Symud o DLA i PIP - ymdopi â newidiadau mewn incwm

Os oeddech yn cael Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) ac wedi cael eich ailasesu ar gyfer Taliad Annibyniaeth Personol (PIP), gallai’ch incwm fod wedi newid. Darganfyddwch fwy am y ffyrdd y gallwch reoli’ch arian er mwyn ymdopi â’ch amgylchiadau newydd.

Os yw eich dyfarniad PIP wedi ei leihau neu ei derfynu

 

Os ydych bellach yn gorfod ymdopi ar lai o arian, darllenwch ein canllaw: Symud o DLA i PIP – beth i’w wneud os bydd eich dyfarniad yn cael ei leihau neu’n cael ei derfynu.

Os yw’ch dyfarniad PIP yn fwy na’r hyn oeddech chi’n ei dderbyn ar DLA

Efallai bod eich anghenion iechyd neu anabledd wedi cynyddu ers eich asesiad diwethaf.

Os yw’ch dyfarniad PIP yn fwy nag yr oeddech yn ei gael gyda DLA, gallech fod yn gymwys yn awr am ragor o gymorth nad oedd ar gael yn flaenorol.

Rhagor o fudd-daliadau a chymorth os yw eich dyfarniad PIP wedi cynyddu

Os ydych yn awr yn cael y gyfradd uwch o’r elfen symudedd o PIP – gelwir hefyd yn lwfans symudedd - gallech fod yn gymwys i gael cymorth gyda chostau trafnidiaeth. Bydd hyn drwy Motability neu gynllun parcio’r Bathodyn Glas.

Gallech fod yn gymwys hefyd am ostyngiadau ar drafnidiaeth gyhoeddus os ydych yn cael unrhyw gyfradd o PIP.

Premiymau anabledd

Os ydych yn awr yn cael yr elfen bywyd bob dydd o PIP, gallech fod yn gymwys am ragor o bremiymau anabledd. Mae hyn os ydych yn cael rhai budd-daliadau neilltuol, yn cynnwys:

  • Budd-dal Tai
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm.

Nid pawb all hawlio premiymau anabledd. I ddarganfod a allech chi fod yn gymwys ewch i wefan Turn2Us

Gall eich swyddfa Cyngor ar Bopeth leol gynnal gwiriad budd-daliadau llawn i sicrhau eich bod yn cael popeth sy’n ddyledus i chi.

Grantiau elusennol os yw eich dyfarniad PIP wedi cynyddu

Gallech fod yn gymwys hefyd am gymorth elusennol a grantiau i’ch helpu gyda chost ychwanegol eich salwch neu anabledd.

Gweld os fedrwch gael gostyngiad ar eich bil Treth Cyngor

Gallwch gael gostyngiad ar eich bil Treth Gyngor os ydych chi’n anabl, ac angen byw mewn cartref mwy nag y byddai ei angen arnoch chi fel arall. Os mai chi yw’r unig oedolyn yn eich cartref, neu os mai dim ond gofalwr sy’n byw gyda chi sy’n rhannu’r tŷ gyda chi, gallech gael 25% oddi ar eich bil Treth Gyngor.

Darganfyddwch fwy am y Cynllun Gostyngiad Band Anabl ar wefan GOV.UK

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.