Mae grant yn rhodd ariannol nad oes rhaid i chi ei ad-dalu. Mae llawer o elusennau ac ymddiriedolaethau yn y DU yn darparu grantiau i helpu lleihau costau ychwanegol iechyd gwael ac anabledd. Dysgwch ba grantiau sydd ar gael a sut i wneud cais.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Pryd i wneud cais am grant anabledd
- A oes benthyciadau arbennig neu fenthyciadau caledi i bobl anabl?
- A allaf gael grant os ydw i'n cael budd-daliadau anabledd penodol fel ESA, PIP neu DLA?
- Chwilio am grant anabledd
- Mathau o grantiau poblogaidd
- The Family Fund
- Gwneud cais am grant anabledd
- Grantiau eraill a allai fod ar gael
Pryd i wneud cais am grant anabledd
Bydd y rhan fwyaf o elusennau yn disgwyl eich bod wedi gwneud cais am yr holl fudd-daliadau, cymorth gan yr awdurdod lleol, a chymorth arall mae gennych hawl iddynt cyn mynd atynt i gael grant.
Felly sicrhewch eich bod wedi gwirio eich hawliau. Darllenwch ein canllawiau isod neu siarad ag ymgynghorydd budd-daliadau neu anabledd i wneud yn siŵr.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
A oes benthyciadau arbennig neu fenthyciadau caledi i bobl anabl?
Mae rhai sefydliadau'n cynnig benthyciadau neu gronfeydd caledi, ond mae'r rhain yn wahanol i grantiau. Nid oes rhaid ad-dalu grant fel arfer, tra bod benthyciad fel arfer angen ei ad-dalu.
A allaf gael grant os ydw i'n cael budd-daliadau anabledd penodol fel ESA, PIP neu DLA?
Nid yw derbyn budd-daliadau fel Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA), Taliad Annibyniaeth Personol (PIP), Taliad Anabledd Oedolion (ADP), Taliad Anabledd Plant (CDP) neu Lwfans Byw i'r Anabl (DLA) yn golygu yn awtomatig y byddwch yn gymwys i gael grant, ond mae rhai elusennau sy'n rhoi grantiau yn defnyddio'ch hawl i fudd-daliadau fel rhan o'u meini prawf cymhwysedd.
Mae gan bob elusen ei reolau ei hun, felly gwiriwch y canllawiau ymgeisio cyn gwneud cais.
Chwilio am grant anabledd
Defnyddiwch declyn Chwilio am Grant Turn2Us
Mae gan wefan Turn2us offeryn Chwilio am Grantiau am ddim sy’n gadael ichi chwilio am grantiau yn seiliedig ar eich amgylchiadau a’ch anghenion.
Nodwch rai manylion gan gynnwys eich cod post a'ch oedran i gael rhestr lawn. Yna gallwch gyfyngu eich canlyniadau i’ch cyflwr meddygol neu anabledd.
Defnyddiwch yr offeryn Chwilio am Grant ar wefan Turn2usYn agor mewn ffenestr newydd
Chwilio am grant anabledd yn ôl categori
Mae gwefan Grantiau Anabledd yn rhestru’r grantiau sydd ar gael yn ôl categori. Mae hyn yn golygu gallwch chwilio am grantiau mewn cyfarpar, tai, neu wyliau, er enghraifft.
Darganfyddwch fwy ar wefan Grantiau Anabledd
Mathau o grantiau poblogaidd
Mae yna wahanol fathau o grantiau y gallech fod yn gymwys amdanynt.
Grantiau gwyliau i bobl anabl
Gall anghenion ychwanegol olygu costau ychwanegol wrth dreulio amser i ffwrdd o’ch cartref. Gall costau cynllunio, cludiant, offer a hyd yn oed yswiriant olygu bod gwyliau y mae mawr eu hangen y tu hwnt i gyrraedd llawer o bobl. Fodd bynnag, mae amrywiaeth o grantiau a chymorthdaliadau ar gael a all helpu i leihau cyfanswm cost y gwyliau.
Dewch o hyd i amrywiaeth o grantiau gwyliauYn agor mewn ffenestr newydd ar Disability Grants.org.
Grantiau ar gyfer eitemau cartref
Gall elusennau ledled y DU gynnig help i unigolion a theuluoedd am gymorth gyda chostau peiriannau golchi, popty, gwelyau a charped. Mae'n debygol y bydd angen prawf o'ch incwm arnoch ac mewn rhai achosion dyfynbrisiau ar gyfer cost eitemau.
Mae Disability Grants wedi grwpio'r holl elusennau perthnasol a'u rhestru. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth fanylach am grantiau ar gyfer eitemau cartref ar eu gwefan.
Grantiau trafnidiaeth a cheir
Os oes angen help arnoch i addasu eich trafnidiaeth a bod gennych dystiolaeth o'ch angen gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol, gallwch wneud cais i ystod o elusennau gwahanol am gymorth tuag at y gost.
