Symud o DLA i PIP – beth i’w wneud os bydd eich dyfarniad yn cael ei leihau neu stopio

Os oeddech yn cael Lwfans Byw i'r Anabl (DLA) ac wedi cael eich ail-asesu am Daliad Annibyniaeth Personol (PIP), efallai y bydd eich dyfarniad Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) yn llai nag yr oeddech yn ei gael ar DLA neu efallai ei fod wedi stopio’n gyfan gwbl. Darganfyddwch sut i herio eich penderfyniad PIP, a chael dau ben llinyn ynghyd yn y tymor byr.

Pryd mae DLA yn dod i ben?

Mae Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) neu Taliad Anabledd Oedolyn (ADP) yn yr Alban yn cymryd lle Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) ar gyfer pobl sydd dros 16 ac o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Os ydych yn cael DLA a bod dyddiad terfyn i’ch hawliad, gofynnir i chi wneud cais am PIP neu ADP cyn i’ch DLA ddod i ben.

Os ydych yn cael DLA ac nid oes dyddiad terfyn ar eich hawliad, efallai y gofynnir i chi hawlio PIP ar unrhyw adeg.

Os credwch fod y penderfyniad i leihau neu stopio talu PIP yn neu ADP anghywir

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad ar fudd-dal cewch ofyn i’r penderfyniad gael ei ystyried unwaith eto. Gelwir hyn yn ailystyriaeth orfodol.

Mae rhaid i chi ofyn am yr ailystyriaeth o fewn un mis calendr i ddyddiad y llythyr penderfynu drwy:

  • ffonio'r  rhif ar y llythyr penderfyniad, neu
  • bostio’r ffurflen CRMR1 ar ôl i chi ei chwblhau.

Eglurwch pam credwch fod y penderfyniad yn anghywir ac anfonwch gopïau o unrhyw dystiolaeth ychwanegol sydd gennych os credwch y bydd hynny’n cryfhau eich achos.

Pan fydd DWP wedi edrych ar eich penderfyniad unwaith eto, byddant yn anfon dau gopi o ddogfen o’r enw hysbysiad ailystyriaeth orfodol atoch, Bydd hyn yn rhoi gwybod i chi am ganlyniad yr ailystyriaeth.

Lawrlwythwch y ffurflen CRMR1 a’r nodiadau ynghylch sut i anghytuno â phenderfyniad ar wefan GOV.UK

Sut i apelio

Gallwch ddim ond apelio yn erbyn penderfyniad budd-daliadau anabledd pan fyddwch wedi cael hysbysiad ailystyriaeth orfodol.

I apelio, mae rhaid i chi anfon y canlynol i Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi (mae’r cyfeiriad ar y ffurflen):

  • Copi o hysbysiad yr ailystyriaeth orfodol
  • Ffurflen SSCI – gallwch ei lawrlwytho o wefan GOV.UK

Help os yw eich dyfarniad PIP o ADP yn llai nag oeddech yn ei gael ar DLA

Os yw eich dyfarniad yn cael ei leihau neu stopio, bydd y DWP yn parhau i dalu eich Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) presennol am o leiaf bedair wythnos i roi cymorth cyfyngedig ychwanegol i chi.

Mae hyn i roi cymorth i chi baratoi ar gyfer ymdopi gyda llai o arian.

Bydd angen i chi gyfrifo a fydd hi’n bosib i chi arbed arian neu gynyddu’ch incwm cyn gynted â phosib.

Help os oes gennych wariant argyfwng

Efallai y bydd ychydig o gymorth ar gael os bydd angen i chi ddod o hyd i arian yn gyflym ar gyfer argyfwng neu wariant annisgwyl.

Cynlluniau lles lleol

Os ydych yn wynebu argyfwng annisgwyl a’ch bod ar incwm isel iawn neu’n cael budd-daliadau eraill, efallai y gallech ofyn i’ch cynllun lles lleol am dalebau i dalu am bethau hanfodol fel:

  • bwyd
  • dillad
  • tanwydd
  • eitemau’r cartref, fel popty neu oergell.

Mae pob gwlad yn y DU yn cynnal ei gynllun ei hun. I ddarganfod beth sydd ar gael yn eich ardal, cysylltwch yn uniongyrchol â’ch cyngor lleol. 

Benthyciadau Trefnu a Thaliadau Cyllidebu Ymlaen Llaw

Os ydych wedi bod yn cael rhai budd-daliadau sy'n seiliedig ar incwm am o leiaf 26 wythnos efallai y byddwch yn gallu ymgeisio am Fenthyciad Trefnu i dalu am gost argyfwng.

Gallai budd-daliadau sy'n seiliedig ar incwm gynnwys:

  • Credyd Pensiwn
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n seiliedig ar incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar incwm.

Bydd rhaid i chi ad-dalu’r swm a fenthyciwch cyn pen dwy flynedd.

Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol, gallwch wneud cais am Daliad Cyllidebu Ymlaen Llaw yn lle.  Fel arfer bydd gennych hyd at 24 mis i dalu'r benthyciad yn ôl.

Gwiriwch eich bod yn cael y budd-daliadau a’r hawliau cywir

Os yw eich incwm wedi gostwng, mae’n bwysig gwneud yn siŵr eich bod yn cael yr holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt.

