Os na allwch weithio neu’n gweithio oriau gostyngol oherwydd salwch neu anabledd - mae cymorth ariannol ar gael. Efallai y gallwch hawlio Tâl Salwch Statudol (SSP), a delir gan eich cyflogwr. Os yw hyn wedi dod i ben, neu os nad ydych yn gallu ei hawlio, efallai gallwch hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA), Taliad Annibyniaeth Personol (PIP), Taliad Anabledd Oedolion (ADP), Credyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Anabledd a salwch allaf i eu hawlio
- Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) a Thaliad Anabledd Oedolion (ADP)
- Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) or Child Disability Payment (CDP – yn Yr Alban)
- Lwfans Gweini neu’r Taliad Anabledd oedran Pensiwn
- A allaf hawlio budd-daliadau salwch ar gyfer iselder neu gyflyrau iechyd meddwl eraill?
- Cymorth gyda chostau tai
- Budd-daliadau eraill y gallwch fod â hawl iddynt
- Os oes gennych incwm neu gynilion
- Budd-daliadau i ofalwyr
- Cymorth gyda symud o gwmpas – Cynlluniau Motability a Bathodyn Glas
- Cymorth a chyngor am fudd-daliadau salwch ac anabledd
- Penodi rhywun i ymdrin â’ch cais budd-dal salwch ac anabledd ar eich rhan
- Help gyda chostau iechyd GIG
Anabledd a salwch allaf i eu hawlio
Tâl Salwch Statudol
Efallai y gallwch hawlio Tâl Salwch Statudol o £123.25 yr wythnos (2026/27) am hyd at 28 wythnos os:
- rydych yn gyflogedig ond ddim yn gallu gweithio.
- roedd eich enillion cyfartalog am y ddau fis cyn i chi roi’r gorau i weithio o leiaf £125 yr wythnos.
Os ydych chi'n dal yn rhy sâl i ddychwelyd i'r gwaith pan fydd eich SSP yn dod i ben, efallai y byddwch yn gallu cael ESA. Gallwch wneud cais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Dull Newydd (ESA) hyd at dri mis cyn i'ch tâl salwch ddod i ben.
Tâl salwch hunangyflogedig – beth yw eich opsiynau?
Ni allwch gael SSP os ydych chi'n hunangyflogedig. Mae hyn yn cynnwys os ydych chi'n unig fasnachwr, neu'n bartner mewn cwmni cyfyngedig. Gwneud cais am ESA Dull Newydd yw eich prif opsiwn os na allwch weithio oherwydd salwch.
Gall gweithwyr nawr gael tâl salwch – sut i wirio os allwch chi wneud
Newidiwyd y meini prawf cymhwysedd ar gyfer SSP ym mis Ebrill 2026. Mae hyn yn golygu, os ydych chi'n 'weithiwr' rydych chi'n gymwys i dderbyn tâl salwch. Mae llawer o bobl sy'n gweithio yn yr 'economi gig' yn cael eu hystyried fel gweithwyr ac mae ganddynt hawl i dâl salwch.
Gwiriwch eich statws cyflogaeth gydag theclyn a ddarperir gan CThEF. Mae'n ddienw ac ni fydd yn gofyn am eich enw nac unrhyw fanylion personol. Os ydych chi'n weithiwr at ddibenion treth, bydd gennych hawl i SSP. Gwiriwch a ydw i'n weithiwrYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.
A allaf gael Tâl Salwch Statudol (SSP) a Phensiwn y Wladwriaeth ar yr un pryd?
Os ydych chi'n dal i weithio ac yn bodloni'r rheolau cymhwysedd ar gyfer Tâl Salwch Statudol (SSP), nid yw derbyn Pensiwn y Wladwriaeth yn eich atal rhag cymhwyso'n awtomatig. Fodd bynnag, gall eich amgylchiadau unigol effeithio ar faint y mae gennych hawl iddo.