Gall cymorth fod yn arian tuag at dacsis neu gostau teithio eraill, addasu eich cerbyd neu grantiau tuag at gerbyd newydd. Efallai y bydd angen prawf arnoch bod angen i chi deithio am resymau meddygol.
Mae'n werth edrych ar yr help sydd ar gael cyn i chi dalu o'ch poced eich hun, gan nad yw llawer o elusennau yn rhoi arian yn ôl am gostau sydd eisoes wedi'u talu. Mae hyn yn golygu os ydych chi eisoes wedi talu, yn aml ni allwch gael y grant wedyn. Gallwch weld rhestr o elusennauYn agor mewn ffenestr newydd ar Disability Grants.org.
Costau tai
Gall addasu eich cartref i weddu i'ch anghenion fod yn gostus ac yn gymhleth. Y prif grant yw'r Grant Cyfleusterau i'r Anabl, sydd ar gael os ydych chi'n byw yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon. Mae'n helpu gyda'r gost o wneud newidiadau i'ch cartref. Mae'r grant hwn yn cael ei weinyddu gan awdurdodau lleol, felly bydd angen i chi edrych ar wefan eich awdurdod lleol i ddarganfod beth sydd ar gael a sut i wneud cais. Ni fydd y grant yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau fyddwch yn ei dderbyn.
Cymru: dewch o hyd i'ch awdurdod lleolYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV. CYMRU
Lloegr: dewch o hyd i'ch cyngor lleolYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK
Gogledd Iwerddon: dewch o hyd i'ch cyngor lleolYn agor mewn ffenestr newydd yn nidirect.
Os ydych chi'n byw yn yr Alban, gallwch wneud cais am y Scheme of assistanceYn agor mewn ffenestr newydd, a weinyddir gan eich awdurdod lleol, gweler mwy ar Citizens Advice Scotland. Yn yr Alban: dewch o hyd i'ch cyngor lleolYn agor mewn ffenestr newydd ar mygov.scot.
The Family Fund
Os oes gennych blentyn ag anabledd (17 oed neu’n iau) sy’n byw gartref, sydd â gofynion cymorth penodol, ac rydych yn derbyn budd-daliadau penodol neu ar incwm isel, mae'r Family FundYn agor mewn ffenestr newydd yn cynnig grantiau a all eich helpu. Gellir eu defnyddio ar bethau fel peiriannau golchi, cyfrifiaduron a gwyliau.
Chwiliwch am grantiau os ydych ar incwm isel
Mae MoneySavingExpert wedi creu rhestr o grantiau, rhai ohonynt wedi eu hanelu at oedolion a phlant anabl.
Darganfyddwch fwy am ‘gael gafael ar grantiau’ ar wefan MoneySavingExpert
Gwneud cais am grant anabledd
Pan fyddwch wedi dod o hyd i’r grantiau rydych am wneud cais amdanynt, cysylltwch â’r cyrff dyfarnu a llenwi’r ffurflenni cais.
Darllenwch y telerau ac amodau i sicrhau eich bod yn deall yn llawn a ydych yn gymwys cyn i chi wneud cais.
Efallai y bydd angen i chi ddarparu adroddiad gan weithiwr proffesiynol, fel therapydd galwedigaethol neu weithiwr cymdeithasol, neu gynnwys gwybodaeth fanwl ynghylch eich cyllid.
Os ydych angen help gyda’r gwaith papur, efallai y gallai sefydliad eirioli fel yr Older People’s Advocacy Alliance helpu.
Darganfyddwch fwy ar wefan yr Older People’s Advocacy Alliance
Darllenwch awgrymiadau ar wneud cais am grant ar wefan ScopeYn agor mewn ffenestr newydd
A oes grantiau DWP neu Social Security Scotland ar gyfer pobl anabl?
Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) a Social Security Scotland yn darparu budd-daliadau yn bennaf, yn hytrach na grantiau, fel Taliad Annibyniaeth Personol (PIP), Taliad Anabledd Oedolion (ADP), Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) a Chredyd Cynhwysol.
Mae grantiau elusennol fel arfer yn cael eu darparu gan elusennau, ymddiriedolaethau a sefydliadau lleol i helpu gyda chostau penodol fel eitemau cartref, gwyliau neu offer.
Cyn gwneud cais am grant elusennol, mae'n werth gwirio eich bod chi'n derbyn yr holl fudd-daliadau sydd gennych hawl iddynt.
Grantiau eraill a allai fod ar gael
Os na allwch ddod o hyd i’r hyn rydych yn chwilio amdano, gallai fod yn werth chweil i edrych am grantiau nad ydynt ar gyfer pobl anabl yn benodol.
Er enghraifft, gallech chwilio am grantiau ar gyfer pobl ar incwm isel neu ar gyfer pobl sy’n byw yn eich ardal.