Gallwch ddefnyddio ein Cyfrifiannell Budd-daliadau i wirio.

Gall eich swyddfa Cyngor ar Bopeth leol hefyd gyflawni gwiriad budd-daliadau llawn i sicrhau eich bod yn cael popeth mae gennych hawl iddo.

Dewch o hyd i’ch cangen agosaf ar wefan Cyngor ar Bopeth

Gallai fod yn werth gwirio a ydych yn gymwys i gael cymorth a grantiau elusennol. 

Gweld os gallwch gael gostyngiad ar eich bil Treth Cyngor

Gallwch gael gostyngiad ar eich bil Treth Gyngor os ydych chi’n anabl, ac angen byw mewn cartref mwy nag y byddai ei angen arnoch fel arall. Os mai chi yw’r unig oedolyn yn eich cartref, neu os mai dim ond gofalwr sy’n byw gyda chi sy’n rhannu’r tŷ gyda chi, gallech gael 25% oddi ar eich bil Treth Gyngor. 

Os ydych yn byw ar eich pen eich hun ac wedi cael diagnosis o nam meddyliol difrifol neu'n byw gydag eraill sydd â'r cyflwr yma, efallai y byddwch yn gymwys am ostyngiad o 100% ar eich Treth Cyngor. 

Pecyn Motability Trosiannol

Os gwnaethoch ymuno â chynllun Motability cyn mis Ionawr 2014 ond nid ydych yn gymwys bellach dan PIP neu ADP, efallai y byddwch yn gymwys i gael taliad unwaith am byth o £2,000.

Mae hyn yn rhan o becyn trosiannol i’ch helpu i barhau i fodloni’ch anghenion symudedd drwy brynu car ail-law.

Os gwnaethoch ymuno â chynllun Motability o 1 Ionawr 2014 ymlaen, efallai y byddwch yn gymwys i gael taliad unwaith am byth o £1,000.

Cynyddu eich incwm

Os hoffech gael cymorth i ddod o hyd i waith neu baratoi ar ei gyfer – mae sefydliadau a all roi’r cymorth a allech fod ei angen os oes gennych anabledd neu anhawster dysgu.

I ddysgu mwy am gymorth a chyngor i’ch cael yn ôl yn y gwaith, lawrlwythwch y daflen ffeithiau am ddim ‘Gyrfaoedd a gwaith i bobl anabl’ ar wefan Disability Rights UK

Os oes gennych anabledd, cyflwr iechyd neu iechyd meddwl, efallai bydd cynllun y llywodraeth, Mynediad at Waith, yn gallu eich helpu gyda’r gost o gael gwaith ac aros mewn gwaith.

Cynllun rhentu ystafell

Os oes gennych ystafell sbâr yn eich cartref, mae’r £7,500 y flwyddyn cyntaf a gewch wrth ei osod yn ddi-dreth.

Cynilo arian

Ceisiwch, os y gallwch, gynilo ychydig o arian er mwyn rhoi rhywfaint wrth gefn os bydd gennych wariant argyfwng yn y dyfodol neu i’ch helpu i dalu am bethau fel anrhegion Nadolig neu ben-blwydd.

Benthyca arian

Os ydych yn ymdopi â gostyngiad sydyn mewn incwm, gall fod yn demtasiwn i fenthyca arian.

Fodd bynnag, mae’n bwysig sicrhau y gallwch dalu’r arian yn ôl neu gallech fynd i ddyled.

Os ydych yn benthyg arian i dalu dyledion, neu i dalu biliau allweddol y cartref neu rent, mae’n bwysig cael cyngor ar ddyledion am ddim. Bydd hyn yn eich helpu i ddysgu sut gallwch ddod yn ôl ar y llwybr iawn.

Os ydych yn poeni am ddyledion, mynnwch gyngor

Os ydych yn cael trafferth gyda dyled ac yn ei chael hi'n anodd rheoli pethau ar ben eich hun, y peth olaf efallai yr hoffech ei wneud yw siarad â dieithryn am eich problemau.

Ond gall fod y peth gorau y gallwch ei wneud, yn enwedig os ydych yn ystyried defnyddio dull ad-dalu dyled ffurfiol, fel cynllun ad-dalu dyled neu fethdaliad. Mae hi bob amser yn well trafod pethau gydag ymgynghorydd profiadol cyn i chi wneud penderfyniad.

Mae hyn oherwydd bod llawer o ffyrdd i ddelio â dyledion ac efallai na fyddech yn ymwybodol o'r holl opsiynau sydd ar gael i chi. Bydd y ffordd sydd orau i chi yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol.

Gall ymgynghorydd dyled am ddim eich helpu penderfynu pa opsiwn sy'n gywir i chi. Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, gallai hyn gymryd ond un sgwrs.

Bydd cynghorydd dyledion:

  • yn trin popeth a ddywedwch yn gyfrinachol
  • fyth yn eich barnu na’n gwneud i chi deimlo’n wael am eich sefyllfa
  • yn awgrymu ffyrdd i ddelio â dyledion efallai nad oeddech yn ymwybodol ohonynt
  • yn gwirio eich bod wedi ymgeisio am yr holl fudd-daliadau a’r hawliadau sydd ar gael i chi.
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.