Efallai bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn cynnwys elfen ‘costau tai’ i helpu tuag at gost eich rhent. Yng Nghymru a Lloegr, chi fydd yn gyfrifol am dalu eich rhent yn uniongyrchol i’ch landlord. Dewch o hyd i awgrymiadau ar reoli eich taliadau, gweithio allan y ffordd orau i dalu’ch rhent, a beth i’w wneud os bydd gennych ôl-ddyledion.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Talu’ch rhent os ydych wedi bod yn cael Budd-dal Tai
Yng Nghymru a Lloegr
Yn hytrach na chael eich Budd-dal Tai wedi’i dalu’r uniongyrchol i’ch landlord, bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn cynnwys arian ar gyfer eich rhent. Mae hyn yn golygu bydd angen i chi drefnu ei dalu eich hun.
Telir Credyd Cynhwysol yn fisol mewn ôl-ddyledion. Os yw’ch dyddiad talu yn wahanol i’r dyddiad arferol rydych yn talu eich rhent, siaradwch â’ch landlord.
Os ydych yn ei chael yn anodd rheoli eich arian, neu rydych yn fregus, gallwch ofyn am Drefniant Talu Amgen (APA) fel bod eich rhent naill ai’n:
- cael ei dalu’n uniongyrchol i’ch landlord
- cael ei dalu’n i chi’n wythnosol neu bob pythefnos fel Taliad Amlach (MFP).
Budd-dal Tai ar Gredyd Cynhwysol
Os ydych yn symud o Fudd-dal Tai i Gredyd Cynhwysol, byddwch yn parhau i gael Budd-dal Tai am bythefnos er mwyn lleihau’r risg o ôl-ddyledion rhent.
Dylai hyn olygu na fyddwch yn methu unrhyw daliadau cyn eich bod yn cael eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf.
Yn yr Alban
Wedi i chi gael eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf, gallwch ddewis cael eich costau tai wedi eu talu’n uniongyrchol i’ch landlord neu barhau i’w talu eich hun.
Yng Ngogledd Iwerddon
Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol yng Ngogledd Iwerddon, telir eich costau tai yn awtomatig i’ch landlord. Fodd bynnag, gallwch ddewis o hyd i dalu’ch landlord eich hunan os dymunwch.
Faint o rent fydd Credyd Cynhwysol yn ei dalu?
Mae elfen tai Credyd Cynhwysol wedi ei gynllunio i dalu rhywfaint neu’r cyfan o’ch taliadau rhent ac unrhyw ffioedd gwasanaethau ar gyfer yr eiddo. Bydd faint a gewch yn ddibynnu a ydych yn denant preifat neu gymdeithasol.
Darganfyddwch fwy am faint o Gredyd Cynhwysol a gewch, a sut y cyfrifir costau tai, yn ein canllaw Faint yw Credyd Cynhwysol?
Os ydych yn rhentu’n breifat
Os ydych yn rhentu’n breifat, mae eich costau tai’n seiliedig ar y Lwfans Tai Lleol (LHA) ar gyfer eich ardal.
Dewch o hyd i gyfraddau presennol y LHA lle rydych yn byw:
- Cymru a LloegrYn agor mewn ffenestr newydd
- Yr AlbanYn agor mewn ffenestr newydd
- Gogledd IwerddonYn agor mewn ffenestr newydd
Mae nifer y bobl sy'n byw yn eich cartref a nifer yr ystafelloedd gwely hefyd yn bwysig. Os oes gennych unrhyw ystafelloedd gwely sbâr, byddwch ond yn cael costau tai ar gyfer eiddo llai. Er enghraifft, os ydych yn sengl, dros 35 oed a heb blant dibynnol, bydd y LHA yn seiliedig ar gost rhentu fflat un ystafell wely yn lleol.
Os ydych yn byw mewn tŷ cymdeithasol
Os ydych yn talu rhent i awdurdod lleol, cyngor neu gymdeithas tai byddwch yn cael eich rhent llawn fel rhan o’ch taliad Credyd Cynhwysol.
Fodd bynnag, mae’r swm hwn yn cael ei leihau os penderfynir bod gennych fwy o ystafelloedd gwely na sydd eu hangen arnoch.
Gwneud cais am Gredyd Cynhwysol am y tro cyntaf
Os ydych yn gwneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol mae’n cymryd pum wythnos i gael eich taliad cyntaf. Mae’n syniad da i ddweud wrth eich landlord fel ei fod yn ymwybodol o’ch sefyllfa.
Os ydych yn poeni am sut y byddwch yn talu’r rhent, mae’n bwysig eich bod yn siarad â hwy am beth gallwch ei wneud hyd nes i chi gael eich taliad cyntaf.
Os ydych yn byw mewn tŷ cymdeithasol, mae llawer o gymdeithasau tai a chynghorau yn cynnig cymorth i’ch helpu gweithio allan sut i dalu eich rhent wrth hawlio Credyd Cynhwysol. Gall fod o fudd siarad â hwy os ydych yn poeni am sut y byddwch yn ymdopi. Gall drefnu hwn yn gynnar eich helpu i osgoi mynd mewn i ôl-ddyledion rhent.