Os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac yn methu gweithio oherwydd salwch, mae'n werth gwirio a allwch hefyd fod yn gymwys i gael mathau eraill o gymorth ariannol, fel Credyd Pensiwn neu Lwfans Gweini, yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
A allaf hawlio tâl salwch pan fyddaf yn ddi-waith, neu os ydw i newydd golli fy swydd?
Os ydych chi'n ddi-waith, ni allwch hawlio SSP fel arfer oherwydd ei fod yn cael ei dalu gan gyflogwyr i weithwyr a gweithwyr cymwys.
Fodd bynnag, os nad ydych yn gallu gweithio oherwydd salwch neu anabledd, efallai y byddwch yn gallu hawlio ESA Dull Newydd os ydych chi'n bodloni amodau cyfraniadau Yswiriant Gwladol, neu Credyd Cynhwysol os ydych ar incwm isel neu angen cymorth ariannol ychwanegol.
Os ydych chi wedi colli eich swydd yn ddiweddar wrth dderbyn SSP, efallai y byddwch chi'n gallu gwneud cais am ESA Dull Newydd cyn i'ch SSP ddod i ben os ydych chi'n rhagweld y byddwch yn rhy sâl i ddychwelyd i'r gwaith.
Darganfyddwch a ydych yn gymwys ar gyfer tâl salwch statudol a sut i wneud hynnyYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) dull newydd
Os yw’ch Tâl Salwch Statudol wedi dod i ben, neu os nad ydych yn gymwys ar ei gyfer, (er enghraifft, oherwydd eich bod yn hunangyflogedig) efallai y gallwch gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth dull newydd (ESA).
Telir hyn os na allwch weithio neu ond yn gallu gweithio ychydig o oriau yn unig oherwydd salwch neu anabledd. I fod yn gymwys mae’n rhaid eich bod wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol am y dwy i dair blynedd diwethaf.
Darganfyddwch a ydych yn gymwys, a sut i wneud cais ESA Dull Newydd yn ein canllaw Beth yw Lwfans Cyflogaeth a Chymorth?
Credyd Cynhwysol
Os nad ydych yn gymwys i gael Tâl Salwch Statudol neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Dull Newydd efallai, neu nad ydynt yn ddigon i ddiwallu eich anghenion efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am Gredyd Cynhwysol.
Efallai y byddwch yn cael mwy o arian os ydych yn gwneud cais am y ddau, yn enwedig os ydych yn talu rhent neu os oes gennych blant i’w cynnal.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Credyd Cynhwysol i bobl sâl ac anabl
Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) a Thaliad Anabledd Oedolion (ADP)
Telir Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) os cewch anhawster wrth gwblhau tasgau dyddiol neu symud o gwmpas.
Nid yw’n destun prawf modd, sy'n golygu gallech ei gael waeth faint o incwm neu gynilion sydd gennych chi.
Er mwyn bod yn gymwys mae’n rhaid eich bod:
- rhwng 16 oed ac oedran Pensiwn y Wladwriaeth
- wedi cael yr anawsterau hyn am dri mis ac yn disgwyl iddynt barhau am o leiaf naw mis arall (oni bai bod gennych gyflwr terfynol).
Mae PIP yn disodli’r Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) i oedolion. Os ydych yn gwneud cais newydd fe ofynnir i chi wneud cais am PIP. Yn Yr Alban mae PIP wedi cael ei disodli gan y Taliad Anabledd Oedolion (ADP).
Os ydych eisoes yn hawlio PIP neu DLA yn Yr Alban, bydd Social Security Scotland yn cysylltu â chi am symud i ADP pan ddaw'r amser i symud i ADP. Ni allwch hawlio ADP a PIP neu DLA ar yr un pryd. Gallwch wirio eich cymhwysedd am ADP ar wefan mygov.scotYn agor mewn ffenestr newydd
Os oes angen i chi wneud cais newydd am ADP, gallwch ddarganfod sut i wneud cais ar-lein neu dros y ffôn ar mygov.scot.
Faint yw PIP ac ADP?
