfrifiannell budd-daliadau yn dangos yn gyflym faint y gallech ei gael, gan ei fod yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
Gallwch weithio cymaint o oriau ag y dymunwch a dal i fod yn gymwys ar gyfer Credyd Cynhwysol (gan ei fod yn seiliedig ar eich incwm), felly mae bob amser yn werth gwirio nad ydych yn colli allan.
Telir Credyd Cynhwysol ar yr un gyfradd ble bynnag yr ydych yn byw yn y DU ac mae’n cynnwys:
- lwfans safonol, ac
- elfennau ychwanegol ar gyfer pethau fel tai a chostau magu plant, gofalu neu ymdopi ag afiechyd.
Efallai y bydd y swm hwn wedyn yn cael ei leihau yn dibynnu ar incwm arall a gewch. Er enghraifft, o waith neu fudd-daliadau eraill.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau:
Cam dau: gwneud cais am Gredyd Cynhwysol yng Ngogledd Iwerddon
Gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol ar-lein ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Os byddwch yn cael trafferth gwneud cais ar-lein, gallwch:
- ffonio’r Ganolfan Gwasanaeth Credyd CynhwysolYn agor mewn ffenestr newydd
- ymweld a'ch swyddfa Swyddi a Budd-daliadau leolYn agor mewn ffenestr newydd
Fel arfer mae’n well siarad â chynghorydd Advice NI am ddim cyn gwneud cais, yn enwedig os ydych chi’n symud o fudd-daliadau presennol.
Am fwy o help a gwybodaeth, gweler ein canllawiau:
Cam tri: arhoswch bum wythnos am eich taliad cyntaf
Ar ôl gwneud cais, gall gymryd hyd at bum wythnos i gael eich taliad cyntaf. Os byddwch yn cael trafferth tra byddwch yn aros, gallwch ofyn am:
- grant costau byw tymor byr na fydd angen i chi ei ad-dalu o’r Gronfa Wrth Gefn Credyd Cynhwysol (UCCF) – gweler sut i wneud cais ar nidirectYn agor mewn ffenestr newydd
- benthyciad ymlaen llaw Credyd Cynhwysol i gael eich arian yn gynnar, ond bydd angen i chi ad-dalu hwn – gweler ein canllaw Taliad ymlaen llaw o Gredyd Cynhwysol.
Gallwch wneud cais am yr UCCF a thaliad ymlaen llaw.
Am lawer o gamau eraill y gallwch eu cymryd, gweler ein canllaw Help i reoli eich arian tra byddwch yn aros am eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf.
Cam pedwar: dewiswch sut rydych am i’ch Credyd Cynhwysol a’ch rhent gael eu talu
Mae Credyd Cynhwysol bob amser yn cael ei gyfrifo’n fisol, ond mae gennych ychydig o ddewisiadau ynghylch sut y telir Credyd Cynhwysol yng Ngogledd Iwerddon:
- Fel arfer telir Credyd Cynhwysol ddwywaith y mis, ond gallwch ofyn am unwaith y mis.
- Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol fel cwpl, caiff ei dalu fel un taliad ar gyfer y cartref – naill ai i un ohonoch neu i gyfrif ar y cyd. Ond gallwch ofyn am gael rhannu'r taliad fel bod pob un ohonoch yn derbyn rhywfaint.
- Os ydych chi'n gymwys ar gyfer yr elfen costau tai i dalu rhywfaint o'ch rhent neu'r cyfan ohono, bydd hwn yn cael ei dalu'n uniongyrchol i'ch landlord. Ond efallai y gallwch ofyn i hwn gael ei dalu i chi yn lle hynny os ydych yn bodloni amodau penodol.
I ofyn am newid, gallwch ychwanegu nodyn at eich dyddlyfr gan ddefnyddio eich cyfrif Credyd Cynhwysol ar-leinYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych chi'n cael trafferth gyda'ch cyfrif ar-lein, gallwch:
- Ffonio’r Ganolfan Gwasanaeth Credyd CynhwysolYn agor mewn ffenestr newydd
- siarad â'ch anogwr gwaith.
Talu eich rhent os byddwch yn dewis ei dalu eich hun
Pan fyddwch chi’n gwybod dyddiad eich taliad Credyd Cynhwysol, gofynnwch i’ch landlord a allwch chi symud y dyddiad rydych chi’n talu eich rhent iddo ychydig ar ôl i chi gael eich taliad Credyd Cynhwysol – neu gyflog os ydych chi’n gweithio hefyd.
Yna gallwch sefydlu archeb sefydlog i dalu eich rhent yn awtomatig gan ddefnyddio bancio ar-lein neu drwy ofyn i'ch banc.
Beth i’w wneud os nad yw’ch Credyd Cynhwysol yn talu’ch holl rent
Ar ôl i chi dderbyn eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf, byddwch yn gwybod a yw eich taliad yn cynnwys eich holl rent.
Os nad yw’n cynnwys eich holl rent, efallai y gallwch hawlio Taliad Disgresiwn at Gostau Tai (DHP)Yn agor mewn ffenestr newydd gan y Gweithredwr Tai.
Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Help os na allwch fforddio eich rhent.
Cam pump: gwnewch gais am gymorth arall a gostyngiadau
Ar ôl i chi dderbyn eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf, efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth ychwanegol a gostyngiadau. Er enghraifft:
- help i dalu eich ArdrethiYn agor mewn ffenestr newydd
- gostyngiadau ar eich band eang a biliau eraill.
I gael gwybodaeth lawn a sut i wneud cais, gweler ein canllaw Help i reoli eich arian os ydych yn cael budd-daliadau.
Siaradwch â chynghorydd Advice NI am ddim
Mae Advice NI yn cynnig cyngor annibynnol a diduedd am ddim ar amrywiaeth o bethau, gan gynnwys os ydych yn:
- gwneud cais Credyd Cynhwysol newydd
- symud i Gredyd Cynhwysol o fudd-daliadau presennol oherwydd:
- newid mewn amgylchiadau
- cael Hysbysiad Ymfudo.
Gallwch siarad â chynghorydd:
- ar-leinYn agor mewn ffenestr newydd
- drwy ffonio 0800 915 4604
- trwy e-bost.
Am help a chefnogaeth arall lle rydych chi'n byw, rhowch gynnig ar AdvicelocalYn agor mewn ffenestr newydd
Gweler nidirect am fwy o wybodaeth am Gredyd Cynhwysol yng Ngogledd IwerddonYn agor mewn ffenestr newydd
Canllaw Credyd Cynhwysol printiedig am ddim
Gallwch archebu ein canllaw printiedig am ddim Credyd Cynhwysol – rheoli eich arian yng Ngogledd Iwerddon, ynghyd â llawer o rai eraill ar bynciau gwahanol.