Gallwch wneud cais am Daliad Disgresiwn at Gostau Tai gan eich cyngor lleol i lenwi’r diffyg os na allwch fforddio rhent tra eich bod yn aros am eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf. Darganfyddwch sut i gysylltu â’ch cyngor lleol ar wefan GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Taliad ymlaen llaw o Gredyd Cynhwysol
Gallwch wneud cais am daliad ymlaen llaw, y gallai eich helpu â’ch rhent hyd nes i chi gael eich taliad cyntaf.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Taliad ymlaen llaw o Gredyd Cynhwysol.
Gweithio allan sut i dalu’ch rhent
Gallai bod yn gyfrifol dros eich taliadau rhent eich hun olygu bydd rhaid i chi wneud rhai newidiadau i’r ffordd rydych yn cyllidebu.
Gwneud eich rhent yn brif flaenoriaeth
Mae ambell i beth y gallwch eu gwneudi wneud pethau’n haws i dalu’ch rhent. Dewiswch yr hyn sy’n gweithio orau i chi. Dyma rai awgrymiadau.
Symud y diwrnod y telir eich rhent
Gofynnwch i’ch landlord a yw’n bosibl newid diwrnod talu eich rhent yn nes at eich diwrnod taliad Credyd Cynhwysol. Bydd rhai yn gadael i chi wneud hynny.
Trefnu archeb sefydlog neu Ddebyd Uniongyrchol
Pan gewch eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf a byddwch yn gwybod pa ddiwrnod y caiff ei dalu, sefydlwch archeb sefydlog neu Ddebyd Uniongyrchol ar gyfer eich taliad rhent.
Fel hynny, unwaith y daw’r arian i mewn, telir y rhent allan yn syth eto.
Agor cyfrif ar wahân ar gyfer eich rhent yn unig
Wedyn sefydlwch archeb sefydlog felly unwaith y bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu i’ch prif gyfrif, telir eich rhent allan i’r cyfrif ar wahân. Bydd yn aros yno tan y diwrnod rhent.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i agor cyfrif banc ar gyfer eich taliadau budd-dal
Defnyddiwch gerdyn rhagdaledig
Defnyddiwch hwn ar gyfer eich arian gwario a gadewch yr arian ar gyfer eich rhent, a biliau eraill, yn eich cyfrif banc. Cofiwch y caiff ffioedd eu codi arnoch am ddefnyddio cerdyn rhagdaledig.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cardiau rhagdaledig
Os gwyddoch y byddwch yn cael eich temtio i ddefnyddio eich arian rhent ar gyfer pethau eraill, ceisiwch sefydlu trefniant lle nad oes gennych fynediad ato. Er enghraifft, trwy ofyn i rywun arall ofalu amdano i chi.
Credyd Cynhwysol ac ôl-ddyledion rhent
Siaradwch â’ch landlord os ydych yn cael trafferth i dalu’r rhent.
Mae’n bwysig i:
- eu diweddaru ar eich sefyllfa
- agor llythyrau oddi wrthynt a’u ffonio’n ôl bob amser
- ceisio siarad â hwy a dod i gytundeb ymarferol.
Bydd hyn yn dangos eich bod yn ceisio delio â’r sefyllfa. Efallai bydd yn atal eich landlord rhag gweithredu ymhellach, fel eich troi allan.
Gallai fod yn bosibl dod i gytundeb â’ch landlord i chi dalu’r ddyled fesul mis. Os gwnewch hyn, sicrhewch eich bod yn cytuno ar swm y gallwch ei fforddio.
Byddwch yn realistig. Mae’n well gwneud taliadau bychain rheolaidd yn hytrach na chytuno taliadau mwy ond methu â’u talu gan nad oes gennych ddigon o arian. Mae’n syniad da cadw golwg ar faint sy’n ddyledus gennych fel ôl-ddyledion.
Os ydych yn cael anawsterau difrifol ag ôl-ddyledion, gallwch chi neu’ch landlord ofyn i’r rhent gael ei dalu’n uniongyrchol i’ch landlord hyd nes eich bod yn cael trefn ar bethau.
Gofynnwch i’ch anogwr gwaith neu cysylltu â’r llinell gymorth Credyd Cynhwysol i sefydlu hwn.
Os ydych angen cefnogaeth a help wrth reoli ôl-daliadau rhent neu ddyledion eraill, gallwch gael cyngor ar ddyledion cyfrinachol am ddim ar-lein, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb.
Ble i gael help
Oeddech chi’n gwybod
Mae wyth o bob deg o bobl sy’n cael cyngor ar ddyledion yn dweud eu bod yn teimlo dan lai o bwysau a’n llai pryderus ac â mwy o reolaeth ar eu harian.
Darganfyddwch fwy am ddelio ag ôl-ddyledion:
- os ydych yn byw yng Nghymru, ar Cyngor ar Bopeth
- os ydych yn byw yn Lloegr, ar Shelter England
- os ydych yn byw yn yr Alban, ar Shelter Scotland
- os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, ar nidirect
Os yw’ch sefyllfa’n edrych yn anobeithiol neu os yw’ch landlord yn bygwth eich troi allan, dylech geisio cyngor ar unwaith. Gall y sefydliadau hyn helpu:
- Dewch o hyd i'ch gwasanaeth tai lleol agosaf gyda ShelterYn agor mewn ffenestr newydd
- Dewch o hyd i'ch Cyngor ar Bopeth agosafYn agor mewn ffenestr newydd