Gallech gael rhwng £30.30 a £194.60 yr wythnos (2026/27), yn ddibynnol ar ba mor ddifrifol mae’r cyflwr yn effeithio arnoch chi.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw:
Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) or Child Disability Payment (CDP – yn Yr Alban)
Dim ond ar gyfer plant o dan 16 oed y gallwch wneud cais newydd am Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) or CDP.
Nid yw’n destun prawf modd sy’n golygu gallech ei gael waeth faint o incwm neu gynilion sydd gennych.
Faint yw DLA/CDP?
Gallai’ch plentyn gael rhwng £30.30 a £194.60 yr wythnos (2026/27), yn ddibynnol ar ba mor ddifrifol mae’r cyflwr yn effeithio arnynt.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Budd-daliadau a hawliau anabledd i blant
Lwfans Gweini neu’r Taliad Anabledd oedran Pensiwn
Gallech fod yn gymwys am Lwfans Gweini yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon neu’r Taliad Anabledd Oedran Pensiwn yn yr Alban os:
- ydych angen cymorth gyda gofal personol
- rydych angen goruchwyliaeth i’ch cadw’n ddiogel
- rydych oedran Pensiwn y Wladwriaeth neu’n hŷn, ac nad ydych eisoes yn gwneud cais am PIP neu ADP (gan eu bod yn parhau y tu hwnt i oedran pensiwn os cânt eu dyfarnu cyn hynny).
Dysgwch fwy yn ein canllawiau:
A allaf hawlio budd-daliadau salwch ar gyfer iselder neu gyflyrau iechyd meddwl eraill?
Gallwch. Efallai y byddwch yn gallu hawlio budd-daliadau salwch neu anabledd os yw iselder, gorbryder neu gyflwr iechyd meddwl arall yn effeithio ar eich gallu i weithio neu gyflawni gweithgareddau bob dydd. Mae'r budd-dal y gallwch ei hawlio yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
Er enghraifft, gallech hawlio:
- Tâl Salwch Statudol (SSP) os ydych yn gyflogedig ac yn methu gweithio dros dro.
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Dull Newydd (ESA) os na allwch weithio oherwydd eich iechyd ac yn bodloni amodau cyfraniadau Yswiriant Gwladol.
- Credyd Cynhwysol os ydych ar incwm isel neu angen cymorth ariannol ychwanegol.
- Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) neu Daliad Anabledd Oedolion (ADP) os yw'ch cyflwr yn gwneud tasgau bob dydd neu symud o gwmpas yn anoddach.
- Mae eich cymhwysedd yn seiliedig ar sut mae eich cyflwr yn effeithio arnoch chi, yn hytrach na'ch diagnosis yn unig.
Cymorth gyda chostau tai
Os ydych yn rhentu
Mae’r rhan fwyaf o bobl sy'n iau nag oedran pensiwn yn methu gwneud cais newydd am Fudd-dal Tai mwyach a bydd rhaid iddynt hawlio elfen costau tai Credyd Cynhwysol yn lle hynny.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Credyd Cynhwysol a thalu rhent
Os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, efallai y byddwch yn dal i allu gwneud cais newydd am Fudd-dal Tai.
Darganfyddwch fwy am Fudd-dal Tai ar GOV.UK
Os ydych yn berchennog cartref
Efallai y gallech gael help tuag at daliadau llog ar eich morgais. Gelwir hyn yn Gymorth ar gyfer Llog Morgais (SMI).
Telir SMI yn uniongyrchol i’r darparwr benthyciadau 13 wythnos wedi i chi wneud cais am y tro cyntaf am y budd-dal hwn. Os ydych yn hawlio Credyd Pensiwn gallwch fod yn gymwys am SMI yn syth.
Mae’n cael ei dalu fel benthyciad ac mae ganddo ei gyfradd llog ei hun. Bydd yn rhaid i chi ei dalu’n ôl un ai pan werthwch eich tŷ, neu’n wirfoddol pan fyddwch yn gallu - er enghraifft, pan ddychwelwch i’r gwaith.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cymorth ar gyfer Llog Morgais (SMI)
Help gyda Treth Cyngor neu Ardrethi
Os ydych ar incwm isel neu mae rhywun sy’n byw gyda chi’n anabl, efallai y gallech gael cymorth gyda thaliadau Treth Cyngor neu Ardrethi. Gallech hefyd fod yn gymwys i dalu llai os oes angen eiddo mwy o faint neu wedi’i addasu oherwydd anabledd.
Os oes angen eiddo mwy o faint neu un sydd wedi'i addasu arnoch oherwydd anabledd sydd gennych chi neu rywun rydych yn byw gyda nhw, efallai y bydd gennych hawl i dalu llai o Dreth Cyngor neu Ardrethi. Yng Nghymru, Lloegr, a’r Alban, efallai y gallwch dalu Treth Cyngor am fand is na'r eiddo rydych yn byw ynddo. Er enghraifft, os ydych yn byw mewn eiddo Band B oherwydd bod angen y lle arnoch i fynd o gwmpas yn eich cadair olwyn, efallai bydd dim ond angen i chi dalu Treth Cyngor Band A.
Yng Ngogledd Iwerddon gallwch gael gostyngiad o 25% ar eich Ardrethi os yw'ch cartref wedi'i addasu i gwrdd ag anghenion person sy’n anabl.
Gall pobl â namau meddyliol difrifol, fel y’u disgrifir yn y ddeddfwriaeth, gael eu heithrio rhag talu unrhyw Dreth Gyngor. Os ydych yn byw ar eich pen eich hun gyda rhywun sydd wedi’i eithrio am y rheswm hwnnw, byddwch yn gallu gwneud cais am ostyngiad person sengl o 25% ar eich Treth Gyngor yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.
Mae gan bob cyngor lleol ei gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ei hun, felly mae’r help a gewch yn dibynnu ar ble rydych yn byw.
Cymru a Lloegr
Cysylltwch â’ch cyngor lleol i ddarganfod mwy am eu cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yng Nghymru a Lloegr ar GOV.UK.
Yr Alban
Cysylltwch â’ch cyngor lleol i ddarganfod mwy am eu cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yn yr Alban ar mygov.scot.
Gogledd Iwerddon
Bydd, yn hytrach, angen i chi wneud cais am Ryddhad Ardrethi. Darganfyddwch fwy ar help gyda thalu ardrethi ar nidirect.
Budd-daliadau eraill y gallwch fod â hawl iddynt
Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol
Os achoswyd eich anabledd neu’ch salwch yn y gwaith, efallai y gallwch wneud cais am Fudd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol
Mae’n rhaid eich bod wedi bod yn gweithio i gyflogwr neu’n cymryd rhan mewn hyfforddiant cymeradwy. Ni fyddwch yn gallu gwneud cais amdano os oeddech yn hunangyflogedig.
Mae’r swm y gallwch ei gael yn dibynnu ar ba mor ddifrifol y mae eich cyflwr yn effeithio arnoch.
Nid yw’n destun prawf modd felly fe allech ei gael waeth faint o incwm neu gynilion sydd gennych.
Darganfyddwch fwy am Fudd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol ar GOV.UK
Pensiwn y Wladwriaeth a Chredyd Pensiwn
Os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth byddwch yn gallu gwneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth.
Os ydych ar incwm isel efallai y byddwch yn gallu ychwanegu ato gyda Chredyd Pensiwn.
Fodd bynnag, os ydych mewn cwpl a dim ond un ohonoch sydd dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth, bydd yn rhaid i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn lle Credyd Pensiwn nes i'r ddau ohonoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Os oes gennych incwm neu gynilion
Nid yw budd-daliadau sy’n eich helpu gyda’r gofal ychwanegol o fod yn sâl neu’n anabl yn destun prawf modd. Mae’r rhain yn cynnwys Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) a Lwfans Gweini a budd-daliadau cyfwerth yn yr Alban. Mae hyn yn golygu na chânt eu heffeithio gan eich incwm a chynilion.
Mae budd-daliadau eraill fel Credyd Cynhwysol a Chredyd Pensiwn yn cael eu heffeithio gan eich incwm a chynilion – a rhai eich partner neu briod hefyd.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut mae cynilion a chyfandaliadau’n effeithio ar fudd-daliadau?
Hyd yn oed os oes gennych incwm a/neu gynilion, mae’n werth gwirio’r budd-daliadau i weld beth allech fod â hawl iddo.
Budd-daliadau i ofalwyr
Os bydd ffrind neu aelod o’r teulu yn gofalu amdanoch mae cymorth ar gael iddo ef neu hi.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Budd-daliadau a chredydau treth y gallwch eu hawlio fel gofalwr
Cymorth gyda symud o gwmpas – Cynlluniau Motability a Bathodyn Glas
Cynllun Motability
Ar gyfer pwy mae e?
Pobl sy'n cael elfen symudedd cyfradd uwch Lwfans Byw i'r Anabl (ar gyfer eu plentyn) neu Daliad Annibyniaeth Personol neu ADP ar eu cyfer eu hunain. Gall y cynllun ddarparu car, cadair olwyn fodur neu sgwter.
Mwy o wybodaeth
Darganfyddwch fwy am y cynllun motability ar wefan Motability (Opens in a new window)
Sut i wneud cais
Ffoniwch Motability ar 0300 456 4566Yn agor mewn ffenestr newydd.
Y Cynllun Bathodyn Glas
Ar gyfer pwy mae e?
Mae’r cynllun Bathodyn Glas yn helpu’r rhai sydd ag anawsterau symudedd difrifol, sydd yn ei chael hi’n anodd defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i barcio’n agos i’w cyrchfan. Mae taliadau a rheolau hawl ar gyfer y cynllun Bathodyn Glas yn amrywio ledled y DU.
Sut i wneud cais
Gwnewch gais ar-lein am y bathodyn glas ar GOV.UK (Opens in a new window) neu cysylltwch â’ch cyngor lleol.
Cymorth a chyngor am fudd-daliadau salwch ac anabledd
Mae llawer iawn o help am ddim ar gael os nad ydych yn siŵr pa fudd-daliadau rydych yn gymwys i’w cael neu os ydych angen help i wneud cais.
Os ydych yn hawlio budd-daliadau rhaid i chi egluro eich cyflwr. Fel arall, efallai na fyddwch yn cael yr holl help y mae gennych hawl iddo.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Ble allaf gael help a chyngor ar fudd-daliadau?
Penodi rhywun i ymdrin â’ch cais budd-dal salwch ac anabledd ar eich rhan
Os na allwch reoli eich budd-daliadau eich hun, gall unigolyn neu sefydliad wneud hyn ar eich rhan.
Yr enw a roddir ar hyn yw penodai. Maent yn dod yn gyfrifol am ddelio â’ch budd-daliadau o’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) neu fudd-daliadau Social Security Scotland.
Bydd gan eich cyngor lleol dîm ‘penodai corfforaethol a dirprwyaeth’ a all eich cynghori a’ch cynorthwyo.
Os oes gennych anabledd mae sefydliadau nid-er-elw y gallwch ofyn iddynt eich helpu gyda’ch budd-daliadau fel eich eiriolwr a phenodai.
| Os ydych chi'n byw yn: | Gallwch roi cynnig ar: |
|---|---|
|
Lloegr, Yr Alban neu Gymru |
|
|
Gogledd Iwerddon |
Help gyda chostau iechyd GIG
Mae presgripsiynau am ddim yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, waeth beth yw’ch oed ac amgylchiadau.
Os ydych yn byw yn Lloegr ac yn cael rhai budd-daliadau penodol neu rydych ar incwm isel, efallai y gallwch gael cymorth gyda chostau iechyd.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- costau deintyddol
- cost gofal llygaid
- presgripsiynau’r GIG
- cael cymorth gyda chostau teithio i apwyntiadau
ysbyty.